Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Marwolaeth a phrofedigaeth
Teulu a gofal Marwolaeth a phrofedigaeth

Defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys

Mae defnyddio cyfreithiwr yn un o'r ffyrdd mwyaf dibynadwy o ysgrifennu eich ewyllys, ond fel arfer dyma'r opsiwn drutaf. 

Yr hyn sydd yn y canllaw hwn

  • A ddylwn i ddefnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu fy ewyllys? 
  • Faint mae cyfreithiwr yn ei godi am ewyllys?
  • Gwasanaethau cyfreithiwr am ddim drwy elusennau
  • Yr hyn a gewch wrth ddefnyddio cyfreithiwr rheoleiddiedig ar gyfer ewyllys
  • Sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad cyntaf gyda chyfreithiwr ar gyfer ewyllys
  • Cwestiynau i'w gofyn i gyfreithiwr am ysgrifennu ewyllys
  • Pa mor hir mae'n ei gymryd i gyfreithiwr ysgrifennu ewyllys? 
  • Sut i ddewis y cyfreithiwr cywir ar gyfer eich ewyllys
  • Pethau i fod yn wyliadwrus ohono wrth ddewis cyfreithiwr

A ddylwn i ddefnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu fy ewyllys? 

Efallai nad cyfreithiwr yw'r dewis cywir i bawb sydd eisiau ewyllys. Efallai y byddwch chi'n gweld bod opsiwn rhatach yn gweithio cystal os yw'ch sefyllfa'n syml. Er enghraifft:

  • rydych chi eisiau gadael popeth i nifer fach o bobl
  • dim ond eiddo yn y DU rydych chi'n berchen arno
  • nid oes unrhyw drefniadau teuluol neu ariannol cymhleth.

Ond mae sefyllfaoedd eraill yn fwy addas ar gyfer cyngor cyfreithiol proffesiynol. Gall cyfreithiwr eich helpu i osgoi camgymeriadau a allai wneud eich ewyllys yn anoddach i'w gorfodi, neu olygu nad yw'ch dymuniadau'n cael eu cyflawni fel yr oeddech chi'n bwriadu

Pryd i ystyried defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu ewyllys

Ystyriwch ddefnyddio cyfreithiwr os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • Rydych chi'n berchen ar asedau dramor, fel tŷ gwyliau neu gyfrif banc tramor. Mae gan wahanol wledydd wahanol gyfreithiau etifeddiaeth, felly mae angen trin hyn yn ofalus.
  • Rydych chi'n rhedeg busnes neu mae gennych chi gyfran mewn un.
  • Mae'n debygol y bydd eich ystâd yn werth mwy na’r trothwy Dreth Etifeddiaeth. Gall cyfreithiwr eich helpu i ddeall eich opsiynau a chynllunio yn unol â hynny.
  • Mae gennych blant o berthynas flaenorol neu mae eich sefyllfa deuluol wedi'i chymysgu mewn rhyw ffordd.
  • Rydych chi wedi ysgaru, wedi gwahanu neu'n byw gyda phartner nad ydych chi'n briod ag ef/hi neu mewn partneriaeth sifil.
  • Rydych chi eisiau sefydlu ymddiriedolaeth. Er enghraifft, i amddiffyn asedau ar gyfer plant ifanc neu berthynas fregus.
  • Mae gan unrhyw un o'ch buddiolwyr anabledd neu maent yn derbyn budd-daliadau prawf modd. Gallai gadael arian iddynt yn uniongyrchol effeithio ar eu hawliau.
  • Mae gennych ddiagnosis lle gallai eich gallu meddyliol gael ei amau'n ddiweddarach. Er enghraifft, Dementia neu Glefyd Alzheimer.
  • Rydych chi'n berchen ar eiddo gyda rhywun nad yw'n briod nac yn bartner sifil i chi.

Dewisiadau amgen rhatach i'w hystyried os yw'ch sefyllfa'n syml

Os nad yw'r un o'r datganiadau uchod yn berthnasol i chi, gallech ystyried ffordd rhatach o ysgrifennu ewyllys.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau eraill:
  • Sut ydw i’n ysgrifennu ewyllys a faint mae’n ei gostio?
  • Ewyllysiau wedi eu gwneud eich hun – beth sydd angen ei wybod
  • Beth yw gwasanaeth ysgrifennu ewyllys?
Nol i’r brig

Faint mae cyfreithiwr yn ei godi am ewyllys?

Mae cost defnyddio cyfreithiwr ar gyfer ewyllys yn dibynnu ar eich sefyllfa a lle mae'r cwmni wedi'i leoli. Dyma rai costau nodweddiadol i roi syniad i chi:

  • £180 i £420 am ewyllys syml
  • £420 i £900 am ewyllys fwy cymhleth mewn cwmni stryd fawr – neu dros £1,800 mewn cwmni mwy.

Mae'r hyn sy'n cyfrif fel cymhleth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Os yw'ch ewyllys yn cynnwys cynllunio treth, eiddo tramor neu ymddiriedolaethau, gall costau fod yn gannoedd o bunnoedd neu fwy.

Fel arfer, bydd cyfreithiwr yn rhoi syniad cliriach i chi o'r gost ar ôl iddynt ddeall eich sefyllfa. Gofynnwch am ffi sefydlog bob amser yn hytrach nag amcangyfrif cost. Mae ffi sefydlog yn cloi'r pris; gall amcangyfrif newid.

Mae ewyllysiau drych ar gyfer cyplau fel arfer yn rhatach

Os yw'ch ewyllys bron yn union yr un fath â'ch partner, mae cael ewyllys drych fel arfer yn rhatach na dwy ewyllys ar wahân. Er enghraifft, os yw'ch ewyllys yn gadael popeth i’ch partner ac ewyllys eich partner yn gadael popeth i chi.

Nol i’r brig

Gwasanaethau cyfreithiwr am ddim drwy elusennau

Mae rhai elusennau a chynlluniau yn cynnig ysgrifennu ewyllysiau am ddim drwy gyfreithwyr. Mae hyn yn cynnwys:

  • Mis Ewyllysiau Am DdimYn agor mewn ffenestr newydd yn ystod mis Mawrth a mis Hydref mewn rhannau o Gymru a Lloegr
  • Will Aid ym mis TachweddYn agor mewn ffenestr newydd – fel arfer mae angen archebu ymlaen llaw.

Mae'r gwasanaethau hyn yn gweithio'n dda os yw'ch sefyllfa'n syml. Er enghraifft, os ydych chi'n gadael popeth i un neu ddau o bobl heb unrhyw drefniadau cymhleth.

Pan fyddwch chi'n defnyddio un o'r gwasanaethau hyn, gofynnir i chi a hoffech chi adael rhodd i elusen yn eich ewyllys. Nid oes rhaid i chi, ac mae'r swm yn gyfan gwbl i fyny i chi.

Os yw'ch amgylchiadau'n fwy cymhleth, efallai na fydd y cynlluniau hyn yn gallu darparu'r lefel o gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, felly mae'n werth ystyried cyfreithiwr preifat yn lle.

Nol i’r brig

Yr hyn a gewch wrth ddefnyddio cyfreithiwr rheoleiddiedig ar gyfer ewyllys

Rheoleiddio ac amddiffyn

Mae cyfreithwyr yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA)Yn agor mewn ffenestr newydd

Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, gallwch gwyno i'r cwmni yn gyntaf ac yna i'r Ombwdsmon Cyfreithiol os na chaiff y mater ei ddatrysYn agor mewn ffenestr newydd

Mae'n ofynnol hefyd i gyfreithwyr gael yswiriant indemniad proffesiynol, sy'n darparu haen ychwanegol o amddiffyniad.

Llai o risg o gamgymeriadau

Gall camgymeriadau fel defnyddio'r tystion anghywir neu lofnodion coll wneud ewyllys yn annilys, felly gall cyfreithiwr eich helpu i osgoi'r problemau hyn.

Ar ôl ei llofnodi o flaen dau dyst annibynnol, daw eich ewyllys yn ddilys yn gyfreithiol. Gall camgymeriadau nad ydynt yn cael eu dal yn gynnar fod yn gostus ac yn llawn straen i'ch teulu eu datrys yn ddiweddarach.

Cymorth gyda sefyllfaoedd cymhleth

Mae cyfreithwyr yn deall Treth Etifeddiaeth, ymddiriedolaethau a chymhlethdodau cyfreithiol eraill y gall fod yn hawdd eu gwneud yn anghywir heb arweiniad proffesiynol.

Storio diogel

Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn storio'ch ewyllys wreiddiol yn ddiogel heb unrhyw dâl ychwanegol.

Nol i’r brig

Sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad cyntaf gyda chyfreithiwr ar gyfer ewyllys

Gall mynd i weld cyfreithiwr am y tro cyntaf deimlo'n frawychus, yn enwedig os nad ydych erioed wedi gwneud ewyllys o'r blaen.

Dylai eich cyfreithiwr:

  • ofyn cwestiynau manwl am eich amgylchiadau, eich teulu a'ch iechyd
  • egluro'ch opsiynau'n glir
  • rhoi ffi neu amcangyfrif sefydlog i chi yn gynnar ac egluro sut mae'n cael ei gyfrifo
  • darparu cyngor sy'n gyfrinachol a rhoi eich lles pennaf yn gyntaf
  • drafftio a gwirio'ch ewyllys yn ôl eich cyfarwyddiadau
  • goruchwylio llofnodi a thystio'ch ewyllys.

Mae bod yn barod yn golygu y byddwch yn cael mwy allan o'r cyfarfod, a allai arbed amser ac arian i chi.

Beth i ddwyn ynghyd ac ystyried cyn i chi fynd

Dechreuwch drwy gael darlun clir o'r hyn sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys:

  • eiddo – naill ai’n eiddo i chi’ch hun neu gydag eraill
  • cynilion a chyfrifon banc
  • pensiynau
  • buddsoddiadau neu gyfranddaliadau
  • asedau tramor, fel tŷ gwyliau neu gyfrif banc tramor

Nid oes angen ffigurau union arnoch, ond bydd syniad bras o’r hyn sydd gennych a ble ydyw helpu’r cyfreithiwr i ddeall eich sefyllfa.

Cyn i chi weld cyfreithiwr, mae’n help i feddwl am yr hyn rydych chi am ei gynnwys. Gall ein canllaw Gwneud ewyllys a chynllunio beth i’w adael eich helpu i baratoi

Ystyriwch pwy rydych chi am iddo elwa a phwy fydd yn gyfrifol

Meddyliwch am:

  • eich buddiolwyr – i bwy rydych chi am adael pethau (pobl a/neu sefydliadau)
  • eich ysgutor – y person sy’n gyfrifol am gyflawni eich dymuniadau ar ôl i chi farw, fel ffrind dibynadwy, aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol
  • gwarcheidwad – rhywun i ofalu am unrhyw ddibynyddion neu blant dan 18 oed.
Mae’n bwysig dewis eich ysgutorion yn ofalus. Gall ein canllaw Pwy all fod yn ysgutor ewyllys? helpu

Dyledion ac ymrwymiadau ariannol

Gwnewch nodyn o unrhyw ddyledion sylweddol, fel morgais, benthyciadau neu gardiau credyd. Bydd y rhain yn effeithio ar werth eich ystâd pan fyddwch chi'n marw.

Unrhyw roddion yr hoffech eu rhoi

Os ydych chi am adael eitemau neu symiau penodol i bobl benodol, ysgrifennwch y rhain ymlaen llaw. Er enghraifft, darn o emwaith i ŵyr neu rodd i elusen.

Eich dymuniadau angladd

Nid ewyllys yw'r unig le i gofnodi dymuniadau angladd, ond mae llawer o bobl yn dewis eu cynnwys.

Meddyliwch a oes gennych unrhyw ddewisiadau ynghylch claddu neu amlosgi, neu fath penodol o wasanaeth.

Unrhyw beth sy'n gwneud eich sefyllfa'n fwy cymhleth

Mae angen cynllunio mwy gofalus ar gyfer rhai amgylchiadau. Rhowch wybod i'r cyfreithiwr os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych blant o berthynas flaenorol, neu deulu cymysg
  • rydych chi'n priodi, yn mynd i mewn i bartneriaeth sifil neu'n ysgaru (mae priodas yn canslo unrhyw ewyllys flaenorol yn awtomatig)
  • rydych chi'n gwahanu oddi wrth eich partner (os nad ydych chi'n briod)
  • mae eich buddiolwyr yn cynnwys rhywun sy'n fregus neu ag anabledd
  • rydych chi eisiau sefydlu ymddiriedolaeth (er enghraifft, i ddiogelu asedau ar gyfer plant ifanc)
  • rydych chi eisiau eithrio rhai aelodau o'r teulu o'ch ewyllys.

Mae bod yn agored am y pethau hyn yn golygu y gall y cyfreithiwr roi cyngor priodol i chi, yn hytrach na sylwi ar broblem yn ddiweddarach.

Nol i’r brig

Cwestiynau i'w gofyn i gyfreithiwr am ysgrifennu ewyllys

Mae'n gwbl resymol gofyn cwestiynau cyn i chi ymrwymo i ddefnyddio cyfreithiwr penodol. Bydd cyfreithiwr da yn croesawu hyn. Dyma rai sy'n werth eu gofyn:

Oes gennych chi'r profiad cywir?

Gofynnwch a ydyn nhw'n delio'n rheolaidd ag ewyllysiau ac ystadau. Weithiau gelwir y maes hwn o'r gyfraith yn waith "cleient preifat".

Mae hefyd yn werth gofyn a ydyn nhw wedi delio â sefyllfaoedd fel eich un chi o'r blaen, yn enwedig os yw eich amgylchiadau'n gymhleth.

Ydych chi wedi'ch rheoleiddio a'ch yswirio? 

Gofynnwch i'r cwmni gadarnhau eu bod wedi'u rheoleiddio a gwirio a oes ganddyn nhw yswiriant indemniad proffesiynol.

Gofynnwch sut i wneud cwyn os bydd rhywbeth yn mynd o'i le. 

Beth sydd wedi'i gynnwys yn y pris? 

Gofynnwch am ddyfynbris ysgrifenedig llawn cyn i chi gytuno i unrhyw beth. Gwiriwch a yw'r ffi yn cwmpasu:

  • ymgynghoriad cychwynnol
  • drafftio'r ewyllys
  • unrhyw ddiwygiadau os ydych chi eisiau gwneud newidiadau
  • cyfarfod i lofnodi a thystio'r ewyllys
  • storio'r ewyllys wreiddiol
  • rhoi copi i chi.

Os codir tâl ar unrhyw un o'r rhain ar wahân, gofynnwch faint maen nhw'n ei gostio. 

Sut mae ffioedd ysgutor yn cael eu codi os ydych chi'n gweithredu fel ysgutor?

Os yw'r cyfreithiwr yn awgrymu bod eu cwmni'n gweithredu fel eich ysgutor, gofynnwch sut maen nhw'n codi tâl am hyn.

Er enghraifft, gallai cwmnïau godi canran o werth yr ystâd, ffi fesul awr neu swm sefydlog.

Gall ffi sy'n seiliedig ar ganran ar ystâd fawr fod yn sylweddol, felly mae'n werth deall hyn yn glir cyn cytuno.

Sut fyddwch chi'n delio â diweddariadau bywyd? 

Gofynnwch a ydyn nhw'n cynnig gwasanaeth atgoffa i'ch annog i adolygu eich ewyllys.

Gofynnwch a ellir delio â newid syml gyda chodisil (ychwanegiad ffurfiol at ewyllys sy'n bodoli eisoes) neu a fyddai angen ewyllys hollol newydd arnoch chi - a faint fyddai pob opsiwn yn ei gostio. 

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gyfreithiwr ysgrifennu ewyllys? 

I'r rhan fwyaf o bobl, mae'n cymryd rhwng un a thair wythnos. Mae hyn fel arfer yn cynnwys ymgynghoriad cychwynnol, drafftio, adolygu a llofnodi'r ddogfen.

Os ydych chi'n wynebu diagnosis difrifol neu bwysau amser arall, mae'n werth dweud wrth y cyfreithiwr o'r dechrau fel y gallant flaenoriaethu eich achos lle bo modd. 

Nol i’r brig

Sut i ddewis y cyfreithiwr cywir ar gyfer eich ewyllys

Nid oes prinder cwmnïau sy'n cynnig helpu gydag ewyllysiau, ond gall yr ansawdd a'r amddiffyniadau sydd ar gael amrywio. Dyma sut i wneud dewis hyderus. 

Dod o hyd i gyfreithiwr rheoleiddiedig i ysgrifennu eich ewyllys

Defnyddiwch gyfreithiwr sy'n cael ei reoleiddio gan y corff priodol ar gyfer lle rydych chi'n byw yn unig. Defnyddiwch un o'r cyfeiriaduron yn y tabl isod i ddod o hyd i gyfreithiwr cymwys yn agos atoch chi. 

The Law SocietyOpens in a new window

Os ydych chi’n byw: Dewch o hyd i gyfreithiwr cymwys yn eich ardal

Yng Nghymru a Lloegr

The Law SocietyOpens in a new window

Yn yr Alban

The Law Society of ScotlandOpens in a new window

Yng Ngogledd Iwerddon

The Law Society of Northern IrelandOpens in a new window

Chwiliwch am gyfreithwyr sy'n arbenigo mewn ewyllysiau, profiant neu waith cleientiaid preifat. Gallwch wirio cofrestriad cwmni ar wefan y corff perthnasol.

Mae rheoleiddio yn golygu bod yn rhaid i'r cwmni fodloni safonau proffesiynol, bod ag yswiriant a dilyn proses gwyno.

Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw fusnes sy'n disgrifio'i hun fel "defnyddio cyfreithiwr" neu'n cynnig "gwasanaethau cyfreithiol" heb fod yn gwmni rheoleiddiedig.

Nid yw ysgrifennu ewyllysiau wedi'i reoleiddio yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y gall busnesau heb eu rheoleiddio ei gynnig yn gyfreithiol, ond heb yr un amddiffyniadau. 

Edrychwch y tu hwnt i bris wrth gymharu dyfynbrisiau

Er y gall fod yn ddefnyddiol deall sut mae gwahanol gwmnïau'n strwythuro eu ffioedd, ni ddylai cost fod yr unig ffactor yn eich penderfyniad.

Gall cymryd yr amser i ddeall profiad a dull cyfreithiwr fod yr un mor bwysig â chymharu ffioedd.

Byddwch yn wyliadwrus, dylid trin adolygiadau ar-lein yn ofalus ar gyfer ewyllysiau, gan mai dim ond blynyddoedd lawer ar ôl i'r ewyllys gael ei hysgrifennu y daw materion i'r amlwg yn aml. 

Gwiriwch sut mae eich ewyllys yn cael ei storio

Gofynnwch i'r cwmni ble mae eich ewyllys wreiddiol yn cael ei storio, a allwch ei gyrchu'n hawdd a beth sy'n digwydd iddi os yw'r cwmni'n cau neu'n uno â chwmni arall.

Dylech chi bob amser gael copi o'ch ewyllys i'w gadw i chi'ch hun.

Unwaith y bydd eich ewyllys wedi'i hysgrifennu, mae'n bwysig ei storio yn rhywle y gellir dod o hyd iddi. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ble i storio'ch ewyllys a sut i ddweud wrth eich ysgutor
Nol i’r brig

Pethau i fod yn wyliadwrus ohono wrth ddewis cyfreithiwr

Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn gweithio gyda thryloywder a phroffesiynoldeb llwyr, ond mae'n werth gwybod beth i fod yn wyliadwrus ohono . 

Ysgrifenwyr ewyllysiau sy'n defnyddio cyfreithiwr

Mae rhai ysgrifenwyr ewyllysiau yn gweithio gyda chyfreithiwr, a all eu gwneud i ymddangos yn fwy dibynadwy. Ond, os bydd rhywbeth yn mynd o'i le a bod y cyfreithiwr hwnnw wedi gadael ers hynny, efallai na fydd gennych lwybr at yr Ombwdsmon Cyfreithiol.

Os ydych chi'n defnyddio cwmni cyfreithwyr rheoleiddiedig, mae'r cwmni ei hun yn atebol, felly gallwch chi gwyno o hyd trwy'r Ombwdsmon CyfreithiolYn agor mewn ffenestr newydd - hyd yn oed os yw'r person a'ch helpodd wedi symud ymlaen ers hynny. 

Busnesau nad ydynt yn gyfreithwyr rheoleiddiedig

Mae rhai cwmnïau ysgrifennu ewyllysiau yn cyflwyno eu hunain mewn ffyrdd a allai awgrymu eu bod yn gyfreithwyr pan nad ydynt.

Gwiriwch gofrestr y cwmni gyda'r corff rheoleiddio perthnasol bob amser cyn eu cyfarwyddo.

Deall y trefniant ysgutor

Eich ysgutor yw'r person sy'n trefnu eich ystâd (eich eiddo, arian a meddiannau) ac yn cyflawni'r cyfarwyddiadau yn eich ewyllys ar ôl i chi farw.

Bydd rhai cwmnïau'n awgrymu penodi eu hunain yn ysgutor eich ystâd. Gall cyfreithiwr awgrymu'n rhesymol i weithredu fel eich ysgutor, yn enwedig os yw eich ystâd yn gymhleth.

Ond dylech dderbyn gwybodaeth glir, ysgrifenedig am sut y bydd eu ffioedd yn cael eu cyfrifo. Os yw cwmni'n amharod i ddarparu hyn, ystyriwch fel arwydd o rybudd. 

Gallai sgamwyr eich targedu wrth ysgrifennu ewyllys. Helpwch i amddiffyn eich hun trwy ddarllen ein canllaw Sgamiau ewyllys a thwyll etifeddiaeth cyffredin i fod yn wyliadwrus ohono
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Marwolaeth a phrofedigaeth

Ysgrifennu ewyllys

  • Ewyllysiau DIY (gwneud eich hun): Sut i ysgrifennu eich ewyllys eich hun
  • Defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys
  • Ble i storio eich ewyllys a sut i ddweud wrth eich ysgutor
  • A oes angen ewyllys arnaf a phryd ddylwn i ei diweddaru?
  • Beth yw gwasanaeth ysgrifennu ewyllys?
  • Sut ydw i'n ysgrifennu ewyllys a faint mae'n ei gostio?
  • Sgamiau cyffredin sy’n gysylltiedig ag ewyllys a beth i wylio allan amdano
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Ysgrifennu ewyllys

  • Ewyllysiau DIY (gwneud eich hun): Sut i ysgrifennu eich ewyllys eich hun
  • Defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys
  • Ble i storio eich ewyllys a sut i ddweud wrth eich ysgutor
  • A oes angen ewyllys arnaf a phryd ddylwn i ei diweddaru?
  • Beth yw gwasanaeth ysgrifennu ewyllys?
  • Sut ydw i'n ysgrifennu ewyllys a faint mae'n ei gostio?
  • Sgamiau cyffredin sy’n gysylltiedig ag ewyllys a beth i wylio allan amdano
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012