Sut i adnabod cynnig swydd ffug os ydych yn fyfyriwr
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
24 Medi 2025
Fel myfyriwr yn y DU, mae'n debygol eich bod chi'n chwilio am ffyrdd o ennill arian ychwanegol neu ennill profiad gwaith gwerthfawr. Ond gyda'r cynnydd mewn sgamiau swyddi, mae'n hanfodol bod yn ofalus wrth wneud cais am swyddi neu ymateb i gynigion swyddi. Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio sgamiau swyddi myfyrwyr cyffredin, sut i'w hadnabod nhw, a beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo.
Sgamiau swyddi cyffredin sy’n targedu myfyrwyr yn y DU
Mae sgamiau swyddi yn aml yn targedu myfyrwyr a graddedigion, gan addo cyfraddau cyflog deniadol, oriau gwaith hyblyg, a phrin profiad sydd ei angen. Mae rhai sgamiau cyffredin yn cynnwys:
asiantaethau recriwtio ffug: Mae sgamwyr yn esgus bod yn asiantaethau recriwtio neu gwmnïau llogi, gan gysylltu â myfyrwyr yn ddi-rybudd gyda chynigion swyddi ffug. Mae'r negeseuon hyn yn aml yn addo cyfraddau cyflog uchel ac oriau gwaith hyblyg ond mae angen buddsoddiad cychwynnol neu fanylion personol fel manylion banc neu rif yswiriant gwladol (NI).
cynigion swyddi sy'n gofyn am daliad: Mae rhai sgamwyr yn addo cyfleoedd gwaith sy'n gofyn i fyfyrwyr dalu am hyfforddiant, offer, neu dreuliau eraill ymlaen llaw. Nid yw cyflogwyr cyfreithlon byth yn gofyn am daliad gan ymgeiswyr swyddi.
sgamiau gwe-rwydo: Mae sgamwyr yn anfon cynigion swyddi ffug neu negeseuon gyda dolenni gwe-rwydo, gyda'r nod o ddwyn manylion personol neu ddata mewngofnodi.
Sut i adnabod swydd myfyriwr sy’n sgam
Er mwyn osgoi bod yn ddioddefwr i sgamiau swyddi, byddwch yn wyliadwrus o’r baneri coch hyn.
A yw'r swydd yn rhy dda i fod yn wir?
Os yw'r cynnig swydd yn ymddangos i fod yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol y bydd hynny’n wir. Byddwch yn wyliadwrus o swyddi sy'n addo cyfraddau cyflog anarferol o uchel neu gyflogaeth sicr.
Negeseuon digymell
Byddwch yn ofalus o gynigion swyddi neu negeseuon gan recriwtwyr neu gwmnïau nad ydych erioed wedi clywed amdanynt neu nad ydych wedi gwneud cais iddynt.
Cais am daliad
Peidiwch byth â thalu am gyfleoedd swyddi, hyfforddiant, neu offer. Mae cyflogwyr cyfreithlon yn talu'r costau hyn.
Gramadeg a sillafu gwael
Mae cynigion swyddi cyfreithlon fel arfer yn cael eu gwneud gyda chyfathrebu proffesiynol. Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon gyda gramadeg a sillafu gwael.
Brys
Mae sgamwyr yn aml yn creu ymdeimlad o frys i roi pwysau ar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau yn gyflym. Cymerwch eich amser i ymchwilio a gwirio'r cyfle.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo.
Sut i ddiogelu fy hun rhag cynigion swyddi ffug?
Er mwyn cadw'n ddiogel, dylech bob amser:
wirio'r cyflogwr: Ymchwiliwch i'r cwmni a gwiriwch eu gwefan swyddogol, cyfryngau cymdeithasol, ac adolygiadau
gwirio am faneri coch: Cadwch lygad am arwyddion o sgam, fel gramadeg gwael, negeseuon digymell, neu geisiadau am daliad
bod yn ofalus gyda dolenni: Osgowch glicio ar ddolenni amheus neu lawrlwytho atodiadau gan anfonwyr anhysbys
defnyddio sianeli swyddogol: Cysylltwch â'r cwmni’n uniongyrchol gan ddefnyddio eu rhif ffôn swyddogol neu gyfeiriad e-bost
Darllenwch ein canllaw i'r nifer o wahanol fathau o sgamiau y gallech eu gweld, gyda rhai ohonynt yn ymddangos mewn mannau eraill fel WhatsApp ac apiau cyfryngau cymdeithasol a negeseuon eraill.
Beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo
Dilynwch y camau hyn os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo neu wedi ymateb i neges sgam.
Rhowch wybod am y sgam
Rhowch wybod i'r cwmni neu'r platfform lle gwnaethoch ddod ar draws y sgam.
Cysylltwch â'ch banc
Os ydych wedi gwneud taliad, cysylltwch â'ch banc i roi gwybod am weithgaredd amheus. Mae mwy yn ein blog am Sut i gael ad-daliad am sgamiau trosglwyddo banc.
Chwiliwch am gefnogaeth
Cysylltwch â gwasanaethau cymorth myfyrwyr eich prifysgol neu gynghorydd dibynadwy am arweiniad a chefnogaeth.
Byddwch yn wyliadwrus
Byddwch yn ofalus o gynigion swyddi yn y dyfodol a pharhewch i wirio cyfleoedd yn drylwyr.
Os yw'r gwaethaf yn digwydd, darganfyddwch beth i'w wneud os caiff eich hunaniaeth ei ddwyn.
Trwy fod yn ymwybodol o'r sgamiau swyddi cyffredin sy’n targedu myfyrwyr a chymryd camau i ddiogelu eich hun, gallwch leihau'r risg o fod yn ddioddefwr i sgamwyr a dod o hyd i gyfleoedd gwaith go iawn. Byddwch yn ddiogel a byddwch yn wybodus!