Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae yswiriant bywyd dros 50 oed yn gweithio. Mae'n dangos pam y gallai'r polisïau hyn fod yn werth gwael am arian ac yn awgrymu ffyrdd eraill o adael arian i anwyliaid pan fyddwch chi'n marw.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw yswiriant bywyd dros 50 oed?
- Sut mae yswiriant dros 50 oed yn gweithio?
- Manteision ac anfanteision yswiriant bywyd dros 50 oed
- Pan allai yswiriant bywyd dros 50 oed weithio
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng yswiriantbywyd i bobl dros 50 oed ac yswiriant bywyd rheolaidd?
- Ffyrdd eraill o dalu am angladd
- Sut mae prynu yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed?
- Sut i wneud cwyn am eich yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed
Beth yw yswiriant bywyd dros 50 oed?
Mae cynllun yswiriant bywyd dros 50 oed yn fath o bolisi fel arfer i bobl rhwng 50 ac 85 oed.
Rydych chi'n talu taliad misol sefydlog – a elwir yn 'premiwm' – ac mae'r polisi yn gwarantu talu cyfandaliad arian parod - a elwir yn 'taliad' neu 'swm gwarantedig' - i'ch buddiolwyr (y bobl rydych chi'n dewis i dderbyn yr arian) pan fyddwch yn marw.
Mae'r arian sy'n cael ei adael i'ch buddiolwyr yn aml yn cael ei ddefnyddio i helpu i gyfrannu at gostau angladd, ond gellant ei wario fel y dymunant.
Sut mae yswiriant dros 50 oed yn gweithio?
- Rhaid i chi fod dros 50 oed. Cofiwch, po hynaf ydych, po fwyaf bydd eich premiwm misol am yr un daliad.
- Derbynioldeb gwarantedig. Nid oes angen i chi ateb cwestiynau iechyd neu gael prawf meddygol er mwyn cael eich derbyn am yswiriant.
- Rydych yn talu premiwm misol sefydlog am weddill eich bywyd neu’r oedran sydd wedi’i nodi yng nghytundeb y polisi. Mae hwn yn meddwl na all eich cwmni yswiriant codi eich premiwm felly ni fydd y swm rydych yn talu pob mis yn newid.
- Rydych chi'n cael gwarant o daliad sefydlog pan fyddwch chi'n marw. Os ydych chi'n cymryd cynllun, gallwch ddewis pa daliad yr hoffech chi, sy'n golygu eich bod chi'n gwybod yn union faint fydd y taliad. Unwaith y bydd hawliad cymwys yn cael ei wneud ar ôl i chi farw, mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant yn talu'r arian yn gyflym – mae tua hanner ohonynt yn talu o fewn 20 diwrnod ar gyfartaledd.
Manteision ac anfanteision yswiriant bywyd dros 50 oed
Manteision
-
Rydych chi'n sicr o gael eich derbyn heb unrhyw gwestiynau meddygol yn cael eu gofyn.
-
Mae eich taliadau misol yn aros yr un fath a byth yn mynd i fyny.
-
Mae gennych yswiriant llawn ar ôl blwyddyn.
-
Mae'r rhan fwyaf o hawliadau yn cael eu talu o fewn un diwrnod.
Anfanteision
-
Efallai y byddwch chi'n talu mwy o arian dros amser nag y bydd eich teulu yn ei gael yn ôl.
-
Mae'r swm talu yn aros yr un fath ac ni fydd yn cadw i fyny â phrisiau cynyddol.
-
Dim ond os yw rhywun yn gwneud hawliad ar ôl i chi farw y byddwch chi'n cael arian yn ôl.
Darganfyddwch fwy ar MoneySavingExpert am risgiau cynlluniau i bobl dros 50 oedYn agor mewn ffenestr newydd
Pan allai yswiriant bywyd dros 50 oed weithio
Efallai y bydd cynlluniau yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed yn addas i chi os ydych mewn iechyd gwael ac nad ydych chi'n disgwyl byw'n hir, gan nad oes angen gwiriad meddygol.
Os oes eisoes gennych gynllun yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed ac wedi talu i mewn am gyfnod, efallai y bydd yn gwneud synnwyr i barhau i dalu. Ond meddyliwch am ba mor hir y byddwch chi'n talu o'i gymharu â'r hyn y bydd eich buddiolwyr yn ei gael mewn gwirionedd.
Hyd yn oed wedyn, mae'n werth cymharu ag yswiriant bywyd rheolaidd yn gyntaf.
Ystyriaethau treth
Nid yw taliadau yswiriant bywyd yn cael eu trethu ond gellir eu hychwanegu at werth eich ystâd ac maent yn destun i Dreth Etifeddiant.
Gallwch ystyried rhoi eich polisi mewn ymddiriedolaeth i helpu i leihau hyn, ond mae manteision ac anfanteision i wneud hyn. Mae llawer o yswirwyr bywyd yn cynnig yr opsiwn yma pan fyddwch chi'n prynu yswiriant.
Am arweiniad manwl ar Dreth Etifeddiant gan gynnwys ymddiriedolaethau, darllenwch ein canllawiau:
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng yswiriantbywyd i bobl dros 50 oed ac yswiriant bywyd rheolaidd?
Cymharwch yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed gydag yswiriant bywyd rheolaidd i weld pa un sy'n gweithio orau i chi.
| Yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed | Yswiriant bywyd rheolaidd |
|---|---|
|
I wneud cais, rhaid i chi fod rhwng 50-85 oed, yn dibynnu ar y polisi. |
Bydd angen i chi fod yn 18 oed i gymryd polisi yswiriant bywyd. Mae'r terfynau oedran uchaf a osodir gan ddarparwyr yswiriant bywyd yn amrywio. |
|
Ni fyddwch yn cael eich gwrthod pan fyddwch yn gwneud cais, waeth be fo'ch iechyd. |
Mae eich cymhwysedd, cost premiymau a thaliad arian parod yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol, er enghraifft, eich ffordd o fyw, cyflwr meddygol a hanes teuluol. Fodd bynnag, derbynnir llawer o gyflyrau iechyd a hyd yn oed os oes gennych gyflwr presennol gall polisi yswiriant bywyd rheolaidd fod yn rhatach. |
|
Dim ond un polisi y gallwch ei gymryd allan. |
Gallwch ddewis polisi ar y cyd neu un unigol. |
|
Nid yw yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed fel arfer yn cael ei ystyried yn werth da am arian oherwydd os ydych chi'n cymryd polisi yn eich 50au ac yn byw oedran cyfartalog o 80 neu'n hŷn, byddwch chi'n talu llawer mwy nag y byddwch chi'n ei gael allan. |
Mae'r taliad cyfandaliad yn dibynnu ar lefel yr yswiriant rydych chi'n ei brynu. |
|
Os ydych chi'n cadw i fyny â'r premiymau misol, mae'n gwarantu talu cyfandaliad sefydlog pan fyddwch chi'n marw. |
Mae gwahanol fathau o yswiriant bywyd i weddu'ch anghenion a'ch cyllideb. Cyn i chi benderfynu pa un sy'n iawn i chi, darllenwch ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd? i ddeall yr opsiynau sydd ar gael a sut maen nhw'n gweithio. |
Ffyrdd eraill o dalu am angladd
Gall yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed fod yn ffordd ddrud o gynllunio ar gyfer eich angladd a darparu diogelwch. Efallai y bydd eich anwyliaid yn dal i wynebu costau annisgwyl pan fyddwch chi'n marw.
Mae yna bethau ymarferol eraill y gallwch eu gwneud i helpu'ch teulu ar ôl i chi farw, fel ysgrifennu ewyllys a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cael mynediad i'ch cyfrifon ar-lein. Gweler ein canllaw Rhoi trefn ar eich materion ariannol.
Cynilo’n rheolaidd yn lle
Rhowch arian mewn cyfrif cynilo bob mis.
Os gallwch osgoi ei gyffwrdd, byddwch chi'n cynilo mwy o arian nag y mae'r rhan fwyaf o gynlluniau i bobl dros 50 oed yn ei ddarparu.
Darganfyddwch pam ei bod yn syniad da cynilo'n rheolaidd a'r opsiynau cynilo sydd ar gael i chi yn ein canllaw Dod i’r arfer o gynilo
Defnyddio arian presennol
Mae'r rhan fwyaf o fanciau yn rhyddhau arian ar gyfer costau angladd cyn i brofiant gael ei ganiatáu.
Os oes gennych gyfrif ar y cyd, mae deiliad y cyfrif ar y cyd yn cadw mynediad i'r cyfrif ar ôl i chi farw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i dalu am angladd
Gwirio buddion gwaith
Mae llawer o gyflogwyr yn darparu buddion marwolaeth mewn gwasanaeth (yn aml 3-4 gwaith eich cyflog).
Mae undebau llafur a chyrff proffesiynol weithiau'n cynnig buddion marwolaeth hefyd.
Gwiriwch a fyddai’ch anwylyd yn gymwys igael budd-daliadau profedigaeth pan fyddwch chi'n marw
Efallai y bydd eich priod, partner sifil neu bartner yn gymwys i gael Taliad Cymorth Profedigaeth os byddech yn marw cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Talir hyn fel cyfandaliad o £2,500 ynghyd â 18 taliad misol o £100.
Os oes gennych blant dibynnol ac yn hawlio Budd-dal Plant ar eu cyfer, gellid talu cyfandaliad o £3,500 a 18 taliad misol o £350.
Efallai y bydd eich teulu hefyd yn gymwys i gael Budd-daliadau eraill os byddant ar incwm isel. Defnyddiwch ein cyfrifiannell budd-daliadau i weld pa gefnogaeth y gallent ei dderbyn.
Am fanylion am gymorth arall y gallent fod yn gymwys amdano, gweler ein canllaw Hawlio Taliad Cymorth Profedigaeth a budd-daliadau eraill
Sut mae prynu yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed?
Cofiwch siopa o gwmpas a chymharu dyfynbrisiau gan wahanol gwmnïau. Gallwch wirio a yw'r cwmni wedi'i awdurdodiYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan yr FCA.
Gallwch gael dyfynbrisiau gan:
- broceriaid arbenigol – gweler ein canllaw Pryd i ddefnyddio brocer yswiriant
- gwefannau cymharu – gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i'r cynnig gorau ar eich yswiriant gan ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau.
Cofiwch
Cadwch eich gwaith papur yn ddiogel a dywedwch wrth eich perthynas agosaf am eich polisi.
Cyn i chi ystyried prynu polisi, mae'n bwysig gwirio a chymharu telerau ac amodau. Er enghraifft, gwiriwch pa mor hir yw'r cyfnod aros cyn y byddant yn talu allan ac a yw'r polisi yn cwmpasu marwolaeth oherwydd camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.
Sut i wneud cwyn am eich yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed
Os oes gennych broblem gyda'ch yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed, efallai y bydd angen i chi gwyno os:
- Rhoddwyd cyngor gwael i chi am gymryd y cynllun
- Ni ddywedwyd wrthych am y risgiau neu'r anfanteision
- Ni fydd eich cwmni yswiriant yn talu allan pan ddylen nhw
- Rydych chi wedi cael gwasanaeth cwsmer gwael.
Cofiwch
Mae gennych 14 diwrnod i ganslo'ch cynllun ar ôl ei dynnu allan os byddwch chi'n newid eich meddwl. Gelwir hyn yn gyfnod callio.
Gwnewch gŵyn i'ch cwmni yswiriant yn gyntaf.
Os nad ydyn nhw'n datrys y broblem neu os nad ydych yn fodlon ar ôl wyth wythnos, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol am ddim.
Gall yr ombwdsmon edrych ar faterion fel:
- problemau gyda'ch polisi neu daliadau
- gwasanaeth cwsmer gwael
- gwybodaeth gamarweiniol pan wnaethoch chi brynu'r cynllun
- triniaeth annheg wrth wneud hawliad.
Fel arfer, mae gennych 6 mis o'r pryd y mae'r cwmni yswiriant yn rhoi eu hymateb terfynol i gysylltu â'r ombwdsmon.