Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau
Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
15 Mai 2026
Os oes gennych chi fwy na dau o blant ac yn cael Credyd Cynhwysol, gallwch chi hawlio swm ychwanegol ar gyfer eich trydydd plentyn – neu blant dilynol. Nid yw'r terfyn dau blentyn yn berthnasol mwyach.
Os oes gennych fwy na dau blentyn ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch hawlio swm ychwanegol ar gyfer eich trydydd plentyn neu blant dilynol. Daeth y newid hwn i rym ym mis Ebrill 2026.
Mae hyn yn golygu os gwnaethoch hawlio Credyd Cynhwysol o'r blaen, yn hawlio ar hyn o bryd neu’n gwneud cais newydd ac yn gyfrifol am fwy na dau blentyn, gallech fod â hawl newydd i swm ychwanegol o dan ‘elfen plentyn’ Credyd Cynhwysol.
O dan y system flaenorol o Gredyd Cynhwysol, dim ond ar gyfer eich dau blentyn cyntaf y gallech gael symiau ychwanegol.
Os oedd gennych fwy na dau blentyn, dim ond os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017 y gallech gael swm ychwanegol o £292.81 ar gyfer eich plant ychwanegol.
Ni oeddech yn gallu hawlio unrhyw daliadau ychwanegol am drydydd plentyn neu blant ychwanegol a anwyd ar 6 Ebrill 2017 neu ar ôl oni bai bod gennych eithriad amgylchiadau arbennigYn agor mewn ffenestr newydd
Roedd gan bob un o’r pedair gwlad bolisïau tebyg ar y terfyn dau blentyn. Mae’r newid wedi’i gyhoeddi fel rhan o gyllideb y DU a mae wedi dod i rym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Gan fod lles wedi’i ddatganoli, mae'r Weithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon hefyd wedi derbyn arwahan ei fod wedi dod i ben.
Mae’r ‘elfen blentyn’ yn swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol y gallwch ei hawlio os oes gennych blant sy’n byw gyda chi.
Ar hyn o bryd gallwch gael £351.88 am eich plentyn cyntaf os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017, neu £303.94 am eich plentyn cyntaf os cawsant eu geni ar ôl 6 Ebrill 2017.
Gallwch hawlio £303.94 arall am eich ail blentyn.
Gallwch barhau i gael y symiau ychwanegol hyn cyn belled â bod y plant yn byw gyda chi a tan eu pen-blwydd yn 16 oed - neu eu pen-blwydd yn 19 oed os ydynt mewn addysg nad yw’n uwch neu hyfforddiant.
Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, dylai eich anogwr gwaith fod eisoes yn ymwybodol o faint o blant sy’n byw gyda chi – ond dylech wirio bod eich manylion yn gyfredol. Os ydych chi’n gwneud cais newydd, gofynnir i chi faint o blant sydd gennych ac a ydyn nhw’n byw gyda chi.
Ydy. Y cap ar fudd-dal yw’r uchafswm y gall eich cartref ei gael mewn budd-daliadau. Mae hyn yn golygu, os ydych eisoes yn cael yr uchafswm ni fydd eich taliad yn cynyddu.
Gallwch ddarganfod mwy am sut mae symiau Credyd Cynhwysol yn cael eu cyfrifo yn ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Os rydych chi’n gyfrifol am blentyn sydd ag anabledd, byddwch chi’n cael swm ychwanegol iddynt ni waeth faint o blant eraill sydd gennych neu pryd y cawsant eu geni. Gelwir y swm hwn yn ‘Elfen Blentyn Anabl’.
Gallwch hefyd hawlio’r ‘elfen blentyn’ safonol ar gyfer eich holl blant.
Nid yw’r terfyn ar ddau blentyn yn berthnasol i Fudd-dal Plant, sef taliad wythnosol gwahanol o tua £26 i’ch plentyn cyntaf a £17 i blant dilynol. Nid yw Budd-dal Plant yn rhan o Gredyd Cynhwysol ac nid yw’n dibynnu ar brawf modd yn yr un ffordd â Chredyd Cynhwysol. Ar hyn o bryd gallwch wneud cais am Fudd-dal Plant ar gyfer unrhyw nifer o blant o dan eich gofal. Mae gan HelpwrArian wybodaeth fanwl am Sut i hawlio Budd-dal Plant.