Mae polisïau yswiriant cerbyd yn dod â nifer o nodweddion – rhai nodweddion pwysig, ac eraill sy’n llai pwysig. Defnyddiwch y tablau hyn i wirio beth sy’n hanfodol a pha ategolion i edrych arnynt er mwyn i chi brynu’r polisi iawn i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Nodweddion i edrych amdanynt
Nodweddion | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Sicrwydd ffenestr flaen Mae’n golygu y bydd eich ffenestr flaen yn cael ei thrwsio neu ei hamnewid heb effeithio ar eich bonws dim hawliad. Mae hyn yn aml yn cael ei gynnwys o fewn sicrwydd cynhwysfawr ond gall gael ei brynu fel ychwanegiad ar gyfer polisïau trydydd parti. |
Hyd at werth ar y farchnad Gallai gynnwys daliad ychwanegol bach ar gyfer trwsio neu amnewid. Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd ffenestri a thoeau haul yn cael eu cynnwys. Ac os defnyddiwch atgyweiriwr anghymeradwy gall eich cwmni yswiriant gyfyngu ar y swm y byddant yn ei dalu os digwydd hawliad. |
Meddiannau personol Yn cynnwys colled neu ddifrod i’ch meddiannau personol yn sgil damwain, tân neu ladrad tra’u bod yn eich car. Er enghraifft, bagiau neu dechnoleg megis camera dashfwrdd. |
£200 neu fwy Noder na chynhwysir arian, cardiau credyd neu ddebyd, stampiau a thocynnau fel arfer. Ni chynhwysir lladrad eitemau a gludir mewn car agored neu gar codi to, oni bai y’i cedwir mewn cist dan glo. |
Colled neu ladrad allweddau Os yw’r allweddau i’ch car, taniad, larwm, llonyddwr, clo llywio neu agorydd drws eich garej yn cael eu colli neu ddwyn bydd yr yswiriwr yn talu tuag at y gost o gyfnewid yr allweddau a’r cloeon cysylltiedig. |
£300 neu fwy Nodwch na fydd sicrwydd gennych os yw’r allweddau, trosglwyddydd y clo neu gerdyn mynediad yn cael eu gadael yn y car neu arno ar adeg y golled, neu’n cael eu cymryd heb eich caniatâd gan aelod o’ch teulu uniongyrchol neu berson sy’n byw yn eich cartref |
Disgownt dim hawliad diogeledig Mae’n diogelu eich disgownt dim hawliad ac yn sicrhau nad ydych yn ei golli yn sgil gwneud hawliad. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol o’r polisi yn caniatáu hyd at ddau hawliad o fewn cyfnod o dair blynedd Mae terfynau ar y nifer o hawliadau y caniateir i chi eu gwneud mewn cyfnod penodol o amser – mae angen i chi wirio’r hyn a ganiateir gan eich cwmni.. |
Sicrwydd achub car Os ydych yn cael damwain sy’n peri na all eich car symud, bydd y cwmni yswiriant yn talu am y gost o symud y cerbyd o leoliad y ddamwain. |
Y costau rhesymol ar gyfer symud y cerbyd o leoliad y ddamwain at yr atgyweiriwr agosaf. Caiff hyn ei gynnwys o fewn sicrwydd cynhwysfawr. |
Car cwrteisi gwarantedig Os ydych yn cael damwain ac mae angen atgyweirio’ch cerbyd, yna darperir car arall i chi i’ch cadw ar y ffordd tra byddwch yn aros am eich car chi. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol o’r polisi Gall hwn gael ei gyfyngu i nifer benodol o ddiwrnodau er enghraifft 14 i 28 diwrnod. Yn aml, pan fydd eich car yn cael ei drwsio yn y garej yn unig y gallwch chi gael car cwrteisi, ac nid pan fydd wedi cael ei ddiddymu. Gallwch ddewis sicrwydd sy’n cynnig car cwrteisi i chi am yr holl amser y bydd eich car yn cael ei drwsio. Gwiriwch eich telerau ac amodau. |
Nodweddion i’w hystyried
Nodweddion | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Cyfnewid am gar newydd Os caiff eich cerbyd ei ddwyn ac ni chaiff ei ddarganfod, neu os yw wedi’i ddifrodi ar ôl cael damwain, bod ar dân neu gael ei ddwyn – a bod y gost i’w drwsio dros canran penodol o bris manwerthu cymeradwy’r gwneuthurwr – efallai y bydd y cwmni yswiriant yn cyfnewid eich car am un o’r un fath neu dalu gwerth farchnad eich car. |
60% o bris y rhestr ac o fewn 12 mis o fod yn newydd Nodwch na fydd sicrwydd gennych os nad chi yw perchennog cofrestredig cyntaf y cerbyd neu os nad oes car i’w gyfnewid ar gael yn y DU. Bydd rhaid i’r car fod o dan oedran penodol – fel arfer 12 i 24 mis. |
Cludiant damwain Os ydych yn cael damwain sy’n peri na all eich car symud, bydd y cwmni yswiriant yn trefnu i chi a’ch teithwyr gael cludiant i ffwrdd o leoliad y ddamwain. |
Sicrwydd am hyd at saith o deithiwr yn rhan safonol ohono Mae rhai yswirwyr yn cyfyngu ar y nifer o deithwyr a gaiff gludiant |
Treuliau gwesty Yn sgil damwain pan na allwch barhau ar eich taith neu fynd adref, bydd y cwmni yswiriant yn talu am gost gwesty i chi a’ch teithwyr. |
£250 neu fwy Unrhyw gostau dros y terfyn a osodwyd i bob person |
Llinell gymorth 24 awr Yn darparu llinell gymorth 24 awr y gallwch ei ffonio os digwydd argyfwng. |
Darperir llinell gymorth argyfwng fel rhan safonol ohono |
Car cwrteisi colled llwyr Os yw eich car wedi’i ddifrodi y tu hwnt i atgyweirio rhesymol, bydd yr yswiriwr yn darparu car cwrteisi i chi tra bod eich hawliad yn cael ei setlo. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol ohono Am gyfnod cyfyngedig y caiff y car ei ddarparu - yn amrywio rhwng 2 a 28 diwrnod |
Treuliau cyfreithiol cymorth cyfreithiol i adennill eich ‘colledion di-yswiriant’ yn sgil damwain nad achoswyd gennych chi. Er enghraifft, hawliadau am anafiadau personol, hurio car neu dreuliau y gallech eu tynnu o ganlyniad i’r ddamwain. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol o’r polisi Ni fydd sicrwydd gennych am gostau cyfreithiol nad yw’ch cwmni yswiriant wedi cytuno arnynt o flaen llaw |
Sicrwydd torri i lawr Yn darparu cymorth os yw’ch car yn torri i lawr a bod angen ei atgyweirio neu fynd ag ef i garej. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol o’r polisi Gwnewch yn siŵr nad ydych yn dyblu i fyny os oes gennych sicrwydd torri i lawr ar wahân. Nid oes sicrwydd am gyfrannau newydd. |
Nodweddion dewisol
Nodweddion | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Gyrru tramor Yn darparu’r un lefel o sicrwydd a fydd gennych - cynhwysfawr, trydydd parti tân a lladrad, neu drydydd parti - pan ydych yn gyrru’ch car tramor. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol ohono Caiff y sicrwydd hwn ei gynnwys mewn polisïau cynhwysfawr yn aml. Ni fydd sicrwydd mewn gwledydd sydd heb eu rhestrir o fewn y polisi. Efallai y bydd sicrwydd ar gael ar wahân, ond mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch yswiriwr i gael cadarnhad. |
Sedd gar plentyn Yn sgil damwain, tân neu ladrad caiff eich sedd gar plentyn ei chyfnewid |
Yn cael ei chyfnewid heb ystyried a oedd wedi’i difrodi yn y ddamwain neu beidio Dim ond os bydd difrod gweladwy neu hyd at swm ariannol penodol y bydd rhai polisïau’n cyfnewid y sedd gar. |
Car cwrteisi gwell Yn sgil damwain, fel arfer bydd yswirwyr yn darparu car cwrteisi bach. Bydd y sicrwydd hwn yn rhoi’r opsiwn i wella’r math o gar cwrteisi i un mwy neu gerbyd o faint cyfwerth â’ch cerbyd eich hunan. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys fel rhan safonol ohono Ar rai polisïau, caiff defnydd o’r car ei gyfyngu i nifer benodol o ddiwrnodau – rhwng 14 a 28 diwrnod. Gallwch ddewis i uwchraddio’r car cwrteisi y cewch trwy ddefnyddio cwmni llogi trydydd parti. Bydd tâl ychwanegol am hyn. |
Pethau i gadw llygad arnynt
Pethau i gadw llygad arnynt | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Tâl dros ben difrod damweiniol Swm o arian mae’n rhaid i chi ei dalu os digwydd hawliad am ddifrod damweiniol. |
£250 neu lai Gall hyn gostio mwy os oes gennych chi gar pwerus, os ydych chi’n yrrwr ifanc neu os oes gennych chi euogfarnau gyrru. |
Tâl dros ben cyfnewid ffenestr flaen Swm o arian mae’n rhaid i chi ei dalu os digwydd hawliad am gyfnewid ffenestr flaen. |
£50-100 fel arfer Gallai rhai cwmnïau yswiriant godi tâl yn llai am drwsio o’i gymharu ag amnewid cyfan. Ni fydd yr hawliadau hyn yn effeithio ar eich bonws dim hawliad os ydych chi wedi talu am sicrwydd ffenestr flaen. |
Rhagor o wybodaeth
Mae’r tablau uchod yn dangos beth y dylech gadw llygad arno, ond os ydych am wybod am y lefel gywir o sicrwydd, neu gael y fargen orau, dilynwch y dolenni isod: