Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
20 Chwefror 2026
Eisiau paratoi yn well ar gyfer treuliau mawr? Gall cronfeydd ad-dalu eich helpu i gynllunio ar gyfer biliau blynyddol neu adegau drud o'r flwyddyn. Darganfyddwch sut maen nhw'n gweithio a beth ddylech eu defnyddio ar ei gyfer.
Mae cronfa ad-dalu yn gronfa o arian rydych chi'n talu i mewn iddo yn rheolaidd am gost rydych chi'n gwybod sydd i ddod.
Gallai'r nod fod ar gyfer taliad mawr untro, fel talu am wyliau, neu fil sy'n dod i fyny bob blwyddyn, fel MOT neu fil yswiriant blynyddol.
Mae cronfeydd ad-dalu yn caniatáu i chi ledaenu'r costau hyn fel bod gennych well syniad o faint o arian y mae gennych i’w wario. Os oes gennych gronfa ad-dalu, rydych chi'n llai tebygol o fod angen defnyddio'ch cerdyn credyd neu Prynu Nawr Talu Wedyn ar gyfer y treuliau cynlluniedig hyn.
Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb i weld faint rydych chi'n gallu ei gynilo.
Y gwahaniaeth mwyaf rhwng cronfa argyfwng a chronfa ad-dalu yw'r hyn rydych chi'n bwriadu gwario'r arian arno. Os yw'n rhywbeth rydych chi'n gwybod y bydd angen i chi dalu amdano, yna dylai fod â chronfa ad-dalu. Mae cronfa argyfwng ar gyfer pethau sy'n annisgwyl.
Er enghraifft, mae pen-blwydd eich mam yn dod o gwmpas bob blwyddyn – nid yw hynny'n argyfwng, felly ni fyddech chi'n defnyddio'ch cronfa argyfwng i dalu am anrheg. Fodd bynnag, os bydd eich car yn torri i lawr neu os byddwch chi'n colli eich swydd, gall cael cronfa argyfwng eich helpu i dalu'r costau.
Os ydych chi'n dechrau o'r dechrau gyda'ch cynilion, mae'n well adeiladu eich cronfa argyfwng yn gyntaf. Mae cael gwerth un mis o dreuliau mewn cyfrif cynilo yn lle gwych i ddechrau.
Darganfyddwch fwy am faint i'w gynilo yn eich cronfa argyfwng.
Mae cronfeydd ad-dalu yn gweithio orau am rywbeth drud rydych chi'n talu amdano ychydig o weithiau y flwyddyn.
Nid yw'n gwneud synnwyr cael cronfa ad-dalu ar gyfer eich taliad rhent misol, neu os mai dim ond £20 yw eich treth car flynyddol. Gall cael gormod mewn cronfa ad-dalu fod yn gymhleth.
Dyma rai syniadau ar gyfer yr hyn y gallwch chi ei gynilo ar ei gyfer drwy ddefnyddio cronfa ad-dalu:
Mae'n debygol mai cyfrif cynilo hawdd ei gyrraedd fydd y lle gorau i gadw eich arian ad-dalu. Mae gan rai apiau bancio nodweddion defnyddiol fel cronfeydd cynilo ac offer cyllidebu, ond beth bynnag sy'n hawdd i chi ei ddefnyddio yw'r opsiwn cywir.
Os ydych chi'n bwriadu cadw cynilion mewn arian parod, mae risg y gallech eu colli, ac fel arfer bydd angen i chi dalu'r arian parod i fanc i allu ei ddefnyddio ar gyfer biliau.
Darganfyddwch fwy am ddewis cyfrif cynilo.
Gall defnyddio cynlluniwr cyllideb eich helpu i ddarganfod faint o arian sydd gennych ar ôl i chi dalu eich costau misol sefydlog.
Ar y dechrau, gall cronfeydd ad-dalu ymddangos yn rhy ddrud. Os yw eich yswiriant car blynyddol yn ddyledus mewn 2 fis, mae hynny'n llawer o arian i gynilo mewn cyfnod byr o amser. Fodd bynnag, y flwyddyn nesaf bydd eich taliadau rheolaidd yn llawer llai.
Trwy symud arian i gynilion yn syth ar ôl i chi gael eich talu, rydych chi'n talu eich hun yn gyntaf. Mae hyn yn eich helpu i osgoi'r demtasiwn o weld eich holl arian mewn un cyfrif. Os yw'ch cynilion mewn cronfeydd ad-dalu, byddwch chi'n gwybod mai arian rydych chi wedi'i neilltuo ar gyfer nes ymlaen yw’r arian yma.
Un camgymeriad mawr sy'n gallu gwneud i gronfeydd ad-dalu deimlo'n llethol yw cael gormod ohonynt. Mae'n debyg ei bod yn well cael 5 cronfa ad-dalu neu lai.
Cyfunwch eich arian ad-dalu trwy gael un ar gyfer 'Plant' yn hytrach na chronfeydd ar wahân ar gyfer anrhegion pen-blwydd, diwrnodau allan, costau ysgol a dillad, er enghraifft.
Gallwch hefyd danamcangyfrif faint sydd angen i chi ei gynilo. Gallwch osgoi'r broblem hon trwy ddefnyddio symiau gwirioneddol o hen ddatganiadau banc yn hytrach na dim ond dyfalu. Mae prisiau yn aml yn codi bob blwyddyn, felly ceisiwch gynilo ychydig yn ychwanegol fel nad ydych chi'n cael eich dal allan pan fyddwch chi'n darganfod faint y bydd eich nod yn ei gostio.
Os oes gennych arian ychwanegol yn eich cronfa ad-dalu ar ôl i'r bil gael ei dalu, cymerwch o drosodd ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu ei symud i fathau eraill o gynilion.
Mae'n eithaf cyffredin mynd fewn i'ch cynilion tua diwedd y mis pan fydd arian yn mynd yn dynn. Gall hyn arafu unrhyw gynnydd gyda'ch cronfeydd ad-dalu.
Os ydych chi'n cael eich hun yn gwneud hyn, gallai fod yn syniad da symud eich cronfeydd ad-dalu i fanc gwahanol i'r un rydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd. Gobeithio dylai hyn ei gwneud hi'n llai o demtasiwn i drosglwyddo arian allan o gynilion.
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.