Os yw eich hunaniaeth wedi cael ei dwyn, eich cerdyn wedi’i glonio neu arian wedi’i gymryd mewn sgam, mae’r canllaw hwn yn esbonio beth i’w wneud nesaf – o roi gwybod am y drosedd, i gael eich arian yn ôl a dod o hyd i gymorth.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sgamiau dwyn hunaniaeth
- Mae arian wedi cael ei ddwyn o fy nghyfrif banc
- Os ydych chi’n ddioddefwr, dyma beth i’w wneud
- Mae fy ngherdyn credyd wedi cael ei ddefnyddio yn dwyllodrus
- Mae rhywun wedi agor cyfrif yn fy enw i
- Cael fy arian sydd wedi’i ddwyn yn ôl
- Os bydd eich banc yn gwrthod eich cais
- Sut i adnabod sgam
Sgamiau dwyn hunaniaeth
Mae dwyn hunaniaeth yn digwydd pan fydd troseddwyr yn dwyn eich manylion personol neu ariannol a’u defnyddio heb eich caniatâd. Gall hyn gynnwys agor cyfrifon yn eich enw, cymryd credyd, neu gael mynediad i’ch cyfrif banc.
Mae arian wedi cael ei ddwyn o fy nghyfrif banc
Os yw arian wedi’i gymryd o’ch cyfrif banc heb eich caniatâd – gan gynnwys drwy drosglwyddiad anhysbys, sgam, neu ddefnyddio’ch cerdyn debyd yn dwyllodrus – rhowch wybod i’ch banc neu ddarparwr cerdyn cyn gynted â phosibl.
Rhaid i fanciau ad-dalu taliadau heb awdurdod o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Talu, ond gall faint rydych chi’n ei gael yn ôl - a pha mor gyflym - ddibynnu ar a wnaethoch weithredu’n brydlon ac a oes tystiolaeth o dwyll neu esgeulustod. Os yw cerdyn debyd yn gysylltiedig, efallai y byddwch yn atebol am golledion o hyd at £35, ond dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig a chyn i’r mater gael ei adrodd.
Dylech bob amser roi gwybod am unrhyw daliadau heb awdurdod neu os ydych wedi colli eich cerdyn debyd ar unwaith i leihau’r risg o golledion pellach a diogelu eich hawliau ad-dalu.
Os ydych chi’n ddioddefwr, dyma beth i’w wneud
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi bod yn ddioddefwr sgam, gweithredwch yn gyflym. Gall cymryd y camau isod helpu i gyfyngu’r difrod a gwella eich siawns o gael eich arian yn ôl.
- Cysylltwch â’ch banc neu ddarparwr cerdyn cyn gynted â phosibl fel y gallant ddiogelu eich cyfrif a dechrau ymchwilio. Mae rhoi gwybod ar unwaith yn bwysig, gan y gallech fod yn atebol am golledion sy’n digwydd cyn i chi roi gwybod am y sgam. Os yw twyllwr wedi agor cyfrif yn eich enw, cysylltwch â thîm twyll y banc neu’r benthyciwr perthnasol a gofynnwch iddynt ei gau.
- Newidiwch eich cyfrineiriau, gan ddechrau gyda’ch cyfrif e-bost, a defnyddiwch gcyfrineiriau cryf, unigryw. Defnyddiwch gwirhad dau gam lle bo hynny ar gael i ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch.
- Gwiriwch eich adroddiad credyd yn rheolaidd am geisiadau neu weithgareddau nad ydych chi’n eu hadnabod, gall ein canllaw Sut i wirio a gwella eich adroddiad credyd eich helpu gyda hyn. Efallai yr hoffech hefyd ystyried Cofrestru Amddiffynnol CIFASYn agor mewn ffenestr newydd, sy’n dweud wrth fenthycwyr i gynnal gwiriadau ychwanegol cyn cymeradwyo credyd newydd.
- Rhowch wybod am y sgam, hyd yn oed os nad ydych wedi colli arian. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cysylltwch â Report Fraud ar 0300 123 2040 neu defnyddiwch y teclyn adrodd ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd Yn yr Alban, rhowch wybod amdano i Heddlu’r Alban ar 101 neu Advice Direct Scotland ar 0808 800 9060. Gallwch hefyd roi gwybod am sgamiau buddsoddi neu ariannolYn agor mewn ffenestr newydd i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
- Yn aml, mae troseddwyr yn targedu dioddefwyr eto, gan esgus bod yn fanciau, yr heddlu neu wasanaethau adfer. Cofiwch: ni fydd eich banc na’r heddlu byth yn gofyn i chi symud arian i gyfrif “diogel” neu gyfrif “dalfa”.
Os oes angen cymorth neu gefnogaeth ar unwaith arnoch ar ôl sgam, gallwch gysylltu â’n huned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402.
Ar ôl i chi roi gwybod am y sgam, efallai y byddwch chi’n gallu adennill rhywfaint neu’r cyfan o’ch arian, yn dibynnu ar yr hyn a ddigwyddodd. Dysgwch am gael eich arian wedi’i ddwyn yn ôlYn agor mewn ffenestr newydd
Mae fy ngherdyn credyd wedi cael ei ddefnyddio yn dwyllodrus
Os bydd rhywun yn gwneud taliadau heb awdurdod ar eich cerdyn credyd, rydych chi wedi’ch diogelu o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Mae hyn yn golygu y dylech chi allu hawlio’ch arian yn ôl gan eich bod chi'n atebol ar y cyd â chyhoeddwr eich cerdyn credyd.
Fel gyda chardiau debyd, efallai y byddwch yn atebol am y £35 cyntaf a wariwyd os caiff y cerdyn ei golli neu ei ddwyn. Fodd bynnag, yn aml caiff hyn ei hepgor os byddwch yn rhoi gwybod yn gyflym ac nad ydych wedi gweithredu’n ddiofal, fel rhoi eich PIN i rywun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio ar gyfer eich cerdyn credyd a debyd.
Mae rhywun wedi agor cyfrif yn fy enw i
Os yw’ch hunaniaeth wedi’i ddwyn, gall y troseddwr geisio agor cyfrifon banc, neu wneud cais am gardiau credyd a benthyciadau yn eich enw.
Efallai y byddwch yn dechrau cael llythyrau gan fanciau nad oes gennych gyfrifon gyda nhw, cardiau credyd nad ydych erioed wedi gwneud cais amdanynt, neu gan gasglwyr dyledion nad ydych yn gwybod dim amdanynt. Os bydd hyn yn digwydd, cysylltwch â’ch banc ar unwaith a gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r holl ohebiaeth.
Os ydych chi’n poeni bod rhywun wedi cyrchu eich manylion personol – er enghraifft trwy ddwyn neu ailgyfeirio’ch post – mae’n bwysig gwirio’ch ffeil credyd a chymryd camau i amddiffyn eich hun.
Yn hytrach na chysylltu ag asiantaethau cyfeirio credyd unigol, gallwch ddod o hyd i ganllawiau cyfredol ar sut i wirio a gwella eich adroddiad credyd, gan gynnwys beth i’w wneud os ydych chi’n gweld rywbeth amheus, yn ein canllaw: Sut i wirio a gwella eich adroddiad credyd.
Os ydych chi’n meddwl bod eich post wedi cael ei ymyrryd, gallwch hefyd gysylltu â gwasanaethau cwsmeriaid y Post BrenhinolYn agor mewn ffenestr newydd neu eu ffonio ar 03457 740 740 i gael help ar beth i’w wneud nesaf.
Cael fy arian sydd wedi’i ddwyn yn ôl
Cyn belled â’ch bod wedi gwneud dim i gyfaddawdu diogelwch eich cyfrif, dylech gael eich arian yn ôl.
Os ydych chi’n anfon arian drwy drosglwyddiad banc yn y DU ac yn ddioddefwr twyll trosglwyddiad banc, mae’n ofynnol i fanciau a darparwyr taliadau ad-dalu hyd at £85,000 i chi. Rhaid iddynt anfon eich ad-daliad o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl i chi wneud cais.
Mae’r ad-daliad hwn yn cynnwys “tâl-dros-ben dewisol o £100” y gall eich banc neu ddarparwr taliadau ei ddidynnu o’ch gais.
Rydych chi wedi’ch diogelu os ydych chi’n defnyddio:
- Taliadau Cyflymach: dyma beth y byddwch fel arfer yn ei ddefnyddio i anfon trosglwyddiadau banc cyflym am ddim ar unwaith i berson neu fusnes arall.
- CHAPs: defnyddir hwn fel arfer ar gyfer trosglwyddiadau gwerth uchel, wedi’u gwarantu i gyrraedd yr un diwrnod. Ar gyfer y trafodion hyn rydych chi wedi’ch diogelu gan reol debyg a nodir gan Fanc Lloegr.
- Mae gwneud cais yn amodol ar derfyn amser o 13 mis ar ôl y taliad olaf i sgamiwr, felly mae’n bwysig rhoi gwybod i’ch banc neu ddarparwr taliadau cyn gynted â phosibl.
Mae taliadau ar ôl 7 Hydref 2024 wedi’u cynnwys yn y rheolau hyn
- Cyn 7 Hydref roedd cod gwirfoddol ar gyfer banciau a darparwyr taliadau. Roedd hyn yn golygu nad oedd gofyniad gorfodol i fanciau ad-dalu dioddefwyr twyll APP.
- Mae unrhyw daliadau a wneir ar neu ar ôl 7 Hydref 2024 wedi’u cynnwys, ond os gwnaethoch daliad cyn y dyddiad hwn ac os ydych chi’n meddwl y gallai fod yn sgam, byddai eich cais yn dod o dan y cod ymarfer gwirfoddol blaenorol.
Rydych chi’n wedi’ch diogelu am hyd at £120,000
- Yr uchafswm y gallwch ei hawlio yw £120,000. Os byddwch yn colli mwy na hyn, gallwch godi cais gyda’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol, a all adolygu eich achos yn annibynnol a phenderfynu a yw iawndal pellach yn briodol. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol yn uniongyrchol am helpYn agor mewn ffenestr newydd
- Mae’n bwysig dweud wrth eich banc neu ddarparwr taliadau cyn gynted â phosibl ar ôl i chi sylwi ar y sgam, gan y gall oedi effeithio ar sut mae eich cais yn cael ei drin.
Os bydd eich banc yn gwrthod eich cais
Efallai y bydd eich banc yn gwrthod eich cais am ad-daliad os ydynt yn credu y gallant brofi eich bod wedi bod yn esgeulus iawn neu wedi gweithredu’n dwyllodrus. Gallai hyn gynnwys dweud wrth rywun eich PIN neu gyfrinair.
Darganfyddwch fwy am drafodion heb awdurdod, a’r hyn sy’n cyfrif fel esgeulustodYn agor mewn ffenestr newydd, ar wefan FCA.
Nid oes rhaid i hyn fod yn ddiwedd y mater – gallwch gwyno i’r banc.
Os nad ydych yn hapus â’r ffordd y mae eich cwyn wedi’i thrin, yna gallwch fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i adnabod sgam
Mae sgamwyr yn defnyddio ystod eang o dactegau, a gall sgamiau hunaniaeth ddigwydd ar-lein, dros y ffôn, drwy’r post neu wyneb yn wyneb.
Darganfyddwch sut i adnabod arwyddion rhybudd cyffredin, gan gynnwys sgamiau dynwared banc, galwadau ddiwahoddiad a gwefannau ffug, yn ein canllaw ar sut i adnabod sgamiau.
Gwirio cyfle buddsoddi neu bensiwn? Defnyddiwch declyn ScamSmart yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd i weld a allai cynnig fod yn sgam a dysgu sut i osgoi cynlluniau twyllodrus.
Gallwch gael cymorth emosiynol gan Victim SupportYn agor mewn ffenestr newydd yn ogystal â chymorth gyda phryderon ariannol tymor byr neu ganolig, gan gynnwys cymorth brys a rheoli incwm gwasgedig.