Mae ein canllawiau wedi’u hargraffu yn cynnwys llawer o wahanol bynciau arian a phensiwn, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, morgeisi, cyfrifon banc, atwrneiaeth a ffyrdd o gymryd eich pensiwn. Gallwch archebu neu lawrlwytho copïau am ddim
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth sydd wedi’i gynnwys yn ein canllawiau
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau am ddim a diduedd ar:
- Gredyd Cynhwysol, gan gynnwys sut i wneud cais a rheoli eich arian
- cyfrifon banc sylfaenol ac undebau credyd
- sut i sefydlu pensiwn personol
- cymorth gyda diswyddo
- sut i wneud a chofrestru atwrneiaeth
- gwneud y gorau o’ch arian
- sut i gymryd eich pensiwn
- morgeisi, gan gynnwys rhyddhau ecwiti a chymorth os ydych yn cael trafferth
- cymorth gyda chamesgoriad, marw-enedigaeth a marwolaeth newydd-anedig.
Sut i gael ein canllawiau
Gallwch weld, lawrlwytho ac archebu ein canllawiau wedi’u hargraffu ar ein porth archebu
Mae’r rhan fwyaf o’n canllawiau ar gael yn Gymraeg. Gallwch hefyd archebu copïau mewn braille, print bras neu sain.
Sefydliadau masnachol – cael canllawiau PDF am ddim sy'n barod i'w hargraffu
Mae canllawiau wedi’u hargraffu am ddim ar gael i unigolion a sefydliadau nid-er-elw.
Os ydych chi'n archebu ar ran sefydliad masnachol, gallwch:
- ofyn am gelfwaith am ddim i’w argraffu eich hun
- talu am gopïau wedi’u hargraffu i gael eu hanfon allan.