Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Hafan blog
Hafan Hafan blog

Faint mae priodas ar gyfartaledd yn ei gostio?

Cwpl newydd briodi yn dawnsio

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:

01 Chwefror 2024

Mae yna lawer i feddwl amdano o ran cynllunio priodas - ffotograffydd, arlwyo, blodau, gwisg, i enwi ond ychydig. Ond faint mae priodas ar gyfartaledd yn ei gostio yn y DU?

Dangosodd arolwg Bridebook o 4,000 o bobl newydd briodi fod priodas ar gyfartaledd yn costio £24,069 (gan gynnwys y modrwyau a mis mêl). Fodd bynnag, bydd cyllideb eich priodas yn dibynnu ar lawer o bethau, gan gynnwys faint o bobl sy'n cael gwahoddiad, y dyddiad a'r lleoliad fyddwch yn eu dewis.

Y pum prif gost priodas

  1. lleoliad
  2. mis mêl
  3. bwyd
  4. modrwy briodas
  5. diodydd.

Cost gyfartalog lleoliad priodas

Os nad ydych yn adnabod unrhyw un sydd ag ysgubor, pabell fawr neu neuadd wych, dyma un gost mae'n debyg na allwch ei hosgoi. Ni allwch briodi lle bynnag y dymunwch, gan fod deddfau sy'n pennu lle y gall priodas yn y DU ddigwydd, felly bydd angen i chi dalu am leoliad swyddogol.

Y gost ar gyfartaledd yw £8,400. Fodd bynnag, wrth gwrs mae yna leoliadau a fydd yn sylweddol rhatach os nad ydych eisiau priodi mewn cartref urddasol.

Mae llawer o bobl yn priodi'n swyddogol mewn swyddfa gofrestru, ac yna'n cael y parti mawr yn rhywle arall, sy'n golygu y gallwch osgoi'r costau mawr hynny sy'n dod gyda phriodi mewn lleoliad ffansi mewn gwirionedd.

Y naill ffordd neu'r llall os yw'n ardd perthnasau neu'n faenordy, sefydlu cronfa briodas yw'r cam cyntaf.

Faint mae priodas eglwys yn ei gostio?

Gallai costau priodas eglwys ar gyfartaledd amrywio rhwng £530 a £641. Ond, gall fod pethau ychwanegol ar ben hyn, fel blodau, cael canu'r clychau a defnyddio'r organ a'r côr.

Yn bwysicach fyth, mae yna reolau llym ynghylch pwy all briodi mewn eglwys, felly mae'n syniad da edrych i mewn i hyn os ydych chi eisiau gwasanaeth crefyddol.

Faint mae priodas swyddfa gofrestru yn ei gostio?

Mae cael eich seremoni yn y swyddfa gofrestru leol yn llawer, llawer rhatach. Gallai cost seremoni swyddfa gofrestru sylfaenol yn y DU fod mor isel â £46, tra gallai llogi'r lleoliad gostio tua £200+.

Gall gostio mwy i chi os gofynnwch i'r cofrestrydd deithio. Er mai'r gost o logi cofrestrydd yw £46 os yw'n cynnal y seremoni mewn swyddfa gofrestru, mae'n costio hyd at £86 os yw'n cynnal y seremoni mewn adeilad crefyddol cofrestredig. Mae'r prisio'n safonol ar draws y wlad, ond efallai y bydd rhai awdurdodau lleol yn codi mwy ar benwythnosau, neu fod ag amrywiaeth o ystafelloedd i chi eu defnyddio sy'n amrywio o ran pris.

Ar y cyfan, gall pris priodas mewn swyddfa gofrestru amrywio o ychydig gannoedd o bunnoedd i tua £1,000. Mae bob amser yn werth darganfod a oes unrhyw daliadau ychwanegol pan fyddwch yn penderfynu ar eich cyllideb.

Faint mae cynllunydd priodas yn ei gostio?

Os ydych eisiau i rywun helpu i drefnu eich diwrnod mawr, efallai yr hoffech ystyried llogi cynllunydd priodas. Ond mae'r prisiau'n amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr hyn rydych chi ei eisiau.

Mae'r rhan fwyaf o gynllunwyr priodas yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, o helpu i gydlynu'r diwrnod priodas, i wneud popeth ar eich cyfer yn llythrennol. Mae bron yn amhosibl rhoi cost gyfartalog ar gynllunydd priodas. Mae hyn oherwydd ei fod yn amrywio nid yn unig ar yr hyn yr hoffech iddynt ei wneud, ond hefyd profiad eich cynllunydd priodas a maint eich digwyddiad.

Yn ôl HitchedYn agor mewn ffenestr newydd efallai y bydd cynllunydd priodas tua 10-15% o'ch cyllideb. Gallai'r pris amrywio o ychydig gannoedd o bunnoedd i filoedd o bunnoedd

Mae‘r pethau bach yn gwneud gwahaniaeth

P'un a yw'n gyfrif cynilo neu'n gadw mi gei arbennig, cael cronfa briodas a gosod cyllideb yw'r lle cyntaf i ddechrau.

Cyfrifwch eich gwariant misol ac yna rhowch beth bynnag sydd ar ôl yn eich cronfa; ei weld yn cynyddu bob mis yw’r un cam yn agosach at roi'r blaendal hwnnw i lawr ar eich lleoliad neu arlwyo.

Gall defnyddio cynllunydd cyllideb helpu gyda hyn. Gweld ble mae'ch cost fwyaf ac edrychwch i ddod o hyd i ffyrdd o dorri'n ôl.

Cynlluniwr cyllideb

I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio.

Mae hefyd yn ddefnyddiol unwaith y byddwch wedi cyfrifo cost fras i wybod pa mor hir y byddai'n ei gymryd i gyrraedd y nod hwnnw.

Gan ddefnyddio ein cyfrifiannell cynilio gallwch roi yn eich targed, faint y gallwch ei gynilo’r mis a'r hyn y gallech fod wedi'i gynilo’n barod. Yna bydd yn dweud wrthych faint o fisoedd y bydd yn eu cymryd ac yn awgrymu cynnydd bach mewn cynilio a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno'n gyflymach.

Os ydych am gadw ar ben y costau a sicrhau nad ydych yn gorwario, mae'n syniad da ysgrifennu dadansoddiad o gost priodas, fel eich bod yn gwybod faint rydych wedi'i wario a beth sydd ar ôl yn y gyllideb.

Cost gyfartalog arlwyo priodas

Mae hyn yn dibynnu ar ddau beth. Faint o bobl yr hoffech chi eu bwydo a pha fath o fwyd rydych chi ei eisiau.

Ar gyfartaledd, mae costau arlwyo tua £70 y pen, yn ôl HitchedYn agor mewn ffenestr newydd ond gallwch chi wario llai neu fwy.

Yn amlwg, os ydych chi eisiau pryd cyllell a fforc tri chwrs ar gyfer 200 o westeion, mae hyn yn mynd i fod yn ddrud. Ond, gall cael bwffe neu lorïau bwyd ffasiynol ostwng y gost lawer. Efallai y bydd gan eich lleoliad gostau ychwanegol am de a choffi, neu dâl 'cacen' i dorri a gweini eich cacen, felly cofiwch ofyn a rhoi ystyriaeth i'r costau hynny.

Cost gyfartalog cacen briodas

Fel eich lleoliad, mae hwn yn faes arall lle mae'n dibynnu'n llwyr ar eich cyllideb a'r hyn rydych yn ei hoffi.

Mae yna opsiynau 4 haen gyda blodau past siwgr wedi'u gwneud ofalus â llaw neu mae yna opsiwn 2 haen syml gyda rhubanau a thop priodas. Wedi dweud hynny, dywedir bod cost cacen briodas ar gyfartaledd oddeutu £300-£400

Fodd bynnag, mae hwn yn faes lle gallwch gadw costau i lawr. Gall dewis un gacen gyda chacennau bach neu edrych ar yr hyn mae eich archfarchnad leol yn ei gynnig fod yn ffordd hawdd o arbed arian.

Gallwch hefyd roi cynnig ar wneud eich un eich hun (neu ddod o hyd i aelod neu ffrind talentog o'r teulu), a all gwneud rhywbeth ysblennydd am gost y cynhwysion yn unig.

Cost gyfartalog blodau priodas

Gall cost blodau priodas amrywio yn dibynnu ar yr hyn rydych eisiau ar gyfer eich diwrnod mawr. Os nad ydych eisiau addurniadau bwrdd, neu drefniant penodol yn eich lleoliad yna gall prisiau ddechrau o £350.

Am £350 cytunodd y mwyafrif o werthwyr blodau, a ofynnwyd gan HitchedYn agor mewn ffenestr newydd y byddech yn gallu cael tusw priodferch, dau dusw morwyn briodas, pum twll botwm a dau dusw. £500 i fyny gallwch wedyn ddisgwyl cael rhai addurniadau bwrdd wedi'u hychwanegu. Ar gyfer eich blodau, mae'n mater o ddweud wrth werthwr blodau eich cyllideb ac yna cydweithio o fewn yr ystod prisiau honno.

Torri cost eich blodau

Mae yna nifer o ffyrdd i gadw cost eich blodau i lawr:

Cadwch hi’n dymhorol

Mae dewis blodau sydd yn eu tymor yn mynd i roi'r gwerth gorau i chi. Os ydych eisiau blodau y tu allan i'r tymor, yna bydd yn costio mwy i chi, gan y byddant yn anoddach i ddod o hyd iddynt ac yn bellach i ffwrdd.

Penderfynwch ar y peth pwysicaf

Meddyliwch am yr hyn sydd bwysicaf o ran eich blodau. Os ydych am i'ch byrddau fod yn destun siarad yna canolbwyntiwch ar yr addurniadau bwrdd, fodd bynnag, os mai'ch tuswau priodasol fydd y brif peth yna defnyddiwch fwyafrif eich cyllideb ar gyfer y rhain.

Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o'ch lluniau priodas yn cynnwys eich tuswau priodasol felly efallai y bydd gwario arian ar hyn yn fwy gwerth chweil?

Ewch am faux

Gall blodau ffres fod yn ddrud iawn, ac maent ond yn para am y diwrnod. Mae yna ddewisiadau eraill a all ychwanegu personoliaeth at eich priodas. Cymerwch ysbrydoliaeth gan Pinterest. Yn ogystal â blodau ffug lliwgar, mae pobl wedi gwneud tuswau o dudalennau o'u hoff lyfrau neu flodau unigol crosio ar gyfer tyllau botwm.

Cofiwch y bydd y rhan fwyaf o'ch lluniau priodas yn cynnwys eich tuswau priodas felly efallai y bydd yr arian y byddwch yn ei wario yma yn fwy gwerth chweil?

Ei wneud eich hun

Meddyliwch yn greadigol i weld a ydych yn gallu gwneud eich addurniadau bwrdd eich hun. Gallwch siopa ar-lein neu chwilio am fargeinion rhad o siopau crefftau, canolfannau garddio, neu eBay a chasglu rhai blodau artiffisial sy'n cyfateb i'ch cynllun lliw. Os ydych wir yn gweithio i gyllideb dynn, mae yna ddigon o bobl sy'n ymweld â'r archfarchnad y diwrnod cyn i godi sypiau o flodau am ond ychydig bunnoedd, yn hytrach nag ychydig gannoedd o bunnoedd.

Mae yna gyfoeth o ysbrydoliaeth ar y rhyngrwyd ac mewn cylchgronau priodasol, mae'n ymwneud â siopa o gwmpas am ddewisiadau rhatach yn hytrach na thalu'r premiwm priodas hwnnw.

Cost gyfartalog ffrog briodas

Rydym yn mynd i ddyfalu yma a dweud bod hwn yn un maes lle mae'n debyg na fyddai priodferched eisiau torri corneli. Mae dod o hyd i ‘y’ ffrog yn allweddol wrth sicrhau priodferch hapus a fydd yn edrych yn ôl gydag atgofion melys am y diwrnod mawr, ond faint fydd yn eich costio? Yr ateb yw £1,400 (gan gynnwys esgidiau), yn ôl BridebookYn agor mewn ffenestr newydd. Fodd bynnag, mae siopa o gwmpas am werthiannau mewn siopau priodas a hyd yn oed ystyried dewisiadau eraill y stryd fawr neu brynu ail law yn mynd i helpu i ostwng y gost hon. Efallai y byddwch hefyd am gyllidebu ar gyfer addasiadau, yn enwedig os ydych wedi prynu ail law neu o werthiant.

Os ydych chi'n cael morwynion priodas, eich penderfyniad chi yw cynnig talu am y ffrogiau. Dywed Bridebook y gall y rhain gostio tua £30-40 yr un ar gyfartaledd.

 

Cost gyfartalog siwt

Yn ôl Bridebook, mae'n costio £300 ar gyfartaledd i brynu siwt briodas. Fodd bynnag, mae siwtiau rhentu yn opsiwn poblogaidd a gallant gostio o £50. Os oeddech chi'n ystyried cael cilt neu wisg draddodiadol arall, gall y rhain fod hyd yn oed yn ddrytach.

Gall fod yn ddewis craff i rentu'ch siwtiau, yn enwedig os hoffech chi gyd-fynd â’r tywyswyr, gweision bach neu weision priodas. Unwaith y byddwch yn ychwanegu teis cyfatebol, crysau, a phopeth arall, gall y costau godi’n sylweddol.

Cost gyfartalog ffotograffydd priodas

Yn debyg iawn i'r ffrog, nid yw hwn yn faes lle mae llawer o bobl yn mynd i fod eisiau torri’r gost. Mae'r pris cyfartalog yn amrywio o tua £1300 i £1700, er y gall hyn amrywio'n fawr yn dibynnu ar y pecyn a lefel y profiad roeddech wedi’i ddewis.

Er enghraifft, bydd y rhai sy'n gwneud hyn fel gyrfa amser llawn, ac felly'n fwy profiadol, yn codi mwy na'r rhai sy'n gwneud ffotograffiaeth am ail incwm. Efallai y byddwch yn talu mwy am y lefel uwch hon o brofiad ond rydych eisiau i ffotograffydd ddal eich diwrnod yn berffaith a’ch gwneud yn hapus i edrych yn ôl ar y lluniau mewn blynyddoedd i ddod.

Efallai y gallwch dorri costau trwy gael y ffotograffydd yn unig ar gyfer y gwasanaeth priodas ei hun, yn hytrach na'r diwrnod cyfan.

Y consensws cyffredinol yw y dylai eich ffotograffydd fod tua 10% o'ch cyllideb gyffredinol.

Costau cludo priodas

Yn amlwg, mae angen i chi gyrraedd eich priodas eich hun. Os ydych eisiau llogi cerbyd i fynd â chi yno mewn steil, bydd car priodas yn costio rhwng  £300 a £600.

Ond efallai yr hoffech hefyd feddwl am fws priodas neu logi bws i gael eich gwesteion o'r seremoni i'r dderbynfa. Mae hyn yn dibynnu ar faint o westeion y mae angen i chi eu cludo a pha mor hir rydych ei angen, ond mae'n debyg y gallwch dalu rhwng £500 a £700.

Cost band priodas ar gyfartaledd

Rydych eisiau cael ychydig o adloniant am y noson. Y gost ar gyfartaledd ar gyfer band pedwar person yw rhwng £1,200 a £1,600+.

Ond mae yna un neu ddau o bethau i'w cofio. Os ydych eisiau band mwy mawr, yna bydd hynny'n ychwanegu at y pris, gan eich bod fel arfer yn talu £250-£400 i fyny am bob cerddor. Byddwch hefyd am wirio'r hyn y bydd y band yn ei gyflenwi o ran goleuadau ac offer sain.

Cost gyfartalog DJ priodas

Mae DJ yn mynd i gostio cryn dipyn yn llai na band, ond mae yna amrywiadau eang yn y gost o hyd. Y cyfartaledd yw rhwng £200 ac £800, yn dibynnu ar brofiad y DJ, pa mor bell y mae'n rhaid iddynt deithio a pha bethau ychwanegol, fel goleuadau y maent yn eu cyflenwi.

Peidiwch â sôn am y gair ‘P’

Rydym yn gwybod na ellir osgoi hyn pan fyddwch yn prynu eich ffrog neu'n archebu'r ffotograffydd ond, mae gwefannau di-ri yn dweud wrthych y gall dyfyniadau gan gyflenwyr godi’n syth ar ôl i chi ddweud y gair ‘priodas’.

Un ysgol feddwl yw, os ydych yn dweud ‘priodas’ efallai y cewch wasanaeth gwell, oherwydd er enghraifft efallai y bydd y lleoliad eisiau mynd allan i helpu i'w wneud yn gymaint o ddiwrnod arbennig â phosib. Er, ar y llaw arall, wrth ddweud mai parti yn unig ydyw gallai arbed rhywfaint o arian i chi.

Boed yn gacen, blodau neu leoliad mae’r cyflenwr yn gwybod y gallant godi mwy, gan fod y ‘tag priodas’ hwnnw ynghlwm wrtho.

Arbedion yn ystod yr wythnos

Yn anffodus, os ydych am briodi ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn byddwch yn barod i dalu mwy. Mae priodas ganol wythnos yn llai poblogaidd ac felly gall fod yn rhatach. Mae'r un peth yn wir am y tymhorau, mae priodas gaeaf er enghraifft yn mynd i fod yn llawer llai na'r haf; Fodd bynnag, os ydych chi'n casáu'r oerfel yna efallai nad dyma'r opsiwn gorau i chi.

Canfu HitchedYn agor mewn ffenestr newydd ei bod yn costio pedair gwaith yn fwy i briodi ar ddydd Sadwrn ym mis Awst i rai lleoliadau o gymharu â diwrnod gwaith ym mis Chwefror.

Colin Rowe
Awdur Colin Rowe
Nol i’r brig
Rhannwch y post hwn
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Tagiau
Priodas Pob postiadau blog

Swyddi diweddaraf

Beth yw'r gost gyfartalog i gael babi?

18 Mawrth 2025

Allwch chi gael tâl mamolaeth os ydych chi’n hunangyflogedig?

21 Chwefror 2025

Ysgariad a'ch pensiwn: beth sydd angen i chi ei wybod

06 Rhagfyr 2024

Mwy o bostiadau blog
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau