Os ydych am dalu â cherdyn, ond nad ydych eisiau cerdyn debyd neu gredyd, efallai mai cerdyn banc rhagdaledig fyddai'r opsiwn cywir. Mae yna lawer i ddewis ohonynt, a gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol i bobl ifanc a phobl ar eu gwyliau. Nid oes gwiriad credyd i basio a gallwch ond gwario neu dynnu’r swm rydych wedi rhoi ar y cerdyn.
Beth yw cardiau rhagdaledig?
Mae cerdyn rhagdaledig fel ffôn symudol talu wrth fynd - rydych yn ychwanegu arian iddo ymlaen llaw.
Rydych yn ei ddefnyddio fel unrhyw gerdyn talu arall, mewn siopau neu ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o gardiau rhagdaledig yn gweithio mewn peiriannau arian parod hefyd. Mae’r rhan fwyaf o fanwerthwyr yn ei dderbyn, ond nid yw pob un felly sicrhewch fod gennych ffordd arall i dalu. A byddwch yn ymwybodol na allwch eu defnyddio ar gyfer trafodion sydd angen blaendal diogelwch neu ei gyn-awdurdodi, fel cwmni llogi car, trefnu gwesty a rhai gorsafoedd petrol.
Nid yw'r cerdyn wedi'i gysylltu â chyfrif banc. Gallwch gael eich cyflog neu fudd-daliadau wedi'u hanfon yn uniongyrchol i'ch cerdyn rhagdaledig, neu lwytho arian parod arno mewn lleoliadau ail-lwytho sy'n cymryd rhan.
Gan mai dim ond yr arian rydych chi'n ei roi arno y gallwch ei wario, ni allwch fynd fewn i orddrafft neu redeg fyny dyled. Nid yw balansau negyddol fel arfer yn cael eu caniatáu, felly os ceisiwch wario mwy na'ch balans sydd ar gael, bydd y trafodiad yn cael ei wrthod. Ni fydd eich taliadau yn cael eu cofnodi ar eich adroddiad credyd, ac ni fydd sut rydych chi'n defnyddio'r cerdyn yn effeithio ar eich sgôr credyd.
Cyn i chi ddewis cerdyn, mae'n werth gwirio'r terfynau sy'n berthnasol, gan fod y rhain yn amrywio rhwng darparwyr a gallant fod yn eithaf cyfyngol. Y pethau allweddol i edrych amdanynt yw:
- terfynau llwyth dyddiol neu wythnosol (faint y gallwch ei ychwanegu ar y tro)
- uchafswm terfyn balans (y mwyaf y gall y cerdyn ei ddal ar un adeg), a
- capiau gwariant ar drafodion unigol neu dros gyfnod penodol.
Gall terfynau llwyth nodweddiadol amrywio o gyn lleied â £50 i gannoedd o bunnoedd y dydd, ac mae uchafswm balansau yn aml wedi'u capio rhwng £500 a £5,000 yn dibynnu ar y darparwr. Gall cardiau fod ar gyfer defnydd untro, fel cardiau rhodd, neu fod yn gardiau ail-lwytho.
Taliadau a ffioedd
Nid oes unrhyw ddau gerdyn rhagdaledig yr un peth o ran ffioedd, felly dylech wirio bob amser cyn dewis.
Gall y ffioedd gynnwys:
- ffioedd ymgeisio
- ffioedd atodol
- ffioedd misol
- ffioedd adnewyddu bob tair blynedd - efallai bydd rhai yn codi tâl i roi cerdyn newydd pan fydd yn cyrraedd y dyddiad dod i ben.
- ffioedd peiriannau tynnu arian yn y DU a thramor
- ffioedd trafodion (er enghraifft, 3% o werth pob pryniant)
- ffioedd anweithgarwch – codir tâl arnoch os nad ydych wedi defnyddio’ch cerdyn am gyfnod penodol o amser.
- ffioedd i symud arian heb ei wario yn ôl o’r cerdyn
Chwiliwch am gardiau sydd â'r ffioedd isaf am sut y byddwch chi'n ei ddefnyddio. Felly os ydych chi'n gwybod eich bod chi'n mynd i fod yn defnyddio'r cerdyn ar gyfer gwariant, edrychwch am gerdyn heb ffioedd trafodion ar y pryniannau hynny.
Pam defnyddio cerdyn rhagdaledig?
Mae cardiau rhagdaledig yn ffordd dda o sicrhau eich bod yn cadw at gyllideb. Gallant fod yn syniad da os ydych yn chwilio am:
- ffordd i roi lwfans i'ch plant: pan fydd yr arian yn dod i ben, gallwch ddewis ychwanegu i’r cerdyn, yn union fel ffôn talu wrth fynd.
- dewis arall yn lle gwiriadau teithwyr: rydych yn llwytho cerdyn teithio rhagdaledig ag arian cyn i chi fynd a byddwch yn gallu ei wario tra byddwch i ffwrdd. Os ydych chi'n defnyddio'r cerdyn dramor, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio'r ychwanegiad ar y gyfradd, unrhyw ffioedd trafodion tramor, ffioedd tynnu arian o beiriannau ATM mewn gwledydd tramor ac a yw'r cerdyn yn cefnogi arian cyfred lluosog, gan fod y rhain yn amrywio'n sylweddol rhwng darparwyr ac yn gallu effeithio ar faint o werth rydych chi'n ei gael mewn gwirionedd.
- rhywbeth yn wahanol i gael cyfrif banc: os ydych yn cael trafferth i gael cyfrif banc neu rydych wedi cael eich gwrthod am fath arall o gerdyn, gallai cyfrif banc sylfaenol fod yn ateb gwell.
Sut mae’ch arian yn cael ei ddiogelu ar gardiau rhagdaledig
Mae'r arian a roddir ar eich cerdyn rhagdaledig yn cael ei ddosbarthu fel arian electronig, neu e-arian. Mae hyn yn golygu nad yw'n cael ei ddiogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) os bydd y darparwr cerdyn rhagdaledig yn mynd i’r wal .
Fodd bynnag, mae'n ofynnol i bob darparwr cerdyn rhagdaledig ddal eich arian mewn cyfrif banc wedi'i neilltuo o'u harian gweithredol eu hunain. Mae hyn yn golygu bod eich arian yn cael ei gadw ar wahân i gyllid busnes y darparwr. Ond mae'n bwysig deall nad yw neilltuo ar ei ben ei hun yn gwarantu mynediad cyflym neu syml i'ch arian os bydd darparwr yn mynd yn fethdalwr.
Os bydd darparwr cerdyn rhagdaledig yn mynd i’r wal , gall adennill eich arian gymryd amser. Efallai y bydd oedi tra bod gweinyddwyr neu ddiddymwyr yn rheoli'r broses, ac mewn rhai achosion efallai y bydd angen i chi fynd trwy weithdrefn hawliadau cyfreithiol ffurfiol i adennill eich arian. Bydd yr amser y mae hyn yn ei gymryd yn dibynnu ar amgylchiadau'r ansolfedd. Dylech gysylltu â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), sy'n rheoleiddio darparwyr e-arian, os nad ydych yn siŵr o'ch hawliau neu os oes angen arweiniad arnoch ar wneud cais.
Dyma pam mae'n well peidio â storio symiau mawr o arian ar eich cerdyn. Rhowch y swm sydd ei angen arnoch ar gyfer gwariant ar unwaith arno ac, os gallwch, cadwch y gweddill mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sydd â diogelwch FSCS llawn.
Os byddwch chi'n colli eich cerdyn rhagdaledig, neu'n sylwi ar drafodion twyllodrus, cysylltwch â'r darparwr cyn gynted â phosibl fel y gallant ei rwystro. Byddwch yn ymwybodol y gallent godi ffi am gerdyn newydd.
Os ydych chi'n defnyddio'ch cerdyn rhagdaledig i brynu nwyddau sy'n ddiffygiol, gwasanaeth ddim yn cael ei ddarparu, neu os yw cwmni'n mynd allan o fusnes ac nad ydych yn derbyn yr hyn rydych chi wedi talu amdano, efallai y byddwch yn gallu gwneud hawliad am ad-daliad o dan gynllun gwirfoddol o'r enw 'chargeback'.
Dewis cerdyn rhagdaledig
Gallwch gymharu cardiau rhagdaledig gan ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau, megis MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd, mond gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un gan nad oes ganddynt i gyd yr un cynigion.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Cael y gorau o wefannau cymharu
Dim yn meddwl bod cerdyn rhagdaledig yn iawn i chi?
Edrychwch ar eich opsiynau eraill: