Faint yw’r bil nwy a thrydan cyfartalog y mis?
        Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
01 Hydref 2025
Mae’n anodd cyfrifo’r bil nwy a thrydan cyfartalog ar draws y DU gan ei fod yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys cap pris uwch eleni. Efallai rydych yn poeni am eich biliau ynni yn ogystal â chostau yw cynyddol. Gall gwybod beth yw’r gost gyfartalog eich helpu i wybod beth i’w ddisgwyl.
Beth yw’r bil ynni cyfartalog y mis?
Bil ynni cyfartalog ar gyfer 2025 yw £1,755 neu £146 y mis. Mae hyn yn seiliedig ar ‘ddefnydd tebygol’ mewn cartref sy’n defnyddio nwy a thrydan a’n talu gyda debyd uniongyrchol.
Mae Ofgem yn cyfrifo’r bil cyfartalogYn agor mewn ffenestr newydd hwn yn seiliedig ar gartref maint canolig gyda 2-3 o bobl yn byw ynddo.
Bydd cost eich bil chi’n dibynnu ar y math o eiddo rydych yn byw ynddo, ble rydych yn byw, y system gwresogi sydd gennych, effeithiolrwydd ynni’r eiddo, y nifer o bobl sy’n byw yna a’ch defnydd personol.
Beth yw’r bil nwy cyfartalog y mis?
I bobl sydd ar gap prisiau Ofgem, mae’r bil nwy cyfartalogYn agor mewn ffenestr newydd yn debygol o fod:
- Fflat neu dŷ gydag 1 ystafell wely: £627.17 y flwyddyn, neu £52.26 y mis
 - Tŷ gyda 3 ystafell wely: £878.66 y flwyddyn, neu £73.22 y mis
 - Tŷ gyda 5 ystafell wely: £1,193.01 y flwyddyn, neu £99.42 y mis
 
Mae’r rhifau yma’n seiliedig ar ddefnydd ynni blynyddol cyfartalog am gartrefi o’r meintiau hynny.
Y bil nwy cyfartalog ar gyfer 2025 oedd £970.72, neu £80.89 y mis yn seiliedig ar ystadegau’r llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd o ddefnydd blynyddol o 13,600kWh/blwyddyn.
Beth yw’r bil trydan cyfartalog y mis?
Yn ôl amcangyfrifon gan British GasYn agor mewn ffenestr newydd, y bil trydan cyfartalog yn ôl math o aelwyd yw:
- Fflat neu dŷ gydag 1 ystafell wely: £670.21 y flwyddyn, neu £55.85 y mis
 - Tŷ gyda 3 ystafell wely: £960.05 y flwyddyn, neu £80 y mis
 - Tŷ gyda 5 ystafell wely: £1,328.94 y flwyddyn, neu £110.75 y mis
 
Mae’r rhifau yma’n seiliedig ar ddefnydd ynni blynyddol cyfartalog am gartrefi o’r meintiau hynny.
Y bil trydan cyfartalog ar gyfer 2025 oedd £1,144.53, neu £95.37 y mis, yn ôl ffigurau’r llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd o ddefnydd blynyddol o 3,600 kWh/blwyddyn.
Mae’n bosibl y gall eich bil fod yn is neu’n uwch na’r swm hwn, hyd yn oed os ydych yn talu’r cap ar brisiau ar hyn o bryd, gan y bydd yn dibynnu ar eich defnydd unigol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel.
Pam fod biliau ynni mor uchel ar hyn o bryd?
Mae cap ar brisiau Ofgem nawr tua £1,755 y flwyddyn, er yn 2022 roedd mor uchel a £2,500. Mae prisiau ynni yn dal yn uchel yn 2025 oherwydd cyflenwad a galw ar y farchnad gyfanwerthu fyd-eang. Mae bargeinion sefydlog o dan y cap pris bellach ar agor i gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol. Cadwch lygad am lythyrau ac e-byst gan eich cyflenwr i weld a oes unrhyw rai y gallwch gofrestru ar eu cyfer.
Mae’r galw hwn wedi cynyddu’r swm y mae darparwyr yn ei dalu am nwy a thrydan - ac mae’r gost honno bellach yn cael ei throsglwyddo i’r defnyddiwr.
Dim ond os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban y mae’r cap ar brisiau ynni yn effeithio arnoch.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae prisiau ynni yn cael eu llywodraethu gan y Rheoleiddiwr Cyfleustodau. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y help sydd ar gael i dalu eich biliau ynniYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y Cyngor Defnyddwyr.
Beth sy’n cael ei gynnwys yn fy miliau ynni?
Nid dim ond cost yr ynni a ddefnyddiwyd gennych yw eich biliau nwy a thrydan. Mewn gwirionedd, mae eich bil ynni yn cynnwys llawer o gostau gwahanol.
Mae pris cyfanwerthol y nwy a’r trydan (swm y mae’n ei gostio i’ch cyflenwr ynni ei brynu) yn cyfrif am ychydig dros draean o’ch bil ynni.
Mae rhwydweithio, neu’r swm y mae’n ei gostio i ddefnyddio a chynnal y pibellau a’r gwifrau a ddefnyddir i gael y nwy a’r trydan i’ch cartref, yn cyfrif am ychydig dros chwarter eich bil.
Mae costau gweithredu, sef y treuliau y mae’n rhaid i’r cwmni ynni eu talu, hefyd yn gyfran o’ch bil.
Mae cwmnïau ynni hefyd wedi’u cynnwys mewn nifer o raglenni sy’n cael eu cefnogi gan y llywodraeth i arbed ynni a lleihau allyriadau. Mae cost y rhain yn cael ei throsglwyddo i ddefnyddwyr ac yn ychwanegu canran at filiau ynni.
Mae TAW (Treth ar Werth), maint yr elw a chostau eraill yn cyfrif am weddill eich bil ynni.
Sut allaf wario llai ar nwy a thrydan?
Nawr eich bod yn gwybod beth yw’r bil nwy a thrydan cyfartalog ledled y DU a beth sy’n rhan o’ch bil, efallai eich bod yn meddwl sut y gallwch arbed ynni a lleihau eich biliau.
Yn ffodus mae yna lawer o ffyrdd o wneud hyn. Mae switshis da ar gael nawr, felly mae’n werth archwilio’ch opsiynau. Gallwch edrych ar ein canllaw ar wefannau cymharu i ddod o hyd i’r bargeinion gorau i chi. Yn ogystal, gallwch ddechrau trwy fod yn synhwyrol ynglŷn â defnyddio’ch gwres a'ch goleuadau i leihau eich defnydd o ynni.
Os ydych eisiau arbed ar eich biliau ynni, gallwch ddechrau trwy fod yn synhwyrol ynglŷn â defnyddio’ch gwres a’ch goleuadau.
Mae inswleiddio hefyd yn bwysig iawn, gan helpu i gadw cartrefi’n gynnes yn y gaeaf ac yn oer yn yr haf. Os nad oes gennych insiwleiddio gweddus neu wydr dwbl, yna mae’n amlwg y bydd yn rhaid i chi wario rhywfaint o arian i arbed.
Os ydych yn ystyried gwerthu’ch cartref, efallai yr hoffech wella eich sgôr tystysgrif EPC. Gall hyn eich helpu i werthu eich cartref yn gyflymach a gallai gynyddu ei werth cyffredinol.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ganllaw i ganllaw i Dystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC’s)Yn agor mewn ffenestr newydd sy’n cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud gwelliannau i gadw’ch cartref yn gynnes ac arbed arian i chi.
Bydd gwneud yn siŵr eich bod yn datgysylltu plwg o wefrwyr ffôn, peidio â gadael pethau yn y modd segur a defnyddio bylbiau golau ynni-effeithlon hefyd yn helpu i leihau eich biliau.
Gall defnyddio eich offer ar osodiad eco eich helpu i ddefnyddio llai o ynni. Os gwisgwch chi ddillad ychwanegol neu ddefnyddich chi boteli dŵr poeth neu flancedi trydan i gadw’ch hun yn gynnes, efallai gallwch arbed ynni ar wresogi eich cartref.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i leihau eich biliau ynni
Sut allaf wario llai ar nwy a thrydan?
Mae bargeinion da ar gael nawr drwy newid cyflenwyr, felly mae’n werth archwilio’ch opsiynau. Gallwch edrych ar dariffau cyfradd sefydlog, yn ogystal â thariffau arbenigol fel tariffau cerbydau trydan (EV) os ydych chi’n berchennog EV. Yn ogystal, gall gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni helpu i leihau eich biliau.
Mae rhai cyflenwyr hefyd yn cynnig gostyngiadau am ddefnyddio ynni ar adegau tawel neu adegau penodol o’r wythnos, felly edrychwch ar wefan eich cwmni ynni i weld a allwch chi gymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel
Rwy’n cael trafferth i dalu fy miliau ynni – beth allaf ei wneud?
Gall fod yn straen mawr os ydych yn cael trafferth gyda’ch biliau ynni. Efallai eich bod yn poeni am fynd i ddyled ac yn ansicr sut y byddwch yn llwyddo i fforddio gwresogi neu bweru eich cartref.
Mae parhau i dalu eich biliau yn bwysig, felly cysylltwch â’ch cyflenwr cyn i chi fethu taliad neu fynd i ddyled. Mae llawer o ffyrdd y gall eich cyflenwr helpu gan gynnwys gweithio allan cynllun talu sy’n gweithio i chi.