Newid eich enw: rhestr wirio am bwy i’w hysbysu
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
29 Ionawr 2026
P’un a ydych wedi priodi, ysgaru, neu wedi newid eich enw am unrhyw reswm arall, bydd angen i chi ddiweddaru gwahanol gyfrifon a dogfennau i wneud yn siŵr bod popeth yn cyfateb. Rydyn ni wedi creu’r rhestr wirio hon i’ch helpu chi i drefnu yr holl weinyddu.
Beth i’w ystyried cyn newid eich enw
Mae tair prif ffordd i newid eich enw yn gyfreithlon:
- newid eich enw olaf i enw olaf eich partner neu ychwanegu eu henw i wneud cyfenw dwbl ar ôl priodas neu bartneriaeth sifil,
- newid yn ôl i’ch enw olaf blaenorol ar ôl ysgariad neu ddiddymiad, neu
- cael tystysgrif gweithred newid enw.
Mae tystysgrif gweithred newid enw yn ddogfen gyfreithiol i brofi eich bod wedi newid yr enw rydych chi’n cael eich galw. Mae yna reolau ynglŷn â beth all eich enw newydd fod, edrychwch ar wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth am weithredoedd newid enwYn agor mewn ffenestr newydd
Efallai y bydd yn rhaid i chi newid eich enw trwy weithred newid enw os ydych chi’n priodi neu’n ysgaru ac rydych chi eisiau newid eich enw mewn unrhyw ffordd arall. Gallai hyn fod oherwydd eich bod am gyfuno’ch cyfenw â’ch partner neu eisiau newid eich enw cyntaf neu ganol yn ogystal â’ch enw olaf.
Dogfennau
Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau eisiau i chi gyflwyno rhyw fath o dystysgrif i brofi eich newid enw. Bydd rhai yn caniatáu i chi anfon sgan neu lun atynt, ond bydd eraill yn gofyn i chi anfon neu ddangos y copi caled go iawn iddynt.
Os ydych chi’n newid eich enw oherwydd priodas neu bartneriaeth sifil, bydd angen eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil arnoch. Os yw eich priodas yn y DU, bydd hyn yn cael ei hanfon atoch yn yr wythnosau ar ôl eich seremoni gyfreithiol. Gallwch dalu £12.50 am gopïau ardystiedig ychwanegol pan fyddwch yn archebu eich seremoni gyda’r cyngor.
Ar ôl ysgariad neu ddiddymiad, gallwch ddefnyddio eich tystysgrif briodas ynghyd â’ch archddyfarniad absoliwt, gorchymyn terfynol neu dystysgrif ysgariad fel prawf ar gyfer newid enw. Gallwch ofyn am gopi arall gan GOV. UKYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi wedi colli eich un cyntaf.
Gyda gweithred newid enw bydd rhai sefydliadau yn derbyn gweithred newid enw gofrestredig sy’n costio £53.05. Darllenwch fwy am weithredoedd newid enwYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Pwy i’w hysbysu am newid enw
Yn anffodus, ar ôl i chi newid eich enw, nid oes unrhyw beth yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig. Bydd angen i chi ddweud wrth lawer o wahanol wasanaethau ariannol, cwmnïau cyfleustodau, ac adrannau’r llywodraeth eich bod wedi newid eich enw.
Cyrff y llywodraeth
Cyngor lleol
Bydd angen i chi roi gwybod iddynt am eich Treth Gyngor ac i ddiweddaru’r gofrestr etholiadol.
Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd
CThEF
Hyd yn oed os nad ydych chi’n hunangyflogedig, mae’n bwysig dweud wrth CThEF fod eich enw wedi newid ar gyfer mynediad at fudd-daliadau a’ch cyfrifon treth yn y dyfodol.
Bydd CThEF yn diweddaru’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’ch manylion Yswiriant Gwladol unwaith y byddwch wedi dweud wrthynt am y newid enw. Efallai y bydd angen i chi greu cyfrif Porth y Llywodraeth i wneud hyn.
Darganfyddwch sut i newid eich enw gyda CThEFYn agor mewn ffenestr newydd
DVLA a’ch trwydded yrru
Mae’n rhad ac am ddim newid eich enw os oes gennych drwydded yrru sydd heb ddod i ben. Casglwch ffurflen D1 o’ch Swyddfa Bost leol a’i llenwi (gelwir hyn yn ffurflen DL1 yng Ngogledd Iwerddon). Bydd angen i chi gynnwys eich trwydded bresennol, ynghyd â chopi gwreiddiol o’ch tystysgrif, a fyddant yn ei hanfon nôl atoch gyda’ch cerdyn â llun newydd ar ôl iddynt newid eich enw.
Darllenwch fwy am newid enw ar eich trwydded yrruYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi’n berchen ar gerbyd, bydd angen i chi hefyd newid yr enw ar eich llyfr log cerbyd V5C.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar GOV.UK am newid eich enw ar eich llyfr logYn agor mewn ffenestr newydd
Swyddfa Pasbort EF
I newid eich enw ar eich pasbort, mae’n rhaid i chi dalu am basbort 10 mlynedd newydd.
Os oes gennych lawer o flynyddoedd ar ôl ar eich pasbort presennol, efallai yr hoffech aros nes ei fod ar fin dod i ben i newid eich enw arno. Cofiwch, bydd angen i chi archebu unrhyw deithio dramor o dan eich enw blaenorol os gwnewch hyn.
Darllenwch fwy am newid eich enw ar eich pasbortYn agor mewn ffenestr newydd
Cyllid myfyrwyr
Talu neu dderbyn benthyciad myfyriwr? Yna bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion gyda’ch darparwr benthyciad.
Cymru: dyma sut i newid eich enw gyda Cyllid Myfyrwyr CymruYn agor mewn ffenestr newydd
Lloegr: darganfyddwch sut i newid eich enw gyda’r Student Loans Company (SLC)Yn agor mewn ffenestr newydd
Gogledd Iwerddon: cysylltwch â Student Finance NI i newid eich enwYn agor mewn ffenestr newydd
Yr Alban: llenwch y ffurflen newid enwYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer SAAS.
Fisâu a Mewnfudo y DU
Os ydych chi yn y DU ar fisa, rhaid i chi ddiweddaru Fisâu a Mewnfudo y DU os byddwch chi’n newid eich enw.
Darganfyddwch sut i newid eich enw ar eich eVisaYn agor mewn ffenestr newydd
Sefydliadau ariannol
Mae’n werth creu eich rhestr eich hun o bob cyfrif sydd gennych gydag unrhyw un o’r categorïau isod. Bydd angen i chi wirio gwefan pob sefydliad i weld sut i newid eich enw a pha dystiolaeth maen nhw'n gofyn amdani.
Efallai y bydd yn rhaid i chi newid eich enw gyda’r un cwmni fwy nag unwaith os oes gennych ddau gynnyrch gwahanol ganddynt, er enghraifft, pensiwn ac yswiriant.
Dyma’r sefydliadau ariannol y dylech ddweud wrthynt am eich newid enw:
- banciau
- cymdeithasau adeiladu
- darparwyr cardiau credyd
- cwmnïau benthyciadau
- cyllid car
- prynu nawr talu wedyn (BNPL) a chwmniau catalog
- darparwyr pensiwn
- llwyfannau buddsoddi
- darparwr morgais
- darparwyr yswiriant, gan gynnwys car, cartref, anifeiliaid anwes, teithio, bywyd, salwch critigol, diogelu incwm ac yswiriant iechyd
- yswiriant torri lawr
- NS&I (Cyfrifon Bondiau Premiwm).
Gwaith ac addysg
Os ydych chi’n gyflogedig neu mewn addysg, dylech ddweud wrth eich man gwaith neu astudio am eich newid enw.
Cartref
P’un a ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n rhentu eich cartref, mae yna lawer o bobl a chwmnïau y mae angen i chi ddweud wrthynt am eich newid enw, gan gynnwys eich:
- darparwr morgais
- Cofrestrfa Tir EFYn agor mewn ffenestr newydd os ydych chi’n berchennog tŷ
- landlord
- cymdeithas dai
- cwmni dŵr
- cwmni trydan a nwy
- darparwr rhyngrwyd
- cwmni ffôn
- Trwydded Deledu
- milfeddygon
- tanysgrifiadau fel Netflix, Amazon ac ati.
Iechyd
Dylech ddweud wrth eich meddygfa a’ch deintydd am newid eich enw. Byddant yn diweddaru eich cofnodion GIG gan gynnwys ap y GIG drosoch, ond efallai y bydd angen i chi ddweud wrth yr ysbyty ar wahân os ydych chi’n cael apwyntiadau rheolaidd yno.
Efallai yr hoffech hefyd newid eich enw ar eich aelodaeth campfa.
Cyfreithiol
Os oes gennych ewyllys, dylech ei ddiweddaru neu greu un newydd gyda’ch enw newydd. Gallai hyn fod yn arbennig o bwysig os ydych wedi newid eich enw oherwydd priodas, partneriaeth sifil neu ysgariad/diddymiad.
Darllenwch fwy am ewyllysiau yn ein herthygl Gwneud ewyllus a chynllunio beth i’w adael.
Ble i newid eich enw yn gyntaf
Efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n haws os byddwch chi’n newid eich enw ar eich ID yn gyntaf. Bydd llawer o leoedd eraill yn derbyn eich pasbort neu drwydded yrru fel prawf o’ch enw newydd, a all wneud pethau’n symlach.
Mae hefyd yn bwysig blaenoriaethu newid eich enw gyda’ch banc, man gwaith a darparwr morgais neu landlord.
Gellir newid eich enw ar bethau fel eich cyfrifon siopa ar-lein yn nes ymlaen.
Rhestr wirio newid enw am ddim
Copïwch a gludwch y rhestr hon i ap nodiadau eich ffôn a gallwch eu ticio wrth i chi eu cwblhau neu os nad ydyn nhw’n berthnasol i chi. Gallwch hefyd lawrlwytho PDF am ddim o’r rhestr wirio newid enwYn agor mewn ffenestr newydd (PDF, 76KB)
y Dreth Gyngor
cofrestr etholiadol
CThEF
trwydded yrru
llyfr log cerbyd
pasbort
cyllid myfyrwyr
Fisâu a Mewnfudo y DU
banciau
cymdeithasau adeiladu
darparwyr cardiau credyd
cwmnïau benthyciadau
Cyllid car
prynu nawr talu wedyn (BNPL) a chwmniau catalog
darparwyr pensiwn
llwyfannau buddsoddi
darparwr morgais
darparwyr yswiriant, gan gynnwys car, cartref, anifeiliaid anwes, teithio, bywyd, salwch critigol, diogelu incwm ac yswiriant iechyd
yswiriant torri lawr
NS&I (Cyfrifon Bondiau Premiwm)
eich cyflogwr
eich ysgol, coleg neu brifysgol
Cofrestrfa Tir EF os ydych chi’n berchennog tŷ
landlord
cymdeithas dai
cwmni dŵr
cwmni trydan a nwy
darparwr rhyngrwyd
cwmni ffôn
Trwydded Deledu
milfeddygon
tanysgrifiadau fel Netflix, Amazon ac ati.
Meddygfa meddyg teulu
deintydd
campfa
eich ewyllys
cardiau teyrngarwch a chyfrifon siopa ar-lein.