Darganfyddwch sut i storio'ch ewyllys yn ddiogel a gwneud yn siŵr bod eich ysgutorion yn gallu dod o hyd iddi ar ôl i chi farw, fel y gellir cyflawni eich cyfarwyddiadau.
Pam mae storio’ch ewyllys yn iawn yn bwysig
Dim ond y fersiwn wreiddiol wedi'i llofnodi o'ch ewyllys sy'n ddilys yn gyfreithiol.
Os na all eich ysgutorion ddod o hyd iddo ar ôl i chi farw, gallai achosi oedi, costau ychwanegol a straen i'r bobl sydd yn annwyl i chi.
Storiwch ef yn rhywle diogel a dywedwch wrth eich ysgutorion ble mae a sut y gallant gael mynediad iddo pan ddaw'r amser.
Ystyriwch gofrestru eich ewyllys gyda’r National Will Register
Mae'r National Will Register yn cofnodi lle rydych chi wedi storio eich ewyllys, fel y gall eich ysgutorion ddod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o'ch ewyllys yn hawdd ar ôl i chi farw.
Mae hyn yn arbennig o bwysig os:
- byddwch yn symud tŷ neu’n newid cyfreithwyr dros y blynyddoedd
- rydych chi neu'ch ysgutorion yn anghofio ble rydych chi wedi storio eich ewyllys, neu
- gallai'r cyfreithiwr a’i hysgrifennodd ymddeol neu gau eu cwmni.
Mae'r National Will Register yn darparu cofnod parhaol. Mae'n costio ffi untro bach ac yn golygu y gellir dod o hyd i'ch ewyllys pan fo angen.
Gallwch gofrestru ewyllys i chi'ch hun neu ar ran rhywun arallYn agor mewn ffenestr newydd ar y National Will Register
Mannau diogel i storio eich ewyllys
Gartref
Gallwch gadw eich ewyllys gartref gyda'ch dogfennau pwysig eraill. Er enghraifft, mewn sêff sy'n gallu gwrthsefyll tân neu gabinet ffeilio diogel.
Mae hyn am ddim ond mae'n fwy peryglus oherwydd gallai eich ewyllys gael ei difrodi, ei cholli, ei thaflu i ffwrdd yn ddamweiniol neu ei dinistrio mewn tân neu lifogydd.
Os dewiswch yr opsiwn hwn, gwnewch yn siŵr bod eich ysgutorion yn gwybod yn union ble i ddod o hyd iddo a sut i gael mynediad iddo.
Gyda’r Gwasanaeth Profiant yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
Os ydych chi'n storio eich ewyllys gyda'r Gwasanaeth Profiant, mae'n cael ei gadw'n ddiogel nes i chi farw.
Ar ôl i chi farw, gall eich ysgutorion ei gasglu. Bydd angen iddyn nhw:
- wneud cais i'r Gofrestrfa Brofiant gyda'r dystysgrif marwolaeth
- talu ffi fach i gael yr ewyllys yn ôl.
- profi eu bod wedi’u henwi fel ysgutorion yn yr ewyllys.
Darganfyddwch fwy am storio eich ewyllys gyda'r Gwasanaeth ProfiantYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Yn yr Alban, gallwch storio eich ewyllys gyda'r Register of Deeds am £20. Darganfyddwch fwy am storio eich ewyllys gyda'r Register of DeedsYn agor mewn ffenestr newydd
Gyda chyfreithiwr
Gall y rhan fwyaf o gyfreithwyr storio'ch ewyllys am ddim os oedden nhw wedi’i paratoi i chi. Os nad oedden nhw wedi ysgrifennu’ch ewyllys, efallai y byddant yn codi ffi storio.
Gofynnwch am eu hyswiriant ar gyfer ewyllysiau coll neu sydd wedi’u difrodi. Os bydd y cwmni’n cau ac maent wedi’u lleoli yng Nghymru neu Loegr, gall y Solicitors Regulation Authority (SRA)Yn agor mewn ffenestr newydd eich helpu i ddod o hyd i'ch ewyllys.
Gyda’ch banc
Mae rhai banciau'n cynnig storio ewyllys fel rhan o'u gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau.
Os yw'r banc yn eich helpu i ysgrifennu eich ewyllys, efallai y byddant yn ei storio am ddim, naill ai gyda nhw'n uniongyrchol neu gyda chyfreithiwr maen nhw'n ei ddefnyddio.
Pwysig
Peidiwch byth â storio’ch ewyllys mewn blwch diogelwch yn y banc. Pan fyddwch yn marw, ni all y banc agor y blwch nes bod eich ysgutor yn cael grant profiant (yr awdurdod cyfreithiol i ymdrin â’ch ystâd). Ond mae angen eich ewyllys ar eich ysgutor i wneud cais am brofiant yn y lle cyntaf.
Gyda gwasanaeth ysgrifennu ewyllysiau
Mae llawer o gwmnïau ysgrifennu ewyllysiau yn cynnig storio fel rhan o'u gwasanaeth. Gallai hyn fod am ddim neu'n cynnwys taliad untro neu ffi flynyddol.
Gwiriwch eu telerau ac amodau'n ofalus i ddarganfod beth sy'n digwydd os yw'r cwmni yn rhoi'r gorau i fasnachu neu os bydd eich ewyllys yn mynd ar goll.
Dywedwch wrth eich ysgutor ble mae eich ewyllys wedi’i storio
Gwnewch nodyn o ble rydych wedi storio’ch ewyllys a rhowch y wybodaeth hon i'ch ysgutor.
Dylech gynnwys manylion penodol fel enw a chyfeiriad y cyfreithiwr neu'r cwmni storio, ac unrhyw rifau cyfeirnod.
Osgowch ddweud wrthynt wyneb yn wyneb gan y gallant anghofio, yn enwedig os bydd llawer o flynyddoedd yn mynd heibio.
Ystyriwch roi copi o'r wybodaeth hon i aelod o'r teulu dibynadwy fel copi wrth gefn.
Cadw eich ewyllys yn gyfredol
Mae’n bwysig adolygu’ch ewyllys bob ychydig o flynyddoedd a’i ddiweddaru os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft:
- priodi, bartneriaeth sifil neu ysgaru (mae priodas yn canslo unrhyw ewyllys blaenorol yn awtomatig)
- gwahanu oddi wrth eich partner (os nad ydych yn briod)
- cael plant neu wyrion
- prynu neu werthu eiddo
- newid sylweddol yn eich cyllid
- mae ysgutor neu fuddiolwr (person a enwir yn eich ewyllys) yn marw
- mae eich perthynas â buddiolwr yn newid.
Peidiwch byth ag atodi unrhyw beth i'ch ewyllys gyda staplau, clipiau papur neu binnau. Gall hyn godi cwestiynau ynghylch a yw tudalennau wedi'u tynnu neu eu disodli, gan annilysu eich ewyllys.
Ar gyfer mân newidiadau, megis newid ysgutor neu ddiweddaru cyfeiriad, gallwch ychwanegu codisil – dogfen gyfreithiol sy'n diwygio'ch ewyllys presennol.
Ar gyfer newidiadau mawr, mae'n well ysgrifennu ewyllys hollol newydd a dinistrio'r hen un yn iawn.