Sut i leihau y costau mwyaf o fynd i’r brifysgol
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
14 Awst 2026
Nid oes prinder o sgyrsiau am ffioedd dysgu prifysgol a faint o ddyled y mae llawer o fyfyrwyr yn mynd iddi i'w had-dalu. Fodd bynnag, nid yw mor hysbys, er bod cyllid myfyrwyr yn talu ffioedd dysgu i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr tra byddant yn astudio, nad yw’r costau ymlaen llaw mwyaf o fynd i’r brifysgol yn cael eu talu gan fenthyciadau i raddau helaeth.
Byddwch yn ymwybodol o’r bwlch ariannu
Ar ôl ffioedd, costau mwyaf mynd i'r brifysgol yw - roeddech wedi dyfalu - yr hanfodion: llety, bwyd, llyfrau a theithio. Fodd bynnag, yn wahanol i ffioedd dysgu, nid yw'r benthyciad myfyriwr yn talu'r costau hyn. Yn aml nid yw myfyrwyr a rhieni yn ymwybodol bod cymorth pellach ar ffurf benthyciad cynhaliaeth neu grant yn cael ei roi ar sail prawf modd. Y fwyaf o arian y mae rhieni’n ei ennill, y lleiaf o gymorth y byddant yn ei gael i dalu costau byw hanfodol myfyrwyr. Yn nodweddiadol, y benthyciad hwn yw'r unig gymorth sydd ar gael yn eang i rieni ar gyfer y costau hyn.
Mae'r Arolwg Cenedlaethol Arian MyfyrwyrYn agor mewn ffenestr newydd 2025 wedi canfu bod hyd yn oed y rhieni sy'n ennill y lleiaf – ac a dderbyniodd yr uchafswm benthyciad neu grant – angen rhoi cymorth ariannol i ariannu costau byw eu plant wrth iddynt astudio, yn enwedig myfyrwyr sy'n byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain. Mae'r myfyriwr cyffredin yn derbyn £146 y mis gan eu rhieni yn ychwanegol at yr holl gyllid y maent yn ei dderbyn er mwyn talu costau.
Os ydych yn ofalwr neu'n mynd i'r brifysgol fel rhywun sy'n gadael gofal, darganfyddwch y cymorth sydd ar gael ar UCAS
Faint fydd fy menthyciad cynhaliaeth neu grant?
Mae faint y byddwch chi'n ei gael a'r math o gymorth sydd ar gael yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw yn y DU. Cyfrifwch swm eich benthyciad cynhaliaeth, a gwiriwch pa gyllid arall y gallech fod yn gymwys i’w gael drwy UCAS:
Costau llety yn erbyn benthyciad cynhaliaeth
Rhaid talu costau byw, fel rhent ar gyfer neuaddau myfyrwyr neu lety preifat, ymlaen llaw, yn wahanol i ffioedd dysgu, sy’n cael eu talu ar ôl graddio. At hynny, dim ond am ran o’r flwyddyn y bydd angen llety ar fyfyrwyr, ond bydd llawer o landlordiaid preifat yn delio mewn contractau 12 mis, gan adael myfyrwyr yn talu am ddau fis neu fwy o rent nad oes ei angen arnynt.
Gall costau llety amrywio’n fawr yn ôl lleoliad:
- cost gyfartalog rhentu ystafell yn Llundain y mis yw £793
- cost gyfartalog rhentu ystafell yn genedlaethol bob mis yw £575.
Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Arian Myfyrwyr eleni, mae’r benthyciad cynhaliaeth yn cwmpasu £640 y mis o gostau byw ar gyfartaledd, ond mae myfyrwyr yn gwario £1,142 y mis ar gostau byw, gan adael bwlch o £502 y mis i rieni neu ofalwyr ddod o hyd iddo, neu i fyfyrwyr ariannu eu hunain.
Effeithiau cyllid estynedig ar fyfyrwyr
Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Arian Myfyrwyr eleni, mae myfyrwyr yn dod o hyd i ffyrdd eraill o ychwanegu at eu cyllid – fel cwblhau arolygon (31%) neu hyd yn oed cymryd rhan mewn treialon cyffuriau (6%).
Hyd yn oed gyda swyddi rhan-amser neu gefnogaeth gan rieni, mae'n anodd talu costau. Fe ganfu'r arolwg fod:
- 58% o fyfyrwyr wedi dweud eu bod wedi benthyg arian i dalu eu rhent
- 10% wedi defnyddio banc bwyd wrth astudio
- 41% yn meddwl am adael y brifysgol oherwydd materion sy'n gysylltiedig ag arian.
Sut i leihau costau prifysgol
Mae mwyafrif helaeth y myfyrwyr a holwyd yn dymuno eu bod wedi cael addysg ariannol well. Os ydych yn cael eich canlyniadau yr haf hwn ac yn gobeithio dechrau astudio ym mis Medi, neu os ydych yn astudio ar hyn o bryd, ystyriwch yr opsiynau hyn i leihau costau tra byddwch yn astudio.
Astudiwch o gartref
Yn ystod y broses ymgeisio am brifysgol a thrwy gydol Clirio, gallwch ystyried eich opsiynau. Astudio gartref ar gwrs dysgu ar-lein neu gyfunol, sy'n eich galluogi i fyw gartref a chael amserlen fwy hyblyg fel y gallwch gydbwyso swydd ran-amser.
Astudiwch y tu allan i Lundain
Gall costau amrywio'n fawr mewn gwahanol leoliadau - edrychwch o gwmpas prifysgolion mewn ardaloedd lle mae rhent yn rhatach.
Gwiriwch gost llety
Edrychwch ar wefan eich prifysgol am gostau arferol a'u polisi llety. Dechreuwch ymchwilio'n gynnar fel y gallwch gymharu neuaddau, rhenti preifat a gwahanol leoliadau i ddod o hyd i'r hyn sy'n gweddu i'ch cyllideb.
Ymchwilio i gronfeydd caledi
Bydd llawer o brifysgolion gyda chyllid ar gyfer myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol - edrychwch ar wefannau prifysgolion am amgylchiadau cymwys neu darllenwch ein canllaw Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach.
Gwnewch gyllideb
Mae rhai gwefannau prifysgolion yn dadansoddi costau byw enghreifftiol yn yr ardal. Os nad ydych yn siŵr eto beth fydd eich costau wrth astudio, gallwch roi’r ffigyrau enghreifftiol o wefan y brifysgol i mewn i’n cynlluniwr cyllideb i'ch helpu i ddechrau arni.
Byddwch yn ymwybodol o gostau
O filiau i gymdeithasu, byddwch yn gyfrifol am eich costau bob dydd eich hun, yn enwedig os ydych chi'n byw oddi cartref. Os ydych chi'n barod, gallwch ddod o hyd i ffyrdd o arbed arian neu leihau costau.
Defnyddiwch ein Awgrymiadau am gyllidebu ar gyfer prifysgol i helpu i leihau costau ar lyfrau, trafnidiaeth a nosweithiau allan, neu darllenwch Talu drosoch eich hun i ddarganfod beth fydd angen i chi gyllidebu ar ei gyfer pan fyddwch yn byw yn annibynnol.
Lleihau costau llety
Os ydych chi'n symud i ffwrdd o'ch cartref neu eisoes yn rhentu, defnyddiwch ein hawgrymiadau ar lety i ddechrau neu wella eich profiad o rentu wrth fynd i’r brifysgol: