Os ymunoch â’r NITPS ar ôl Ebrill 2015, bydd gennych gynllun pensiwn cyfartaledd gyrfa. Mae hyn yn golygu bod eich incwm ymddeoliad yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio 1/57fed o’ch enillion pensiynadwy ar gyfer pob blwyddyn y byddwch yn aelod o’r cynllun.
Enghraifft: Os oedd eich enillion pensiynadwy yn £28,500 dros flwyddyn, byddech fel arfer yn ennill pensiwn sy’n talu £500 y flwyddyn (£28,500 wedi’i rannu â 57).
Yna caiff swm eich pensiwn terfynol ei gyfrifo drwy ywchwnegu’r buddion pensiwn rydych wedi’u hennill am bob blwyddyn rydych yn aelod o’r cynllun. Yna ychwanegir swm ychwanegol ar gyfer chwyddiant, felly ni ddylai ei werth ostwng dros amser.
Mae’r cyfrifiadau yn cymryd eich bod yn cymryd eich pensiwn ar oedran pensiwn arferol y cynllun, sef 65 oed neu eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd os yw hyn yn hwyrach. Gallwch hefyd ddewis ildio rhywfaint o’r incwm rheolaidd gwarantedig o’ch pensiwn a chymryd hyd at 25% fel cyfandaliad di-dreth.
Os ymunoch â’r NITPS cyn Ebrill 2015, bydd eich incwm ymddeoliad yn cynnwys swm a gronnwyd yn y cynllun cyflog terfynol. I amcangyfrif faint yw hyn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell yr Adran AddysgYn agor mewn ffenestr newydd