Cynlluniwr cyllideb
I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
11 Awst 2026
Mae nifer ohonom yn dibynnu ar danysgrifiadau i osgoi taith i’r siopau, i brynu anrheg ar y funud olaf neu i’n helpu drwy wyliau ysgol. O wasanaethau ffrydio a blychau harddwch i gylchgronau i’r plant, mae treialon am ddim neu am bris gostyngol yn ymddangos yn fargen dda. Ond unwaith y bydd y newyddbeth wedi mynd heibio, a ydych chi’n talu am bethau nad ydych chi’n eu defnyddio?
Er y gellir arbed arian yn aml drwy ymrwymo i rywbeth yn hytrach na'i brynu bob tro y mae ei angen arnoch, mae'n bosibl hefyd eich bod yn talu am danysgrifiad nad ydych ei eisiau neu nad oes ei angen arnoch mwyach.
Cymerwch dri cham syml i wneud yn siŵr eich bod yn cadw golwg ar eich gwariant ac nad ydych yn gwastraffu arian ar danysgrifiadau nad ydych yn eu defnyddio.
Adolygwch eich gwariant diweddaraf ar eich cyfriflen banc a'ch cerdyn credyd, a gweld beth rydych wedi bod yn ei brynu. Os byddwch yn sylwi ar daliad rheolaidd, gwiriwch a yw'n rhywbeth rydych yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Os nad ydyw, gallai fod yn werth torri'n ôl.
Os allwch fynd yn ôl dros flwyddyn, gallech hefyd weld unrhyw daliadau blynyddol sy’n adnewyddu’n awtomatig megis yswiriant teithio.
Mae ein teclyn Cynlluniwr cyllideb yn eich helpu i gyfrifo’n union i ble mae eich arian yn mynd a faint y byddech chi'n ei arbed trwy ganslo'r gwasanaeth.
Rhowch y swm rydych yn ei dalu am eich gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth neu aelodaeth clwb ac efallai y byddwch chi'n synnu faint mae’n ei gostio dros flwyddyn.
Bydd gan unrhyw danysgrifiadau sydd gennych ddyddiad adnewyddu. Dewch o hyd iddo a gwnewch nodyn yn eich dyddlyfr fel eich bod yn gwybod pryd i'w ganslo. Ar gyfer contractau blynyddol, dylech wneud hyn bum wythnos cynt yn ddelfrydol er mwyn osgoi colli’r cyfnod rhybudd (sy’n aml yn 30 diwrnod).
Hyd yn oed yn well, os gallwch roi’r gorau i’r tanysgrifiad cyn gynted â’ch bod yn cofrestru, bydd yn golygu y byddwch yn sicr o beidio anghofio’n nes ymlaen yn y flwyddyn. Os hoffech barhau gyda’r tanysgrifiad, mae’n ddigon hawdd cofrestru eto.
Os nad ydych yn ei ddefnyddio, peidiwch â thalu amdano. Ffoniwch, e-bostiwch neu ysgrifennwch at y darparwr i’w cael i roi’r gorau i’r tanysgrifiad. Gallai hyn fod yn anodd neu’n rhwystredig ar adegau ond daliwch ati!
Cadwch lygad ar unrhyw gosbau os ydych yn ceisio gadael yn gynnar, ond holwch a allwch gael ad-daliad hefyd – yn enwedig gyda thanysgrifiadau cylchgrawn.
Mae’n werth cadw llygad ar fargeinion ar gyfer cadw’r tanysgrifiad. I gadw’ch busnes, gallech gael cynnig mis arall am bris rhatach. Mae hynny’n wych...os ydych yn ei ddefnyddio. Fel arall, rydych yn dal i dalu am rywbeth nad oes ei angen arnoch, hyd yn oed os yw'n costio ychydig yn llai.