Os ydych chi'n gweithio ac yn mabwysiadu plentyn, fel arfer gallwch chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith â thâl pan fydd y plentyn yn ymuno â'ch teulu am y tro cyntaf. Gelwir hyn yn Absenoldeb a Thâl Mabwysiadu Statudol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw Absenoldeb Mabwysiadu Statudol?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae gan rai cyflogwyr gynlluniau absenoldeb mabwysiadu mwy hael na’r un statudol. Gwiriwch eich contract cyflogaeth neu lawlyfr staff am fanylion, neu gofynnwch i’ch cyflogwr.
Os ydych chi'n mabwysiadu neu'n cael plentyn trwy fenthyg croth, efallai y bydd gennych chi hawl i 52 wythnos o absenoldeb o'r gwaith os ydych chi'n weithiwr.
Darganfyddwch beth yw eich statws cyflogaeth cyfreithiol, fel eich bod yn gwybod yr hawliau sydd gennych chi.
Os yw'ch partner yn mabwysiadu plentyn, efallai y byddwch chi'n gallu cymryd absenoldeb tadolaeth.
Os ydych chi'n mabwysiadu'r plentyn gyda'ch gilydd, dim ond un ohonoch chi all gymryd absenoldeb mabwysiadu - efallai y bydd y llall yn gallu cymryd absenoldeb tadolaeth.
I fod yn gymwys ar gyfer absenoldeb tadolaeth mabwysiadu, rhaid i chi:
- fod yr ail riant mabwysiadol (mewn cwpl) neu'n bartner i'r mabwysiadwr
- bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn i chi gael gwybod am y paru
- bod yn gyfrifol am fagu'r plentyn.
Rydych yn cael eich ystyried fel partner os ydych chi'n byw gyda'r mabwysiadwr mewn perthynas (nid fel perthynas agos).
Darganfyddwch fwy am absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir yn ein canllaw Absenoldeb a thâl tadolaeth
Dweud wrth eich cyflogwr am absenoldeb mabwysiadu
Dywedwch wrth eich cyflogwr o fewn saith diwrnod i gael eich paru â phlentyn (neu cyn gynted ag y gallwch).
Mewn mamolaeth benthyg croth, rhaid i chi roi rhybudd o fewn 15 wythnos cyn y disgwylir i'r babi gael ei eni.
Rhowch wybod iddynt:
- pryd y disgwylir i'r plentyn gyrraedd
- pryd yr hoffech i'ch absenoldeb mabwysiadu ddechrau (gall hyn fod hyd at 14 diwrnod cyn y lleoliad, neu'r diwrnod y mae'r plentyn yn cyrraedd).
Mewn mamolaeth benthyg croth, mae'r absenoldeb yn dechrau'r diwrnod y caiff y babi ei eni.
Hefyd, dywedwch wrthynt ddyddiad geni'r babi cyn gynted ag y gallwch.
Mae'n well rhoi rhybudd am absenoldeb a thâl mabwysiadu ar yr un pryd.
Os ydych chi eisiau dychwelyd yn gynnar (cyn y 52 wythnos lawn), rhaid i chi roi wyth wythnos o rybudd.
Diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad (KIT)
Gallwch weithio hyd at 10 diwrnod yn ystod absenoldeb mabwysiadu heb golli cyflog na dod â'r absenoldeb i ben.
Mae diwrnodau KIT yn ddewisol a rhaid cytuno arnynt gyda'ch cyflogwr.
Ni ellir eich gorfodi i weithio na mynnu gwaith.
Cewch weithio i gyflogwr arall neu fod yn hunangyflogedig os oeddech eisoes yn gwneud hyn cyn paru.
Diogelwch rhag diswyddo
Os ydych yn gyflogai ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, mae gennych hawl i 18 mis o ddioglewch rhag diswyddo. Rydych wedi'ch diogelu o ddyddiad disgwyliedig eich geni neu ddyddiad mabwysiadu.
Os ydych yn cymryd chwe wythnos o absenoldeb rhiant parhaus a rennir, rydych hefyd wedi’ch diogelu am 18 mis rhag diswyddo. Darganfyddwch fwy am reoli gwahaniaethuYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan ACAS.
Os na fydd y mabwysiadu'n mynd rhagddo
Os na chaiff y plentyn ei leoli, os yw'n dychwelyd i'r asiantaeth, neu os bydd yn marw, bydd eich absenoldeb a'ch tâl yn dod i ben wyth wythnos yn ddiweddarach (neu'n gynharach os bydd eich cyfnod absenoldeb/tâl yn dod i ben yn gynt).
Rhowch wybod i'ch cyflogwr eich bod yn dychwelyd i'r gwaith cyn gynted ag y bydd y lleoliad yn cael ei amharu.
Os na chaiff y plentyn ei leoli ac nad ydych wedi dechrau'r absenoldeb, ni allwch gymryd absenoldeb na thâl mabwysiadu.
Am fwy o fanylion, gweler Working Families Yn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw Tâl Mabwysiadu Statudol?
Tâl Mabwysiadu Statudol yw’r lleiafswm cyfreithiol mae rhaid i’ch cyflogwr eich talu tra’ch bod ar absenoldeb mabwysiadu.
Mae’r tabl hwn yn dangos faint fyddwch yn ei gael ar bob cam o’ch absenoldeb mabwysiadu ym mlwyddyn dreth 2025-26
| Absenoldeb Mabwysiadu Statudol | Tâl Mabwysiadu Statudol |
|---|---|
|
Chwe wythnos cyntaf |
90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog cyn treth |
|
Y 33 wythnos nesaf |
£187.18 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (p’un bynnag yw’r lleiaf) |
|
Y 13eg wythnos nesaf |
Di-dâl |
A ydych yn gymwys?
I gael Tâl Mabwysiadu Statudol mae rhaid i chi:
- ennill o leiaf £125 yr wythnos cyn treth ar gyfartaledd
- fod wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos cyn cael eich paru â phlentyn (neu’r 15fed wythnos cyn y dyddiad geni disgwyliedig os ydych yn defnyddio benthyg croth)
- rhoi o leiaf 28 niwrnod o rybudd i’ch cyflogwr eich bod eisiau stopio gweithio a rhoi gwybod iddynt pryd fyddwch eisiau i’ch tâl mabwysiadu gychwyn (o leiaf 15 wythnos o rybudd os ydych yn defnyddio benthyg croth)
- roi prawf i’ch cyflogwr o’r mabwysiadu (er enghraifft, y dystysgrif paru).
I gyfrifo pryd dylech hawlio eich absenoldeb, defnyddiwch gynlluniwr absenoldeb mabwysiadu ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Dysgwch sut i hawlio tâl ac absenoldeb mabwysiadu ar GOV.UK
Tâl os ydych yn mabwysiadu plentyn o dramor
Mae’r gofynion yr un peth os ydych yn mabwysiadu o dramor, heblaw am fod rhaid eich bod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr am o leiaf 26 wythnos pan fyddwch yn dechrau cael tâl mabwysiadu.
Mae rhaid i chi hefyd lofnodi ffurflen SC6 os ydych yn mabwysiadu o dramor gyda phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad ydych yn cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.
Os ydych yn mabwysiadu plentyn o dramor defnyddiwch ffurflen SC6 ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Tâl os ydych mewn trefniant benthyg croth
Mae’r gofynion yr un peth os ydych yn mewn trefniant benthyg croth, heblaw am fod rhaid eich bod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn mae disgwyl i’r babi gael ei eni.
Rhaid i chi hefyd:
- Os ydych yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhieni – darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- disgwyl i’r gorchymyn gael ei ganiatáu (er enghraifft oherwydd nad oes gennych unrhyw euogfarnau yn ymwneud â phlant, ac mae’r fam neu’r tad biolegol yn cytuno i’r trefniant).
Os ydych yn perthyn yn enetig i’r plentyn (y rhoddwr wy neu sberm), gallwch ddewis cael absenoldeb a thâl tadolaeth yn lle. Ni allwch gael y ddau.
Darganfyddwch fwy am dâl ac absenoldeb tadolaeth ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Rydych yn maethu i fabwysiadu
Os ydych yn gymwys i gael tâl ac absenoldeb mabwysiadu, byddwch yn eu cael pan ddaw’r plentyn i fyw gyda chi.
Eithriadau
Nid ydych yn gymwys i gael Absenoldeb neu Dâl Mabwysiadu Statudol os ydych yn:
- trefnu mabwysiad preifat
- dod yn warcheidwad arbennig neu’n ofalwr sy’n berthynas
- mabwysiadu llys-blentyn
- mabwysiadu aelod o’r teulu.
Os nad ydych yn gymwys am Dâl Mabwysiadu Statudol
Mae rhaid i’ch cyflogwr roi ffurflen SAP1 i chi i egluro pam na allwch gael Tâl Mabwysiadu Statudol.
Efallai y gallwch gael cymorth gan eich cyngor lleol ar GOV.UK i ddarganfod am gefnogaeth ariannol allai fod ar gael i fabwysiadwyr.
Darganfyddwch eich cyngor lleol:
- yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon, yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
- Mae'n syniad da gynilo rhywfaint o arian i helpu i dalu eich treuliau tra byddwch chi i ffwrdd o'r gwaith yn gofalu am eich babi newydd. Efallai yr hoffech chi hefyd feddwl am ddefnyddio'ch gwyliau blynyddol yn lle.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyllidebu pan fyddwch chi'n feichiog.
Os credwch fod eich cyflogwr yn bod yn annheg
Beth os nad yw’ch cyflogwr yn meddwl bod angen iddynt roi tâl mabwysiadu i chi, neu eich bod yn teimlo nad ydynt yn talu’r swm iawn i chi?
- Darganfyddwch os yw’r hyn sy’n digwydd yn wahaniaethu, ewch i Gyngor Ar Bopeth.Yn agor mewn ffenestr newydd
- Efallai y byddwch yn gallu datrys y mater yn anffurfiol. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, gall Acas helpuYn agor mewn ffenestr newydd, neu geisiwch siarad â’ch cynrychiolwr undeb llafur neu gyflogwr os oes gennych un.
- Darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor Ar Bopeth, os na allwch ddatrys y mater, gallwch wneud cwyn ysgrifenedigYn agor mewn ffenestr newydd