Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Hafan blog
Hafan blog

Sgamiau Facebook Marketplace: sut i adnabod negeseuon, eitemau a gwerthwyr ffug

Menyw ifanc yn defnyddio ffôn symudol

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:

22 Rhagfyr 2024

Gall marchnadoedd ar-lein fel Facebook Marketplace fod yn wych ar gyfer cael bargen ail-law. Ond gydag unrhyw le ar-lein, mae perygl y bydd twyllwyr yn ceisio eich twyllo allan o'ch arian.

Er bod Facebook yn gweithio'n galed i gadw eu safle yn ddiogel, nid yw'n bosibl iddynt dynnu pob hysbyseb ffug i lawr na nodi sgamwyr yn syth. Felly gall bod yn ymwybodol o beth i edrych allan amdano helpu i gadw arian yn eich cyfrif.

Sut mae sgamiau Facebook Marketplace yn gweithio?

Yn anffodus, nid dim ond un dull y mae sgamwyr yn ei ddefnyddio. Os ydych yn prynu neu'n gwerthu, neu hyd yn oed dim ond gyda chyfrif ‘marketplace’ ar-lein, gallech gael eich targedu.

Mae gennym ganllaw i'r gwahanol fathau o sgamiau, y gallai llawer o dwyllwyr geisio ar Facebook Marketplace.

Beth ddylwn i edrych allan amdano wrth brynu eitemau?

Rhywun yn gofyn am daliad ymlaen llaw

Sgam cyffredin yw lle mae'r gwerthwr yn gwneud iddo ymddangos fel bod ganddynt sawl person â diddordeb, a byddant yn cadw'r eitem i chi os ydych yn talu blaendal. Yn aml, bydd yr eitem yn rhywbeth o werth uchel, fel car neu ffôn symudol.

Yna bydd y gwerthwr yn diflannu neu'n dileu eu cyfrif, gan eich gadael heb unrhyw beth i'w ddangos am yr arian rydych wedi'i dalu.

Mae'n well peidio â thalu unrhyw beth i'r gwerthwr nes eich bod wedi cael cyfle i weld yr eitem. 

Dulliau talu anarferol

Bydd sgamwyr yn aml yn chwilio am ffyrdd y gellir eu talu sy'n anodd eu holrhain. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i arian gael ei hawlio yn ôl.

Yn aml byddant yn gofyn am gael eu talu:

  • drwy ddefnyddio ap talu trydydd parti (fel PayPal)
  • drwy drosglwyddiad banc
  • gyda chardiau rhodd.

Dylech osgoi unrhyw werthwyr sy’n gofyn am gael eu talu mewn ffordd anarferol. 

Eitemau ffug

Efallai y bydd gwerthwyr yn hysbysebu eitem nad yw ganddynt. Yna, gallant:

  • ddweud wrthych ei fod wedi'i werthu a'ch gwthio i brynu rhywbeth drutach
  • anfon rywbeth gwahanol i'r hyn rydych wedi talu amdano
  • anfon eitem a ddefnyddiwyd i chi a werthwyd fel newydd
  • honni eu bod wedi anfon rhywbeth atoch pan nad oeddent wedi.

Er mwyn osgoi hyn, mae'n syniad da pigo i fyny’r eitem yn bersonol - er gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn yn ddiogel. Yna dylech archwilio'r eitem yn ofalus i sicrhau ei fod mewn cyflwr da. 

Digwyddiadau ffug

Yn ogystal ag eitemau ffug, bydd rhai sgamwyr yn ceisio gwerthu tocynnau neu fynediad i ddigwyddiadau sydd ddim yn bodoli.

Byddant yn aml yn dynwared busnes lleol, gan ddefnyddio eu henw da yn y gymuned i ddal pobl allan.

Mae'n syniad da gwirio proffil y gwerthwr a sicrhau ei fod yn ddilys ac yn gysylltiedig â'r busnes. Gallwch hefyd chwilio am dudalen Facebook neu wefan swyddogol y busnes i weld a yw'r digwyddiad yn bodoli mewn gwirionedd.  

Cyfathrebu y tu allan i Facebook

Efallai y bydd sgamwyr yn ceisio symud y sgwrs oddi ar Facebook Marketplace i orffen y fargen. Gall hyn fod yn ffordd o ddwyn eich gwybodaeth, a'i gwneud hi'n anoddach i Facebook weithredu yn eu herbyn.

Efallai y byddant hefyd yn gofyn i chi gysylltu â phobl eraill yn hytrach na'r sawl sy'n rhedeg y cyfrif Facebook. Mae hon yn dacteg arall i'w gwneud hi'n anoddach i Facebook eu gwahardd.

Mae'n well ond siarad â'r person a restrir fel y gwerthwr, a defnyddio Facebook yn unig.

Gwerthwyr sy’n rhoi pwysau

Bydd sgamwyr yn aml yn ceisio eich rhuthro a gwneud y gwerthiant yn gyflym. Byddant yn ceisio gwneud iddo ymddangos fel mai dim ond amser byr sydd gennych i gael bargen dda.

Os yw gwerthwr yn rhoi llawer o bwysau arnoch, gallai hyn fod oherwydd eu bod yn ceisio cyflawni'r fargen cyn i chi sylweddoli mai sgam ydyw. Gwyliwch rhag i unrhyw un eich rhuthro i brynu.

Beth ddylwn i edrych allan amdano wrth werthu eitemau?

Mae'n bosibl cael eich targedu wrth werthu eitemau. Dyma beth i fod yn wyliadwrus amdano.

Cadarnhad ffug o daliadau

Ar ôl cysylltu â chi i brynu eitem, gallai sgamiwr anfon cadarnhad ffug o daliad atoch. Gallai hyn fod yn e-bost neu'n sgrinlun o dudalen gadarnhau.

Dylech wirio bod unrhyw arian rydych yn disgwyl ei dderbyn yn eich cyfrif cyn parhau â'r broses. 

Taliadau ffug yn bersonol

Ffordd arall y gallai twyllwyr gael eich eitem heb dalu yw trwy ddod i brynu'ch eitem a'ch argyhoeddi eu bod wedi cadarnhau'r taliad.

Efallai y bydd sgamwyr yn gofyn i chi roi eich manylion banc mewn ap ffug a dangos cadarnhad talu i chi. Yna byddant yn ceisio:

  • argyhoeddi bod y trafodiad wedi mynd trwyddo neu
  • hawlio y gall gymryd ychydig oriau i ymddangos yn eich cyfrif banc, o bosibl gan ddefnyddio gwybodaeth o'u gwefan bancio ffug.

Mae'n well peidio â gadael i brynwr mynd a’ch eitem i ffwrdd nes bod gennych yr arian yn eich cyfrif banc, neu ofyn am daliad mewn arian parod yn lle hynny. 

Gordaliadau

Gordaliad 'damweiniol' yw tric arall a ddefnyddir i gael arian allan o'ch cyfrif. Bydd sgamwyr yn gwneud gordaliad ac yna'n gofyn i chi anfon y gwahaniaeth yn ôl.

Fodd bynnag, gwneir eu taliad fel arfer gyda siec na fydd yn clirio, sy'n golygu y cewch eich gadael allan o boced.

Os ydych yn derbyn gordaliad, mae'n well siarad â'ch banc a gofyn a yw'r taliad wedi'i gadarnhau. Os nad ydych wedi gwneud hynny, nid ydych wedi derbyn unrhyw arian eto.

Sgamiau sy'n digwydd ar ôl gwerthu

Ar ôl i chi werthu eitem a'i hanfon i ffwrdd, mae siawns o hyd y cewch eich targedu. Efallai y bydd sgamiwr yn ceisio:

  • adrodd am y trafodiad fel twyll neu geisio hawlio taliad yn ôl
  • honni nad oeddent erioed wedi derbyn yr eitem.

Mae'n syniad da i gadw rhyw fath o dystiolaeth eich bod wedi cyflwyno neu drosglwyddo'r eitem.

Tacteg gyffredin yw i'r prynwr ofyn a all negesydd gasglu'r eitem gennych chi ar ôl iddynt dalu drwy PayPal. Unwaith y bydd yr eitem yn cael ei chasglu, bydd y sgamiwr yn dweud wrth PayPal na chafodd ei ddanfon, felly byddant yn cael ad-daliad ac yn cadw'ch eitem.

Sgamiau sy'n ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol

Yn ogystal â cheisio eich twyllo allan o arian, bydd rhai twyllwyr yn chwilio am eich gwybodaeth bersonol fel y gallant ddwyn eich hunaniaeth. Efallai eu bod yn edrych i hacio eich cyfrif Facebook, e-bost neu gyfrif banc.

Gelwir hyn yn sgam 'gwe-rwydo'.

Gallwch ddysgu mwy yn ein canllaw Dwyn hunaniaeth a sgamiau. Os ydych angen cymorth ar unwaith, gallwch hefyd ffonio ein huned troseddau a sgamiau ariannol ar 0800 015 4402.

Sut ydw i'n osgoi twyll gwe-rwydo?

Byddwch yn ofalus iawn pan fyddwch yn derbyn negeseuon e-bost yn gofyn am:

  • unrhyw wybodaeth am y cyfrif, fel eich cyfeiriad e-bost
  • eich cyfrinair (ni fydd Facebook byth yn anfon e-bost atoch yn gofyn am hyn)
  • unrhyw godau gwirio a anfonir at eich e-bost neu ffôn, megis codau dilysu dau ffactor

Dylech hefyd fod yn ofalus i beidio â chlicio unrhyw ddolenni nad ydynt yn edrych yn iawn. Bydd sgamwyr yn eich anfon i wefan ffug sy'n gofyn am eich gwybodaeth mewngofnodi, gan ei rhoi yn uniongyrchol iddynt.

Sut alla i osgoi sgamiau ar Facebook Marketplace?

  • Dyma ein hawgrymiadau gorau ar gyfer cadw'n ddiogel ar Facebook Marketplace:

  • Defnyddiwch y dulliau talu mwyaf diogel yn unig.
  • Gwnewch yn siŵr bod taliad yn eich cyfrif banc cyn trosglwyddo eitem.
  • Cadwch y sgwrs ar Facebook.
  • Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth bersonol i werthwr.
  • Peidiwch byth â rhoi allan gyfrineiriau neu godau dilysu.
  • Gwiriwch e-byst yn ofalus i sicrhau eu bod yn gywir.
  • Gofynnwch am weld eitemau gwerthfawr cyn i chi eu prynu ac archwiliwch nhw’n ofalus.
  • Wrth pigo eitem i fyny yn bersonol, trefnwch gyfarfod mewn man cyhoeddus wedi'i oleuo'n dda.
  • Byddwch yn ofalus o unrhyw fargeinion sy'n edrych yn rhy dda i fod yn wir.
  • Gwyliwch rhag unrhyw un sy'n ceisio rhoi pwysau arnoch neu eich rhuthro.
  • Gwiriwch broffil y prynwr neu'r gwerthwr i weld a yw'n edrych yn un iawn. 

Sut ydw i'n hysbysu sgam ar Facebook Marketplace?

Gallwch weld cyfarwyddiadau ar sut i hysbysu am sgam Facebook MarketplaceYn agor mewn ffenestr newydd Unwaith y byddwch yn sylweddoli ei fod yn sgam, dylech roi gwybod amdano ar unwaith.

Yna dylech roi'r gorau i gyfathrebu â'r person ar unwaith.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cael fy sgamio ar Facebook Marketplace?

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich sgamio, dylech gysylltu â'ch banc neu ddarparwr cerdyn ar unwaith os ydych wedi talu arian iddynt.

Os ydych wedi defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, dysgwch fwy am sut y gallwch hawlio'ch arian yn ôl gydag adran 75 a diogelwch 'chargeback'.

Mae gennym fwy o wybodaeth am beth i'w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich sgamio.  

Sgamiau Facebook Marketplace gan ddefnyddio trosglwyddiadau banc

Mae rheolau newydd yn golygu bod yn rhaid i fanciau eich ad-dalu os ydych yn cael eich sgamio i wneud trosglwyddiad banc. Fodd bynnag:

  • gall y banc ddewis tynnu hyd at £100 o'ch ad-daliad
  • ni chewch unrhyw arian yn ôl os canfyddir eich bod wedi bod yn hynod o ddiofal.

Bydd angen i chi gysylltu â'ch banc i roi gwybod iddynt, a dylent allu darparu ad-daliad o fewn pum diwrnod gwaith oni bai bod angen iddynt ymchwilio ymhellach iddo.

Mae mwy yn ein blog am Sut i gael ad-daliad am sgamiau trosglwyddiadau banc.

Sgamiau Facebook Marketplace sy’n defnyddio PayPal

Os ydych wedi cael eich sgamio allan o arian gan ddefnyddio PayPal, fel arfer ni fyddwch yn cael Adran 75 na diogelwch ‘chargeback’. Fodd bynnag, mae PayPal yn cynnig ei ddiogelwch prynwr a thwyll ei hunYn agor mewn ffenestr newydd, ac efallai y byddant yn gallu eich helpu os byddwch yn hysbysu’r sgam iddynt.

Gallwch ddysgu mwy am Canllaw MoneySavingExpert ar ddiogelwch PayPalYn agor mewn ffenestr newydd

Beth ddylwn i ei wneud os oes ganddynt fy ngwybodaeth bersonol?

Os oes gan sgamwyr unrhyw un o'ch gwybodaeth bersonol, bydd angen i chi fod yn ofalus rhag ofn eu bod yn dwyn eich hunaniaeth.

Mae'n syniad da newid eich cyfrineiriau ar eich e-bost, cyfrif Facebook ac unrhyw gyfrifon eraill y gallai sgamwyr fod wedi cael mynediad atynt. Dylech hefyd fonitro'ch cyfrif banc yn agos am unrhyw drafodion nad ydych yn eu hadnabod.

Mae gennym gyngor ar beth i'w wneud os caiff eich hunaniaeth ei ddwyn.

Pa fathau eraill o sgamiau ddylwn i edrych allan amdanynt?

Mae gennym ganllaw i'r nifer o wahanol fathau o sgamiau, y gallech eu gweld mewn mannau eraill ar Facebook a gwefannau cyfryngau cymdeithasol eraill.

Mae gennym hefyd wybodaeth am sut i ddweud os ydych wedi cael eich targedu gan sgam.

Jake  Fleming
Awdur Jake Fleming
Nol i’r brig
Rhannwch y post hwn
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Tagiau
Siopa Pob postiadau blog Sgamiau

Swyddi diweddaraf

Sgamiau Gumtree: sut i adnabod negeseuon ac eitemau ffug

16 Ionawr 2025

A allai rhywun fod wedi dwyn eich hunaniaeth?

07 Ionawr 2025

Sut i adnabod ac osgoi sgamiau chwilio am gariad ar-lein

02 Ionawr 2025

Mwy o bostiadau blog
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau