Os ydych yn ei chael yn anodd rheoli’ch arian oherwydd bod gennych gyflwr iechyd hirdymor neu’ch bod yn anabl, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i hwyluso bywyd. Dilynwch y pump cam yma i hwyluso rheolaeth ariannol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam 1: Cael eich talu yn syth i’ch cyfrif banc
 - Cam 2: Defnyddiwch Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog ar gyfer biliau
 - Cam 3: Gwnewch daliadau ar-lein neu ddefnyddio bancio dros y ffôn
 - Cam 4: Defnyddiwch fancio ar-lein neu dros y ffôn i gadw llygad ar eich balansau
 - Cam 5: Gofynnwch am gymorth gan eich banc
 - Cael rhywun i’ch helpu gyda’ch arian bob dydd
 - Os ydych yn poeni am faint sydd gennych i fyw arno
 - Os nad oes gennych gyfrif banc
 
Cam 1: Cael eich talu yn syth i’ch cyfrif banc
Fel arfer mae’n llawer haws i drefnu i’ch holl incwm gael ei dalu’n syth i’ch cyfrif banc.
Gallwch ddal i wneud hyn os ydych yn derbyn budd-daliadau, tâl salwch neu os ydych yn gweithio rhan-amser.
Mae’n beth da cael eich talu fel hyn oherwydd:
- mae’n arbed teithiau i’r banc i chi.
 - mae’n fwy diogel na chario arian gyda chi.
 - nid oes rhaid i chi aros i siec glirio cyn cael eich arian.
 
Os nad oes gennych gyfrif banc a’ch bod yn meddwl y gallech gael anhawster agor un oherwydd bod gennych incwm isel neu statws credyd gwael, gallech wneud cais am gyfrif banc sylfaenol.
Dyma’r cyfrifon banc hawsaf i’w cael.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cam 2: Defnyddiwch Ddebydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog ar gyfer biliau
Wedi i chi lunio eich cyllideb a gweld bod gennych ddigon o arian yn dod i mewn i gyd-fynd â’ch gwariant, newidiwch eich biliau rheolaidd i Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.
Mae hyn yn syniad da oherwydd:
- nid oes rhaid i chi boeni am gyrraedd y banc neu flwch post
 - cymerir taliadau yn awtomatig felly ni fydd rhaid i chi wynebu unrhyw gosbau taliad hwyr
 - mae nifer o gwmnïau, cynghorau a sefydliadau yn rhoi gostyngiad i bobl sy’n talu trwy Ddebyd Uniongyrchol.
 
Ond gwnewch yn siwr bod digon o arian yn eich cyfrif.
Gall Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog a wrthodwyd eich gadael yn wynebu taliadau banc mawr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Cam 3: Gwnewch daliadau ar-lein neu ddefnyddio bancio dros y ffôn
Ar gyfer biliau na allwch eu talu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog, edrychwch i weld a allwch eu talu drwy ddefnyddio’ch gwasanaethau ar-lein neu fancio ffôn.
Os nad yw bancio ar-lein yn addas i chi, nid oes dim haws na chodi’r ffôn i dalu bil. Mae’n gyflym, hawdd a diogel talu fel hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i drosglwyddo arian o'ch cyfrif banc
Cam 4: Defnyddiwch fancio ar-lein neu dros y ffôn i gadw llygad ar eich balansau
Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cadw llygad barcud ar eich balans banc fel na fyddwch yn mynd i ddyled a gorfod talu ffioedd ychwanegol.
Gall bancio ar-lein neu dros y ffôn eich helpu i weld beth yw beth os ydych adref.
Os byddwch yn rhagweld trafferth, meddyliwch am ffonio eich banc cyn iddynt orfod eich ffonio.
Cam 5: Gofynnwch am gymorth gan eich banc
Mae rhaid i fanciau sicrhau bod eu gwybodaeth a’u gwasanaethau mor hygyrch â phosibl ar gyfer eu cwsmeriaid anabl.
Mae’r cymorth y gallwch ofyn amdano yn cynnwys:
- cyfriflenni banc a dogfennau eraill mewn fformatau Braille, print bras a sain
 - cownteri lefel isel mewn cangen a chownteri wedi’u ffitio â dolen sain
 - cardiau sglodyn a llofnod ar gyfer y cwsmeriaid hynny na allant gofio PIN
 - peiriannau ATM (peiriannau arian parod) sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ac sydd â swyddogaeth testun-i-lais.
 
Gofynnwch i’ch banc ba gymorth y gallant ei gynnig i chi.
Cael rhywun i’ch helpu gyda’ch arian bob dydd
Ydych chi angen help i wneud pethau penodol, fel cael arian parod o’r banc? Yna gallwch ddysgu mwy am eich opsiynau a sut i wneud trefniadau i gael cymorth yn ein canllaw Help i reoli arian bob dydd.
Os ydych yn poeni am faint sydd gennych i fyw arno
Oeddech chi’n gwybod?
Gallwch gael gostyngiad ar eich biliau trwy ddefnyddio Debyd Uniongyrchol i dalu’r rhan fwyaf o gwmnïau ynni a ffôn.
Os ydych yn poeni am gael digon i fyw arno, cymrwch olwg ar ein cyngor ar gael dau ben llinyn ynghyd a hawlio’r budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am arbed arian ar filiau'ch cartref.
Darllenwch fwy am reoli eich arian a budd-daliadau yn ein canllaw Sut i roi trefn ar eich arian os ewch yn sâl neu'n anabl
Os nad oes gennych gyfrif banc
Pan fyddwch yn agor cyfrif, bydd angen i chi ddangos prawf o bwy ydych a'ch cyfeiriad.
Os nad oes gennych y dogfennau cywir, gofynnwch i'r banc beth fyddant yn eu derbyn yn lle.
Bydd rhai banciau yn derbyn llythyr gan berson cyfrifol, fel athro/athrawes neu weithiwr cymdeithasol, neu lythyr hysbysiad budd-daliadau.