Yn aml, gallwch gael triniaeth ddeintyddol rhatach neu am ddim trwy’r GIG, ond gallai yswiriant deintyddol fod yn syniad da os ydych chi wedi’ch cofrestru gyda deintydd preifat – neu os oes angen i chi gael llawer o waith wedi’i wneud. Darganfyddwch am y prif fathau o yswiriant deintyddol, sut y mae’n gweithio a faint y mae’n ei gostio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth mae yswiriant deintyddol yn ei gynnig?
- Pryd bydd angen yswiriant deintyddol arnaf?
- Beth sydd angen i chi ei wybod am yswiriant deintyddol
- Faint mae yswiriant deintyddol yn ei gostio?
- Beth sydd angen i chi ei wybod am gynlluniau talu deintydd
- Faint mae cynllun talu deintydd yn ei gostio?
- Sut i gael yswiriant deintyddol
Beth mae yswiriant deintyddol yn ei gynnig?
Os ydych chi’n gallu cofrestru gyda deintydd ar y GIG, gallwch gael mynediad at rywfaint o driniaethau ddeintyddol am bris gostyngedig, neu hyd yn oed am ddim Os na allwch chi gofrestru gyda deintydd ar y GIG a bod angen triniaeth ddeintyddol arnoch, bydd fel arfer angen i chi dalu’n breifat – sy’n aml yn ddrud.
Mae yswiriant deintyddol yn un ffordd o rannu’r gost i’w wneud yn fwy fforddiadwy.
Mae yna dwy ffordd o wneud hyn:
- polisïau yswiriant deintyddol - ble rydych yn talu’r deintydd am y driniaeth rydych yn ei gael ac yna’n hawlio’r gost yn ôl gan yr yswiriwr.
- taliad deintyddol neu gynlluniau ‘capitation’ – ble rydych yn rhannu cost y driniaeth dros gyfnod amser penodol, yn talu swm misol rheolaidd fel arfer.
Rydym yn cynnig mwy o wybodaeth am y ddau ddewis yma isod.
Pryd bydd angen yswiriant deintyddol arnaf?
Os yw eich dannedd chi’n iach a’ch bod ond wir yn ymweld â’r deintydd ar gyfer gwiriadau blynyddol, gallech chi fod yn talu am yswiriant nad ydych yn ei ddefnyddio’n aml.
Fodd bynnag, efallai hoffech wneud hynny o bosibl - efallai oherwydd bod yr opsiwn o ofal brys yn rhoi tawelwch meddwl i chi.
Ond os nad yw eich iechyd deintyddol yn wych a bod angen triniaeth reolaidd arnoch, gallai yswiriant fod yn ffordd gost-effeithiol i dalu amdano.
Yn yr un modd, os na allwch ddod o hyd i ddeintydd GIG, neu os ydych am ddefnyddio deintydd preifat yn unig, mae'n gwneud synnwyr ariannol da i gael yswiriant deintyddol.
Byddwch yn ymwybodol, er bod triniaeth y GIG wedi'i chapio ac yn nodweddiadol yn rhatach na mynd yn breifat, fel rheol mae'n rhaid i chi dalu amdani o hyd.
Efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach nag y byddech chi am driniaeth breifat.
Mae costau’r GIG yn amrywio ledled y DU:
- Darganfyddwch am gostau a thriniaeth ddeintyddol am ddim yng Nghymru ar wefan 111 y GIG Cymru
- Darganfyddwch a oes hawl gennych i ofal deintyddol am ddim yn Lloegr ar wefan y GIG
- Darganfyddwch beth allech ei dalu am driniaeth ddeintyddol yn yr Alban ar wefan Llywodraeth yr Alban
- Darganfyddwch am gostau triniaeth ddeintyddol yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Business Services Organisation
Dod o hyd i ddeintydd y GIG:
- Darganfod deintydd y GIG yng Nghymru ar wefan 111 y GIG Cymru
- Darganfod deintydd y GIG yn Lloegr ar wefan y GIG
- Darganfod deintydd yn yr Alban ar wefan Llywodraeth yr Alban
- Darganfod deintydd y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Business Services Organisation
Beth sydd angen i chi ei wybod am yswiriant deintyddol
- Mae polisïau yswiriant deintyddol yn yswirio archwiliadau cyffredin, yn ogystal â chostau pob gwaith deintyddol. Mae hyn yn cynnwys damweiniau ac argyfyngau deintyddol.
- Yn aml, gallwch gael y gwaith wedi’i wneud mewn clinig y GIG neu glinig preifat.
- Os ydych yn defnyddio deintydd y GIG, rydych yn fwy tebygol o gael 100% o gost eich triniaeth yn ôl.
- Os na allwch weld deintydd y GIG, dim ond canran o gostau eich triniaeth y byddwch yn cael yn ôl.
- Byddwch chi fel arfer yn talu’r deintydd yn gyntaf, yna’n hawlo’ch arian yn ôl. Os brynoch chi’r yswiriant gan eich deintydd, efallai eu bod yn ei hawlio’n uniongyrchol fel na fydd angen i chi dalu o flaen llaw. Gallwch fel arfer ond dechrau hawlio rhwng un a thri mis ar ôl i chi brynu’r yswiriant.
- Gallai fod tâl dros ben gennych i’w dalu o hyd ar gyfer triniaethau drud, gwiriwch eich polisi.
- Fel arfer, mae yna derfynau blynyddol am faint y gallwch ei hawlio am driniaethau penodol.
- Os nad ydych wedi bod at y deintydd yn y 12 mis diwethaf, efallai na fydd eich polisi’n talu am driniaeth a nodir yn eich archwiliad cyntaf.
- Ar y cyfan, nid yw gwaith deintyddol cosmetig, fel gwynnu dannedd, yn cael ei gynnwys..
- Mae gan y rhan fwyaf o bolisïau ystod oedran sy’n dechrau o 18 oed - er bod rhai’n dechrau yn 6 oed.
- Mae rhai polisïau yn cynnig disgownt os na wnewch gais ar yr yswiriant. Felly bydd cost eich premiwm yn cynyddu os byddwch yn gwneud cais am unrhyw beth oni bai am archwiliad safonol.
Faint mae yswiriant deintyddol yn ei gostio?
Gall yswiriant deintyddol gostio rhwng £70 a £300 y flwyddyn, gyda’r swm yn amrywio rhwng yswirwyr a pholisïau gwahanol.
Mae llawer yn cynnig lefelau gwahanol o yswiriant - o ofal rheolaidd sylfaenol hyd at gynlluniau triniaeth helaeth. Felly gallwch ddewis faint rydych am ei wario a’r math o yswiriant sydd ei angen arnoch.
Er enghraifft, gallai polisi rhatach dalu allan 50% o’r driniaeth a gewch a/neu fod â therfyn buddion is i bob cyflwr y flwyddyn. Er enghraifft hyd at £500 am waith sianel y gwreiddyn mewn un flwyddyn
Hyd yn oed os oes gennych yswiriant bydd yn rhaid i chi dalu am ran o’r driniaeth, ac mae terfyn ar faint o arian y cewch ei hawlio’n ôl ar gyfer pob cynllun triniaeth. Er enghraifft, efallai y telir i chi ganran - o 50 i 70% - o’r ffi a godir gan eich deintydd am driniaeth ddeintyddol gywirol. Er bod rhai polisïau’n ad-dalu 100% o’r ffi am driniaeth y GIG.
Beth sydd angen i chi ei wybod am gynlluniau talu deintydd
Mae’r cynlluniau hyn yn lledaenu cost eich gofal deintyddol dros flwyddyn, gelwir nhw weithiau’n cynlluniau ‘capitation’.
Gallwch gofrestru am driniaeth ar wahanol lefelau. Er enghraifft:
- Mae lefel un yn cynnwys gofal cyffredin fel archwiliadau, digennu a llathru, pelydrau X a llenwadau.
- Bydd lefel dau hefyd yn cynnwys triniaeth adfer – fel coronau a llenwadau sianel y gwreiddyn.
Ceir hefyd gynlluniau hyblyg yn arbennig i blant a chynlluniau sy’n cynnwys yswiriant am anafiadau deintyddol ac argyfyngau deintyddol dros y byd i gyd.
Mae'r cyfartaledd cost misol yr un faint â'r polisïau yswiriant deintyddol drytach. Os yw'ch dannedd mewn cyflwr da, mae'n debyg eich bod yn well eich byd ar y GIG.
Gyda chynllun deintydd, rydych ynghlwm i ddeintydd penodol. Ni fydd cyfeirio at arbenigwr , fel orthodeintydd, yn cael ei gynnwys.
Os ydych yn newid deintydd – pan rydych yn symud i ardal newydd, er enghraifft – efallai byddwch angen dechrau’r broses eto. Mae hyn yn golygu efallai bydd y swm rydych yn ei dalu yn cynyddu.
Faint mae cynllun talu deintydd yn ei gostio?
Mae hynny’n dibynnu ar y cynllun a ddewiswch ac ar iechyd eich ceg.
Mae’ch deintydd yn archwilio’ch dannedd ac yn gosod eich ffi fisol yn briodol.
Os byddwch yn dewis cynllun cynhwysfawr, bydd eich deintydd yn eich archwilio. Yn dibynnu ar yr amser, y gofal a’r driniaeth y bydd eu hangen arnoch dros y flwyddyn – bydd yn eich rhoi mewn band gyda ffi osodedig.
Gallech symud i fyny neu i lawr rhwng bandiau ffi os bydd iechyd eich ceg yn gwella neu’n gwaethygu. Efallai y byddwch hefyd yn gorfod talu ffi ymuno.
Am eich bod yn talu’r deintydd yn uniongyrchol, cofiwch y gallai prisiau amrywio’n helaeth rhwng y deintyddion.
Sut i gael yswiriant deintyddol
Mae cwmnïau'n aml yn cynnig cynlluniau deintyddol fel rhan o'u pecynnau buddion gweithwyr, fel trwy eu hyswiriant meddygol preifat.
Mae rhai cyflogwyr yn sefydlu'r polisi i chi ac yn talu'r holl bremiymau fel rhan o'u pecyn, gan gynnig lefelau amrywiol o yswiriant.
Mae eraill yn cynnig gostyngiadau i weithwyr sy'n defnyddio deintydd sy'n dod o dan eu cynllun.
Os nad oes gennych fynediad at yswiriant meddygol preifat trwy gyflogwr, gallwch ei brynu gan:
- yswiriwr
- eich deintydd
- brocer
- cynghorydd ariannol
- banc
- cymdeithas adeiladu
- manwerthwr, fel archfarchnad.
Gallwch hefyd chwilio am yswiriant gan ddefnyddio gwefannau cymharu - lle cyfeirir ato'n aml fel yswiriant iechyd.
Darganfyddwch fwy:
- gweler ein canllaw Sut i brynu yswiriant gan ddefnyddio safleoedd cymharu
- gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
- am ddod o hyd i frocer yswiriant feddygol ar wefan amii