Beth yw cost yswiriant car ar gyfartaledd?
        Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
25 Medi 2025
Mae pris yswiriant car ar gyfartaledd bellach yn £562 y flwyddyn, yn ôl yr Association of British Insurers (ABI) – gostyngiad o £60 yn y flwyddyn ddiwethaf. Dyma'r holl ystadegau allweddol a sut i ddod o hyd i ddyfynbris rhad.
Beth sy'n effeithio ar bris fy yswiriant car?
Mae yswirwyr yn ystyried llawer o bethau wrth benderfynu faint i’w godi arnoch, gan gynnwys:
- manylion personol, fel eich:
- oed
 - cyfeiriad
 - swydd
 
 - y math o gar sydd gennych
 - faint o filltiroedd rydych chi'n eu gyrru
 - lle rydych chi'n parcio'ch car
 - os ydych wedi hawlio yn ddiweddar
 - os oes gennych unrhyw euogfarnau gyrru.
 
Mae hyn yn eu helpu i weithio allan pa mor debygol ydych chi o hawlio. Er enghraifft, rydych yn debygol o gael dyfynbris rhatach os:
- nad ydych erioed wedi hawlio o'r blaen
 - dydych chi ddim yn gyrru llawer o filltiroedd
 - mae gennych gar rhad.
 
Ond gall yswirwyr gwahanol godi prisiau gwahanol, felly cymharwch gynifer o ddyfynbrisiau ag y gallwch bob amser
Cost gyfartalog yswiriant car yn ôl oedran
Gall eich oedran wneud gwahaniaeth mawr i gost yswiriant, fel mae’r tabl yn dangos. Gyda gyrwyr iau a rhai dros 65 oed fel arfer yn talu mwy. Gweler Yswiriant car i yrwyr ifanc am help.
| 
                             20  | 
                    
                        
                             £851  | 
                    
| 
                             25  | 
                    
                        
                             £719  | 
                    
| 
                             35  | 
                    
                        
                             £639  | 
                    
| 
                             45  | 
                    
                        
                             £575  | 
                    
| 
                             55  | 
                    
                        
                             £468  | 
                    
| 
                             65  | 
                    
                        
                             £491  | 
                    
| 
                             75  | 
                    
                        
                             £752  | 
                    
Mae’r ffigurau sydd yn y tabl gan NimbleFins yn dangos cyfartaledd y pum dyfynbris rhataf. Mae hyn yn seiliedig ar 5,000 o filltiroedd y flwyddyn, £200 dros ben a gostyngiad pum mlynedd heb hawliadau.
Cost gyfartalog yswiriant car yn ôl rhyw
Rydyn ni'n gwybod beth rydych chi'n ei feddwl - allwch chi ddim gwahaniaethu ar sail rhyw mwyach! Ond mae gyrwyr gwrywaidd yn talu mwy ar gyfartaledd o hyd na gyrwyr benywaidd:
- mae dynion yn talu £791
 - mae merched yn talu £642.
 
Yn seiliedig ar ffigurau o fynegai prisiau yswiriant carYn agor mewn ffenestr newydd Confused.com
Opens in a new window
Sut i gael dyfynbrisiau yswiriant car rhad
Rhaid i yswirwyr godi'r un tâl ar gwsmeriaid newydd a phresennol, ond gwiriwch bob amser a allwch arbed trwy newid yswirwyr. Peidiwch byth ag adnewyddu'n awtomatig.
Gallwch gael dyfynbrisiau yswiriant gan:
- wefannau cymharu – rhowch eich manylion unwaith i gael dyfynbrisiau gan lawer o yswirwyr:
- Gweler ein rheolau euraidd gwefan gymharu
 - Gweler trefn MoneySavingExpert o’r gwefannau cymharu rhatafYn agor mewn ffenestr newydd
 
 - yswirwyr yn uniongyrchol – nid yw pob yswiriwr yn ymddangos ar safleoedd cymharu, fel Direct Line
 - broceriaid yswiriant – am gyngor neu bolisi wedi’i deilwra. Gweler Pryd i ddefnyddio brocer yswiriant.
 
Mae awgrymiadau eraill ar gyfer cael dyfynbris rhatach yn cynnwys:
- ceisiwch ychwanegu gyrrwr a enwir â risg is (fel rhiant neu bartner)
 - cynydwchu eich tâl dros ben, os ydych chi’n hapus i dalu mwy pe bai’n rhaid i chi wneud hawliad
 - talwch yn flynyddol yn hytrach nag yn fisol.
 
Gweler deg ffordd o gadw costau yswiriant car i lawr am fwy o wybodaeth.
Ydy polisïau blwch du yn rhatach?
Os ydych yn yrrwr ifanc neu ddibrofiad efallai y cewch gynnig polisi ‘blwch du’ sy’n rhatach na’r rhai eraill a restrir – a elwir hefyd yn bolisïau telemateg.
Maent yn rhoi sgôr gyrru i chi a allai leihau faint y byddwch yn ei dalu pan ddaw'n amser adnewyddu. Mae rhai yswirwyr hefyd yn rhoi gwobrau i chi fel talebau am yrru'n ddiogel.
Efallai y bydd eich yswiriwr yn trefnu i ddyfais fach gael ei gosod ar eich car neu’n gofyn i chi lawrlwytho ap sy’n anfon gwybodaeth yn ôl ato am y ffordd rydych yn gyrru.
Gall hyn gynnwys:
pan fyddwch chi'n gyrru - yn aml gall hyn effeithio ar eich sgôr gyrru gyda rhai yswirwyr
sawl milltir yr ydych yn gyrru ac os byddwch chi’n cymryd seibiannau ar deithiau hir
a ydych yn torri'r terfyn cyflymder
pa mor esmwyth rydych chi'n gyrru - gallai fwrw’ch brêc yn sydyn neu gyflymu’n gyflym achosi damweiniau.
Pam fod yswiriant car mor ddrud?
Er bod premiymau yswiriant car cyfartalog wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf, gall fod yn un o’r biliau cartref uchaf o hyd.
Yn ôl yr Association of British Insurers (ABI), mae darparwyr yswiriant car wedi talu symiau sy’n torri’r record mewn hawliadau eleni gan fod costau trwsio a dwyn yn uchel iawn o hyd.
Mae hyn yn aml oherwydd bod gan geir modern systemau cymhleth a’u bod yn fwy costus i’w trwsio.
Mae prinder gweithwyr medrus a rhannau sydd ddim ar gael hefyd yn arwain at oedi costus.
Mae angen i yswirwyr godi digon er mwyn iddynt allu fforddio talu hawliadau, felly yn anffodus mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni i gyd dalu prisiau uchel.