Os ydych chi'n oedolyn ac wedi bod yn cael Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ac wedi eich symud i Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Daliad Anabledd i Oedolion (ADP), gallai eich dyfarniad newydd fod yn llai nag yr oeddech chi'n ei gael ar DLA neu efallai ei fod wedi dod i ben yn gyfan gwbl. Darganfyddwch sut i herio eich penderfyniad PIP, a gwneud penderfyniadau yn y tymor byr.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pryd mae DLA yn dod i ben?
- Os credwch fod y penderfyniad i leihau neu stopio talu PIP yn neu ADP anghywir
- Help os yw eich dyfarniad PIP o ADP yn llai nag oeddech yn ei gael ar DLA
- Help os oes gennych wariant argyfwng
- Gwiriwch eich bod yn cael y budd-daliadau a’r hawliau cywir
- Gweld os gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Cyngor
- Cynyddu eich incwm
- Cynilo arian
- Benthyca arian
- Os ydych yn poeni am ddyledion, mynnwch gyngor
Pryd mae DLA yn dod i ben?
Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Daliad Anabledd i Oedolion (ADP) yn yr Alban wedi disodli Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) bron yn gyfan gwbl ar gyfer pobl dros 16 oed ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Fodd bynnag, mae yna nifer fach iawn o hawlwyr dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth a fydd yn aros ar DLA.
Gallwch ddarganfod mwy am PIP yn ein canllaw Taliad Annibyniaeth Personol - cyflwyniad, ac os ydych chi'n byw yn yr Alban, gallwch weld ein canllaw Taliad Anabledd Oedolion – cyflwyniad.
Os credwch fod y penderfyniad i leihau neu stopio talu PIP yn neu ADP anghywir
Pwysig
Sicrhewch eich bod yn darllen y nodiadau am sut i anghytuno â phenderfyniad cyn gofyn am ailystyriaeth orfodolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar fudd-dal cewch ofyn i’r penderfyniad gael ei ystyried unwaith eto. Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.
Mae rhaid i chi ofyn am yr ailystyriaeth o fewn un mis calendr i ddyddiad y llythyr penderfynu drwy:
- ffonio'r rhif ar y llythyr penderfyniad, neu
- bostio’r ffurflen CRMR1 ar ôl i chi ei chwblhau.
Eglurwch pam credwch fod y penderfyniad yn anghywir ac anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd gennych os credwch y bydd hynny’n cryfhau eich achos.
Pan fydd DWP wedi edrych ar eich penderfyniad unwaith eto, byddant yn anfon dau gopi o ddogfen o’r enw hysbysiad ailystyriaeth orfodol atoch, Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth.
Lawrlwythwch y ffurflen CRMR1 a’r nodiadau ynghylch sut i anghytuno â phenderfyniadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Darganfyddwch fwy am ofyn am ailystyriaeth orfodolYn agor mewn ffenestr newydd ar Cyngor ar Bopeth
Sut i apelio
Dim ond pan fyddwch wedi cael hysbysiad ailystyried gorfodol y gallwch apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau anabledd - gelwir hyn yn 're-determination’ yn yr Alban. Rydych chi'n gofyn am hyn trwy ofyn i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad i edrych arno eto.
I apelio, yna mae angen i chi anfon y canlynol at Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (mae'r cyfeiriad ar y ffurflen):
- Copi o'r ailystyriaeth orfodol / hysbysiad re-determination.
- Ffurflen SSCIYn agor mewn ffenestr newydd – gallwch ei lawrlwytho o ar GOV.UK.
Darganfyddwch fwy am apelio yn dilyn ailystyriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar Cyngor ar Bopeth
Help os yw eich dyfarniad PIP o ADP yn llai nag oeddech yn ei gael ar DLA
Os yw eich dyfarniad yn cael ei leihau neu stopio, bydd y DWP yn parhau i dalu eich Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) presennol am o leiaf bedair wythnos i roi cymorth cyfyngedig ychwanegol i chi.
Mae hyn i roi cymorth i chi baratoi ar gyfer ymdopi gyda llai o arian.
Bydd angen i chi gyfrifo a fydd hi’n bosib i chi arbed arian neu gynyddu’ch incwm cyn gynted â phosib.
Yn yr Alban, gallwch dderbyn budd-dal dros dro o'r enw Shortterm Assistance (STA) tra byddwch yn herio penderfyniad Taliad Anabledd i Oedolion (ADP). Nid ydych yn cael eich cosbi'n ariannol am ofyn am 'redetermination’ neu apêl.
Help os oes gennych wariant argyfwng
Efallai y bydd ychydig o gymorth ar gael os bydd angen i chi ddod o hyd i arian yn gyflym ar gyfer argyfwng neu wariant annisgwyl.
Cynlluniau lles lleol
Os ydych yn wynebu argyfwng annisgwyl a’ch bod ar incwm isel iawn neu’n cael budd-daliadau eraill, efallai y gallech ofyn i’ch cynllun lles lleol am dalebau i dalu am bethau hanfodol fel:
- bwyd
- dillad
- tanwydd
- eitemau’r cartref, fel popty neu oergell.
Mae pob gwlad yn y DU yn cynnal ei gynllun ei hun. I ddarganfod beth sydd ar gael yn eich ardal, cysylltwch yn uniongyrchol â’ch cyngor lleol.
Os ydych chi'n byw yn Lloegr, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar GOV.UK
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, dewch o hyd i'ch cyngor lleol neu etholaeth ar myGov.scot
Os ydych chi'n byw yng Nghymru, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar Llyw.cymru
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar nidirect
Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw a Benthyciadau Trefnu
Os ydych wedi bod yn cael Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm am o leiaf 26 wythnos, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Fenthyciad Trefnu i dalu am gost frys.
Bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r swm rydych chi'n ei fenthyca o fewn dwy flynedd.
Os ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch wneud cais am daliad Cyllidebu Ymlaen llaw yn lle hynny. Fel arfer, bydd gennych hyd at 24 mis i dalu'r benthyciad yn ôl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw a Benthyciadau Trefnu
Gwiriwch eich bod yn cael y budd-daliadau a’r hawliau cywir
Os yw eich incwm wedi gostwng, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio.
Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol hefyd gyflawni gwiriad budd-daliadau llawn i sicrhau eich bod yn cael popeth mae gennych hawl iddo.
Dewch o hyd i’ch cangen agosaf ar wefan Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Gallai fod yn werth gwirio a ydych yn gymwys i gael cymorth a grantiau elusennol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
Gweld os gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Cyngor
Gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor os ydych chi’n anabl, ac angen byw mewn cartref wedi'i addasu neu gartref mwy nag y byddai ei angen arnoch fel arall. Os mai chi yw'r unig oedolyn yn eich cartref, neu os ydych chi'n rhannu'ch cartref gyda gofalwr sy'n byw i mewn (nad yw'n perthyn i chi), gallwch gael 25% oddi ar eich bil Treth Gyngor.
Os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun ac yn cael diagnosis o nam meddyliol difrifol neu os ydych chi'n byw gydag eraill sydd â'r cyflwr hwn, neu fyfyrwyr yn unig, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad o 100% ar eich Treth Gyngor. Efallai y byddwch yn colli'r gostyngiad cyflwr iechyd meddwl difrifol os ydych wedi colli'r budd-dal cymwys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal
Cynyddu eich incwm
Os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i waith neu baratoi ar ei gyfer – mae sefydliadau a all roi’r cymorth a allech fod ei angen os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu.
I ddysgu mwy am gymorth a chyngor i’ch cael yn ôl yn y gwaith, lawrlwythwch y daflen ffeithiau am ddim ‘Gyrfaoedd a gwaith i bobl anabl’Yn agor mewn ffenestr newydd ar Disability Rights UK
Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd neu iechyd meddwl, efallai bydd cynllun y llywodraeth, Mynediad at Waith, yn gallu eich helpu gyda’r gost o gael gwaith ac aros mewn gwaith. Gall eich Canolfan Byd Gwaith lleol hefyd helpu gyda Chynllun Llwybrau at Waith.
Darganfyddwch fwy am gymorth os oes gennych anabledd neu gyflwr iechydYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Cynllun rhentu ystafell
Os oes gennych ystafell sbâr yn eich cartref, mae’r £7,500 y flwyddyn cyntaf a gewch wrth ei osod yn ddi-dreth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllun Rhentu ystafell – sut mae’n gweithio a’r rheolau treth
Cynilo arian
Ceisiwch, os y gallwch, gynilo ychydig o arian er mwyn rhoi rhywfaint wrth gefn os bydd gennych wariant argyfwng yn y dyfodol neu i’ch helpu i dalu am bethau fel anrhegion Nadolig neu ben-blwydd.
I gael rhagor o awgrymiadau ar gynilo, gweler ein canllaw Sut i ddechrau cynilo
Benthyca arian
Os ydych yn ymdopi â gostyngiad sydyn mewn incwm, gall fod yn demtasiwn i fenthyca arian.
Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau y gallwch dalu’r arian yn ôl neu gallech fynd i ddyled.
Os ydych yn benthyg arian i dalu dyledion, neu i dalu biliau allweddol y cartref neu rent, mae’n bwysig cael cyngor ar ddyledion am ddim. Bydd hyn yn eich helpu i ddysgu sut gallwch ddod yn ôl ar y llwybr iawn.
Am ragor o ffyrdd i fenthyca arian, darllenwch ein canllawiau:
Os ydych yn poeni am ddyledion, mynnwch gyngor
Os ydych yn cael trafferth gyda dyled ac yn ei chael hi'n anodd rheoli pethau ar ben eich hun, y peth olaf efallai yr hoffech ei wneud yw siarad â dieithryn am eich problemau.
Ond gall fod y peth gorau y gallwch ei wneud, yn enwedig os ydych yn ystyried defnyddio dull ad-dalu dyled ffurfiol, fel cynllun ad-dalu dyled neu fethdaliad. Mae hi bob amser yn well trafod pethau gydag ymgynghorydd profiadol cyn i chi wneud penderfyniad.
Mae hyn oherwydd bod llawer o ffyrdd i ddelio â dyledion ac efallai na fyddech yn ymwybodol o'r holl opsiynau sydd ar gael i chi. Bydd y ffordd sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Gall ymgynghorydd dyled am ddim eich helpu penderfynu pa opsiwn sy'n gywir i chi. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai hyn gymryd ond un sgwrs.
Bydd cynghorydd dyledion:
- yn trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
- fyth yn eich barnu na’n gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion efallai nad oeddech yn ymwybodol ohonynt
- yn gwirio eich bod wedi ymgeisio am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.