Darganfyddwch sut i gwyno am ddarparwr gwasanaethau ariannol, gan gynnwys banciau, benthycwyr, darparwyr cardiau, cwmnïau yswiriant, cwmnïau buddsoddi ac ymgynghorwyr ariannol. Mae gwneud cwyn yn hawdd ac am ddim, a gallwch fynd â'ch cwyn ymhellach os ydych chi'n anhapus â'r canlyniad cychwynnol.
Cam 1: Gwiriwch y math o gwmni rydych yn cwyno amdano
Mae sut rydych yn cwyno yn dibynnu ar y math o wasanaethau y mae eich darparwr yn eu cynnig.
Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â chamgymeriadau neu broblemau a achosir gan gwmnïau ariannol, fel:
- banciau chymdeithasau adeiladu ac undebau credyd
- cmwniau yswiriant
- darparwyr cynilo
- cwmnïau cardiau credyd a benthyciadau
- cwmnïau buddsoddi
- yngynghorwyr ariannol.
Os hoffech gwyno am:
- eich darparwr pensiwn, gweler Sut i gwyno am broblem gyda’ch pensiwn
- eitem sydd heb cyrraedd neu'n ddiffygiol, gweler Sut i ddatrys problem gyda thaliad.
Peidiwch byth â thalu rhywun i reoli eich cwyn
Dylech osgoi defnyddio cwmnïau rheoli hawliadau – fel arfer byddant yn dilyn yr un broses ag y gallwch ei gwneud eich hun ac maent cymryd rhan fawr o unrhyw iawndal a gewch – weithiau hyd at 40%.
Cam 2: Gofynnwch i wasanaethau cwsmeriaid gywiro pethau
Mae camgymeriadau'n digwydd, felly y cam cyntaf yw dweud wrth eich darparwr am y broblem. Bydd gan bob cwmni ariannol dîm gwasanaethau cwsmeriaid y gallwch chi gysylltu â nhw, fel arfer trwy sgwrs fyw, ffôn, e-bost a'r post.
Dywedwch wrthyn nhw:
- beth ddigwyddodd
- pam rydych chi'n anhapus, a
- beth maen nhw'n gallu ei wneud i drwsio pethau.
Cam 3: Gwnewch gwyn ffurfiol
Os na allwch gytuno ar ganlyniad da, gofynnwch i wneud cwyn ffurfiol. Mae hyn fel arfer yn golygu y bydd eich problem yn cael ei hanfon at dîm arbennig.
Cadwch gofnod o'r holl gyfathrebu rydych chi'n ei wneud - mae'n well rhoi popeth yn ysgrifenedig yn hytrach na siarad dros y ffôn.
Yna, bydd ganddynt hyd at 8 wythnos i:
- ymchwilio
- ymateb gyda phenderfyniad - er enghraifft, efallai y byddan nhw'n cynnig datrys y mater a thalu iawndal i chi.
Fel arfer, gallwch ddewis derbyn hyn neu ddarparu mwy o wybodaeth os nad ydych yn credu ei fod yn deg. Byddwch wedyn yn derbyn 'ymateb terfynol', sef cynnig terfynol eich darparwr.
Cam 4: Ewch â'ch cwyn i'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol am ddim
Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich cwyn, gallwch fynd â hi ymhellach. Bydd Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) yn edrych ar eich achos ac yn penderfynu a oes angen i'ch darparwr wneud mwy i ddatrys pethau.
Mae cwyno i'r FOS am ddim ac yn hawdd i'w wneud eich hun. Nid oes angen i chi dalu unrhyw un i'w wneud i chi, fel cwmni rheoli hawliadau neu gyfreithiwr.
Mae dyddiadau cau i gwyno erbyn
Gallwch gwyno wrth y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol (FOS) os:
- mae wedi bod yn llai na 6 mis ers ymateb terfynol eich darparwr (oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn golygu eich bod yn colli'r dyddiad cau, fel profedigaeth neu salwch difrifol), neu
- nad yw’r cwmni wedi anfon ymateb terfynol o fewn 8 wythnos.
Fel arfer, rhaid gwneud y gŵyn o fewn 6 blynedd i’r broblem ddigwydd am y tro cyntaf. Os nad oeddech yn ymwybodol o’r mater pan ddechreuodd y mater, efallai y bydd gennych fwy o amser.
Bydd gwiriwr cwynion yr FOSYn agor mewn ffenestr newydd yn nodi a fyddant yn derbyn eich cwyn.
Bydd eich cwyn yn cael ei ymchwilio a bydd penderfyniad yn cael ei wneud
Bydd eich achos yn cael ei ymchwilio i benderfynu a yw'r cwmni wedi gweithredu mewn ffordd deg a rhesymol, neu a oes angen iddynt wneud mwy i unioni pethau.
- Bydd eich cwyn a'ch gwaith papur yn cael eu hadolygu gan driniwr achos.
- Gwneir penderfyniad ynghylch a yw'ch darparwr:
- angen gwneud mwy, gydag argymhelliad o beth i'w wneud
- wedi gwneud digon - mae eich cwyn wedi cael ei thrin yn deg.
- Os ydych chi a'r darparwr yn cytuno, dilynir unrhyw argymhellion a daw'r broses i ben.
- Os yw'r naill ohonoch yn anghytuno, gellir cyfeirio'r achos at Ombwdsmon.
- Yna gwneir penderfyniad terfynol, naill ai:
- beth sydd angen i'ch darparwr ei wneud i ddatrys pethau
- mae eich darparwr wedi delio â'ch cwyn yn deg.
Os ydych yn derbyn y penderfyniad, rhaid i'ch darparwr wneud yr hyn y mae'r Ombwdsmon wedi'i ddweud.
Os yw'r FOS yn ochri gyda'r cwmni, fel arfer dyma lle mae hawliad yn dod i ben - gallech chi ddewis mynd i'r llys, ond mae hyn yn ddrud ac efallai na fyddwch chi'n ennill.