Mae Treth Cyngor yn ddyled flaenoriaeth y mae rhaid i chi ei thalu, oherwydd gall canlyniadau cwympo ar ei hôl fod yn waeth nag â dyledion eraill. Os ydych yn poeni am ei dalu, mae'n bwysig cael cynllun.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Help gyda'r dreth gyngor
- Sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
- Beth fydd yn digwydd os bydd fy sefyllfa ariannol yn gwaethygu?
- Beth sy’n digwydd os na allaf dalu fy nhreth gyngor?
- Cymorth gyda dyled treth gyngor
- Pam mae talu eich dyledion yn y drefn gywir yn bwysig
- Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Help gyda'r dreth gyngor
Mae gan bob cyngor gynllun i'ch helpu i reoli'ch taliadau felly cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted â phosib. Os arhoswch nes eich bod wedi methu taliadau, gallai gyfyngu ar yr help y gallant ei gynnig i chi.
- Yng Nghymru a Lloegr, dewch o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK
- Yn yr Alban, dewch o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan mygov.scot
- Yng Ngogledd Iwerddon, dewch o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan nidirect
Pan fyddwch yn cysylltu â nhw, eglurwch eich sefyllfa er mwyn gweld a yw’n bosibl gweithio allan cynllun talu newydd cyn i chi fethu taliad.
Dyma rai enghreifftiau o gymorth y gellir eu cynnig:
- cynlluniau talu hyblyg – er enghraifft, gallwch ofyn am wasgaru taliadau dros 12 mis yn hytrach na 10 mis, sy’n golygu y byddwch yn gwneud taliadau llai bob mis
- Egwyl Treth Gyngor neu Ardrethi – er enghraifft, fel arfer gallwch ofyn am dalu 10 rhandaliad misol uwch yn hytrach na 12, felly does dim rhaid i chi dalu unrhyw beth ym mis Chwefror a mis Mawrth
- Gostyngiadau y Dreth Gyngor, Rhyddhad Ardrethi neu Ad-daliad Ardrethi os ydych ar fudd-daliadau neu ar incwm isel
- Gostyngiadau y Dreth Gyngor neu Disgownt Ardrethi os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os mai chi yw'r unig oedolyn yn y cartref.
Am fwy o wybodaeth ar wneud cais am ostyngiad Treth CyngorYn agor mewn ffenestr newydd gwelwch wefan Cyngor ar Bopeth
Sicrhewch eich bod wedi hawlio popeth y mae gennych hawl iddo
Os ydych wedi cael sioc incwm, gallech fod â hawl i gefnogaeth y llywodraeth. Os ydych yn cael trafferthion ariannol, mae'n bwysig eich bod yn hawlio unrhyw help ychwanegol y gallwch.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Beth fydd yn digwydd os bydd fy sefyllfa ariannol yn gwaethygu?
Hyd yn oed os yw eich cyllid ar y trywydd iawn nawr, gallai eich incwm newid. Efallai eich bod yn hunangyflogedig ac mae gennych incwm cyfnewidiol. Gallai hyn olygu dyfodol ansicr.
Efallai y bydd angen i chi adolygu'ch cyllid fel y gallwch dalu am eich ad-daliadau. Mae'n ddefnyddiol llunio cyllideb. Os oes gennych ychydig mwy yn mynd allan na dod i mewn, efallai y gallwch ail-weithio sut rydych yn gwario'ch arian.
Beth sy’n digwydd os na allaf dalu fy nhreth gyngor?
Os ydych eisoes wedi methu taliad Treth Cyngor, mae hyn yn golygu eich bod mewn ‘ôl-ddyledion’.
Cysylltwch â'ch cyngor cyn gynted â phosibl i roi gwybod iddynt fod eich incwm wedi newid, a'ch bod yn cael trafferth talu am eich biliau.
Am ganllaw defnyddiol ar ddelio ag ôl-ddyledion Treth CyngorYn agor mewn ffenestr newydd, gwelwch wefan Cyngor ar Bopeth
Yn ogystal â dod i drefniant ar yr arian sy'n ddyledus iddynt, dylech hefyd siarad am filiau'r dyfodol – yn enwedig os ydych yn meddwl y gallech gael trafferth i’w talu.
Gwnewch gyllideb, cyfrifwch pa arian sydd gennych ar ôl ar ei ôl, a gofynnwch i'r cyngor am help.
Darganfyddwch fwy ar wefan StepChange am sut caiff dyledion eu casglu pan fyddwch mewn ôl-ddyledion
Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cynllun i dalu'ch dyledionYn agor mewn ffenestr newydd, gwelwch wefan Cyngor ar Bopeth
Darganfyddwch beth i'w wneud os methwch daliad treth cyngor
Cymorth gyda dyled treth gyngor
Gallai cyngor dyled am ddim a chyfrinachol roi rhywfaint o help i chi os:
- ydych chi wedi methu taliad
- ydych chi’n meddwl eich bod chi’n mynd i golli taliad neu
- ydych chi’n jyglo dyledion eraill.
Gallwch ddefnyddio ein teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion am ddim i ddod o hyd i gyngor dyled am ddim a chyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at le rydych chi’n byw
Pam mae talu eich dyledion yn y drefn gywir yn bwysig
Mae’n bwysig talu rhai dyledion cyn eraill. Mae hyn oherwydd bod rhai yn fwy brys ac mae gan rai benthycwyr fwy o rym nag eraill.
Er mwyn eich helpu i weithio allan pa rai i'w talu yn gyntaf, gwelwch ein canllaw ar sut i flaenoriaethu'ch dyledion
Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol
Gallai cael problemau iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.
Dewch o hyd i awgrymiadau ymarferol ar sut i reoli'n ariannol a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein canllaw problemau ariannol a lles meddyliol gwael
Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â'ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag mae arnoch arian iddynt, i drafod eich opsiynau.
Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan rydych yn cael trafferth â'ch iechyd meddwl.
I gael awgrymiadau ymarferol ar sut y gallwch siarad â'r rhai y mae arnoch arian iddynt, edrychwch ar ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian
Mae gan y rhan fwyaf o leoedd y mae gennych arian yn ddyledus iddynt bolisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych yn agored i niwed. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.