Mae Cynllun Rheoli Dyled (DMP) yn caniatáu i chi dalu'ch dyledion ar gyfradd y gallwch ei fforddio. Darganfyddwch fwy am sut mae'n gweithio a pha ddyledion y gallwch eu defnyddio ar eu cyfer. Gallwch hefyd siarad ag ymgynghorydd dyled am ddim ynghylch ai dyma'r ffordd orau i dalu neu glirio'ch dyledion.
Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim
Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn agos at lle’r ydych chi’n byw.
Bydd ymgynghorydd dyled:
- yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
- eich cefnogi heb feirniadaeth – ni fyddant byth yn eich gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
- yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.
Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.
Sut mae Cynllun Rheoli Dyled yn gweithio
Gallai Cynllun Rheoli Dyled (DMP) fod i chi os oes gennych ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth fel cardiau credyd neu siop, gorddrafftiau a benthyciadau personol.
Bydd eich darparwr DMP yn helpu cyfrifo taliad fforddiadwy i chi ac yn siarad gyda’ch credydwyr.
Byddwch yn gwneud un taliad misol i’r darparwr DMP, sydd yn ei dro yn talu credydwyr ar eich rhan.
Pa ddyledion allaf i eu talu gyda Chynllun Rheoli Dyled?
Gallwch ond defnyddio Cynllun Rheoli Dyled ar gyfer dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- gorddrafftiau
- benthyciadau personol
- benthyciadau banc neu gymdeithas adeiladu
- arian wedi’i fenthyca gan ffrindiau neu deulu
- dyledion cerdyn credyd, cerdyn siop neu fenthyciadau diwrnod cyflog
- dyledion catalog, credyd cartref neu gredyd mewn siop.
Pa ddyledion na allaf i eu talu gyda Chynllun Rheoli Dyled?
Mae Cynlluniau Rheoli Dyled (DMPs) ar gyfer dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth fel cardiau credyd neu gardiau siop.
Ni allwch ddefnyddio Cynllun Rheoli Dyled i dalu dyledion â blaenoriaeth gan y gall y rhain achosi problemau difrifol os na wnewch unrhyw beth amdanynt.
Mae dyledion â blaenoriaeth yn cynnwys:
- dirwyon llys
- Ffioedd Trwydded Deledu
- Y Dreth Gyngor neu ardrethi
- biliau nwy a thrydan
- cynhaliaeth a chynnal plentyn
- Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a TAW
- morgais, rhent ac unrhyw fenthyciadau a sicrhawyd yn erbyn eich cartref
- cytundebau hurbwrcas, os yw’r hyn rydych yn ei brynu â nhw yn hanfodol.
- taliadau a fethwyd sy'n ddyledus i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu Gyllid a Thollau EF (CThEF)
Darganfyddwch fwy am beth sy’n ddyledion blaenoriaeth ac sydd ddim yn flaenoriaeth Sut i flaenoriaethu eich dyledion.
Pwy sy’n cynnig Cynlluniau Rheoli Dyled?
Bydd ymgynghorydd ar ddyledion yn eich helpu i benderfynu a yw Cynllun Rheoli Dyled (DMP) yn addas ar eich cyfer chi. Efallai y byddant hefyd yn gallu trefnu cynllun i sicrhau bod eich ad-daliadau yn helpu i glirio eich dyledion. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar sefydliadau cyngor ar ddyled am ddim.
Os byddwch yn dewis darparwr sy’n codi ffi, dylech fod yn ymwybodol bod yn rhaid i bob darparwr DMP gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau a gytunwyd.
Cyn eich bod yn cytuno i dderbyn cynllun gyda darparwr sy’n codi ffi, gwiriwch eu bod wedi eu hawdurdodi. Gwiriwch os yw darparwr Cynllun Rheoli Dyled wedi ei awdurdodi drwy ddefnyddio gwefan y Financial Services RegisterYn agor mewn ffenestr newydd