Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fudd-dal sy’n helpu pobl 16 oed a hŷn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda chostau ychwanegol cyflwr iechyd hirdymor neu anabledd. Mae wedi disodli Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Mae’n bwysig gwybod sut i wneud cais a faint y gallech ei gael.
Beth yw Taliad Annibyniaeth Personol?
Mae PIP yn helpu gyda chostau ychwanegol anabledd neu gyflyrau iechyd hirdymor. Mae ar gael i bobl sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae’n fudd-dal nad yw’n dibynnu ar brawf modd. Felly, gallwch ei gael ni waeth faint yr ydych yn ei ennill, neu a oes gennych gynilion neu gyfalaf. Gallwch ddefnyddio’r arian yn y ffordd orau i’ch helpu i reoli eich iechyd neu anabledd – nid oes rhaid iddi gael ei gwario ar ofal neu symudedd.
I fod yn gymwys ar ei gyfer rhaid i chi:
- fod rhwng 16 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- wedi cael yr anawsterau hyn ers tri mis a disgwyl iddynt bara am o leiaf naw mis arall (oni bai eich bod yn derfynol wael).
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, y budd-dal cyfatebol yw Taliad Anabledd Oedolion (ADP)
Ni allwch wneud cais am ADP a PIP ar yr un pryd. Am fwy o wybodaeth am ADP gweler ein canllaw Adult Disability Payment – an introduction neu gwiriwch eich cymhwysedd am ADPYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.
Os oes angen i chi wneud cais newydd am ADPYn agor mewn ffenestr newydd, gallwch ddarganfod sut i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn ar mygov.scot.
Pwy all gael PIP?
I gael PIP mae'n rhaid:
- Bod angen help arnoch gyda thasgau bywyd bob dydd neu symud o gwmpas, neu’r ddau
- Eich bod wedi angen yr help hwn am o leiaf tri mis ac yn disgwyl y byddwch ei angen am o leiaf naw mis arall. Gallwch ddechrau eich cais o fewn y tri mis cyntaf o fod angen cymorth ond ni fydd eich hawl i PIP yn dechrau nes bod y cyfnod o dri mis wedi dod i ben
- Os ydych yn derfynol wael gyda disgwyliad bywyd tebygol o 12 mis neu lai, rydych chi’n gymwys yn syth.
PIP pan fyddwch wedi cyrraedd oed pensiwn
Os dyfarnir cyn oedran Pensiwn y Wladwriaeth, rydych chi’n cadw PIP pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran hwnnw. Ni chaiff eich taliad ei hadolygu’n rheolaidd bellach pan fyddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yn lle, byddwch yn cael adolygiad cyffyrddiad ysgafn pob deng mlynedd.
Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac nid ydych wedi hawlio PIP, ni fyddwch yn gallu gwneud cais newydd amdano. Yn lle, bydd angen i chi wneud cais am Lwfans Gweini neu’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn yr Alban. Darganfyddwch fwy am Lwfans Gweini neu Daliad Anabledd Oedran Pensiwn yr Alban yn ein canllaw Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr.
Darganfyddwch fwy am Lwfans GweiniYn agor mewn ffenestr newydd ar Turn2us.
Budd-daliadau anabledd i blant dan 16 oed
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gallwch wneud cais am Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer plentyn o dan 16 oed sy’n cael anhawster symud o gwmpas neu sydd angen mwy o ofal na phlentyn o’r un oedran nad oes ganddo anabledd.
Yn yr Alban gallwch wneud cais am Daliad Anabledd Plant yn lle ar gyfer plant rhwng tri mis a 18 oed.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
Darganfyddwch am Lwfans Byw i’r Anabl i blant ar GOV.UK neu’r Taliad Anabledd Plant ar mygov.scot
Cyfraddau PIP
Mae Taliad Annibyniaeth Personol yn seiliedig ar lefel yr help sydd ei angen arnoch oherwydd sut mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch chi a’ch gallu i wneud rhai gweithgareddau penodol.
Mae'n cynnwys dwy elfen:
Efallai caiff yr elfen Symudedd ei dalu i chi os oes angen help arnoch i deithio. Mae hyn yn cynnwys symud o gwmpas yn gorfforol yn ogystal ag os oes angen help arnoch tu fas oherwydd anabledd dysgu neu synhwyrol, neu broblem iechyd meddwl.
Efallai y bydd yr elfen bywyd bob dydd yn cael ei thalu os oes angen help arnoch i wneud gweithgareddau bob dydd, fel:
- paratoi a choginio bwyd
- bwyta ac yfed
- rheoli eich triniaethau
- golchi ac ymolchi
- rheoli anghenion toiled neu anymataliaeth
- gwisgo a dadwisgo
- cyfathrebu â phobl eraill
- darllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig
- cymysgu ag eraill.
Gellir talu pob elfen naill ai ar gyfradd safonol neu uwch.
Yn dibynnu ar sut mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch chi, mae'n bosibl cael un elfen neu'r ddwy, a naill ai'r gyfradd safonol neu'r uwch.
Mae hyn yn cael ei gyfrifo ar ôl asesiad DWP o’ch cais.
| - | Cyfradd wythnosol safonol | Cyfradd wythnosol uwch |
|---|---|---|
|
Yr elfen symudedd |
£30.30 |
£80.00 |
|
Yr elfen bywyd bob dydd |
£76.70 |
£114.60 |
Sut i wneud cais am PIP
Gallwch wneud PIP cais dros y ffôn drwy ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar 0800 917 2222. Am ffyrdd eraill o wneud cais am PIP ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0800 012 1573 neu ewch i wefan nidirect i gael gwybod mwy a gwneud cais
Yna byddant yn gwirio eich bod yn gymwys i wneud cais. Os byddwch yn gymwys, bydd y DWP yn anfon ffurflen atoch sef ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cwblhau’r ffurflen hon yn ofalus a rhoi cymaint o fanylion â phosibl am eich cyflwr.
I gael help i lenwi'ch ffurflen gais PIP, ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Pan fydd y DWP yn cael eich ffurflen byddant yn penderfynu a ydych angen asesiad meddygol. Neu gallent benderfynu gofyn i’ch gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol am ragor o wybodaeth.
Asesiadau
Os oes angen asesiad arnoch, efallai bydd hwn yn ymgynghoriad wyneb yn wyneb â gweithiwr iechyd proffesiynol hyfforddedig annibynnol, neu ei wneud dros y ffôn neu drwy fideo.
Mae'r asesiad wedi'i gynllunio i weithio allan beth yw eich anghenion unigol.
Bydd yn canolbwyntio ar ba mor dda y gallwch chi gyflawni amrywiaeth o weithgareddau y mae angen i chi eu gwneud i ymdopi â bywyd bob dydd a theithio tu fas.
Ewch i ganllawiau Cyngor ar Bopeth arweiniad ar baratoi ar gyfer eich asesiad PIP
Methiant i fynychu eich asesiad
Byddwch yn derbyn llythyr yn eich gwahodd i'ch asesiad. Os ydych chi’n methu â fynychu eich asesiad caiff eich cais PIP ei ‘wrthod’. Mae rhai pobl yn cael eu cydnabod gan y DWP fel rhai sydd angen ‘cymorth ychwanegol’ oherwydd eu hiechyd a dylid ymdrin â’u ceisiadau yn fwy cydymdeimladol.
Os yw eich cais yn cael ei ‘wrthod’ bydd angen i chi naill ai ddilyn y broses apelio (gwelwch fwy ar hyn isod) neu gychwyn cais newydd. Ar ôl eich asesiad, cewch lythyr gyda phenderfyniad ynghylch a allwch gael PIP a faint fydd hynny.
Os ydych yn cael PIP, bydd eich dyfarniad yn cael ei ailasesu'n rheolaidd i weld a yw'ch cyflwr wedi newid. Gallwch hefyd wneud cais am adolygiad eich hun, ond os ydych chi, mae gan y DWP y pŵer i leihau neu stopio eich dyfarniad er nad yw hwn yn digwydd yn aml.
I ddarganfod mwy am y meini prawf asesiad ar gyfer PIP on GOV.UK
Help i wneud cais am PIP
Os ydych chi’n meddwl y gallai PIP fod yn iawn i chi ond nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, mae’r elusen Turn2Us wedi creu teclyn Cynorthwyydd PIP Turn2Us cyfrinachol am ddim a fydd yn helpu i fynd â chi drwy’r brosesYn agor mewn ffenestr newydd a deall beth mae gennych hawl iddo
Symud o DLA i blant i PIP
Os yw’ch plentyn yn cael DLA i blant (yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon), yna bydd angen iddynt wneud cais am PIP pan fyddant yn cyrraedd 16 oed. Nid yw hyn yn drosglwyddiad awtomatig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
Sut i herio penderfyniad PIP
Os ydych yn anfodlon ynghylch penderfyniad am eich hawliad PIP, gallwch ei herio – ond mae’n bwysig dilyn y drefn gywir.