Darganfyddwch fwy am sut mae Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) yn gweithio a pha ddyledion mae’n eu cwmpasu. Yna siaradwch gyda chynghorydd dyledion am p’un ai dyma’r ffordd orau i glirio eich dyledion.
Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim
Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn agos at lle’r ydych chi’n byw.
Bydd ymgynghorydd dyled:
- yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
- eich cefnogi heb feirniadaeth – ni fyddant byth yn eich gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
- yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.
Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.
Beth yw IVA?
Mae Cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA) yn rhewi eich dyledion ac yn eich caniatáu chi i’w had-dalu dros gyfnod penodol.
Yna caiff unrhyw arian sy’n ddyledus gennych o hyd ar ôl y cyfnod hwn ei ddileu.
Pwy all wneud cais am IVA?
Gallwch wneud cais am IVA os gallwch fforddio talu rhywbeth tuag at eich dyledion ond nid y swm llawn y mae eich credydwyr ei eisiau. Mae faint o incwm gwario sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y darparwr rydych chi'n ei ddefnyddio.
Bydd angen i chi ddangos bod gennych incwm hirdymor rheolaidd, gan y bydd yr ad-daliadau fel arfer yn cwmpasu cyfnod dros 60 neu 72 mis (pum neu chwe blynedd).
Os oes gennych swm cyfandaliad i'w dalu tuag at eich dyledion, efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael IVA.
Pa ddyledion allaf eu talu gydag IVA?
Gallwch ddefnyddio IVA i helpu talu unrhyw ddyledion cyffredin, yn cynnwys:
- gorddrafftiau
- benthyciadau personol
- dyledion catalog
- ôl-ddyledion Treth Cyngor
- dyledion hurbwrcasu
- diffygion morgais
- cardiau credyd a chardiau siop
- arian sy’n ddyledus gennych i Gyllid a Thollau EM, fel treth incwm neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Pa ddyledion na allaf eu talu gydag IVA?
Ni allwch ddefnyddio IVA i dalu:
- benthyciadau myfyrwyr
- dirwyon llys ynadon
- mathau penodol o gyllid car
- ôl-ddyledion cynhaliaeth plentyn neu Gynnal Plant
- benthyciadau Cronfa Gymdeithasol
- ôl-ddyledion Trwydded Teledu.
Ôl-ddyledion morgais a rhent
Oni bai bod eich credydwr yn cytuno, yn aml ni allwch gynnwys benthyciadau sydd wedi'u ddiogelu yn erbyn eich eiddo - fel morgais neu ôl-ddyledion rhent.
Gwiriwch gyda chynghorydd dyledion beth allwch ac na allwch ei gynnwys mewn IVA. Os oes gennych ôl-ddyledion morgais neu rent, edrychwch a oes atebion dyled eraill ar gael i chi ddelio â'r ad-daliadau hyn.
Sut mae IVA yn gweithio
Mae'r IVA yn cael ei sefydlu gan weithiwr proffesiynol cymwys o'r enw Ymarferydd Ansolfedd. Byddant yn gweithio gyda chi i lunio cynnig i'w gyflwyno i'ch credydwyr i'w gymeradwyo.
Mae'n dibynnu'n fawr ar beth yw eich amgylchiadau ynghylch a fydd eich credydwyr yn cytuno i'r cynllun. Ond os yw o leiaf 75% o'ch credydwyr yn cytuno i'r cynnig, mae'n debygol y bydd IVA yn cael ei gymeradwyo - hyd yn oed os yw rhai credydwyr yn anghytuno.
Mae IVA yn gytundeb cyfreithiol rhwymol rhyngoch chi a'r bobl mae gennych arian yn ddyledus iddynt. Mae hyn yn golygu pan fyddwch chi wedi'i lofnodi, gall fod yn anodd i chi neu'ch credydwyr dynnu'n ôl. Ac os byddwch chi'n tynnu'n ôl, mae'n debygol y bydd cosbau trwm.
Os ydych chi'n berchennog tŷ, mewn ail flwyddyn i flwyddyn olaf yr IVA, efallai y gofynnir i chi ail-forgeisio'ch tŷ a defnyddio'r arian ychwanegol tuag at ad-dalu. Os gwnewch hyn, byddai tymor yr IVA yn dod i ben flwyddyn yn gynnar neu ar ôl i chi ail-forgeisio.
Sut i sefydlu IVA
Mae'n rhaid i chi sefydlu IVA drwy ymarferydd ansolfedd.
Efallai y bydd ffioedd ymlaen llaw i'w talu cyn i'ch IVA gael ei sefydlu. Gall y rhain amrywio llawer rhwng darparwyr IVA. Byddwch hefyd yn talu taliad misol i oruchwylio'r IVA.
Mae ffioedd hefyd i'w talu i'r ymarferydd ansolfedd, sydd fel arfer yn cael eu cymryd o'ch taliadau misol.
Mae bob amser yn well cael cyngor gan ymgynghorydd ar ddyledion am ddim. Dylent hefyd allu argymell darparwr IVA a'ch helpu i ddeall y gwahanol ffioedd a thaliadau.
Beth os na allaf gadw i fyny gyda thaliadau i mewn i IVA?
Os na allwch gadw i fyny â thaliadau, gall yr ymarferydd ansolfedd ganslo eich IVA a gwneud cais i'ch gwneud yn fethdalwr. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw pob IVA sydd wedi'i ganslo yn arwain at fethdaliad - dim ond opsiwn y gall credydwyr unigol ei ystyried os yw'r IVA yn methu yw hwn.