Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Marwolaeth a phrofedigaeth
Teulu a gofal Marwolaeth a phrofedigaeth

Sut i gael trefn ar eich cyllid cyn i chi farw

Mae'r canllaw hwn yma i'ch helpu i gymryd rheolaeth o'ch cyllid a gwneud yn siŵr bod eich dymuniadau'n cael eu cyflawni. Gall cymryd y camau hyn ar eich cyflymder eich hun roi tawelwch meddwl i chi a'r bobl pwysig yn eich bywyd.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cam 1: Cael darlun clir o’ch cyllid
  • Cam 2: Ysgrifennu ewyllys a llythyr dymuniadau
  • Cam 3: Gwneud trefniadau ar gyfer dibynyddion
  • Cam 4: Deall y rheolau ar gyfer Treth Etifeddiant
  • Cam 5: Cynllunio ar gyfer costau angladd
  • Cam 6: Edrych ar yswiriant bywyd, yswiriant salwch critigol a diogelu incwm
  • Cam 7: Gwnewch yn siŵr bod eich cynilionpensiwn yn mynd i’r bobl rydych chi eu heisiau
  • Cam 8: Sefydlu atwrneiaeth parhaol
  • Cam 9: Cynllunio ar gyfer costau gofal, gan gynnwys gofal hosbis
  • Cam 10: Rhowch wybod i’ch banc a'chdarparwyr ariannol am eich cynlluniau                                             
  • Cam 11: Rheoli eich ôl troed digidol
  • Cam 12: Dywedwch wrth y bobl sydd angen gwybod
  • Cam 13: Cael cyngor proffesiynol

Cam 1: Cael darlun clir o’ch cyllid

Cyn cynllunio ymlaen llaw, mae'n helpu i ddeall ble rydych chi'n sefyll ar hyn o bryd.

  • Dechreuwch trwy adolygu eich cyllideb fel eich bod chi'n gwybod beth sy'n dod i mewn ac yn mynd allan bob mis.  
  • Defnyddiwch ein cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio eich bod yn derbyn popeth sydd gennych hawl iddo. Os oes gennych salwch terfynol, mae rheolau arbennig yn golygu y gellir cyflymu eich cais fel eich bod chi'n cael help yn gyflymach. 
  • Os oes gennych ddyledion, mae'n bwysig gwybod nad ydyn nhw'n diflannu pan fyddwch chi'n marw gan eu bod yn dod yn rhan o'ch ystâd. Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor cyfrinachol am ddim yn eich ardal chi. Darganfyddwch sut i flaenoriaethu pa ddyledion i'w talu yn gyntaf,
  • Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian ar hyn o bryd, darganfyddwch am gymorth ariannol brys sydd ar gael i chi.
  • Os gallwch, ceisiwch adeiladu rhai gynilion brys. Gall hyd yn oed swm bach a neilltuwyd wneud gwahaniaeth mawr. 
Nol i’r brig

Cam 2: Ysgrifennu ewyllys a llythyr dymuniadau

Mae ewyllys yn ddogfen gyfreithiol sy'n dweud pwy ddylai gael eich arian, eich eiddo a'ch meddiannau ar ôl i chi farw, a elwir yn eich ystâd.

Pam mae cael ewyllys yn bwysig

Gall cael ewyllys:

  • adael i'r bobl sy’n bwysig i chi sortio pethau'n gyflymach ac yn haws, gyda llai o straen pan fyddwch chi wedi mynd
  • gadael i chi benderfynu pwy ddylai ofalu am unrhyw ddibynyddion, gan gynnwys plant o dan 18 oed, a threfniad ar gyfer anifeiliaid anwes
  • helpu i osgoi anghytundebau teuluol
  • ei gwneud hi'n haws cynllunio ar gyfer Treth Etifeddiant.  

Os ydych chi'n berchen ar gartref gyda rhywun ac nad ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai na fyddant yn etifeddu eich cyfran yn awtomatig os nad oes gennych ewyllys.

Beth i’w wneud cyn i chi ysgrifennu ewyllys

  • Penderfynwch beth rydych chi am ei adael: Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael.
  • Penderfynwch pwy fydd yn setlo'ch ystâd ac yn cyflawni eich dymuniadau, a elwir yn eich ysgutorion. Rhan fawr o fod yn ysgutor yw trefnu'r dyletswyddau cyfreithiol ac ariannol. Mae'n bwysig dewis eich ysgutorion yn ofalus: Pwy all fod yn ysgutor ewyllys?

Cael help gydag ysgrifennu eich ewyllys

Mae yna lawer o ffyrdd i ysgrifennu ewyllys, a bydd yr opsiwn cywir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch cyllideb. Cymerwch olwg ar ein canllawiau i ddarganfod mwy:

  • Sut ydw i'n ysgrifennu ewyllys a faint mae'n ei gostio?
  • Ewyllysiau wedi'u gwneud eich hun (Ewyllysiau DIY): sut i ysgrifennu eich ewyllys eich hun
  • Beth yw gwasanaeth ysgrifennu ewyllys?
  • Defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys.

Ystyriwch ysgrifennu llythyr o ddymuniadau ochr yn ochr â'ch ewyllys

Gall llythyr o ddymuniadau helpu i esbonio eich penderfyniadau yn eich geiriau eich hun. Nid yw'n gyfreithiol rwymol, ond mae'n helpu'r bobl sy’n bywsig i chi i ddeall y meddwl y tu ôl i'ch dewisiadau.

Gall LifeBook Age UK eich helpu i gofnodi holl fanylion ymarferol eich bywydYn agor mewn ffenestr newydd, o bolisïau yswiriant i ddogfennau pwysig, gan ei gwneud hi'n haws i'r bobl sy’n bywsig i chi reoli pethau ar eich rhan
Nol i’r brig

Cam 3: Gwneud trefniadau ar gyfer dibynyddion

Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol, cynhwyswch drefniadau clir ar gyfer eu gofal yn eich ewyllys. Gall trefniadau anffurfiol gael eu camddeall neu eu herio'n gyfreithiol, felly mae'n bwysig cael hyn yn ysgrifenedig.

Os bydd angen gofal gydol oes ar eich dibynwyr, efallai y bydd angen i chi sefydlu cronfa ymddiriedolaeth. Mae hyn fel arfer yn gofyn am gyngor ariannol a chyfreithiol proffesiynol. 

Anifeiliaid anwes

Dylech gynnwys trefniadau ar gyfer anifeiliaid anwes yn eich ewyllys.

Cyn enwi rhywun i ofalu am eich anifeiliaid anwes, siaradwch â nhw yn gyntaf i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ymgymryd â'r cyfrifoldeb yma.

Nol i’r brig

Cam 4: Deall y rheolau ar gyfer Treth Etifeddiant

Yn dibynnu ar werth eich ystâd (eich arian, eich eiddo a'ch meddiannau), efallai y bydd angen i'ch anwyliaid dalu Treth Etifeddiant ar ôl i chi farw. Gall deall y rheolau ac unrhyw eithriadau sy'n berthnasol helpu i leihau'r baich arnynt.

Defnyddio yswiriant bywyd i dalu bil Treth Etifeddiant

Os yw'ch ystâd yn debygol o fod yn atebol am Dreth Etifeddiant, er enghraifft, os ydych chi'n berchen ar eiddo rydych chi am ei adael i rywun, mae'n werth gwybod y gallwch gymryd polisi yswiriant bywyd yn benodol i dalu'r bil hwnnw. Mae hyn yn golygu na fydd y bobl rydych chi'n eu gadael ar ôl yn wynebu taliad treth mawr, annisgwyl cyn y gallant gael mynediad at yr hyn rydych chi wedi'i adael iddynt ac ni fyddant yn cael eu gorfodi i werthu asedau fel eich cartref i'w dalu.

Mae hwn yn gam nad yw'n hanfodol i'r rhan fwyaf o bobl, ond os ydych chi'n meddwl y gallai Treth Etifeddiant fod yn berthnasol i'ch ystâd, mae'n werth siarad ag ymgynghorydd ariannol ynghylch a yw'r dull hwn yn gwneud synnwyr i chi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Canllaw i Dreth Etifeddiant yn y DU
  • Rheolau'r Dreth Etifeddiant ar roddion
Nol i’r brig

Cam 5: Cynllunio ar gyfer costau angladd

Gall angladdau fod yn ddrud, ond gall cynllunio ymlaen llaw leddfu'r pwysau ar y bobl rydych chi'n poeni amdanynt. Gallwch wneud hyn drwy:

  • adael cyfarwyddiadau clir am eich dymuniadau, er enghraifft, claddu neu amlosgi
  • neilltuo cynilion mewn cyfrif hawdd ei gyrraedd, gan y bydd y rhan fwyaf o fanciau mawr yn caniatáu i'ch teulu/ysgutorion setlo anfoneb y Trefnydd Angladdau o'ch cyfrifon ar ôl eich marwolaeth
  • cymryd cynllun angladd rhagdaledig ond gwiriwch y telerau yn ofalus, gan nad ydynt bob amser yn werth da
  • defnyddio polisi yswiriant bywyd i dalu costau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Faint mae angladd yn ei gostio?
  • Cynllunio a thalu am eich angladd
Nol i’r brig

Cam 6: Edrych ar yswiriant bywyd, yswiriant salwch critigol a diogelu incwm

Gall yswiriant bywyd helpu i ddarparu ar gyfer y bobl sy'n dibynnu arnoch chi'n ariannol ar ôl i chi farw. Gall hefyd helpu i dalu costau fel treuliau angladd neu ddyledion sy'n ddyledus.

Mae gwahanol fathau o yswiriant bywyd i weddu i anghenion a chyllidebau gwahanol:

  • Mae yswiriant bywyd tymor yn talu cyfandaliad os byddwch yn marw o fewn cyfnod penodol.
  • Mae yswiriant bywyd cyfan yn talu pryd bynnag y byddwch yn marw ond yn tueddu i gostio mwy.
  • Mae yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed ar gael os ydych chi'n hŷn ac efallai na fydd angen archwiliad meddygol arnoch - ond gwiriwch y telerau'n ofalus, gan nad yw'r polisïau hyn bob amser yn cynnig gwerth da.

Os ydych chi'n gyflogedig, mae'n werth gwirio a yw'ch cyflogwr yn cynnig yswiriant bywyd fel rhan o'ch pecyn buddion. Gelwir hyn weithiau yn fudd "marwolaeth mewn gwasanaeth".

Mae yswiriant salwch critigol hefyd yn werth ei ystyried. Mae'n talu cyfandaliad os ydych chi'n cael diagnosis o salwch difrifol – fel canser, trawiad ar y galon neu strôc. Gall hyn fod yn arbennig o werthfawr os yw salwch yn eich gorfodi i ymddeol yn gynnar neu roi'r gorau i weithio, gan roi cymorth ariannol i chi ar adeg pan fyddwch ei angen fwyaf. 

Gall yswiriant diogelu incwm helpu os yw salwch yn golygu nad ydych yn gallu gweithio, gan ddisodli rhywfaint o'ch enillion a gollwyd yn y cyfamser.

Os oes gennych unrhyw un o'r polisïau hyn eisoes, gwnewch yn siŵr eu bod yn gyfredol a bod eich buddiolwyr a enwir (y bobl a fydd yn derbyn y taliad) yn dal i adlewyrchu eich dymuniadau presennol.

Ystyriwch roi eich polisi yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaeth

Un peth nad yw llawer o bobl yn sylweddoli yw y gallwch chi roi eich polisi yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaeth. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch chi'n marw, mae'r taliad yn mynd yn uniongyrchol i'r bobl rydych chi wedi'u dewis, heb orfod mynd trwy'r broses brofiant yn gyntaf. Gall profiant gymryd misoedd, felly gall rhoi eich polisi mewn ymddiriedolaeth olygu bod eich anwyliaid yn derbyn yr arian yn llawer cyflymach a gyda llai o straen.

Gall hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o reoli sut mae'r taliad yn cael ei drin at ddibenion Treth Etifeddiant. Gall eich yswiriwr neu ymgynghorydd ariannol neu gyfreithiwr esbonio sut mae hyn yn gweithio ar gyfer eich sefyllfa.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Beth yw yswiriant bywyd?
  • Beth yw yswiriant diogelu incwm?
  • Beth yw yswiriant salwch critigol?
Nol i’r brig

Cam 7: Gwnewch yn siŵr bod eich cynilionpensiwn yn mynd i’r bobl rydych chi eu heisiau

Bydd llawer o ddarparwyr pensiwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen Mynegi Dymuniad neu Enwebu i enwi eich buddiolwyr dewisol (y bobl rydych chi am iddynt dderbyn eich pensiwn ar ôl i chi farw).

Gallwch wneud hyn drwy:

  • lenwi ffurflen ar gyfer pob pensiwn sydd gennych, fel bod pob darparwr yn gwybod eich dymuniadau
  • cadw eich enwebiadau yn gyfredol, yn enwedig os yw'ch amgylchiadau yn newid (er enghraifft, ar ôl priodas, ysgariad neu enedigaeth plentyn).

Cadw cofnod o’ch holl bensiynau

Cadwch gofnod o'ch holl gynlluniau pensiwn, gan gynnwys rhai o swyddi blaenorol. Os ydych chi wedi colli golwg ar hen bensiwn, efallai y bydd yn arian ynddo o hyd y gellir ei drosglwyddo ymlaen.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw nodyn o'ch holl gynlluniau pensiwn, hyd yn oed hen rai, fel bod eich anwyliaid yn gwybod ble i ddod o hyd iddynt.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll
  • Beth sy’n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw?
Nol i’r brig

Cam 8: Sefydlu atwrneiaeth parhaol

Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i chi benodi rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eich rhan os nad ydych bellach yn gallu gwneud hynny eich hun.

Mae'n bwysig sefydlu atwrneiaeth tra bod gennych allu meddyliol i wneud hynny. Unwaith y byddwch wedi colli capasiti, mae'n rhy hwyr. Gall hyn gymryd sawl wythnos, felly mae'n werth ei wneud cyn gynted â phosibl.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Sut i wneud a chofrestru atwrneiaeth
  • Beth i’w wneud os bydd angen i chi ddod i ben â’ch atwrneiaeth neu wneud newidiadau iddi
Nol i’r brig

Cam 9: Cynllunio ar gyfer costau gofal, gan gynnwys gofal hosbis

Os oes gennych salwch difrifol neu derfynol, efallai y bydd angen i chi feddwl am gost gofal, naill ai gartref, mewn cartref gofal, neu mewn hosbis.

Mae gofal hosbis yn darparu cymorth arbenigol i bobl â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, gan ganolbwyntio ar gysur ac ansawdd bywyd yn hytrach na thriniaeth. Gellir ei ddarparu gartref, mewn adeilad hosbis, neu weithiau mewn ysbyty.

Mae gofal hosbis a ariennir gan y GIG ar gael mewn llawer o achosion, ond mae'r ddarpariaeth yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Mae'n werth siarad â'ch meddyg teulu neu arbenigwr am yr hyn sydd ar gael i chi ac a allwch fod yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG a gofal nyrsio a ariennir gan y GIG, sy'n cwmpasu cost lawn gofal i bobl ag anghenion cymhleth.

Os ydych chi'n bwriadu talu am rywfaint neu'r cyfan o'ch gofal yn breifat, mae'n bwysig ffactorio'r costau hyn yn eich cynllunio ariannol yn gynnar. Gall ymgynghorydd ariannol eich helpu i ddeall eich opsiynau.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Gofal iechyd parhaus y GIG a gofal nyrsio a ariennir gan y GIG
  • Canllaw i ddechreuwyr ar dalu am ofal hirdymor
  • Ffyrdd o dalu ffioedd cartrefi gofal
  • Sut i dalu am eich gofal hirdymor yn y cartref
Nol i’r brig

Cam 10: Rhowch wybod i’ch banc a'chdarparwyr ariannol am eich cynlluniau                                             

Mae'n werth cymryd rhai camau ymarferol nawr i wneud yn siŵr bod eich anwyliaid yn gallu cael mynediad at arian yn gyflym a heb anhawster ar ôl i chi farw.

Pethau i'w hystyried:

Cyfrifon ar y cyd: Os ydych chi'n rhannu cyllid gyda phartner, mae cyfrif banc ar y cyd yn golygu y gallant barhau i gael mynediad at arian yn syth ar ôl i chi farw, heb aros i brofiant gael ei roi. Fodd bynnag, ar eich marwolaeth, bydd unrhyw gyd-ddeiliad yn etifeddu balans y cyfrif yn awtomatig yn hytrach na'r arian sy'n pasio o dan delerau eich ewyllys. 

Rhowch wybod i’ch banc: Mae rhai banciau'n cynnig gwasanaeth 'person enwebedig', sy'n caniatáu i berson dibynadwy roi gwybod iddynt pan fyddwch wedi marw a dechrau'r broses o gau neu drosglwyddo cyfrifon.

Cadwch gofnod: Gwnewch yn siŵr bod gan eich ysgutor restr lawn o'ch cyfrifon banc, cynilion, buddsoddiadau, polisïau yswiriant ac unrhyw gynhyrchion ariannol eraill, ynghyd â'r rhifau cyfrif perthnasol a manylion cyswllt ar gyfer pob darparwr.

Mae hefyd yn syniad da cadw dogfennau pwysig, fel eich ewyllys, atwrneiaeth a pholisïau yswiriant, mewn un lle y gall eich ysgutor neu anwyliaid ddod o hyd iddynt yn hawdd.

Nol i’r brig

Cam 11: Rheoli eich ôl troed digidol

Mae eich ôl troed digidol yn cynnwys popeth o fancio ar-lein ac e-bost i gyfryngau cymdeithasol, storio lluniau a gwasanaethau tanysgrifio. Heb gyfarwyddiadau clir, efallai y bydd eich anwyliaid yn cael trafferth cyrchu neu reoli'r cyfrifon hyn ar ôl i chi farw.

Crëwch ddogfen sy'n cynnwys:

  • enw pob gwasanaeth neu blatfform
  • eich enw defnyddiwr neu'ch cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar gyfer y cyfrif
  • lle rydych chi wedi storio'r cyfrinair
  • beth rydych chi am ddigwydd i bob cyfrif.

Storio’r wybodaeth hon yn ddiogel

Gallwch storio gwybodaeth eich ôl troed digidol:

  • mewn trefnydd cyfrinair y gall person dibynadwy ei gyrchu
  • mewn lleoliad diogel gartref (fel cabinet ffeilio diogel neu wedi'i gloi)
  • gyda'ch cyfreithiwr gyda eich ewyllys
  • defnyddio gwasanaeth etifeddiaeth ddigidol a gynlluniwyd at y diben hwn.

Gwnewch yn siŵr bod eich ysgutor neu berson dibynadwy yn gwybod ble i ddod o hyd i'r wybodaeth hon a beth hoffech iddyn nhw ei wneud.

Dylech adolygu a diweddaru'r rhestr pryd bynnag y byddwch chi'n agor cyfrifon newydd, newid cyfrineiriau neu newid eich dymuniadau.

Nol i’r brig

Cam 12: Dywedwch wrth y bobl sydd angen gwybod

Gwnewch yn siŵr y bydd y bobl a enwir yn eich ewyllys yn gwybod ble i ddod o hyd i:

  • eich ewyllys a dogfennau pwysig eraill
  • manylion eich cyfrifon banc, buddsoddiadau a pholisïau yswiriant
  • eich Gwybodaeth Pensiwn
  • eich rhestr cyfrifon digidol
  • eich dymuniadau am ofal hirdymor.
Nol i’r brig

Cam 13: Cael cyngor proffesiynol

Os yw pethau'n teimlo'n llethol, gall ymgynghorydd ariannol eich helpu i lywio penderfyniadau cymhleth, deall eich opsiynau a gwneud yn siŵr bod popeth yn gyfreithiol gadarn ac mor effeithlon o ran treth â phosibl.

Efallai y bydd cost ymlaen llaw, ond gall cyngor da nawr eich helpu i osgoi camgymeriadau costus yn nes ymlaen.

Gweler ein canllaw Sut i ddewis ymgynghorydd ariannol
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Marwolaeth a phrofedigaeth

Rhoi eich materion mewn trefn

  • Pwy all fod yn ysgutor ewyllys?
  • Sut i gael trefn ar eich cyllid cyn i chi farw
  • Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael
  • Yswiriant bywyd dros 50 oed
  • Rheolau a rheoleiddio os oes gennych gynllun angladd rhagdaledig – beth sydd angen i chi ei wybod
  • Cynllunio a thalu am eich angladd
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Rhoi eich materion mewn trefn

  • Pwy all fod yn ysgutor ewyllys?
  • Sut i gael trefn ar eich cyllid cyn i chi farw
  • Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael
  • Yswiriant bywyd dros 50 oed
  • Rheolau a rheoleiddio os oes gennych gynllun angladd rhagdaledig – beth sydd angen i chi ei wybod
  • Cynllunio a thalu am eich angladd
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012