Os ydych yn ofalwr, mae cymorth ariannol ar gael i chi. Darganfyddwch beth sydd ar gael a sut i wneud cais.
Lwfans Gofalwr
Yn 2026/27, £86.45 yr wythnos yw Lwfans Gofalwr.
Efallai y byddwch chi'n gallu ei hawlio os:
ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
ydych yn 16 oed neu'n hŷn
nad ydych mewn addysg llawn amser neu'n astudio am 21 awr yr wythnos neu fwy
ydych yn ennill £204 (2026/27) yr wythnos neu lai ar ôl treth, Yswiriant Gwladol a threuliau (£10,608 y flwyddyn).
Mae'n rhaid i'r person rydych chi'n gofalu amdano hefyd fod yn cael budd-dal oherwydd ei salwch neu anabledd. Er enghraifft, mae'n rhaid iddynt fod yn cael:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i'r Anabl (ar y gyfradd ganolig neu uwch ar gyfer gofal)
- Taliad Annibyniaeth Personol (y naill gyfradd neu'r llall o'r elfen bywyd bob dydd)
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog.
Gweler GOV.UK am restr lawn o'r budd-daliadau y gallai'r person rydych chi'n gofalu amdano fod yn eu caelYn agor mewn ffenestr newydd
Mae Lwfans Gofalwr yn drethadwy. Byddwch ond yn gorfod talu treth os:
oes gennych ffynonellau eraill o incwm trethadwy, megis pensiynau galwedigaethol neu bersonol neu enillion rhan-amser, ac
os yw'r incwm cyfunol hwn yn mynd â chi dros y trothwy ar gyfer talu treth – £12,570 y flwyddyn yn 2026/27.
Mae Lwfans Gofalwr ar ei ben ei hun yn is na'r trothwy hwn ar hyn o bryd.
Sut mae Lwfans Gofalwr yn effeithio ar fudd-daliadau eraill?
Nid yw'r Lwfans Gofalwr yn destun prawf modd felly nid yw eich cynilion ac incwm eich partner yn berthnasol.
Gall Lwfans Gofalwr effeithio ar fudd-daliadau eraill y gallech fod yn eu cael eisoes – felly efallai y cewch eich talu llai mewn budd-dal arall.
Bydd yn cyfrif yn llawn fel incwm os ydych chi'n cael Credyd Cynhwysol. Ond efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol ychwanegol oherwydd eich bod chi'n ofalwr, felly ar y cyfan efallai y byddwch yn cael mwy o arian.
Gall hefyd effeithio ar fudd-daliadau’r person rydych chi'n gofalu amdano. Er enghraifft, os ydyn nhw'n cael Premiwm Anabledd Difrifol – gallai hyn stopio os ydych chi'n hawlio Lwfans Gofalwr.
Gwneud yn siwr bod eich enillion yn aros o dan y trothwy
Os yw eich tâl wythnosol yn fwy na £204 (2026/27) ar ôl didyniadau, efallai na fydd gennych hawl i Lwfans Gofalwr am yr wythnos honno mwyach. Gallwch ymweld â Carer's UK i gael help manylach am y terfyn enillionOpens in a new window
Gellir cyfrifo enillion hunangyflogaeth ar gyfartaledd dros gyfnod
Gallwch hefyd wrthbwyso treuliau penodol yn erbyn y terfyn enillion. Mae'r rhain yn cynnwys: treuliau sy'n gysylltiedig â gwaith, taliadau am ofal amgen pan fyddwch yn y gwaith a 50% o'ch cyfraniadau pensiwn.
Gan fod CThEF bellach yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am enillion i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), os ydych chi'n ennill mwy na'r terfyn mewn unrhyw wythnos, mae'n bwysig dweud wrth y DWP. Os na wnewch hynny, efallai y gofynnir i chi dalu'r swm a gafodd ei ordalu i chi.
Os yw'ch enillion yn amrywio o wythnos i wythnos, mae'n bwysig rhoi gwybod i'r DWP. Mae hyn fel y gallant ddarganfod cyfartaledd eich enillion er mwyn i chi aros o dan y terfyn.
Gallwch roi gwybod am newidiadau gan ddefnyddio'r gwasanaeth lwfans gofalwr ar GOV.UK, neu gallwch gysylltu â'r Uned Lwfans Gofalwr ar GOV.UK, yn ogystal â darganfod mwy am lwfans gofalwr ar wefan Grŵp Diwygio Treth Incwm Isel
Fel arfer, ni allwch gael Lwfans Gofalwr os ydych eisoes yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau penodol sy'n disodli incwm fel, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd.
Fodd bynnag, mae'n werth gwneud cais o hyd er na fyddwch yn cael Lwfans Gofalwr ei hun. Gall bod yn gymwys olygu y gallech fod â hawl i incwm ychwanegol ar gyfer budd-daliadau eraill sy'n destun prawf modd rydych chi'n eu cael fel Credyd Pensiwn, Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai. Gelwir hyn yn cael 'hawl sylfaenol' i Lwfans Gofalwr.
Bydd eich Canolfan Byd Gwaith lleol – neu'r Jobs and Benefits Office yng Ngogledd Iwerddon – yn gallu dweud wrthych pa fudd-daliadau i wneud cais amdanynt. Neu gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth lleol.
Dewch o hyd i'ch cangen Cyngor ar Bopeth agosafYn agor mewn ffenestr newydd ar advicelocal
Mae rhagor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr ar y gwefannau hyn:
- darganfyddwch fwy am Lwfans Gofalwr ar GOV.UK
- gwyliwch fideo a dewch o hyd i enghreifftiau o sut mae Lwfans Gofalwr yn gweithio ar Carers UK
- defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau.
Gogledd Iwerddon
Darganfyddwch fwy ar indirect am Lwfans Gofalwr yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Yr Alban
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, rhaid i chi wneud cais am daliad ‘Carer Support’ yn hytrach na Lwfans Gofalwr. Telir hyn ar gyfradd safonol o £86.45 (2026/27) yr wythnos.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am Daliad Carer Support ar mygov.scot.
Bydd gofalwyr yn yr Alban hefyd yn cael yr 'Scottish Carer Supplement' newyddYn agor mewn ffenestr newydd o £11.70 yr wythnos. Mae hyn yn disodli'r 'Carer’s Allowance Supplement'.
Darganfyddwch fwy ar mygov.scot am yr Scottish Carer SupplementYn agor mewn ffenestr newydd
Credyd Gofalwr
Mae Credyd Gofalwr yn gredyd Yswiriant Gwladol sy'n llenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Mae'n helpu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth tra nad ydych chi'n gwneud unrhyw gyfraniadau oherwydd eich rôl ofalu.
Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Gofalwr os:
ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn
nad ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth eto
nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr
rydych chi'n treulio o leiaf 20 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
Mae'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael budd-dal oherwydd ei salwch neu anabledd. Er enghraifft:
- Lwfans Byw i'r Anabl - cyfradd ganolig neu uchaf yr elfen gofal
- Lwfans Gweini neu Daliad Anabledd Oedran Pensiwn
- Lwfans Gweini Cyson
- Taliad Annibyniaeth Personol neu Daliad Anabledd Oedolion, y rhan ar gyfer bywyd bob dydd
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Taliad Anabledd Plant (CDP) cyfradd ganol neu uchaf yr elfen gofal.
Gweler GOV.UK am restr lawn o'r budd-daliadau y gallai'r person rydych chi'n gofalu amdano fod yn eu caelYn agor mewn ffenestr newydd
Os nad yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael un o'r budd-daliadau hyn, efallai y byddwch chi'n gallu hawlio o hyd trwy gwblhau 'Tystysgrif Gofal'.
Cymru, Lloegr, a’r Alban
Darganfyddwch fwy am Gredyd GofalwrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Gogledd Iwerddon
Darganfyddwch fwy am ofalu a’ch pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect
Premiwm Gofalwr
Os oes gennych hawl i Lwfans Gofalwr, (hyd yn oed os nad ydych yn ei gael mewn gwirionedd), efallai y bydd gennych hawl i daliad ychwanegol ar ben unrhyw fudd-daliadau sy’n destun prawf modd a gewch.
Os ydych chi'n cael Credyd Cynhwysol, gelwir y taliad hwn yn 'Elfen Gofalwr' ac mae'n werth £209.34 y mis.
Os ydych chi'n cael Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Gostyngiad Treth Gyngor neu Gostyngiad Ardrethi, gelwir y taliad hwn yn 'Ychwanegiad Gofalwr' ac mae'n werth £48.15 yr wythnos.
Gofynnwch am yr Elfen Gofalwr yn eich dyddlyfr Credyd Cynhwysol ar-lein. Gofynnwch am yr ychwanegiad gofalwr i’ch cyngor lleol neu drwy ffonio'r gwasanaeth Credyd Pensiwn ar 0800 731 0469Yn agor mewn ffenestr newydd.
Os ydych chi'n gymwys, fe fydd y taliad fel arfer yn cael ei ychwanegu’n awtomatig.
Gellir ôl-ddyddio Lwfans Gofalwr 13 wythnos os ydych wedi bod yn gymwys am gyhyd â hynny. Gellir ei ôl-ddyddio ymhellach os nad oeddech yn gallu gwneud cais am ei fod yn rhaid i chi aros i’r person rydych yn gofalu amdano gael ei fudd-dal anabledd.
Os oes gennych hawl i Bremiwm Gofalwr, efallai y byddwch hefyd yn gallu ei ddefnyddio i gefnogi cais am ostyngiad i'r Dreth Gyngor. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau i helpu gyda'ch anghenion anabledd neu ofal.
Credyd Pensiwn
Mae hwn yn fudd-dal y gallwch ei gael os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae wedi'i gynllunio i ychwanegu at eich incwm wrth ymddeol.
Os ydych chi'n byw gyda phartner, dim ond os yw'r ddau ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y byddwch chi'n gallu hawlio Credyd Pensiwn nawr. Gellir ychwanegu at Gredyd Pensiwn gydag Ychwanegiad Gofalwr, hyd yn oed os nad ydych yn cael Lwfans Gofalwr oherwydd bod eich Pensiwn y Wladwriaeth yn uwch.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys yn ein canllaw Cynyddwch eich incwm ymddeol gyda Chredyd Pensiwn
Cymorth lles lleol
Os bydd gennych angen ariannol annisgwyl a brys ac rydych yn cael budd-daliadau penodol neu rydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael help lleol. Gelwir hyn yn gymorth lles lleol.
Lloegr
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddysgu rhagor am ba help y gallent ei ddarparu. Gelwir hyn y Crisis and Resilience Fund.
Darganfyddwch eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Yr Alban
Darganfyddwch fwy am Gronfa Lles yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot
Cymru
Darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar llyw.cymru
Gogledd Iwerddon
Darganfyddwch fwy am y Gronfa GymdeithasolYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect
Budd-daliadau eraill y gallech eu hawlio
Fel gofalwr, mae budd-daliadau a chefnogaeth eraill y gallech fod yn gymwys amdanynt.
Credyd Cynhwysol
Os oes gennych incwm isel – p'un ai ydych chi'n gweithio ai peidio – gall Credyd Cynhwysol roi arian ychwanegol i chi fyw arno.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Os ydych chi'n gofalu am berson ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer elfen gofalwr Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am yr elfen gofalwr a faint y gallech ei gael yn ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio'n wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Darganfyddwch fwy ar nidirect.
Cymorth gyda chostau tai
Os ydych yn rhentu, gallech gael help gyda’ch costau tai trwy elfen Costau Tai Credyd Cynhwysol (neu Fudd-dal Tai os ydych dros Oedran Pensiwn y Wladwriaeth). Gall pobl sydd â hawl i Lwfans Gofalwr fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol oherwydd yr Ychwanegiad Gofalwr.
Os ydych yn berchennog cartref, gallwch gael help gyda’ch taliadau llog morgais trwy Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI). Mae hyn yn cael ei gynnig fel benthyciad i’w ad-dalu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)
Help arall os ydych ar incwm isel
Gallai fod gennych hawl i gael help ariannol gyda’ch:
- tanwydd
- costau iechyd
- Treth Cyngor
- gwasanaethau trwsio cartrefi.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Cynlluniau a hawliau eraill
Cynllun Motability
Os ydych yn gofalu am rywun sydd yn cael trafferth symud, gallent fod yn gymwys i gael cefnogaeth gan y cynllun Motability. Gall hyn helpu i ddarparu car, cadair olwyn, neu sgwter trydanol.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar wefan Motability
Parcio bathodyn glas
Mae trwyddedau parcio bathodyn glas yn caniatáu i yrwyr sydd â theithwyr gyda phroblemau symudedd barcio mewn lleoedd mwy cyfleus, fel mannau parcio i’r anabl. Efallai y byddwch hefyd yn cael eithriad rhag rhai taliadau tagfeydd.
Gallwch barcio ar linellau sengl neu ddwbl am hyd at dair awr heblaw yng Nghanol Llundain.
Darganfyddwch sut i wneud cais am fathodyn glasYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl
Mae’r Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl yn caniatáu i ddeilydd y cerdyn a’r gofalwr neu gydymaith gael traean oddi ar gost pris y rhan fwyaf o docynnau trên oedolion ar rwydwaith Network Rail.
Mae’n costio £20 y flwyddyn neu £54 am gerdyn tair blynedd. Gallwch brynu un ar-lein neu gael ffurflen cais post mewn unrhyw swyddfa docynnau gorsaf sydd â staff.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl
Cerdyn Cymdeithas Arddangoswyr Sinema
Mae’r cerdyn hwn yn rhoi caniatâd i chi gael un tocyn am ddim pan fyddwch yn mynd â’r person rydych yn gofalu amdanynt i’r sinema. Mae’r holl sinemâu cenedlaethol yn ei dderbyn. Gallwch wneud cais am y cerdyn ar-lein.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cerdyn Cymdeithas Arddangoswyr Sinema
Gostyngiadau eraill
Mae nifer fawr o gynigion am ddim neu ostyngol ar gael i ofalwyr mewn amgueddfeydd, theatrau, clybiau pêl-droed, canolfannau hamdden a safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y wlad.
Nid ydynt bob amser yn cael eu hysbysebu – felly gofynnwch pan fyddwch yn prynu tocynnau.
Mae nifer o awdurdodau lleol yn cynnig gostyngiadau siopa, hamdden ac eraill i ofalwyr. Holwch eich awdurdod lleol i weld pa gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael.
Ble i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau
Gall gwneud cais am fudd-daliadau gofalwr fod yn gymhleth. Felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael yr hawliau cywir.