Beth mae’r Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025 newydd yn ei olygu i chi
Diweddarwyd diwethaf:
04 Rhagfyr 2025
Mae Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 yn cyflwyno rhai o’r newidiadau mwyaf i ddiogelu tenantiaid ar gyfer rhentwyr preifat mewn blynyddoedd. Gall y canllaw hwn eich helpu i ddeall beth sy’n newid, pryd bydd y newidiadau’n dod i rym ac ateb cwestiynau cyffredin eraill am y Ddeddf.
Ni fydd y newidiadau i’r gyfraith yn effeithio arnoch os ydych yn rhentu’ch tŷ gan eich cyngor lleol, yn denant sydd wedi’i ddiogelu neu’n lletywr sy’n byw gyda’ch landlord.
Os ydych yn dentant i Asiantaeth Dai, bydd rhai newidiadau’n effeithio arnoch, ond caiff y rhain eu cyflwyno’n nes ymlaen.
Beth sy’n newid o dan Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025?
Cafodd y Ddeddf Hawliau Rhentwyr ei basio i gyfraith yn ddiweddar a bydd y newidiadau sydd ynddi’n dod i rym o 1 Mai 2026.
Mae’r Ddeddf yn berthnasol yn Lloegr yn unig, ond mae’r cenhedloedd eraill eisoes wedi cyflwyno rhai o’r diwygiadau sydd ynddi. Er enghraifft, mae troi allan di-fai wedi cael eu gwahardd yn yr Alban ers 2017.
Mae’r diwygiadau hyn wedi’u credu i wneud rhentu’n fwy diogel. Mae newidiadau pwysig yn cynnwys:
diwedd troi allan “di-fai” Adran 21
diwedd tenantiaeth cyfnod penodol
bydd pob tenantiaeth yn newid i gytundebau treigl misol neu wythnosol a elwir yn denantiaethau Cyfnodol Sicr
diwedd brwydrau cynnig i ddiogelu tenantiaethau
rheolau cliriach ar godi rhent
dyletswyddau cryfach i wneud atgyweiriadau
ffyrdd haws i denantiaid i herio arferion drwg
rheolau mwy llym i atal gwahaniaethu tenantiaid gyda phlant neu sy’n derbyn budd-daliadau.
Mathau o denantiaeth a’ch hawliau o ddydd i ddydd
Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar denantiaid rhent preifat, y rheiny sydd eisoes yn rhentu ac os byddwch yn dechrau tenantiaeth ar ôl i’r ddeddf ddod i rym.
Eich hawliau os ydych yn chwilio am le i’w rentu ar ôl 1 Mai 2026
Rhaid i unrhyw hysbyseb i rentu eiddo preifat restru pris y rhent ac ni fydd hawl gan landlordiaid i annog na derbyn cynigion dros y swm hwn.
Rhaid i’ch landlord ddarparu cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig i chi cyn i chi symud i mewn. Os ydynt yn methu, gallent gael dirwy o £7,000. Nid oes hawl gan landlord i ofyn am rent o flaen llaw cyn i chi’ch dau lofnodi’r cytundeb tenantiaeth cyfnodol sicr.
Unwaith y caiff cytundeb ei lofnodi, gall y landlord ofyn am un fis o rent o flaen llaw yn unig. Gallwch ddewis talu mwy ond nid oes gofyn cyfreithiol i chi wneud.
Unwaith eich bod wedi symud i mewn i’r eiddo, rydych yn gyfrifol am dalu’r mis presennol o rent yn unig. Ni all eich landlord ofyn i chi am daliadau ymlaen llaw, er y gallwch ddewis talu’n gynt os hoffech chi.
Beth sy’n digwydd i gytundebau sydd eisoes yn bodoli ar ôl 1 Mai 2026?
Os ydych eisoes yn rhentu trwy landlord preifat, bydd unrhyw gytundebau tenantiaeth byrddaliol sicr cyfredol yn peidio â bodoli, waeth pa gyfnod o’r denantiaeth rydych chi ynddi.
Byddant yn cael eu disodli gan gytundeb tenantiaeth treigl cyfnodol sicr.
Os oes eisoes gennych gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig, dylai eich landlord eich hysbysu o’r newidiadau yn y gyfraith heb fod yn hwyrach na 31 Mai 2026.
Nid oes yn rhaid iddynt anfon cytundeb newydd atoch, ond dylent anfon taflen gan y llywodraeth sy’n amlinellu’r newidiadau a’ch hawliau. Gallwch ofyn am gytundeb tenantiaeth newydd os oes yn well gennych.
Os nad oes gennych gytundeb ysgrifenedig, dylai eich landlord roi cytundeb tenantiaeth cyfnodol sicr i chi.
Bydd yn rhaid i chi roi dau fis o rybudd i adael yr eiddo yn hytrach na’r un fis sydd ei angen nawr.
Diddymu troi allan di-fai: sut mae newidiadau i Adran 21 yn effeithio arnoch chi
Yn y gorffennol, roedd eich landlord yn gallu gofyn i chi symud allan heb roi rheswm ar ôl i’r cyfnod amser penodol ddod i ben. Roedd hyn yn cael ei adnabod fel troad allan “di-fai” Adran 21.
Beth sy’n disodli Adran 21?
Ar ôl 1 Mai 2026, rhaid i landlordiaid roi rheswm dilys (a elwir yn “sail”) os ydynt yn dymuno i chi adael. Caiff ei alw’n rhybudd Adran 8.
Mae rhesymau dilys yn cynnwys:
gwerthu eiddo
symud eu hunain
toriadau difrifol yn y cytundeb tenantiaeth, gan gynnwys rhent dyledus.
Eich hawliau os yw eich landlord eisiau i chi adael
Os yw eich landlord yn gofyn i chi adael, bydd gennych yr hawl i weld y rheswm yn ysgrifenedig, gan gynnwys tystiolaeth.
Bydd cyfnodau rhybudd yn amrywio yn ddibynnol ar y rheswm ond byddant fel arfer yn hirach na’r broses Adran 21 cyfredol, sy’n 2 fis ar hyn o bryd.
Y dyddiad olaf y bydd eich landlord yn gallu rhoi rhybudd Adran 21 fydd 30 Ebrill 2026.
Os byddwch yn cael rhybudd, gwiriwch y dyddiadau’n ofalus, gofynnwch i’r landlord gadarnhau’r rheswm (sail) dros droi allan a chwiliwch am gyngor yn gynnar os nad ydych yn siwr a yw’n ddilys.
Codiadau rhent: rheolau, rhybudd a sut i’w herio
Ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym ar 1 Mai 2026, gall eich landlord godi’ch rhent unwaith y flwyddyn yn unig.
Bydd hefyd yn rhaid iddynt roi ddau fis o rybudd i chi yn ysgrifenedig (rhybudd Adran 13). Rhaid i’r rhybudd hwn esbonio’r swm newydd, pryd y bydd yn dechrau a sut y gallwch ei apelio.
Os ydych yn meddwl bod codiad rhent yn annheg, gallwch ei herio. Gallai eich helpu i roi tystiolaeth o bam ei fod yn annheg, gallai hynny gynnwys:
“rhent y farchnad” – faint mae eiddo tebyg yn cael eu rhentio yn eich ardal
cyflwr yr eiddo – os ydych yn aros am drwsiadau, efallai y gallech ddadlau ei fod yn annheg i godi’ch rhent
lefelau eich rhent yn y gorffennol – os cafodd eich rhent ei godi’n ddiweddar, gallwch ofyn i’r codiad rhent hwn gael ei ddileu neu ei ostwng.
Mae gennych gyfnod byr yn unig i herio’ch codiad rhent, felly mae’n well anfon ymateb yn ysgrifenedig o fewn un mis o gael y rhybudd.
Os yw eich landlord yn gwrthod eich her, gallwch ei uwchgyfeirio i dribiwnlys annibynnol a fydd yn penderfynu ar rent marchnad deg. Darganfyddwch fwy am herio codiad rhent ar wefan Shelter.
Gweler ein tudalen ar beth i’w wneud os na allwch fforddio rhent am fwy o arweiniad.
Atgyweiriadau, safonau a’ch hawl i gartref gweddus
Dylai eich cartref fod yn lle diogel i fyw. Mae’r Ddeddf Diwygio i Rentwyr yn cryfhau eich hawliau cyfredol, a bydd dyletswydd ar eich landlord i drwsio problemau o fewn terfynau amser llawer llymach, er nid ydym yn gwybod yr union derfynau amser y dylid cyflawni atgyweiriadau eto. Bydd gan awdurdodau lleol bŵerau cryfach i ddirwyo landlordiaid nad ydynt yn gwneud atgyweiriadau. Mae’r problemau y bydd angen iddynt drwsio’n brydlon yn cynnwys:
lleithder
llwydni
pla cnofilod neu drychfilod
risgiau trydanol
gwres nad yw’n ddiogel
gollyngiadau
materion yn ymwneud â phlymwaith.
Sut i ofyn am atgyweiriadau
Dylech gofnodi unrhyw atgyweiriadau sydd eu hangen yn ysgrifenedig a chadw cofnod o luniau, negeseuon a dyddiadau dilyn i fyny. Bydd hyn yn helpu os na chaiff eu problemau eu trwsio.
Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi gwell diogelwch rhag troi allan fel dial. Golyga hyn na fydd eich landlord yn gallu’ch bygwth gyda throad allan oherwydd eich bod wedi gofyn am atgyweiriadau.
Os na fydd eich landlord yn trwsio’r problemau yn eich cartref o fewn cyfnod rhesymol o amser, gallwch wneud cŵyn i’ch cyngor lleol neu hyd yn oed dwyn eich landlord i’r llys.
Darllenwch fwy ar dudalen Cyngor ar Bopeth am gael atgyweiriadau wedi’u gwneud os ydych yn rhenu’n breifat
Byddwch yn gallu gofyn i gael cadw anifail anwes neu i addurno’r tŷ
Mae’r Ddeddf yn cefnogi ceisiadau rhesymol i gael anifeiliaid anwes, gwneud mân newidiadau i’ch cartref a chael addasiadau hygyrchedd.
Fodd bynnag, gall landlordiaid barhau i osod amodau os ydynt yn cytuno i’r newidiadau, fel sicrhau bod unrhyw newidiadau rydych yn eu gwneud yn gallu cael eu gwrthdroi.
Darllenwch fwy yn ein blog A all landlordiaid wrthod anifeiliaid anwes mewn eiddo rhent?
Mwy o ddiogelwch os oes gennych blant neu eich bod yn derbyn budd-daliadau
Mae’r rheolau newydd yn ei gwneud yn glir na all landlordiaid wahaniaethu yn eich erbyn os oes gennych blant o dan 18 oed neu eich bod yn cael budd-daliadau lles.
Gall awdurdodau lleol roi dirwy o £7,000 i landlordiaid os oes tystiolaeth bod hyn wedi digwydd.
Os ydych yn profi gwahaniaethu, gallwch wneud cŵyn i’ch awdurdod lleol.
Os nad yw eich landlord yn eich hysbysu o’r newidiadau hyn neu os oes gennych broblem
Os oes rhywbeth yn mynd o’i le, dechreuwch trwy ysgrifennu at eich landlord gan nodi’r broblem yn glir.
Os na fydd unrhyw beth yn newid, dywedwch wrth dîm rhentu preifat neu dîm iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol am y broblem. Gallant arolygu, cyhoeddi rhybuddion gwella neu gymryd camau gorfodi.
Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Gallwch hefyd ddefnyddio gynllun gwneud iawnYn agor mewn ffenestr newydd os oes gennych broblem gydag asiant gosod eiddo neu wneud cais i dribiwnlysYn agor mewn ffenestr newydd os nad ydych yn cytuno gyda chodiad mewn rhent.
Cadwch dystiolaeth o broblemau fel lluniau, copïau o lythyrau, talebau a chofnodion o bryd y gwnaethoch gysylltu â’ch landlord. Bydd cynghorau a thribiwnlysoedd yn ymateb i achosion o fewn wythnosau fel arfer, er gallai materion mwy cymhleth gymryd yn hirach.
Mae canlyniadau posibl yn cynnwys atgyweiriadau’n cael eu gorchymyn, gostyngiadau mewn rhent, iawndal neu gosb i’r landlord.
Darllenwch ein canllaw Sut i ddatrys anghydfod gyda’ch landlord
Chwiliwch am gyngor am gadw’ch rhent yn ôl os ydych yn rhentu’n breifat a bod gennych anghydfod gyda’ch landlord oherwydd y gallau hyn eich gadael yn agored i gael eich troi allan am rent dyledus, hyd yn oed o dan y rheolau newydd oherwydd y gallai hyn gael ei roi fel rheswm dros roi rhybudd i chi.
Teclynnau defnyddio a ble i gael help
Gall eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd eich helpu os oes problem gyda chi gyda’ch landlord neu os ydych wedi cael eich gwneud yn ddigartref. Dylent feddu ar bŵerau cryfach i gymryd camau gweithredu pan ddaw’r rheolau newydd i rym. Mae gan wefan Shelter England lawer o ganllawiau defnyddiol am beth i’w wneud os oes gennych broblem gyda’ch eiddo rhentYn agor mewn ffenestr newydd
Mae mwy o arweiniad ar bob math o gwestiynau ar rentuYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Mae gan adran rhentu HelpwrArian fwy o wybodaeth gan gynnwys sut i ddod o hyd i le rhent fforddiadwy a rhestr wirio ar gyfer symud i mewn.