Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Social Security Scotland, eich cyngor lleol, Yr Adran Cymunedau neu CThEF am eich budd-daliadau, mae’n bwysig dilyn y drefn gywir. Dyma grynodeb o’r hyn sydd angen i chi ei wneud a phryd.
Gofyn am ailystyriaeth orfodol
Pwysig
Sicrhewch eich bod yn darllen am sut i anghytuno â phenderfyniadYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK cyn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad am fudd-daliadau gan DWP yng Nghymru neu'n Lloegr neu CThEF gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei ystyried unwaith eto.
Gelwir y cam cyntaf yn ailystyriaeth orfodol. Mae hyn yn golygu y bydd rhywun arall yn edrych ar y penderfyniad i weld a ellir ei newid.
Fel arfer, rhaid i chi fynd drwy’r cam hwn cyn y gallwch apelio, ac eithrio Budd-dal Tai a Chymorth y Dreth Gyngor, neu benderfyniadau ardrethi yng Ngogledd Iwerddon.
Fel arfer, mae rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i’r dyddiad sydd ar eich llythyr penderfyniad neu’r neges yn eich cyfrif ar-lein os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Os byddwch yn colli’r terfyn amser, nid oes rhaid i’r adran sy’n gwneud y penderfyniad dderbyn eich cais am ailystyriaeth orfodol oni bai bod gennych reswm da iawn. Er enghraifft roeddech yn yr ysbyty, neu nid oedd eich cynrychiolydd ar gael, neu fod perthynas agos wedi marw.
Sut i ofyn i’r DWP am ailystyriaeth orfodol
Gallwch ofyn i’r DWP am ailystyriaeth orfodol trwy:
- ffonio, gan ddefnyddio’r rhif sydd ar y llythyr penderfyniad
- ysgrifennu llythyr
- cwblhau’r ffurflen CRMR1
- ysgrifennu neges yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Eglurwch pam rydych yn credu bod eu penderfyniad yn anghywir. Ac anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth arall sydd gennych os credwch y bydd hynny’n helpu’ch achos.
Darganfyddwch fwy am sut i anghytuno â phenderfyniad, ac i lawrlwytho ffurflen CRMR1Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Sut i ofyn i CThEF am ailystyriaeth orfodol
Rydych yn gofyn i CThEF am ailystyriaeth orfodol trwy:
- ffonio, gan ddefnyddio’r rhif ar y llythyr penderfyniad
- ysgrifennu llythyr
- llenwi ffurflen CH24A ar gyfer penderfyniad Budd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad.
Ailystyried penderfyniad Budd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad lawrlwythwch ffurflen CH224A ar GOV.UK
Pan fydd y penderfyniad wedi cael ei ailystyried
Pan fydd DWP neu CThEF wedi edrych ar eich penderfyniad eto, byddant yn anfon dau gopi o ddogfen atoch a elwir yn hysbysiad ailystyriaeth orfodol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth.
Darganfyddwch fwy am ofyn am ailystyriaeth orfodolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth
Sut i apelio
Mae apeliadau’n cael eu trin gan bobl sy’n annibynnol i'r staff budd-daliadau a wnaeth y penderfyniad neu’r ailystyriaeth.
Gallwch ddim ond apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal pan fyddwch wedi cael yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol, oni bai mai penderfyniad Budd-dal Tai, Cymorth y Dreth Gyngor neu ardrethi yng Ngogledd Iwerddon ydyw
Mae rhaid i chi apelio o fewn mis i’r dyddiad ar eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol.
Apelio yn erbyn penderfyniad DWP
I apelio mae rhaid i chi anfon y canlynol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen):
- copi o’r hysbysiad ailystyriaeth orfodol
- ffurflen SSCS5 - lawrlwythwch hi o wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy am apelio yn dilyn ailystyriaeth orfodolYn agor mewn ffenestr newydd ar Cyngor ar Bopeth
Sut i apelio yn yr Alban
Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad sy’n ymwneud â budd-daliadau a wnaed gan Social Security Scotland. Gallwch ofyn am ailddyfarniad neu gallwch apelio.
Ailddyfarniad yw'r cam cyntaf a bydd yn golygu y bydd Social Security Scotland yn edrych ar eich cais am fudd-dal fel un newydd.
Apêl yw'r ail gam os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad eich ailddyfarniad.
Gallwch gael help i wneud cais am ailddyfarniad ar wefan Citizens Advice Scotland a darganfyddwch fwy am ba fudd-daliadau y gallwch apelio yn eu herbyn ar mygov.scot.
Sut i apelio yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r broses apelio ychydig yn wahanol ac efallai y bydd angen i chi fynychu gwrandawiad wyneb yn wyneb neu wrandawiad ar-lein.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am apelio penderfyniad ynghylch budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan NIdirect.
Ceisiwch gymorth a chyngor arbenigol
Os ydych am barhau ag apêl, mae’n syniad da cael ychydig o gymorth arbenigol, er enghraifft, gan Gyngor ar Bopeth neu eich Canolfan Gyfreithiol leol.
Darganfyddwch fwy ein canllaw Ble i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau?
Sut i herio penderfyniad gan eich awdurdod lleol
A ydych am herio penderfyniad gan eich cyngor ynghylch eich Budd-dal Tai neu Gymorth y Dreth Gyngor? Bydd rhaid i chi gysylltu â’ch cyngor i gwestiynu ei benderfyniad a dilyn ei weithdrefn apelio.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad eich awdurdod lleol i beidio â thalu am eich gofal, neu os nad ydych yn credu eu bod wedi cynnig digon o gymorth i ddiwallu’ch anghenion, darllenwch ein canllaw Sut i wneud cwyn os ydych yn cael trafferthion wrth dalu am eich gofal