Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Problemau ariannol
  3. Delio gyda dyled
Problemau ariannol Delio gyda dyled

Taclo gamblo problemus a dyled

Os yw gamblo yn effeithio arnoch yn ariannol, gall fod yn anodd siarad amdano. Ond nid ydych ar eich pen eich hun. Mae help a chefnogaeth allan yna i chi.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • A yw fy ngamblo yn broblem?
  • Sut mae clirio fy nyled gamblo?
  • Gofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo am help
  • Awgrymiadau hunangymorth i’ch helpu i roi’r gorau i gamblo
  • Sut gall fy manc fy helpu i reoli fy ngamblo?
  • Sut y gall eich credydwyr eich helpu â’ch dyled gamblo
  • Sut i atal benthycwyr posibl rhag rhoi credyd i chi
  • Gamblo ac iechyd meddwl
  • Sut allaf amddiffyn fy nheulu rhag dyled a achosir gan fy ngamblo?
  • Beth i’w wneud os ydych yn byw gyda rhywun sy’n cael trafferth â gamblo
  • Diogelu incwm o fudd-daliadau lles
  • Pryd i gael cyngor ar ddyledion
  • Sut i flaenoriaethu’ch dyledion
  • Pobl ifanc a gamblo
  • Darganfod mwy

A yw fy ngamblo yn broblem?

Os ydych yn credu bod eich gamblo yn niweidiol i’ch arian, perthnasoedd a rhannau eraill o’ch bywyd, mae’n bwysig i fod yn onest ac i siarad amdano. Dylech wybod nad ydych ar eich pen eich hunana bod ystod eang o help ar gael i chi.

Os ydych yn gamblo er mwyn gwneud arian yn hytrach nag am hwyl, efallai ei bod yn amser i chi gael help. Er enghraifft, os ydych yn ei weld fel ffordd arall o gynilo neu fenthyg swm rydych yn gallu fforddio'i dalu'n ôl gan fanc, cymdeithas adeiladu neu fenthyciwr arall, mae hyn yn arwydd efallai bod gennych broblem.

Mae rhai arwyddion o rybudd yn cynnwys, os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn:

  • defnyddio gorddrafft, neu ffurfiau eraill o gredyd neu fenthyg o deulu neu ffrindiau i dalu am gamblo
  • methu taliadau ar gyfer dyledion neu filiau â blaenoriaeth neu’n methu â fforddio pethau hanfodol oherwydd bod yr arian wedi cael ei wario ar gamblo
  • gamblo i adennill arian sydd wedi’i golli
  • dweud celwydd wrth deulu a ffrindiau am gamblo.

Os oes unrhyw un o’r rhain yn gyfarwydd i chi, mae’n bryd cael help.

Os ydych yn cael eich effeithio gan broblemau gamblo, gallwch ffonio’r National Gambling Helpline ar 0808 8020 133Yn agor mewn ffenestr newydd Mae ymgynghorwyr ar gael 24/7 i gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

Neu ewch i wefan GamCareYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Sut mae clirio fy nyled gamblo?

Mae gamblo yn aml yn arwain at ddyled.

Yn ogystal â mynd i’r afael â’ch gamblo, mae’n bwysig cael cymorth ariannol hefyd.

Mae llawer o bobl sy’n gofyn am help yn dweud eu bod yn meddwl bod ganddynt broblem arian a’u bod wedi cael help gyda dyled – ond ni newidiodd unrhyw beth tan iddynt gydnabod bod ganddynt broblem gamblo.

Gall delio â dyled deimlo’n llethol ac yn straen. Ond mae’n well i fynd i’r afael â’ch cyllid nawr. Mae ei gael dan reolaeth yn gam cyntaf pwysig.

Efallai nad ydych yn benthyg arian i’w gamblo – ond efallai eich bod yn defnyddio’r arian y dylech fod wedi ei wario ar fwyd a rhent, er enghraifft.

Mae’n bwysig talu biliau â blaenoriaeth yn gyntaf. Rhain sydd â’r canlyniadau mwyaf difrodol os na fyddwch yn eu talu. Maent yn cynnwys:

  • dirwy gan y llys
  • Treth ac Ardreth Cyngor
  • Trwydded deledu
  • Cynhaliaeth Plant
  • biliau nwy a thrydan
  • Treth incwm, Yswiriant Gwladol a TAW
  • morgais, rhent ac unrhyw fenthyciadau sydd wedi’u diogelu yn erbyn eich cartref
  • cytundebau hurbwrcas, os yw’r hyn rydych yn ei brynu’n hanfodol
  • taliadau coll sy’n ddyledus i DWP (yr Adran Gwaith a Phensiynau) neu HMRC.

Os yn bosibl, dylech dalu’r rhain ar y diwrnod rydych yn cael eich talu – cyn y cewch eich temtio i ddefnyddio’r arian i gamblo.

Os ydych yn cael trafferth gyda dyled, mae’n bwysig eich bod yn siarad ag ymgynghorydd dyled profiadol ac sydd wedi’i hyfforddi cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae ein canllaw Rheoli eich arian hefyd â gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol.

Gallai gosod cynllun gwario fod yn ddefnyddiol. Gallai eich helpu i ddeall a ydych yn gamblo o fewn eich gallu a’ch helpu i gymryd rheolaeth o’ch cyllid yn well.

Cynlluniwr cyllideb

I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio.

Nol i’r brig

Gofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo am help

Mae trosglwyddo’ch cyllid i rywun rydych yn ymddiried ynddo wrth i chi fynd i’r afael â’ch gamblo yn opsiwn. Er nad yw’n ddatrysiad hirdymor, gall helpu yn y tymor byr tra’ch bod yn mynd i’r afael â’ch gamblo.

Mae’n bwysig sicrhau eich bod eich dau yn hapus gyda’r penderfyniad hwn ac nad yw’r naill bartner na’r llall yn teimlo o dan unrhyw bwysau neu ddicter dros y trefniant. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch gwneud hyn, chwiliwch am gyngor yn gyntaf. Gallwch ffonio’r National Gambling Helpline ar 0808 8020 133.

Un ffordd o wneud hyn yw trwy ddefnyddio mandad trydydd parti. Mae hon yn ddogfen sy'n dweud wrth fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrifon arall y gallant dderbyn cyfarwyddiadau am arian yr unigolyn hwnnw gan berson penodol arall a enwir.

Os ydych chi'n teimlo bod angen rhywun arnoch i reoli'ch arian nes y gallwch chi ei reoli eich hunan, gweler ein canllaw Help i reoli arian bob dydd.

Nol i’r brig

Awgrymiadau hunangymorth i’ch helpu i roi’r gorau i gamblo

Mae nifer o ffyrdd y gallwch helpu’ch hun i roi’r gorau i gamblo. Mae’r rhain yn cynnwys:

Hunan-eithrio

Gallwch eithrio’ch hun o gwmnïau gamblo, naill ai ar-lein neu mewn lleoliad go iawn. Mae hyn yn golygu eich bod yn gofyn i’r busnes eich atal rhag gamblo â hwy, fel arfer am gyfnod rhwng chwe mis a phum mlynedd. Gallwch ofyn i staff mewn lleoliad wneud hyn ar eich rhan. Neu gallwch drefnu gwaharddiad o leoliadau neu safleoedd penodol trwy ‘gynlluniau hunan-eithrio aml-weithredwr’.

Gall GAMSTOP eich eithrioYn agor mewn ffenestr newydd o’r holl gwmnïau gamblo ar-lein sydd wedi’u trwyddedu i ddarparu gweithgareddau gamblo yn y DU. 

Am fanylion ynglŷn â lleoliadau corfforolYn agor mewn ffenestr newyd ewch i BeGambleAware.

Rhwystrau gamblo gan y banc (neu reolaethau gwario)

Bellach mae mwy o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn rhoi’r opsiwn i chi rwystro trafodion gamblo a wneir trwy eich cyfrifon banc gan ddefnyddio cerdyn debyd.

Ni allwch ddefnyddio cerdyn credyd i dalu am drafodion gamblo ar-lein neu ar y tir.

Mae'n bosibl o hyd ddefnyddio cerdyn credyd i dalu am docynnau loteri wyneb yn wyneb mewn siopau papurau newydd ac archfarchnadoedd. Nid yw'r Loteri Genedlaethol yn derbyn taliadau ar-lein ac nid yw gweithredwyr gamblo loteri eraill yn eu derbyn chwaith. Os yw hon yn broblem, gallwch ofyn i'ch cwmni cardiau credyd atal trafodion i'r gweithredwyr hyn hefyd.

Meddalwedd rhwystro

Rhaglen gyfrifiadurol yw hon sy’n cyfyngu mynediad i wefannau neu wasanaethau ar-lein eraill. Mae rhai meddalwedd am ddim, weithiau mae yna ffi. Mae’n bwysig gwneud eich ymchwil a darganfod pa un yw’r gorau i chi.

Efallai y bydd eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd yn gallu cynnig i chi eithrio eich hun o’r holl wefannau oedolion. Neu gyflenwi meddalwedd gwrth feirws i chi sy’n eich galluogi i rwystro rhai meysydd, fel gamblo.

Gallwch hefyd ofyn i’ch darparwr ffôn symudol neu’ch teledu rhyngweithiol gyfyngu neu rwystro’ch mynediad at wasanaethau gamblo.

Darganfyddwch fwy am feddalwedd rhwystro yn GamCareYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Sut gall fy manc fy helpu i reoli fy ngamblo?

Efallai y byddwch yn teimlo’n nerfus neu’n teimlo cywilydd ynglŷn â chysylltu â’ch banc ond mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â hwy er mwyn iddynt wybod am eich sefyllfa. Mae’n rhaid iddynt ddarparu nwyddau a gwasanaethau sy’n iawn ar eich cyfer chi a’ch trin yn deg. Gweler ein canllaw Rhoi gwybod i gredydwyr am fregusrwydd neu addasiadau.

Gall banciau eich helpu mewn sawl ffordd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhewi eich cerdyn dros dro pan fyddwch yn teimlo bod eich gwariant yn mynd allan o reolaeth
  • newid y swm o arian y gallwch godi o beiriannau arian parod bob dydd, neu droi’r gallu i dynnu arian parod i ffwrdd yn gyfan gwbl
  • cynnig blociau gamblo
  • gosod terfyn gamblo
  • atal cyfathrebu marchnata ar gyfer nwyddau credyd.

Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd y mae eich banc yn mynd i’r afael â’ch sefyllfa, gallwch wneud cwyn trwy Wasanaeth yr Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Sut y gall eich credydwyr eich helpu â’ch dyled gamblo

Os ydych mewn dyled ac yn cael anawsterau i wneud taliadau, mae’n bwysig siarad â’ch credydwyr. Efallai gallant eich helpu, ond dim ond os ydych yn dweud wrthynt.

Gall eich credydwyr eich helpu i greu cynllun talu y gallwch ei fforddio. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi colli taliadau a thalu ffioedd yn uwch o ganlyniad i hynny.

Os gallwch ddangos iddynt y camau rydych yn eu cymryd i roi’r gorau i gamblo, gallai hyn eu gwneud yn fwy parod i’ch helpu.

Bydd ein Cynlluniwr cyllideb am ddim yn eich helpu i wybod ble mae’ch arian yn cael ei wario, a faint sydd gennych yn dod i mewn.

Nol i’r brig

Sut i atal benthycwyr posibl rhag rhoi credyd i chi

Gwyliwch rhag siarcod benthyg

Mae siarcod benthyg yn aml yn defnyddio sianeli ar-lein fel cyfryngau cymdeithasol i geisio benthyg i bobl. Mae'r math hwn o fenthyca yn anghyfreithlon a gallai gostio llawer mwy i chi nag yr ydych yn ei feddwl.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pam bod angen i chi osgoi darparwyr benthyciadau didrwydded.

Os ydych mewn perygl o wneud cais am gredyd i ariannu eich gamblo, gallwch roi gwybod i ddarpar fenthycwyr nad ydych am iddynt fenthyca i chi.

Gallwch wneud hyn trwy ychwanegu ‘nodyn’ (a elwir hefyd yn Hysbysiad Cywiriad) at eich ffeil gredyd. Bydd benthycwyr yn gweld hyn a dylent ystyried yr hyn rydych wedi’i ysgrifennu yn y nodyn.

Mae’r asiantaethau cyfeirio hyn yn cynnig gwasanaeth Hysbysiad o Gywiriad:
  • Diogelu eich hun ar Experian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Rheoli eich arian ar Equifax Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Ychwanegu adroddiad credyd ar TransUnion Yn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Gamblo ac iechyd meddwl

Yn ogystal ag effeithio arnoch yn ariannol, gall gamblo problemus hefyd effeithio’n ddifrifol ar eich iechyd meddwl.

Os ydych yn gamblo i ddianc rhag materion iechyd meddwl, fel straen, pryder neu iselder, ni fydd ond yn gwaethygu’r teimladau hyn.

Nid yn unig hynny, gall achosi problemau eraill hefyd, gan gynnwys rhoi straen ar eich perthnasoedd personol a rhoi eich swydd mewn perygl.

Yn ogystal â mynd i’r afael â’ch gamblo, mae’n bwysig mynd i’r afael ag unrhyw faterion iechyd meddwl hefyd.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Problemau ariannol a lles meddyliol

Gallwch hefyd gysylltu â'r Samaritans os oes angen rhywun i siarad â nhw arnochYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Sut allaf amddiffyn fy nheulu rhag dyled a achosir gan fy ngamblo?

Gall gamblo, a’i effaith ariannol, effeithio’n sylweddol ar eich iechyd a'ch lles chi a’ch teulu.

Fodd bynnag, os ydych yn gamblo a’i fod yn achosi problemau ariannol, mae’n bwysig cael cyngor. Yn enwedig os:

  • oes gennych gerdyn credyd neu fenthyciad ar y cyd â’ch partner
  • oes gennych hawl budd-dal ar y cyd ac rydych yn cael yr arian
  • ydych yn berchen ar eich cartref ar y cyd â’ch partner.

Os ydych yn cael eich effeithio gan broblemau gamblo, gallwch ffonio’r National Gambling Helpline ar 0808 8020 133. Mae ymgynghorwyr ar gael 24/7 i gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

Neu ewch i wefan GamCareYn agor mewn ffenestr newydd

Gall cael cyfrifon cyfredol a chardiau credyd ar wahân helpu i amddiffyn cyllid eich partner.

Siaradwch â’ch banc neu’ch darparwr credyd am unrhyw fesurau eraill y gallant eu rhoi ar waith i’ch cefnogi.

Mae'n bwysig iawn peidio â rhoi benthyg arian i rywun sy'n cael trafferthion â gamblo, oherwydd gall hyn wneud y sefyllfa'n waeth.

Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu? 

Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig.

Nol i’r brig

Beth i’w wneud os ydych yn byw gyda rhywun sy’n cael trafferth â gamblo

Os yw’ch partner, eich plentyn neu rywun rydych yn ei adnabod yn gamblo ac wedi colli rheolaeth ar y sefyllfa, gall gael effaith ddinistriol ar eich cyllid a’ch perthynas.

Ymhlith yr arwyddion ar gyfer gamblo niweidiol mae:

  • yn gyfrinachol am eu cyllid
  • yn amddiffynnol ynghylch arian
  • cuddio cyfriflenni banc
  • codi arian o gyfrifon heb eglurhad.

Wrth gwrs, gallai'r rhain fod yn arwyddion o broblemau eraill felly'r peth cyntaf i'w wneud yw cyrraedd gwaelod pethau.

Siaradwch â nhw'n gyntaf

Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau os bydd angen i chi siarad â’ch partner am eu problem gamblo, neu os ydych yn amau y gallai fod problem ganddynt.

Am awgrymiadau ar sut i baratoi a sicrhau bod y sgwrs yn adeiladol, gweler ein canllaw Sut i gael sgwrs am arian

Os na allwch siarad â hwy'n gyntaf, gallwch gael help

Hyd yn oed os nad ydynt yn barod i gael help, mae llawer o help a chymorth i chi.

Ffoniwch linell cymorth GamCare ar 0808 8020 133. Byddant yn eich helpu i ddarganfod eich camau nesaf.  

Os nad ydych yn teimlo fel siarad â rhywun dros y ffôn

Gallwch siarad ag ymgynghorydd ar-lein trwy sgwrs fyw ar Mae fforymau ar-lein hefyd lle gall pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gamblo problemus siarad a chefnogi ei gilydd.

Pethau y gallwch eu gwneud i ddiogelu eich hun a’ch cyllid

Gwiriwch eich adroddiad credyd i weld a ydych chi’n gysylltiedig â nhw’n ariannol. Er enghraifft, os oes gennych forgais ar y cyd neu os yw enw’r ddau ohonoch ar gytundeb rhentu, neu os oes gennych gyfrifon banc ar y cyd.

Os oes gennych fenthyciad neu os ydych wedi llofnodi contract gyda rhywun, rydych yn gyd-gyfrifol am ad-daliadau. Os ydynt yn cael trafferth gyda gamblo, rydych yn rhoi eich hun mewn perygl os na chaiff y taliadau hynny eu gwneud.

Gall cadw'ch arian ar wahân helpu i ddiogelu eich sgôr credyd a'ch diogelu'n ariannol. Felly ystyriwch ganslo neu dynnu mynediad at gyfrifon ar y cyd.

Er mwyn helpu i ddiogelu eich cartref gallwch osod rhybudd ar eiddo rhag ofn y bydd unrhyw weithgarwch sylweddol yn gysylltiedig ag ef os ydych yn byw:

  • Yng Nghymru neu Loegr: Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth am ddim property alert Cofrestrfa Tir EF
  • Yn yr Alban, defnyddiwch y property alert serviceYn agor mewn ffenestr newydd
  • Yng Ngogledd Iwerddon: Diogelwch eich tir a’ch eiddo rhag twyll

Defnyddiwch rwystrau gamblo banc i sicrhau na all y gamblwr gamblo gyda'ch cardiau.

Adnabod camdrin economaidd

Gallech ddioddef camdriniaeth ariannol neu economaidd os:

  • ydych yn cael eich gorfodi i gymryd benthyciadau neu gredyd ar y cyd i ariannu gamblo eich partner
  • yw'ch partner wedi cymryd benthyciadau neu gredyd yn eich enw heb eich gwybodaeth na'ch caniatâd i'w defnyddio ar gyfer gamblo – twyll ydy hyn ac mae camau y gallwch eu cymryd gyda’r benthyciwr i sicrhau nad ydych yn gyfrifol am ei ad-dalu.
I ddarganfod mwy am yr hyn ydyw a beth allwch chi ei wneud gweler ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Nol i’r brig

Diogelu incwm o fudd-daliadau lles

Os ydych yn poeni bod eich partner yn defnyddio'r arian rydych yn ei gael gan Gredyd Cynhwysol i gamblo gallwch ofyn i'ch hyfforddwr gwaith am Drefniant Taliad Amgen (APA).

Mae hyn yn golygu y gellir talu'ch taliad yn gyfan gwbl i chi neu gallwch rannu'r taliad â'ch partner fel y gallwch gadw rheolaeth ar yr arian sydd ei angen arnoch.

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein canllaw Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau.

Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda'n Cyfrifiannell budd-daliadau.

Nol i’r brig

Pryd i gael cyngor ar ddyledion

Mae anwybyddu’ch dyled yn debygol o waethygu’r sefyllfa. Mae’n bwysig siarad â rhywun a chael help.

Os na allwch wneud ad-daliadau ar ddyledion a’ch bod ar ei hôl hi o ran eich biliau, nawr yw’r amser i gael cyngor am ddim ar ddyledion.

Bydd cynghorydd dyled yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o reoli’ch dyledion. Mae’n syniad da rhoi gwybod iddynt fod eich dyled o ganlyniad i gamblo gan y bydd llawer yn cynnig cyngor ac atebion wedi’u teilwra i chi a’ch sefyllfa.

Nol i’r brig

Sut i flaenoriaethu’ch dyledion

Gall canlyniadau peidio talu rhai dyledion cyn eraill fod yn fwy difrifol. Mae ein canllaw Sut i flaenoriaethu’ch dyledion yn eich helpu i weld pa ddyledion i’w talu’n gyntaf.

Darganfyddwch fwy am sut mae dyledion yn cael eu casglu pan fyddwch mewn ôl-ddyledionYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan StepChange.

Mae mwy o wybodaeth am sut i wneud cynllun i dalu'ch dyledionYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.

I ddarganfod sut i leihau eich treuliauYn agor mewn ffenestr newydd i helpu i ddal i fyny â'ch ad-daliadau, edrychwch ar wefan StepChange.

Ydych chi’n cael trafferthion gyda thaliadau?

Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.

Nol i’r brig

Pobl ifanc a gamblo

Mae ymchwil gan y Gambling Commission wedi dangos bod dros hanner o bobl ifanc 11 i 17 oed wedi cael rhyw brofiad gyda gamblo, a’r ffurfiau mwyaf poblogaidd yw gemau a pheiriannau gemau.

Er y gellir ystyried hyn yn ddiniwed, mae gweld gweithgarwch gamblo o oed ifanc yn achosi i rai pobl ifanc ddatblygu problemau gyda gamblo’n hwyrach yn eu bywydau.

Gall cyfaddef bod eich plentyn yn cael niwed oherwydd gamblo deimlo'n chwithig neu'n gywilyddus. Peidiwch â phoeni, mae help pwrpasol i deuluoedd.

Y lle gorau i ddechrau yw trwy gysylltu ag ymweld â'r sefydliadau:

  • GamFam sy'n helpu teuluoeddYn agor mewn ffenestr newydd i adnabod yr arwyddion rhybuddio cynnar ac atal dibyniaeth. Gall unrhyw berson ifanc rhwng 11 ac 18 oed gael mynediad at gefnogaeth os ydynt yn poeni am eu gamblo neu gamblo rhywun sy’n agos atynt.
  • BigDeal sy'n lle i bobl ifanc ddod o hyd i wybodaethYn agor mewn ffenestr newydd a chefnogaeth sy’n gysylltiedig â gamblo, iddynt eu hunain neu i rywun maent yn poeni amdano.

Rhan o’r broblem yw faint o hysbysebu gamblo y mae pobl ifanc yn agored iddo ar y teledu, ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol

Edrychwch ar waith GambleAware ar eich helpu i osgoi hysbysebu gambloYn agor mewn ffenestr newydd

Rheolau ar gyfer gamblo a phobl ifanc

Nid yw cwmnïau gamblo yn caniatáu i unrhyw un o dan 18 oed gamblo.

Yn y DU, mae un eithriad yn unig:

  • Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran ar beiriannau gemau categori-D, sy’n cynnwys gêmau arcêd, gwthwyr ceiniogau a pheiriannau bachu.

Gallwch gwyno i’r Comisiwn GambloYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn credu nad yw cwmni wedi dilyn y rheolau.

Darganfyddwch fwy o help gyda phroblemau gamblo gyda Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Darganfod mwy

I ddod o hyd i help a chefnogaeth yn eich ardal chi:
 
Urhyw le yn y DU, ewch i GamCare neu ffoniwch y National Gambling Helpline ar 0808 8020 133
 
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd fynd i Gamble Anonymous Ireland neu ffoniwch ar (087) 22804
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Delio gyda dyled

Cael help gyda dyled

  • Lle i gael cyngor ar ddyledion am ddim
  • Taclo gamblo problemus a dyled
  • Help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion
  • Beth yw Lle i Anadlu a sut y gall fy helpu
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Cael help gyda dyled

  • Lle i gael cyngor ar ddyledion am ddim
  • Taclo gamblo problemus a dyled
  • Help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion
  • Beth yw Lle i Anadlu a sut y gall fy helpu
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau