Os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu oddi wrth eich partner a bod eich incwm wedi gostwng, mae rhai budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt fel person sengl. Mae hefyd budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt os ydych nawr yn rhiant unigol a bod eich plant yn byw gyda chi drwy’r amser neu ran fwyaf o’r amser.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Teclynnau defnyddiol
- Credyd Cynhwysol os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
- Sut mae Credyd Cynhwysol yn disodli budd-daliadau presennol
- Sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch os ydych yn rhiant unigol
- Help gyda chostau tai os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
- Budd-dal Plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
- Sut y mae cynhaliaeth plant yn effeithio ar eich taliadau budd-daliadau?
Teclynnau defnyddiol
Credyd Cynhwysol os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Os ydych yn chwilio am waith neu ar incwm isel, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Gall Credyd Cynhwysol eich helpu gyda chostau tai, plant a gofal plant.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Sut mae Credyd Cynhwysol yn disodli budd-daliadau presennol
Mae nifer o’r budd-daliadau y byddech wedi gallu gwneud cais amdanynt os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu wedi cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Ni allwch wneud cais newydd am y budd-daliadau hyn mwyach.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Tai (oni bai eich bod mewn llety â chymorth neu dros dro)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
Adnabyddir rhain fel budd-daliadau etifeddol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Pe baech yn hawlio’r rhain yn y gorffennol, byddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol erbyn hyn.
Beth fydd yn digwydd os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol gyda’ch partner a’ch bod yn ysgaru neu’n gwahanu?
Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol a’ch bod yn byw gyda phartner, bydd eich hawliad wedi bod yn un ar y cyd â nhw. Os ydych yn gwahanu, bydd angen i chi ddweud wrth DWP am y newid yn eich amgylchiadau. Peidiwch â phoeni – bydd eich hawliad fel arfer yn parhau ond bydd yn newid a bydd angen i chi wneud cais fel person sengl.
I ddarganfod mwy, mae gan Gyngor ar Bopeth wybodaeth ar yr hyn sydd angen i chi wybod os ydych yn gwahanu wrth eich partner
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf fi?
Sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio arnoch os ydych yn rhiant unigol
Os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol a chi yw prif ofalwr plentyn dibynnol, efallai y bydd disgwyl i chi chwilio am waith o hyd – oni bai eich bod eisoes yn gweithio digon i fodloni’r DWP.
Mae'r oriau y disgwylir i chi weithio neu chwilio am waith yn dibynnu ar oedran eich plant:
| Oedran y plentyn ieuengaf | Oriau gwaith disgwyliedig yr wythnos |
|---|---|
|
O dan un |
Dim |
|
Un |
Dim, ond dylech gael cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch anogwr gwaith. |
|
Dau |
Dim, ond dylai cyfarfodydd rheolaidd gyda'ch anogwr gwaith eich helpu i baratoi i chwilio am waith - fel hyfforddiant ac ysgrifennu CV. |
|
3-12 |
Hyd at 30 awr yn gweithio neu'n chwilio am waith. |
|
13 oed a throsodd |
Hyd at 35 awr yn gweithio neu'n chwilio am waith. |
Dylech siarad â’ch anogwr gwaith am ba waith sy’n realistig i chi ar sail eich cyfrifoldebau gofalu a phethau eraill, megis yr amser rydych ei angen i chi adael neu gasglu o’r ysgol neu ofal plant.
Unwaith rydych wedi cytuno ar yr hyn y byddwch yn ei wneud i ddod o hyd i neu baratoi am waith - bydd hyn yn ffurfio rhan o’ch ymrwymiad hawlydd. Os na fyddwch yn cadw at yr hyn sydd wedi’i gytuno, fe allech chi gael eich sancsiynu. Mae hyn yn golygu y gallech golli’ch cyfan neu rhywfaint o’ch budd-daliadau am ychydig wythnosau.
Os ydych angen help gyda chostau gofal plant, gallwch wneud cais am hyd at 85% o’r costau hyd at gyfyngiad penodol.
Dargnfyddwch fwy yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant
Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Os ydych ar gael i weithio ac wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol a gweithio am ddwy flwyddyn dreth lawn cyn gwneud cais, efallai y byddwch yn gallu cael JSA Dull Newydd ynghyd â Chredyd Cynhwysol os ydych angen help ychwanegol gyda phethau fel costau tai neu fagu plant.
Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am JSA Dull Newydd ac ar gael i weithio, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am y lwfans sylfaenol o Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Os ydych yn methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd efallai y byddwch yn gallu gwneud Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd os ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Gallwch wneud cais am hwn ynghyd â Chredyd Cynhwysol os ydych hefyd angen help gyda chostau tai neu fagu plant oherwydd eich bod ar incwm isel.
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer ESA Dull Newydd, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am yr elfen ‘gallu gyfyngedig i weithio’ a ‘gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith’ o Gredyd Cynhwysol.
Help gyda chostau tai os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Os ydych yn rhentu ac nad ydych chi eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd yn rhaid i chi wneud cais amdano a fydd yn cynnwys yr elfen costau tai o Gredyd Cynhwysol.
Os ydych chi eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ac mae'n cynnwys yr elfen costau tai, dylech chi sicrhau bod y DWP yn cynnwys y rhent llawn yn eich Credyd Cynhwysol. Fel arall, efallai y byddan nhw'n dweud bod yn rhaid i'r cyd-denant dalu hanner, neu hyd yn oed y rhent llawn os nad oedd eich enw ar y denantiaeth.
Os ewch chi i lety â chymorth fel lloches, neu os cewch eich cartrefu gan eich cyngor lleol mewn llety dros dro, byddwch chi'n dal i allu hawlio Budd-dal Tai gan y cyngor. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi'n cael Credyd Cynhwysol am weddill eich incwm. Gallwch chi hefyd gael help gyda'r rhent ar eich cartref blaenorol ar yr un pryd mewn rhai amgylchiadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
Rydych ond yn gallu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu
- rydych chi mewn mathau penodol o dai â chymorth, tai gwarchod, neu dai dros dro.
Os ydych yn berchen ar eich cartref ac yn cael rhai budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).
Telir SMI fel benthyciad, y mae’n rhaid i chi ei ad-dalu. Mae gwahanol ffyrdd o wneud hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)
Gostyngiad Treth Cyngor
Os mai chi bellach yw'r unig oedolyn nad yw mewn addysg llawn amser yn eich cartref, mae'n debyg y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad person sengl (25%) ar eich bil Treth Gyngor.
Efallai y cewch help i dalu'ch Treth Gyngor os ydych yn cael rhai budd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol neu fod gennych incwm isel o’ch cyflog. Bydd angen i chi wneud cais i'ch cyngor lleol.
Yng Nghymru a Lloegr, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban, dewch o hyd i'ch cyngor lleol ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch am yr ardrethi ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Budd-dal Plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu
Sut i newid i bwy y telir Budd-dal Plant
Os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu efallai bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion ar gyfer Budd-dal Plant.
Gall Budd-dal Plant ond cael ei dalu i un person ac mae’n bwysig ei fod yn cael ei dalu i’r prif ofalwr, sydd fel arfer y rhiant mae eich plentyn neu blant yn byw gyda.
Os yw’ch cyn-bartner yn cael y taliad Budd-dal Plant, efallai na fyddwch yn cael yr arian oni bai eu bod yn ei drosglwyddo ymlaen yn wirfoddol. Mae hyn hefyd yn effeithio ar bethau fel elfen plentyn Credyd Cynhwysol, y dreth ystafell wely a chymorth gyda gofal plant.
Gallwch ddiweddaru pwy sy’n cael Budd-dal Plant a rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadauYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Ffôn: 0300 200 3100
Y tu allan i’r DU: +44 161 210 3086
Os na allwch chi gytuno gyda’ch cyn-bartner ar bwy ddylai gael y Budd-dal Plant, bydd CThEF yn penderfynu.
Budd-dal Plant os ydych nawr yn ennill llai na £60,000
Os oeddech chi neu’ch partner yn ennill dros £60,000 ac roeddech yn cael Budd-dal Plant, fe ddylech fod wedi bod yn ad-dalu cyfran o’ch Budd-dal Plant fel Treth Incwm ychwanegol.
Os yw’ch incwm wedi disgyn yn is na £60,000 fel riant unigol a’ch bod yn parhau i gael Budd-dal Plant dylech gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant i ddweud wrthynt am eich newid.
Os ydych wedi dewis peidio â chael Budd-dal Plant, fel nad oedd yn rhaid i’ch cyn-bartner dalu’r dreth ychwanegol, gallwch wneud cais am daliad gyda'r Swyddfa Budd-dal Plant os mai chi yw'r prif ofalwr erbyn hyn ac mae'ch plentyn neu'ch plant yn byw gyda chi y rhan fwyaf o'r amser.
Os nad ydych yn gwneud cais am Fudd-dal Plant
Os nad oeddech am unrhyw reswm yn gwneud cais am Fudd-dal Plant o’r blaen, ond rydych am wneud nawr, mae’n bwysig eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl, oherwydd gall gymryd hyd at 12 wythnos i brosesu cais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i hawlio Budd-dal Plant
Sut y mae cynhaliaeth plant yn effeithio ar eich taliadau budd-daliadau?
Nid yw’r gynhaliaeth plant rydych yn ei gael yn cael ei gyfrif fel incwm ar gyfer budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol.
Mae hyn yn golygu os ydych yn cael cynhaliaeth ni fyddwch yn cael llai o arian yn y budd-daliadau hyn. Ni effeithir chwaith ar fudd-daliadau eraill nad ydynt ar sail prawf modd.
Os oes yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth plant
Os mai chi yw’r rhiant sy’n gorfod talu cynhaliaeth plant a’ch bod yn cael rhai budd-daliadau, bydd yn rhaid i chi dalu £8.40 yr wythnos allan o’ch budd-daliadau os yw’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) neu Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yn gwneud trefniadau cynhaliaeth.
Os ydych yn gwneud trefniant teuluol, fe allech chi a’r rhiant arall gytuno ar yr hyn y dylech chi ei dalu allan o’ch budd-daliadau.
Os ydych yn gwneud cais am fudd-dal, dylech chi bob amser roi gwybod am eich trefniadau cynhaliaeth plant i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith, hyd yn oed os nad ydych yn credu y bydd yn effeithio eich cais.
Amddifyn eich hun rhag cam-drin ariannol
Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Os yw'ch partner yn rheoli'ch arian neu'n rhedeg dyledion yn eich enw chi, mae'n gam-drin ariannol. Ond does dim angen ymdrechu ymlaen ar eich pen eich hun.