Os gwnaethoch gymryd cyllid car cyn Ionawr 2021, efallai eich bod yn gymwys i gael iawndal. Mae'r FCA ar fin cyhoeddi cynllun iawndal ar gyfer gyrwyr a oedd â chytundebau gyda threfniadau comisiwn dewisol (DCAs). Dyma sut i ddarganfod a ydych yn gymwys i gael iawndal a beth i'w wneud nesaf.
Pam y dylech osgoi defnyddio cwmni rheoli hawliadau
Ni fydd hawlio iawndal sy'n ddyledus i chi yn costio unrhyw beth i chi os ydych chi'n ei wneud eich hun
Efallai eich bod wedi gweld hysbysebion ar gyfer cwmnïau sy'n gallu hawlio iawndal ar eich rhan. Mae'r cwmnïau hyn fel arfer yn cymryd canran mawr o unrhyw iawndal – hyd at 30%
Ni fydd cwmni rheoli hawliadau yn gyflymach nac yn gwneud unrhyw beth na allwch ei wneud eich hun – gallai eu hosgoi arbed cannoedd i chi.
Mae DCAs bellach wedi eu gwahardd – gallai iawndal fod yn ddyledus i chi
Ym mis Ionawr 2021, gwaharddodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) DCAs mewn cytundebau cyllid modur. Roedd DCAs yn fath cudd o gomisiwn a oedd yn caniatáu i werthwyr a broceriaid gynyddu'r comisiwn a enillwyd ganddynt trwy godi mwy ar gwsmeriaid.
Ym mis Ionawr 2024, dechreuodd yr FCA ymchwiliad i benderfynu a ddylid talu iawndal i gwsmeriaid yr effeithir arnynt.
Mae'r FCA yn dweud y bydd yn darparu manylion cynllun iawndal ar gyfer cwynion DCA ym mis Hydref 2025.
Pwy all hawlio iawndal?
Gallai iawndal fod yn ddyledus i chi os:
gymeroch chi gyllid modur cyn 28 Ionawr 2021 (gan gynnwys ceir, faniau, cerbydau gwersylla a beiciau modur)
roedd eich cytundeb naill ai'n Bryniant ar Gytundeb Personol (PCP) neu Hurbwrcasu (HP)
prynwyd eich cerbyd at ddefnydd personol
roedd eich cytundeb yn cynnwys DCA, ac ni chafodd ei ddatgelu'n briodol i chi.
Sut ydw i’n gwybod a yw fy nghytundeb yn cynnwys DCA?
Os yw'n bosibl, dylech edrych drwy eich gwaith papur cyllid car i weld a oedd eich cytundeb yn cynnwys DCA. Os nad ydych yn siŵr, gallwch ofyn i'ch benthyciwr.
Os na fydd eich benthyciwr yn dweud wrthych, gallwch gwyno o hyd. Eich benthyciwr fydd yn gyfrifol am ymchwilio i weld a oedd eich cytundeb yn cynnwys DCA.
Mae rhai cwmnïau wedi honni nad oedden nhw erioed wedi defnyddio DCAs. Gallwch weld rhestr o gwmnïau nad ydynt yn defnyddio DCAsYn agor mewn ffenestr newydd ar MoneySavingExpert.
Faint o iawndal y gallwn i ei dderbyn?
Nid oes unrhyw un yn gwybod eto faint yn union y bydd cwsmeriaid yn ei dderbyn os ydynt yn gymwys i gael iawndal. Bydd yn dibynnu ar yr hyn y mae'r FCA yn ei gyhoeddi ym mis Hydref 2025.
Yn ei wybodaeth ddiweddaraf, mae'r FCA wedi datgan y bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn derbyn llai na £950 mewn iawndal.
Beth os nad oedd fy nghytundeb yn cynnwys DCA?
Efallai y byddwch yn dal i allu cael iawndal, os oedd eich cytundeb yn cynnwys comisiwn heb ei ddatgan. Ond nid yw'n glir eto pwy fydd yn gymwys – bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi gan yr FCA ym mis Hydref 2025.
Edrychwch ar ein canllaw Cwynion am gomisiynau heb eu datgan mewn cyllid ceir i weld a allech chi wneud cwyn o hyd.
Oes angen i mi wneud cwyn?
Mae’r FCA wedi dweud, os oes iawndal yn ddyledus, mae’n debygol o gael ei roi drwy gynllun gwneud iawn. Byddai hyn yn golygu, os oes arian yn ddyledus i chi, ni fydd angen i chi gwyno – mater i’r cwmni cyllid ceir yw cysylltu â chi i’ch talu.
Ond nid yw hyn wedi cael ei gadarnhau. Ni fydd gwneud cwyn nawr yn gwneud drwg i’ch cyfle o gael iawndal.
Y naill ffordd neu’r llall, ceisiwch osgoi defnyddio cwmni rheoli hawliadau i gael unrhyw iawndal sy’n ddyledus i chi.
Sut i wneud cwyn
Defnyddiwch dempled llythyr cwyn am ddim
Os ydych chi'n meddwl am gwyno, mae'n syniad da i ddefnyddio llythyr templed am ddim fel nad oes angen i chi dalu cwmni rheoli hawliadau.
Mae yna dempledi am ddim y gallwch eu defnyddio i gwyno arnynt:
Cam un: cwyno i’ch benthyciwr
Casglwch unrhyw wybodaeth am gyllid eich car. Yna gwnewch gŵyn i'ch benthyciwr, yn ysgrifenedig yn ddelfrydol.
Bydd angen i chi gwyno wrth y cwmni yr oeddech yn ei dalu bob mis. Os nad ydych yn siŵr pwy ydyw, gallwch wirio'ch adroddiad credyd (os oedd y cytundeb yn weithredol yn ystod y chwe blynedd diwethaf) neu hen gyfriflenni banc os oes gennych rai.
Dywedwch wrth y benthyciwr eich bod yn meddwl eich bod wedi gordalu a chynnwys cymaint o wybodaeth ag sydd gennych.
Cam dau: aros am ymateb
Dylech gael ymateb gan y benthyciwr i gadarnhau ei fod wedi derbyn eich cwyn o fewn ychydig wythnosau. Os na fyddwch yn clywed unrhyw beth, cysylltwch â'r cwmni eto i weld a ydynt wedi’i gael.
Yn ddelfrydol, bydd eich benthyciwr wedyn yn ymateb i roi gwybod i chi a oedd gennych chi DCA. Fodd bynnag, mae'r FCA wedi rhoi mwy o amser i gwmnïau ymateb i gwynion, felly efallai na fyddwch yn clywed yn ôl am gyfnod.
Mae'r hyn a wnewch nesaf yn dibynnu ar yr ymateb a gewch:
Os oedd gan eich cytundeb DCA, does dim angen i chi wneud unrhyw beth mwy am y tro – pan fydd yr FCA yn penderfynu ar iawndal, dylai eich benthyciwr brosesu hyn ar eich rhan.
Os nad oedd gan eich cytundeb DCA, efallai y byddwch yn dal i allu cwyno am gomisiwn heb ei ddatgelu – edrychwch ar ein canllaw ar gwyno am gomisiwn cyllid ceir.
Os nad yw'ch benthyciwr yn rhoi unrhyw ymateb pellach i chi, peidiwch â phoeni. Cyn belled â bod eich cwyn wedi'i chydnabod, os bydd yr FCA yn penderfynu bod iawndal yn ddyledus i chi, dylai hyn gael ei brosesu gan eich benthyciwr.
Gallwch gael gwybodaeth gam wrth gam ynghylch pryd y gallwch ddisgwyl ymateb drwy ddefnyddio teclyn cwyno cyllid car yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Cam tri: Cyfeiriwch eich cwyn i’r ombwdsmon os oes angen i chi wneud hynny
Os na fyddwch yn cael unrhyw ymateb o gwbl, neu os ydych yn anghytuno ag ymateb y darparwr benthyciadau ynghylch DCA, gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) am ddimYn agor mewn ffenestr newydd
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Unwaith y bydd eich cwyn wedi'i chofnodi (naill ai gan eich benthyciwr neu'r FOS), ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth arall am y tro.
Mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu ar yr hyn y mae'r FCA yn ei gyhoeddi ym mis Hydref 2025.
Pa mor hir sydd gan fenthycwyr i ymateb i gwynion?
Mae'r FCA wedi ymestyn yr amser sydd gan fenthycwyr i ymateb i gwynion.
Os gwnaethoch gwyno cyn 17 Tachwedd 2023 - dylech fod wedi derbyn ymateb o fewn wyth wythnos i gyflwyno'ch cwyn. Os na chawsoch ymateb yn ystod y cyfnod hwnnw, gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Os gwnaethoch gwyno ar neu ar ôl 17 Tachwedd 2023 - mae'r amserlen arferol o wyth wythnos wedi'i oedi tan 4 Rhagfyr 2025. Mae hyn yn golygu bod gan eich benthyciwr tan o leiaf y dyddiad hwnnw i ymateb.
Dylai eich benthyciwr gadarnhau ei fod wedi derbyn eich cwyn, a gallech gael ymateb cyn y dyddiad cau.
Os ydych yn anghytuno â’r ymateb i’ch cwyn
Os caiff eich cwyn ei gwrthod gan y darparwr benthyciadau neu os ydych yn anfodlon â'r ymateb, mae gennych yr opsiwn o fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) am ddimYn agor mewn ffenestr newydd
Mae pa mor hir sydd gennych i fynd â'ch cwyn i'r FOS yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch gwyno'n wreiddiol:
Os gwnaethoch gwyno cyn 17 Tachwedd 2023 - bydd angen i chi gwyno i FOS erbyn y dyddiad a roddwyd yn yr ymateb terfynol a gawsoch. Os na chawsoch ymateb terfynol, gallwch barhau i fynd â'ch cwyn i FOS.
Os gwnaethoch gwyno ar neu ar ôl 17 Tachwedd 2023 – bydd angen i chi gwyno naill ai erbyn 29 Gorffennaf 2026 neu 15 mis ar ôl derbyn eich ymateb terfynol, pa un bynnag sydd hwyraf.