Os oes gennych gwyn am Pension Wise, e-bostiwch ni ar complaints@maps.org.uk.
Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch, gan gynnwys:
- a yw eich cwyn yn ymwneud ag apwyntiad ffôn, apwyntiad wyneb yn wyneb neu unrhyw beth arall
- eich cyfeirnod archebu, os oes gennych un (fe welwch hwn yn eich e-bost cadarnhau).
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn wedi cael eich cwyn ac yn anelu at roi ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith.
Os na allwn wneud hyn (e.e., os oes angen mwy o amser arnom i ymchwilio i’ch cwyn) byddwn yn rhoi gwybod i chi’r rheswm dros yr oedi a phryd y gallwch ddisgwyl ymateb.
Os oes angen i chi fynd â phethau ymhellach
Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb i’ch cwyn, gallwch anfon e-bost atom yn complaints@maps.org.uk i fynd a’r gŵyn yn ei blaen. Gallwch hefyd ysgrifennu atom trwy’r post:
Money and Pensions Service
Bedford Borough Hall
138 Cauldwell Street
Bedford
MK42 9AB
Er mwyn i ni allu darparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi, yr amser gorau i chi fynd a’ch cwyn yn ei blaen yw o fewn 28 diwrnod ar ôl yr ymateb cychwynnol. Fodd bynnag, byddwn yn defnyddio ein disgresiwn i ystyried cwynion ar ôl y cyfnod hwn.
Nodwch y rheswm dros eich bod yn anfodlon gyda’n hymateb cyntaf a chynnwys copïau o’ch cwyn wreiddiol a’n hymateb. Yna byddwn yn ymchwilio ac yn cysylltu â chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
Cael mwy o help
Unwaith y byddwch wedi disbyddu ein proses gwyno, ac os ydych yn parhau i fod yn anfodlon â’n hymateb terfynol i’ch cwyn, mae gennych hawl i gyfeirio’r mater at Yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasaneth Iechyd (PHSO)Yn agor mewn ffenestr newydd
Gwnewch gŵyn ar y PHSOYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0345 015 4033Yn agor mewn ffenestr newydd (Dydd Llun i ddydd Iau o 8.30am - 5.30pm, dydd Gwener o 8.30am - 12pm).
Lle bo’n briodol, bydd y PHSO yn gofyn am yr holl waith papur sy’n ymwneud â’r gŵyn fel rhan o’ch adolygiad achos. Dylech gysylltu â nhw o fewn 12 mis i’n hymateb terfynol.
Gallwch hefyd ofyn i Aelod Seneddol (AS) gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth IechydYn agor mewn ffenestr newydd Gallwch gael help i ddod o hyd i’ch ASYn agor mewn ffenestr newydd os nad ydych chi’n gwybod pwy ydyn nhw.