Os ydych newydd golli’ch swydd, efallai y byddwch yn meddwl am ba fudd-daliadau allan o waith y byddwch yn gallu gwneud cais amdanynt. Mae’r budd-daliadau sydd ar gael yn dibynnu ar yr amser y buoch yn gweithio, eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, dan ba amgylchiadau y gadawsoch eich swydd a’ch amgylchiadau gartref.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pa fudd-daliadau gallwch wneud cais amdanynt os ydych wedi colli’ch swydd?
Os ydych wedi colli’ch swydd a’ch bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, y prif fudd-dal y gallwch wneud cais amdani yw’r Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd (JSA).
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help gyda chostau megis costau tai a gofal plant trwy Gredyd Cynhwysol.
Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli nifer o fudd-daliadau y byddech fel arfer wedi gwneud cais amdanynt, gan gynnwys Credydau Treth a Budd-dal Tai.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol wedi’i esbonio.
Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
Os ydych wedi gwneud digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 dros y ddwy flynedd dreth ddiwethaf, efallai y gallech gael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.
Gallwch gael hwn am hyd at chwe mis. Caiff ei dalu i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd bob pythefnos. Ni fydd incwm eich partner neu briod yn effeithio ar eich cais.
Gwiriwch a allwch gael Lwfans Ceisio Gwaith dull newyddYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os bydd angen help arnoch â phethau fel costau tai neu fagu’ch plant, bydd rhaid i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer Credyd Cynhwysol.
Mae Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm y cartref, felly bydd incwm eich partner neu briod yn effeithio ar faint a gewch.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae cynilion a chyfandaliadau’n effeithio ar fudd-daliadau?
Budd-daliadau i helpu â chostau tai
Help â’ch rhent
Gan ddibynnu ar eich incwm a’ch cynilion, efallai y gallech gael ychydig o help gyda’ch rhent gan yr elfen costau tai o Gredyd Cynhwysol.
Ni all y rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio wneud cais newydd am Fudd-dal Tai. Os ydych yn cael Budd-dal Tai yn barod a’ch bod yn colli'ch swydd, efallai y bydd hyn yn cyfrif fel newid mewn amgylchiadau a bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Help â Threth Cyngor
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael help â’ch Treth Gyngor.
Gwnewch gais am Ostyngiad Treth GyngorYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Help â thaliadau llog morgais
Os ydych yn berchen ar dŷ, gallech fod yn gymwys i gael help â’ch taliadau llog morgais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)
Budd-daliadau i helpu gyda chostau eraill
Mae budd-daliadau arbenigol eraill ar gael. Felly, waeth beth fo’ch amgylchiadau, sicrhewch eich bod yn cael yr hyn rydych chi’n gymwys amdano.
Cymerwch rai munudau i wirio pa fudd-daliadau y gallech eu hawlio a faint y gallech ei gael y mis gyda’n Cyfrifiannell budd-daliadau.
Grantiau lles a grantiau addysgol
Os ydych ar incwm isel, efallai bod peth cymorth ar gael drwy grantiau lles a grantiau addysgol gan elusennau.
Gallwch chwilio am grantiauYn agor mewn ffenestr newydd ar Turn2us.
Tâl diswyddo statudol
Os ydych wedi cael eich diswyddo, byddwch fel arfer yn gymwys am daliad dileu swydd statudol os ydych wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf ddwy flynedd.
Dylech hefyd wirio eich cytundeb cyflogaeth i weld a ydych yn gymwys am daliad diswyddo cytundebol hefyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Tâl diswyddo
A oes gennych hawl i gael budd-daliadau os ydych wedi cael eich diswyddo?
Os ydych wedi colli’ch swydd yn sgil camymddwyn, neu wedi gadael heb reswm digonol, gall fod oedi cyn y gallwch ddechrau cael Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol.
Mae hyn oherwydd mae’r DWP yn cael rhoi sancsiwn i’ch budd-dal.
Darganfyddwch fwy am sancsiynau Lwfans Ceisio GwaithYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Os bydd eich amgylchiadau’n newid
Cofiwch ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn dychwelyd i’r gwaith neu os yw’ch amgylchiadau’n newid.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae angen i chi ddweud wrth eich swyddfa Jobs & Benefits.
Gallech barhau i fod â hawl i gael rhywfaint o help pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith a bod eich incwm yn isel.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallai eich taliadau ostwng yn raddol tan i’ch incwm godi i’r pwynt nad ydych yn gymwys amdano rhagor. Adroddwch newid mewn amgylchiadau ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am “adrodd newid mewn amgylchiadau” ar GOV.UK.