Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cartrefi
  3. Morgeisi a phrynu cartref
Cartrefi Morgeisi a phrynu cartref

Delio â diffyg gwaddol

Os gwnaethoch gymryd polisi gwaddol fel ffordd o ad-dalu eich morgais llog yn unig, mae’n bwysig gwirio a yw ar y trywydd iawn i dalu eich dyled morgais derfynol – neu os ydych yn wynebu diffyg.

Rydych wedi bod yn talu’r llog ar eich morgais, ond nid y swm a fenthycwyd gennych – dyna beth mae’r taliadau misol ar eich polisi gwaddol yn bwriadu talu. Ond nid yw llawer o’r polisïau hyn wedi perfformio yn gystal â’r disgwyl.

Mae hyn yn golygu efallai na fydd eich taliad terfynol yn setlo eich dyled morgais, a allai adael bil o filoedd o bunnoedd i chi ar ddiwedd tymor eich morgais a gallech hyd yn oed colli’ch cartref.

Os ydych yn amau efallai bod gennych ddiffyg – neu’n gwybod yn sicr bod gennych un – mae camau y gallwch eu cymryd i gael help. Ond mae angen i chi weithredu nawr. Po hiraf y byddwch yn oedi, yr uchaf yw’r gost o wneud lan y diffyg.

Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud.

Dyn hŷn a menyw ifanc yn edrych ar ddogfennau

Adolygu eich morgais gwaddol

Ffyrdd o wneud lan am y diffyg gwaddol

Os yw’ch morgais yn agos at ddod i ben gyda diffyg

Os ydych ar fin ymddeol a bod gennych ddiffyg

Cwyno am eich morgais gwaddol

Adolygu eich morgais gwaddol

Adolygu eich polisi yw’r cam cyntaf tuag at roi cynllun ar waith.

 

Os nad ydych yn siŵr a oes gennych forgais gwaddol, gwiriwch eich datganiad morgais neu cysylltwch â’ch benthyciwr.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Gwiriwch eich llythyr diffyg gwaddol

Mae darparwyr gwaddol yn anfon llythyrau adolygu – a elwir hefyd yn ’Llythyrau Ail-amcanestyniad. Dylech fod wedi derbyn un gyda’ch datganiad polisi gwaddol blynyddol. Mae eich llythyr adolygu yn dweud wrthych a yw eich polisi ar y trywydd iawn i ad-dalu eich morgais gyda system goleuadau traffig:

  • coch: os oes risg uchel nad yw eich polisi ar y trywydd iawn
  • oren: os oes risg sylweddol, nid yw ar y trywydd iawn
  • gwyrdd: os yw ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i ad-dalu’ch morgais.

Bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych:

  • maint y diffyg amcangyfrifedig
  • eich opsiynau
  • camau y mae angen i chi eu cymryd.

Os nad ydych wedi derbyn eich llythyr, cysylltwch â’ch darparwr polisi ar unwaith.

Os ydych chi wedi bod yn eu cael yn rheolaidd, mae angen i chi wirio’r un diweddaraf, hyd yn oed os yw’r polisi wedi bod ar y trywydd iawn yn y gorffennol – mae hyn oherwydd bod y polisïau yn gysylltiedig â buddsoddiadau a all amrywio o ran gwerth.

Gwiriwch eich llythyr diweddaraf – ydyw’n goch, oren neu wyrdd?
Os yw’ch llythyr yn goch, gweithredwch nawr

Os yw’ch llythyr yn goch, mae angen i chi wneud rhywbeth ar unwaith (ac os yw’n oren mae angen i chi ei fonitro’n agos). Defnyddiwch ein rhestrau gwirio:

  • ffyrdd o wneud lan am y diffyg gwaddol 
  • os yw’ch morgais yn agos at ddod i ben gyda diffyg
  • os ydych ar fin ymddeol gyda diffyg

Siaradwch ag ymgynghorydd ariannol cyn cyfnewid eich gwaddol neu stopio unrhyw gynllun ariannol arall fel ffordd o godi arian i leihau cyfalaf eich morgais – fel arall gallech golli allan yn ariannol.

Siaradwch â’ch benthyciwr neu gael cyngor (dod o hyd i ymgynghorydd)
Os yw’ch llythyr yn wyrdd, daliwch ati i wirio a ydych ar y trywydd iawn

Os ydych ar y trywydd iawn i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych, ond nad ydych yn gyfforddus â’r risg o ddiffyg posibl yn y dyfodol, efallai y gallwch newid o’ch morgais llog yn unig i forgais ad-dalu. Cysylltwch â’ch darparwr morgais.

Yn y cyfamser, mae’n werth ystyried cynllun wrth gefn i’ch buddsoddiad – a oes gennych chi arian y gallech chi ei gynilo i gronni byffer?

Hyd yn oed os nad ydych wedi cynilo o’r blaen, gallwch ddechrau gyda’n canllaw ar sut i gynilo

Dewch o hyd i ffyrdd o wneud lan am ddiffyg gwaddol 

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Ffyrdd o wneud lan am ddiffyg gwaddol

Os oes gennych ddiffyg gwaddol, mae angen cynllun arnoch naill ai i bontio’r bwlch neu i ddod o hyd i ateb arall.

 

Mae gan bob un o’r opsiynau hyn manteision ac anfanteision. Bydd rhai yn gwarantu y bydd eich morgais yn cael ei ad-dalu ond gallai fod yn ddrud iawn. Mae eraill yn fwy fforddiadwy ond gallech ddal i gael eich gadael â diffyg.

 

Y peth pwysicaf yw siarad â’ch benthyciwr neu ymgynghorydd i weithio allan eich camau nesaf.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Newid rhan neu’r cyfan o’ch morgais

Gallwch:

  • Newid eich morgais cyfan i forgais ad-dalu. Felly rydych yn ad-dalu’ch dyled erbyn diwedd y tymor, ond rydych yn talu mwy bob mis (gwiriwch faint gan ddefnyddio ein Cyfrifiannell morgais).
  • Trosi rhan o’ch morgais i gytundeb ad-dalu, felly dylai unrhyw gyfalaf morgais sy’n weddill gael ei dalu ar ddiwedd y tymor. Mae hyn yn cynyddu eich ad-daliadau misol ond gallai fod yn fwy fforddiadwy na throsi eich morgais cyfan. Gallech ystyried cadw’r polisi gwaddol i dalu cyfandaliad ar ddiwedd y polisi.
  • Talu rhywfaint o’ch cyfalaf morgais bob mis neu wneud cyfandaliadau i leihau’r ddyled a leihau’r diffyg. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi dalu pryd y gallwch ei fforddio. Ond bydd angen i chi wirio gyda’ch benthyciwr os oes unrhyw godiannau.
Siaradwch â’ch benthyciwr a defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb i weld faint yn ychwanegol y gallech fforddio ei dalu bob mis
Gwnewch newidiadau i’ch gwaddol neu gynllun ad-dalu arall

Trwy dalu mwy i mewn a/neu dalu am fwy o amser, gallwch gronni cronfa fwy i ad-dalu’ch morgais.

Gallech ychwanegu at eich cynllun drwy dalu mwy bob mis. Neu gofynnwch i’ch darparwr polisi ymestyn hyd eich cynllun – byddech yn talu mwy o log yn gyffredinol yn y pen draw, ond os na allwch dalu mwy bob mis gallai hyn eich helpu i gyrraedd eich swm targed. Byddai angen i chi siarad â’r darparwr polisi a morgais am hyn.

Fodd bynnag, mae eich cynllun yn dal i fod yn gysylltiedig â’r farchnad stoc felly efallai na fydd yn tyfu digon a gallech fod yn waeth eich byd na phe baech yn defnyddio’r un swm i leihau eich morgais. A gallech wynebu taliadau ychwanegol ac atebolrwydd treth. Dylech hefyd fod yn wyliadwrus o barhau i ad-dalu i’ch ymddeoliad oherwydd efallai y byddwch yn cael trafferth i gadw i fyny gyda’r ad-daliadau.

Dewis arall yw cyfnewid eich gwaddol yn gynnar i ariannu rhywfaint o ad-daliad cyfalaf – ond mae’n bwysig siarad ag ymgynghorydd ariannol yn gyntaf. Bydd angen i chi ystyried unrhyw yswiriant, taliadau bonws terfynol a gollwyd a chosbau am gyfnewid yn gynnar.

Mae angen cyngor proffesiynol arnoch cyn ystyried yr opsiynau hyn, felly gwiriwch ein canllaw ar ddewis ymgynghorydd ariannol
Dechreuwch gynllun gynilo neu fuddsoddiad newydd

Mae ychwanegu cynllun newydd yn rhoi cyfle i chi gronni cronfa fwy i ad-dalu’ch morgais.

Gallech gynilo i mewn i gyfrif cynilo arian parod neu ISA arian parod.

Neu gallech gynilo i gynnyrch buddsoddiad ychwanegol i dalu’r diffyg gwaddol - fel ISA stociau a chyfranddaliadau neu gynllun buddsoddi arall.

Bydd ymgynghorydd yn eich helpu i ddewis y cynllun mwyaf addas a chyfrifo beth sydd angen i chi ei gynilo i gyflawni’r swm targed. Efallai y bydd angen i chi wneud taliadau ychwanegol mawr iawn, a allai fod yn rhy ddrud.

P’un a ydych yn rhoi arian mewn i fuddsoddiad neu gynllun cynilo, bydd angen i chi wybod faint y gallwch fforddio ei gynilo. Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb i weld beth sydd ar gael i chi.

Darganfyddwch beth i’w wneud os yw’ch morgais yn agos at ddod i ben gyda diffyg

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Os yw’ch morgais yn agos at ddod i ben gyda diffyg

Pan fydd eich buddsoddiad yn talu allan ar ddiwedd y tymor, talwch yr holl arian i mewn i’ch morgais i ddarganfod yn union faint sy’n ddyledus gennych o hyd. Yna siaradwch â’ch benthyciwr cyn gynted â phosibl.

 

Os oes gennych gynilion mewn mannau eraill, gallech dalu’r diffyg oddi yno. Os na, mae gennych opsiynau.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Trafod cyfnod ad-dalu newydd

Efallai mai’r ffordd gyflymaf yw defnyddio’r holl arian o’r gwaddol i dalu’r morgais i lawr, yna trafod trosi’r hyn sy’n ddyledus gennych o hyd (y diffyg) i forgais ad-dalu llawn.

Efallai y byddwch yn gallu parhau â’ch taliadau misol blaenorol nes bod y swm diffyg yn cael ei dalu. Neu, os yw arian yn dynn, efallai y byddwch yn gallu cytuno ar daliadau is dros gyfnod hirach. Fodd bynnag, os byddwch yn ymestyn cyfnod eich morgais, byddwch yn talu mwy o log dros y tymor llawn.

Nid yw ymestyn y tymor i mewn i’ch ymddeoliad yn syniad da oni bai eich bod yn siŵr y gallwch ei fforddio, ac efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni meini prawf fforddiadwyedd y benthyciwr wrth drefnu taliadau morgais newydd.

Cyn belled â’ch bod yn cadw’r taliadau morgais newydd y cytunwyd arnynt, ni ddylech golli’ch cartref oherwydd y diffyg.

Siaradwch â’ch benthyciwr yn y lle cyntaf. Mae ein canllaw y gellir ei lawrlwytho Siarad â’ch benthyciwrYn agor mewn ffenestr newydd yn rhoi camau ymarferol i chi.
Gwerthu eich eiddo

Os nad yw opsiynau eraill yn fforddiadwy, mae angen i chi gysylltu â’ch benthyciwr cyn gynted â phosibl i drafod eich sefyllfa. Byddant yn gallu gweithio gyda chi i geisio dod i ddatrysiad y gellir ei reoli.

Datrysiad mwy drastig fyddai gwerthu’ch eiddo a phrynu un rhatach i ryddhau arian i dalu am y diffyg.

Mae hwn yn ddewis olaf i lawer o bobl ac nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn gwerthu’ch cartref am bris rydych chi’n ei ddisgwyl.

Os penderfynwch mai gwerthu yw eich unig opsiwn, defnyddiwch ein canllaw i helpu

Darganfyddwch beth i’w wneud os ydych ar fin ymddeol a bod gennych ddiffyg

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Os ydych ar fin ymddeol a bod gennych ddiffyg

Os ydych chi’n gwybod y bydd gennych ddiffyg a’ch bod yn bwriadu ymddeol yn fuan, siaradwch â’ch benthyciwr cyn gynted â phosibl i archwilio’ch opsiynau –  mae’n rhaid iddynt wneud ymdrechion rhesymol i ddod i gytundeb gyda chi.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Defnyddiwch gyfandaliad o’ch pensiwn

Os oes gennych gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (a elwir hefyd yn gynllun prynu arian), gallwch gymryd rhan neu’r cyfan o’ch cronfa bensiwn fel taliad arian parod a gallai hyn helpu i dalu unrhyw ddiffyg.

Ond mae’n hanfodol eich bod yn siarad â Pension Wise (gwasanaeth am ddim gan HelpwrArian) cyn i chi ddewis yr opsiwn hwn. Rhaid i chi ystyried sut y bydd hyn yn effeithio ar eich incwm ymddeol – a bod yn ymwybodol o unrhyw oblygiadau treth.

Trefnwch apwyntiad Pension Wise
Symud i gatref llai o faint neu ryddhau ecwiti

Gallech werthu eich eiddo a phrynu un rhatach i ryddhau arian i ad-dalu’r morgais. Ond bydd angen i chi ystyried costau gwerthu a phrynu.

Os ydych yn 55 oed neu’n hŷn, gallech ystyried cynllun rhyddhau ecwiti, fel morgais gydol oes neu gynllun dychweliad cartref. Mae’r rhain yn gynhyrchion cymhleth sy’n eich galluogi i ryddhau ecwiti wedi’i glymu yn eich cartref wrth barhau i fyw ynddo.

Mae yna hefyd yr opsiwn o forgais ymddeol llog yn unig.

Ond mae’r cynlluniau hyn yn gymhleth ac mae yna risgiau – maen nhw’n gallu bod yn ddrud ac yn anhyblyg, a gallant effeithio ar hawl i fudd-daliadau’r wladwriaeth ac unrhyw etifeddiaeth. Felly mae’n bwysig cael cyngor ariannol a chyfreithiol annibynnol cyn penderfynu.

Mae’n rhaid i chi gael cyngor os ydych chi’n ystyried y cynhyrchion cymhleth hyn – gweler ein canllaw

Darganfyddwch beth i’w wneud os oes angen i chi gwyno am eich morgais gwaddol

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Cwyno am eich morgais gwaddol

Efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi cael eich cam-werthu eich morgais gwaddol os nad oedd yn addas ar gyfer eich anghenion a’ch amgylchiadau. Ond dim ond os oedd y cyngor a roddwyd i chi yn anghywir, yn gamarweiniol neu heb esbonio’r risgiau’n glir y mae gennych sail i gwyno. Ni fydd eich cwyn yn cael ei gadarnhau dim ond oherwydd nad yw’r gwaddol wedi perfformio cystal ag yr oeddech yn gobeithio.

 

Os ydych chi’n meddwl bod morgais gwaddol wedi cael ei gam-werthu i chi, mae terfyn amser i chi wneud cwyn felly mae angen i chi weithredu’n gyflym.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Gweithiwch allan a oes gennych resymau i gwyno

Mae gennych sail i gwyno os na wnaeth eich ymgynghorydd:

  • dweud wrthych sut y byddai eich arian yn cael ei fuddsoddi ac esbonio’r risgiau
  • esbonio fod polisi gwaddol yn ymrwymiad hirdymor sy’n aml yn rhoi adenillion gwael os ydych yn ei gyfnewid yn gynnar
  • gwirio eich bod yn gyfforddus â’r risgiau o’ch arian yn gysylltiedig â pherfformiad buddsoddi, gan gynnwys y farchnad stoc
  • gwirio a oedd yn debygol y byddech yn gallu parhau i dalu hyd at ddiwedd y morgais
  • esbonio unrhyw ffioedd a thaliadau, a sut y byddent yn effeithio ar yr elw ar eich cynilion.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cwyno os:

  • oedd eich polisi gwaddol yn dod i ben ar ôl i chi ymddeol – ac ni wnaeth yr ymgynghorydd wirio eich bod yn debygol o allu fforddio’r premiymau ar ôl i chi ymddeol
  • fe’ch cynghorwyd i ganslo un polisi gwaddol a chymryd polisi arall
  • bydd eich polisi gwaddol yn rhedeg ar ôl i’ch morgais ddod i ben
  • rhoddwyd sicrwydd i chi y byddai’r polisi gwaddol yn talu eich morgais – ond dim ond os gallwch ddangos y dywedwyd wrthych ei fod yn sicr o dalu digon i glirio’ch morgais ac roedd hyn yn rhan o’r contract cyfreithiol rhyngoch chi a’r cwmni.
Dewch o hyd i unrhyw waith papur a roddwyd i chi pan brynoch y polisi gwaddol a dewch o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer y cwmni a ddefnyddiwyd gennych gan ddefnyddio’r Financial Services RegisterYn agor mewn ffenestr newydd
Cwyno i’r cwmni a werthodd y polisi i chi

Os ydych chi’n teimlo bod eich polisi wedi cael ei gam-werthu i chi ac eisiau gwneud cwyn, mae am ddim.

Yn gyntaf, cysylltwch â’r busnes a werthodd y polisi gwaddol i chi yn ysgrifenedig. Gallai hwn fod yn gwmni cynghori ariannol, benthyciwr morgais neu ddarparwr gwaddol.

Ceisiwch gasglu cymaint o ddogfennau ag y gallwch ddod o hyd iddynt ac ysgrifennu eich sail am gwyno.

Os na allwch ddod o hyd i’r gwaith papur, gallwch ofyn amdano gan eich cwmni gwaddol pan fyddwch yn cyflwyno’ch cwyn.

Mae gan y cwmni wyth wythnos i ymateb. Os nad ydych chi’n hapus gyda’r canlyniad, gallwch fynd i Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd am ddim.

Mae terfynau amser ar y cwynion hyn. Fel arfer, mae angen i chi gwyno o fewn tair blynedd ar ôl derbyn llythyr coch yn eich rhybuddio am risg uchel o ddiffyg. Byddwch yn cael llythyr gan eich cwmni chwe mis cyn i’r terfyn amser i gwyno dod i ben. Ar gyfer llythrennau lliw eraill, mae’r terfyn amser yn wahanol.

Gwiriwch y terfyn amser ar eich cwynYn agor mewn ffenestr newydd a chwyno i’r cwmniYn agor mewn ffenestr newydd
Ewch â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Ar ôl i’r cwmni ymchwilio eich cwyn, dylent roi penderfyniad terfynol i chi o fewn wyth wythnos, a gallai hyn gynnwys cynnig o iawndal.

Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol o fewn chwe mis o gael llythyr ‘ymateb terfynol’ (neu’n hirach os nad yw’r cwmni wedi anfon un atoch). Bydd gwasanaeth yr Ombwdsmon yn edrych yn annibynnol ar eich achos ac mae am ddim.

Nid oes angen talu brocer na chwmni rheoli hawliadau – nid yw defnyddio’r cwmnïau hyn yn cynyddu’r siawns y bydd eich cwyn yn llwyddo ac os byddwch yn cael iawndal, efallai y bydd gennych lai o arian i ad-dalu’ch morgais.

Unwaith y bydd yr Ombwdsmon yn penderfynu, gallwch ddewis derbyn y penderfyniad (mae’n rhaid i’r cwmni ei dderbyn hefyd) neu os ydych dal yn anhapus, gallwch fynd ag ef i’r llys. Ond bydd hyn yn costio ffioedd cyfreithiol i chi.

Darganfyddwch sut i gwyno i’r Gwasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd
Cwyno am gwmni nad yw’n bodoli mwyach

Os nad yw’r ymgynghorydd neu’r cwmni a werthodd y gwaddol i chi yn bodoli mwyach, efallai y byddwch yn dal yn gallu cael iawndal.

Cysylltwch â’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau AriannolYn agor mewn ffenestr newydd

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig
Thank you for your feedback.
We’re always trying to improve our website and services, and your feedback helps us understand how we’re doing.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau