Dilynwch y camau isod i sicrhau eich bod yn rhoi trefn ar bethau wrth dalu am welliannau i’r cartref.
Gosodwch gyllideb a chymharu fasnachwyr
Pam?
Bydd hyn yn helpu rhwystro cost eich atgyweiriadau rhag mynd allan o reolaeth drwy osgoi’r ‘pethau ychwanegol’ nad oeddech wedi cynllunio ar eu cyfer .
Sut?
Rhestrwch yr holl bethau rydych eisiau cael eu gwneud – a gofyn am ddyfynbrisiau ysgrifenedig yn hytrach nag amcangyfrifon.
- mae dyfynbris yn bris sefydlog y cytunwyd arno
- mae amcangyfrif yn bris bras a allai newid
Sicrhewch eich bod yn cael tri phris o leiaf/ Dylech eu cymharu’n fanwl a cheisio cael barn gan gwsmeriaid blaenorol .
Pan wnewch ddewis masnachwr, gwnewch yn siwr eich bod yn cael cytundeb ysgrifenedig sydd wedi ei gostio. Os byddant yn dweud wrthych ar ôl I’r gwaith ddechrau bod rhaid iddynt wneud rhagor o waith, gofynnwch am amcangyfrif ysgrifenedig a chynllun gwaith arall fydd wedi ei gostio. Gwnewch hyn cyn cytuno i wario unrhyw beth mwy.
Nodwch efallai bydd rhai tudalennau ar safle Which? yn gofyn i chi ymuno fel aelod i gael mynediad i'r cynnwys llawn.
Penderfynwch ar y ffordd orau i dalu am eich gwelliannau
Pam?
Mae cymryd yr amser i gyfrifo cost llawn unrhyw fenthyciadau yn ffordd dda o sicrhau y gallwch wir fforddio’r gwaith.
Sut?
Os fedrwch, ceisiwch dalu am gymaint ag y gallwch gyda chynilion, gall taliadau llog adeiladu yn gyflym. Mae’n bwysig cadw digon yn eich cynilion i dalu costau annisgwyl.
Angen rhywfaint o help i ddechrau? Mae gosod nod cynilo yn ffordd wych o weld eich cynilion yn tyfu. Darganfyddwch ble i ddechrau a beth yw nod cynilo addas i chi yn ein canllaw Sut i bennu nod cynilo.
Manteision ac anfanteision
Manteision
-
Ni fydd rhaid i chi boeni am daliadau benthyciad misol, neu delerau ac amodau eich cytundeb cyllid.
-
Gall cael eich gwrthod am gerdyn credyd neu fenthyciad effeithio’ch adroddiad credyd yn negyddol. Wrth ddefnyddio’ch cynilion, dydy hyn ddim yn bosib.
Anfanteision
-
Efallai y byddwch yn gweld bod eich cynlluniau wedi’i rhwystro gan gyllideb lai, ac efallai cewch eich temtio i gyfaddawdu ansawdd eich adeilad.
-
Byddwch angen swm sylweddol o arian ar gael yn syth.
Dewiswch y math gorau o gyllid
Pam?
Os ydych angen benthyg arian am eich gwelliannau cartref mae’n bwysig peidio â mynd i ddyled na allwch fforddio ei had-dalu. A pheidiwch ag anghofio bydd unrhyw gais am fenthyciad neu gredyd yn cael effaith negyddo ar eich sgôr credyd.
Sut?
- Darllenwch ein canllaw ar gyfer y mathau gwahanol o ariannu.
- Darllenwch ein canllaw ar Gynyddu’ch morgais – cael rhagor o flaenswm. Ac I weld faint gallai eich taliadau misol fod, defnyddiwch ein cyfrifiannell ad-dalu morgais.
- Darganfyddwch fwy am fenthyciadau sydd wedi’i warantu a heb eu gwarantu.
- Ar gyfer mân welliannau i’r cartref, rhowch ystyriaeth i gerdyn credyd sy’n rhoi 0% o log ar drosglwyddiadau balans neu bryniadau newydd. Os ydych yn cyflogi crefftwr efallai na fyddent yn derbyn cerdyn credyd ond mae’n werth gofyn. Os ydych yn prynu rhannau am yr adeiladu gyda cherdyn credyd efallai y byddech yn elwa o amddiffyniad Adran 75. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut rydych wedi’ch amddiffyn wrth dalu gyda cherdyn.
Dyma rai awgrymiadau:
- Adnabod y ffordd ratach o fenthyg am y cyfnod byraf. A chymharu cost gyfan benthyg, nid y raddfa llog yn unig.
- Darllenwch ein canllaw Rheoli credyd yn dda.
Gwirio fod eich cartref yn effeithlon o ran ynni
Y Fargen Werdd: arbed ynni i’ch cartref
Os ydych yn gwirio eich Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) y dylai rhoi ffyrdd o wella effeithiolrwydd eich cartref a dangos y gwahaniaeth gall hwn wneud.
Os nad ydych yn gwybod a oes gennych EPC neu na allwch ddod o hyd iddi, gallwch gofrestru ar wefan EPC a chwilio am EPC eich eiddo
Os yw'r eiddo yn yr Alban gallwch chwilio amdano ar gofrestr EPC yr Alban
Pa help sydd ar gael?
Lloegr
Os ydych ar incwm isel, yn cael budd-daliadau penodol neu'n byw mewn ardal benodol, gallech gael gwelliannau arbed ynni am ddim i'ch cartref. Gwiriwch eich cymhwysedd a gwneud cais am grant lleol cartrefi cynnesYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n berchen ar eich eiddo ac yn gosod boeler newydd, gall eich gosodwr wneud cais am gymorth ariannol ar gyfer pympiau gwres a boeleri biomas o dan y Cynllun Uwchraddio Boeler.
Darganfyddwch fwy am y Cynllun Uwchraddio Boeler (BUS)Yn agor mewn ffenestr newydd a gwiriwch a yw pwmp gwres yn iawn ar eich cyfer chi.
Yr Alban
Gall Cynllun Warmer Homes dalu costau gwalliannau sy’n arbed ynni fel atal drafft neu inswleiddio llofft.
I fod yn gymwys mae’n rhaid eich bod wedi bod yn berchen ar eich cartref neu’n rhentu’n breifat am o leiaf blwyddyn a rhaid eich bod yn cael rhai budd-daliadau.
I ddarganfod mwy a gwneud cais gwelwch wefan Warmer Homes Scotland
Os nad ydych yn gymwys am Gynllun Warmer Homes, efallai y gallwch wneud cais am fenthyciad di-log yn lle hynny i dalu am y gwelliannau.
Mae gan rai awdurdodau lleol yn yr Alban hefyd eu cynlluniau eu hunain. Defnyddiwch y teclyn Fund Finder ar wefan Home Energy ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy ar wefan yr Energy Saving Trust
Cymru
Mae cynllun Nyth yn cynnig cyngor am ddim ar sut y gallwch wneud eich cartref yn fwy ynni effeithlon. Os ydych yn gymwys, gallwch hefyd wneud cais am foeleri ac insiwleiddio am ddim.
Darganfyddwch fwy a gwneud cais ar wefan Nyth
Gogledd Iwerddon
Os ydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu gan landlord preifat a bod gennych gyfanswm incwm cartref o lai na £23,000, efallai y gallwch gael grantiau o hyd at £7,500 (neu hyd yn oed £10,000) i wneud gwelliannau fel inswleiddio, gwresogi a gwydro ffenestri.
Darganfyddwch fwy a gwneud cais i'r Affordable Warmth Scheme yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Gwyliwch am sgamiau Grant Cartrefi Gwyrdd
Os ydych yn cael galwad ffôn, e-bost neu neges destun allan o nunlle sy’n honni eich bod yn gymwys i gael y Grant Cartrefi Gwyrdd, gallai fod yn sgam.
Peidiwch ag ateb – os yw’n alwad ffôn rhowch y ffôn i lawr yn syth. Cymerwch amser i wirio bod yr unigolyn neu’r cwmni yn ddilys.
Os ydych yn poeni gallwch ffonio 0300 123 2040 Report FraudYn agor mewn ffenestr newydd neu fynd i wefan Report Fraud i gael cyngorYn agor mewn ffenestr newydd
Gyda’ch caniatâd, bydd yn rhannu manylion anhysbys am y sgam gyda’r heddlu.