Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Marwolaeth a phrofedigaeth
Teulu a gofal Marwolaeth a phrofedigaeth

Gwneud ewyllus a chynllunio beth i’w adael 

Wrth wneud eich ewyllys, ystyriwch faint sydd gennych i’w adael a phwy fydd yn cael beth. Bydd y canllaw hwn o gymorth i chi roi trefn ar y pethau sylfaenol, er mwyn i chi allu cychwyn ysgrifennu’r ewyllys.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Llunio’ch ewyllys – cam wrth gam
  • Beth i’w wneud pan fyddwch chi’n barod i ysgrifennu eich ewyllys
  • Siarad â’ch teulu ynglŷn â’ch ewyllys
  • Yn ystod y sgwrs
  • Wedi hynny

Llunio’ch ewyllys – cam wrth gam

Cyn i chi allu ysgrifennu ewyllys rhaid i chi benderfynu pwy sydd am gael beth.

Gosodwch sylfaen eich cynllun ar gyfer eich arian a’ch eiddo – eich ystâd – yn gynnar iawn, cyn i chi ymweld â chyfreithiwr, defnyddiwch ysgrifennwr ewyllys neu drafodwch eich ewyllys gyda’ch teulu

Peidiwch â phoeni, mae’n haws nag y mae’n ymddangos – dilynwch y broses gam wrth gam hon.

Cam 1: Gwnewch restr o bwy yr hoffech i elwa o’ch ystâd

Dim ond ychydig o funudau a gymer fwy na thebyg i wneud y cam hwn – gallwch ei wneud nawr hyd yn oed.

Gallech gynnwys:

  • eich partner neu briod
  • plant ac aelodau eraill o’r teulu
  • ffrindiau
  • elusennau.

Eich buddiolwyr yw’r enw a roddir ar y bobl (neu’r elusennau hyn). 

Efallai y byddwch hefyd am ystyried a oes unrhyw un nad ydych am gael budd ohono. Ond os byddwch yn gadael rhywun allan, a'u bod yn disgwyl derbyn rhywbeth neu'n disgwyl mwy, efallai y byddant yn herio'r ewyllys ar ôl i chi farw.

Cam 2: Rhestrwch eich asedau a beth yw eu gwerth yn fras

Cychwynnwch gyda’r asedau sydd fwyaf hawdd i’w prisio:

  • cynilion
  • pethau gwerthfawr, megis gemwaith neu drysor teuluol.

Yna ewch ymlaen at y pethau sydd yn newid mewn gwerth. Bydd y rhain yn anoddach i’w prisio yn union.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • eiddo – eich tŷ, ac unrhyw eiddo fel buddsoddiad, tir, neu hyd yn oed le parcio sy’n perthyn i chi. Cofiwch ystyried gwerth unrhyw ddyledion a ddiogelwyd yn erbyn eich eiddo.
  • eich pensiwn.
  • eich busnes, os ydych yn berchen neu’n gydberchen arno.
  • buddsoddiadau yn y farchnad stoc – cyfranddaliadau, bondiau a chronfeydd.

Yn olaf, meddyliwch am unrhyw eitemau sentimental yr hoffech i berson neilltuol eu cael.

Bydd yr hawl i gynnwys eich pensiwn yn dibynnu ar reolau eich cynllun pensiwn. Gallwch gysylltu â nhw i gael rhagor o wybodaeth am enwebu buddiolwr. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth sy’n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw? Dylech hefyd wirio bod eich cynllun pensiwn yn gwybod i bwy rydych eisiau i'ch pensiwn fynd iddynt - peidiwch ond dibynnu ar hyn fod yn eich ewyllys.

Cam 3: Meddyliwch sut yr hoffech chi rannu eich arian a’ch eiddo wrth lunio’ch ewyllys

Yn fras mae pum math o etifeddiaeth gallech ei adael.

  • “Rwy’n gadael £2,000 i fy mab” – gelwir hyn yn ‘gymynrodd ariannol’. Mae’n golygu eich bod yn gadael swm penodol o arian.
  • “Rwy’n gadael fy ngemwaith i fy merch” – gelwir hyn yn ‘gymynrodd benodol’. Mae’n golygu eich bod yn gadael eitem benodol sydd yn perthyn i chi. Y ffordd i’w adnabod fydd gweld beth sydd yn cwrdd â’r disgrifiad hwnnw ar ddyddiad y farwolaeth. Os nad oes gemwaith ar yr adeg honno, yna bydd y rhodd yn methu.
  • “Rwy’n gadael hanner fy ystâd i fy mrawd” – gelwir hyn yn ‘gymynrodd weddilliol’. Mae’n golygu eich bod yn gadael canran o faint bynnag yw gwerth eich ystâd, yn dilyn talu unrhyw ddyledion, costau, rhwymedigaethau ac etifeddiaeth a threth.
  • "Rwy’n gadael fy nghyfran i o fy nhŷ i fy ngwraig os yw hi yn fy ngoroesi, ond os na fydd hi yn fy ngoroesi yna bydd yn cael ei drosglwyddo i fy merch” – dyma ‘gymynrodd refersiynol’ ar gyfer eich merch. Gallwch fanylu ar beth fydd yn digwydd os yw’r person sydd i gael rhywbeth gennych yn marw.
  • “Rwy’n gadael fy nghyfran i o fy nhŷ i fy ngwraig am weddill ei bywyd, ac yna bydd yn cael ei drosglwyddo i fy merch” – mae hyn yn creu ‘ymddiriedolaeth’ dros eich cyfran chi o’r tŷ. Mae ymddiriedolaeth yn eich caniatáu i ddweud pwy yr ydych chi’n ei ddewis i gael y budd o’ch eiddo yn union wedi i chi farw (e.e. eich gwraig), ac yna pwy yr ydych chi’n ei ddewis i gael y budd o’ch eiddo (e.e. eich merch) unwaith y mae’r person cyntaf a ddewisoch i gael budd yn union wedi i chi farw hefyd wedi marw. Gall y math hwn o rodd fynd o’i le yn hawdd, felly byddwch angen gael cyngor cyfreithiol os ydych chi’n dymuno cynnwys ‘ymddiriedolaeth’ yn eich ewyllys.

Os yw’ch materion yn eithaf syml (er enghraifft, rydych yn dymuno gadael popeth i’ch gŵr) mae’n debygol y defnyddiwch gymynrodd weddilliol syml yn unig.

Os yw pethau’n fwy cymhleth, mae’n debygol y defnyddiwch gyfuniad. Er enghraifft:

Mae Mike yn briod gydag un mab. Mae gan ei wraig fab hefyd, o briodas flaenorol. Mae e’n gadael:

  • ei gyfran ef o’i gartref i’w wraig am weddill ei bywyd
  • £1,000 yr un i’w wyrion
  • ei oriawr i fab ei wraig
  • unrhyw beth arall yn ei ystâd i elusen.

Mae June wedi ysgaru gyda thri o blant a phedwar o wyrion. Mae gan ei mab broblemau iechyd meddwl. Mae hi’n gadael:

  • £500 yr un i’w wyrion
  • hanner gweddill yr ystâd mewn ymddiriedolaeth i’w mab am weddill ei fywyd, i’w rannu rhwng ei merched hi wedi iddo ef farw, a
  • chwarter yr ystâd yr un i’w merched, ond os bydd naill un o’r merched yn marw o’i blaen hi, bydd plant y ferch honno yn derbyn cyfran chwarter y ferch a fu farw, o’r ystâd rhyngddynt.

Cam 4: Gwirio a fydd unrhyw Dreth Etifeddiaeth i’w thalu 

Fel arfer nid oes angen talu treth:

  • os yw gwerth eich ystâd yn llai na throthwy o £325,000, neu
  • os gadewch bopeth uwchlaw’r trothwy o £325,000 i’ch priod neu bartner sifil, neu
  • os gadewch bopeth uwchlaw’r trothwy o £325,000 i fuddiolwr eithriedig fel elusen.

Gellir trosglwyddo’r lwfans i briod neu bartner sifil os ni chaiff ei ddefnyddio yn sgil y farwolaeth gyntaf.

Mae yna hefyd drothwy atodol ar gyfer eich cartref.

Darganfyddwch fwy am pwy sy’n gorfod talu yn Canllaw i Dreth Etifeddiaeth yn y DU
 
Os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn atebol i dalu treth etifeddiaetht, darllenwch  ein canllaw Rhoddion ac eithriadau o Dreth Etifeddiaeth

Nid yw’r rheolau’n syml. Felly, mae’n debyg y byddwch yn dymuno cael cyngor proffesiynol i’ch cynorthwyo gyda hyn.

Meddyliwch am ddiogelu eich buddiolwyr 

Weithiau, efallai yr hoffech chi osod rhai mesurau diogelwch ar eich ewyllys – er enghraifft, os ydych chi'n gadael rhywbeth i blentyn neu rywun ag anableddau neu broblemau iechyd meddwl.

Mae llawer o bobl yn ymdrin â'r materion hyn drwy sefydlu ymddiriedolaethau: mae hyn yn golygu gall yr hyn rydych chi'n ei adael gael ei reoli gan bobl rydych chi'n ymddiried ynddynt i weithredu er budd gorau eich buddiolwr.

Naill ai am byth neu hyd at amser pan allant ofalu am eu hunain.

Cam 5: Ystyriwch pwy yr hoffech gael yn ysgutor eich ewyllys

Dyma’r person sy’n rhoi trefn ar eich ystâd pan fyddwch chi’n marw ac sy’n dilyn y cyfarwyddiadau yn eich ewyllys. Gallwch ddewis pwy bynnag yr hoffech wneud y swydd hon, ond mae ffactorau i'w hystyried i'ch helpu i wneud y dewis cywir.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ysgutor eich ewyllys.

Nol i’r brig

Beth i’w wneud pan fyddwch chi’n barod i ysgrifennu eich ewyllys

Unwaith y byddwch wedi gweithio drwy’r camau bydd gennych syniad eithaf clir ynglŷn â beth yr ydych yn dymuno ei adael yn eich ewyllys ac i bwy.

Efallai yr hoffech siarad â’ch teulu ynglŷn â’ch cynlluniau. 

Eich cam nesaf yw cael eich ewyllys wedi'i llunio, ei llofnodi a'i thystio'n gywir fel ei bod wedi’i rhwymo mewn cyfraith.

Os yw eich materion yn syml iawn (er enghraifft, rydych chi'n gadael popeth i'ch partner), mae'n debyg y gallwch chi ei wneud eich hun.

Ond os yw eich sefyllfa hyd yn oed ychydig yn fwy cymhleth, mae'n synhwyrol cael cyngor gan gyfreithiwr, neu gwmnïau sy'n cael eu rheoleiddio gan Yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, neu sy'n perthyn i gyrff masnach priodol.

Nol i’r brig

Siarad â’ch teulu ynglŷn â’ch ewyllys

Os ydych chi am osgoi dadleuon teuluol, nawr ac ar ôl i chi fynd, mae’n werth ystyried cael ‘y sgwrs’ gyda nhw am eich dymuniadau.

Dyma'ch cyfle i egluro'r hyn rydych chi'n ei wneud, a helpu'ch teulu i ddeall pam rydych chi'n meddwl mae peth gorau yw.

Nid oes unrhyw un yn mwynhau gorfod siarad am farwolaeth, ond dyma sut i wneud y sgwrs mor hawdd a di-wrthdaro â phosibl.

Penderfynwch ar eich dymuniadau

Ni ddylai ysgrifennu eich ewyllys ymwneud â phwy sy'n haeddu beth - dylai fod yn ymwneud â'r hyn rydych chi am i'ch arian ei gyflawni.

Dechreuwch trwy ysgrifennu rhestr o'ch prif flaenoriaethau.

Gall eich blaenoriaethau fod yn bethau fel:

  • sicrhau bod darpariaeth ar gyfer eich partner
  • gofalu am berthynas â salwch neu anabledd
  • sicrhau bod eich wyrion yn cael yr addysg orau
  • cefnogi elusen rydych sy’n bwysig i chi.

Pan fyddwch wedi penderfynu beth rydych eisiau i ddigwydd wedi eich marwolaeth, bydd hi'n llawer haws gweithio allan beth i'w adael ac i bwy.

Bydd hefyd yn eich helpu i egluro'ch meddwl i'ch teulu.

Ysgrifennwch ddrafft bras o’ch ewyllys

Bydd yn helpu i ganolbwyntio’r sgwrs os oes gennych ddrafft sylfaenol o’ch ewyllys, neu o leiaf rai nodiadau.

Trwy hynny, gallwch chi siarad am yr hyn rydych chi ei eisiau, yn hytrach na chael pawb arall yn dweud wrthych chi beth maen nhw ei eisiau.

Ni all neb ddweud wrthych beth i'w roi yn eich ewyllys, eich penderfyniad chi yw pwy ddylai dderbyn beth.

Ond byddwch yn barod i bobl wneud sylwadau neu awgrymiadau, naill ai ar eiddo nad oeddech wedi meddwl amdano, neu bobl y gallech fod am eu cynnwys neu eu heithrio. Gellir herio ewyllys, felly os ydych yn bwriadu gadael rhywun allan, neu beidio â gadael yr hyn y gallent ei ddisgwyl, mae angen i hyn fod yn glir yn yr ewyllys.

Trefnwch amser i siarad

Gall trefnu cyfarfod teulu arbennig i siarad am farwolaeth ymddangos yn afiach.

Os ydych chi'n meddwl y bydd yn gwneud pobl yn anghyfforddus, peidiwch â gwneud hynny.

Yn ei le, efallai ceisiwch neilltuo ychydig o amser yn ystod digwyddiad teuluol.

Gadewch i'ch teulu wybod ymlaen llaw yr hoffech drafod eich ewyllys bryd hynny – gallai fod yn bwnc anodd, ond drwy eu paratoi, mae’n rhoi cyfle iddynt feddwl am bethau ymlaen llaw.

Nol i’r brig

Yn ystod y sgwrs

Esboniwch beth rydych chi am ei gyflawni

Dyma'r amser i gychwyn pethau ar sail gadarn.

Esboniwch fod yna resymau dros y cymynroddion rydych chi'n bwriadu eu gadael. Mae hyn yn helpu'ch teulu i ddeall eich safbwynt, ac yn rhoi syniad i bobl o'r hyn i'w ddisgwyl cyn i chi fynd i fanylion.

Os ydych yn canolbwyntio ar yr hyn rydych chi am i'ch etifeddiaeth ei gyflawni, yn hytrach na'r punnoedd a'r ceiniogau yn unig, gallwch osgoi llawer o wrthdaro.

Esboniwch fanylion eich cynllun

Peidiwch ag anghofio gysylltu'r manylion hyn â'ch nodau.

Rhowch gynnig ar ymadroddion fel: “Rydyn ni'n cytuno y bydd angen cefnogaeth ar John yn y dyfodol, felly dwi'n bwriadu gadael hanner fy ystâd iddo.

Gofynnwch am awgrymiadau a barn

Efallai y gwelwch fod gan rai o'ch teulu ddisgwyliadau penodol ynglŷn â'ch ewyllys - anogwch nhw i fod yn agored ynglŷn â hyn er mwyn i chi ddeall.

Eich penderfyniad chi ydyw yn y diwedd, ond efallai y bydd gan eraill rai syniadau da ynglŷn â sut i edrych ar ôl teulu a ffrindiau nad ydych chi wedi meddwl amdanyn nhw.

Efallai eu bod hefyd yn poeni llawer am wrthrych sentimental penodol.

Pwysleisiwch ei fod ‘am nawr’

Efallai y bydd llawer o bethau'n digwydd rhwng eich sgwrs a diwedd eich bywyd.

Efallai y bydd babanod newydd yn cyrraedd neu efallai y byddwch chi'n colli rhywun yn eich teulu.

Gallwch newid eich ewyllys pan fydd y pethau hyn yn digwydd. Sicrhewch eich teulu eich bod yn barod i adolygu ac ailasesu wrth i bethau newid.

Cofiwch fod mor ystyriol ag y gallwch

Nid yw pob perthynas deuluol yn gadarnhaol a gall trafod ewyllysiau ac etifeddiaethau ddod â hyn allan i'r awyr agored neu gynyddu tensiwn.

Gwnewch yn glir nad yw hyn yn ymwneud â beirniadu pobl - mae'n ymwneud â'r hyn rydych chi am ddigwydd i'ch asedau pan fyddwch chi wedi mynd.

Wrth gwrs, gallai rhai o'ch penderfyniadau fod yn seiliedig ar bwy rydych chi'n eu hoffi a ddim yn eu hoffi - ond ni fydd egluro hynny yn gwneud unrhyw ffafrau â chi.

Yn lle hynny, ceisiwch egluro y byddai'r arian yn gwneud yn well mewn mannau eraill.

Unwaith eto, bydd hyn yn haws o lawer os ydych chi'n glir ynghylch eich dymuniadau.

Nol i’r brig

Wedi hynny

Adolygwch eich cynllun

Gallwch chi adolygu'ch cynllun ar ôl i chi gael y sgwrs - efallai ei fod wedi atgyfnerthu'r hyn rydych chi am ei wneud neu efallai ei fod wedi rhoi rhai syniadau  i chi am y newidiadau rydych chi am eu gwneud. 

Ysgrifennwch neu diweddarwch eich ewyllys

Ar ôl trafod pethau a chymryd ystyriaeth o syniadau eich teulu, rydych yn barod i fynd i'r cam nesaf - ac ystyried opsiynau ysgrifennu'ch ewyllys am y tro cyntaf neu ddiweddaru ewyllys sy'n bodoli eisoes.

Edrychwch ar ein canllaw Newid eich ewyllys
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Marwolaeth a phrofedigaeth

Rhoi eich materion mewn trefn

  • Dewis ysgutor eich ewyllys
  • Rhoi trefn ar eich materion ariannol
  • Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael
  • Yswiriant bywyd dros 50 oed
  • Rheolau a rheoleiddio os oes gennych gynllun angladd rhagdaledig – beth sydd angen i chi ei wybod
  • Cynllunio a thalu am eich angladd
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Rhoi eich materion mewn trefn

  • Dewis ysgutor eich ewyllys
  • Rhoi trefn ar eich materion ariannol
  • Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael
  • Yswiriant bywyd dros 50 oed
  • Rheolau a rheoleiddio os oes gennych gynllun angladd rhagdaledig – beth sydd angen i chi ei wybod
  • Cynllunio a thalu am eich angladd
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

WhatsApp

Nid yw WhatsApp ar gael ar hyn o bryd oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Cysylltwch â ni drwy gwe-sgwrs neu ffôn.

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012