Mae cost hanfodion bob dydd wedi bod yn cynyddu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. O hanfodion archfarchnad i filiau misol, mae'n debygol na fydd eich arian yn ymestyn mor bell ag yr oedd yn gynt.
Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch biliau neu'n mynd i ddyled i'w talu, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw cymryd camau gweithredu nawr. Mae yna leoedd i droi atynt os oes gennych chi broblemau ariannol neu os oes angen help arnoch chi gyda biliau ar frys. Efallai y byddwch chi'n gallu hawlio budd-daliadau ychwanegol i'ch helpu chi i gynyddu'ch incwm, fel Credyd Cynhwysol. Gallwch chi hefyd ofyn i'ch cyngor lleol am help, er enghraifft gan y Crisis Resilience Fund yn Lloegr, Welfare Fund yn yr Alban, y Gronfa Cymorth Dewisol yng Nghymru a'r Social Fund yng Ngogledd Iwerddon.
P'un a ydych chi'n poeni am arian bob dydd, y biliau y mae'n rhaid i chi eu talu, rhent sy'n codi, neu fynd i'r afael â dyled, rydym wedi dod â'n teclynnau, cyfrifianellau a’n canllawiau mwyaf defnyddiol ynghyd i'ch helpu chi i gadw trefn ar eich arian.
Canllawiau costau byw