Mae sgamiau’n mynd yn anoddach i’w hadnabod, ac mae twyllwyr yn defnyddio popeth o negeseuon testun ac e-byst i gyfryngau cymdeithasol a galwadau ffôn i dwyllo pobl i drosglwyddo arian neu fanylion personol. Nid ydych ar eich pen eich hun, mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU wedi cael eu targedu o leiaf unwaith.
Mae’r canllaw hwn yn dangos i chi sut i adnabod yr arwyddion rhybudd a beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich targedu.
Beth yw sgam?
Sgam yw unrhyw ymgais i’ch twyllo i drosglwyddo arian, gwybodaeth bersonol neu fynediad i’ch cyfrifon. Mae twyllwyr yn defnyddio pob math o dactegau - a gall hyd yn oed y bobl fwyaf gofalus gael eu twyllo.
Efallai eich bod wedi cael profiad o:
- gyswllt annisgwyl dros y ffôn, neges destun, e-bost neu gyfryngau cymdeithasol
- rhywun yn eich annog i weithredu’n gyflym neu i gadw pethau’n gyfrinachol
- ceisiadau am daliad trwy gardiau rhodd, cryptoarian neu drosglwyddiad banc
- cynigion sy’n edrych yn “rhy dda i fod yn wir”
- pwysau i gadarnhau manylion personol neu fancio
- Negeseuon sy’n honni bod eich cyfrif wedi’i beryglu
- cwmni rydych chi’n ymddiried ynddo yn sydyn yn gofyn i chi symud arian
- hysbysiadau sy’n awgrymu bod eich gwybodaeth wedi’i hacio.
Os oes unrhyw un o’r rhain yn swnio’n gyfarwydd, mae’n bosibl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam, neu fod rhywun wedi ceisio eich twyllo.
Mae sgamwyr yn dibynnu ar syndod, brys a dryswch i gael pobl i weithredu cyn meddwl. Y peth pwysig yw cymryd camau nawr i amddiffyn eich hun a chyfyngu ar yr effaith.
Os nad ydych chi’n siŵr, mae gwiriwr sgam Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd yn ffordd gyflym o ddarganfod a allai rhywbeth fod yn sgam.
Mae teimlo’n ansicr neu embaras yn hollol normal. Os ydych chi wedi bod yn ddioddefwr sgam, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym, gan fod twyllwyr weithiau’n ceisio targedu pobl eto gyda sgamiau dilynol.
Beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym i helpu i gyfyngu’r difrod. Dechreuwch gyda’r camau brys hyn:
- Cysylltwch â’ch banc neu ddarparwr cerdyn ar unwaith gan ddefnyddio eu rhif ffôn swyddogol. Gallwch hefyd ffonio 159, a fydd yn eich cysylltu’n uniongyrchol â thîm twyll eich banc. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych wedi colli arian, gan y gall eich banc atal neu adennill y taliad.
- Stopiwch unrhyw daliadau pellach ar unwaith. Os yw arian wedi’i gymryd trwy Ddebyd Uniongyrchol neu drosglwyddiad banc, cysylltwch â’ch banc cyn gynted â phosibl i atal unrhyw drafodion pellach.
- Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych chi’n ddioddefwr ohono, rhowch wybod am y sgam i Report Fraud ar 0300 123 2040, neu ddefnyddio’r teclyn rhoi gwybod i Report Fraud ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd Yn yr Alban, dylech roi gwybod am y sgam i Heddlu’r Alban ar 101 neu Advice Direct Scotland ar 0808 800 9060.
- Cadwch lygad am sgamiau dilynol. Mae twyllwyr weithiau’n targedu dioddefwyr eto, yn aml yn honni y gallant helpu i adennill arian a gollwyd. Ni fydd unrhyw sefydliad cyfreithlon yn cysylltu â chi yn y modd hwn.
- Gwiriwch eich adroddiad credyd yn rheolaidd. Chwiliwch am geisiadau neu weithgaredd nad ydych chi’n eu hadnabod. Efallai yr hoffech hefyd ystyried Cifas Protective RegistrationYn agor mewn ffenestr newydd Mae hyn yn dweud wrth fenthycwyr eich bod wedi bod yn ddioddefwr twyll, felly byddant yn gwneud gwiriadau ychwanegol i wneud yn siŵr bod unrhyw gais newydd am gredyd yn ddilys.
Os ydych chi eisiau help gyda’ch sefyllfa uniongyrchol, gan gynnwys pa gamau i’w cymryd a phwy all eich cefnogi fel dioddefwr sgam, ffoniwch ein huned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402. Gallant hefyd eich cyfeirio at sefydliadau dibynadwy a allai helpu os ydych wedi colli arian.
Nid yw pob sgam yn cynnwys colli arian neu fanylion banc, a bydd yr union gamau y mae angen i chi eu cymryd yn dibynnu ar y math o sgam rydych chi wedi cael profiad ohoni.
Gweler ein canllaw llawn ar wahanol fathau o sgamiau a beth i’w wneud nesaf.
Os yw cwmni rydych chi’n prynu oddi wrtho wedi mynd i’r wal
Os ydych chi wedi prynu rhywbeth gan gwmni sydd wedi mynd allan o fusnes ers hynny ac rydych chi’n poeni am gael eich arian yn ôl, ewch i dudalen hawliau defnyddwyr Which? am ganllawiau clir ar beth i’w wneud nesafYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i adnabod sgam
Gwybod beth i edrych amdano yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hun. Gall sgamiau ddigwydd trwy alwadau ffôn, negeseuon testun, e-byst, negeseuon cyfryngau cymdeithasol, gwefannau neu hyd yn oed ymweliadau ar stepen y drws.
Galwadau ffôn
Os ydych chi’n derbyn galwad gan rywun sy’n honni ei fod yn swyddog heddlu, eich banc neu gorff swyddogol arall yn dweud bod problem gyda’ch cyfrif, dylech ei drin fel galwad amheus. Mae twyllwyr yn aml yn defnyddio’r dacteg hon i greu panig a rhoi pwysau arnoch i drosglwyddo arian, rhannu PINs neu drosglwyddo cardiau.
Ni fydd swyddogion heddlu na banciau dilys byth yn gofyn i chi:
- drosglwyddo arian
- symud arian i “gyfrif diogel”
- rhannu’ch PIN
- rhoi mynediad i’ch cyfrif banc.
Mae galwadau digymell am bensiynau wedi’u gwahardd, felly ni ddylid cysylltu â chi amdanynt oni bai eich bod wedi gofyn i rywun gysylltu â chi. Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i wahardd pob galwad digymell ariannol, ond nid yw hyn yn ei le eto, felly parhewch i fod yn ofalus o unrhyw gyswllt annisgwyl am gynhyrchion ariannol.
Ymweliadau stepen drws annisgwyl
Byddwch yn ofalus os daw rhywun i’ch cartref yn honni ei fod yn swyddog heddlu, ymchwilydd banc, gweithiwr cyngor neu weithiwr cyfleustodau. Mae troseddwyr weithiau’n cyflwyno’u hunain fel swyddogion dibynadwy i gael mynediad at eich arian neu wybodaeth bersonol.
Efallai y bydd rhai yn esgus ymchwilio i dwyll a gofyn am eich cardiau banc neu arian parod “i’w gwirio”, neu hyd yn oed eich cyfarwyddo i’w rhoi mewn amlen i’w casglu gan negesydd neu dacsi. Ni fydd unrhyw sefydliad dilys byth yn cysylltu â chi yn y modd hwn nac yn gofyn am arian, manylion banc neu PINs wrth eich drws.
E-byst
Gall e-byst sgam edrych yn argyhoeddiadol. Os ydych chi’n cael un, ehangwch fanylion yr anfonwr i wirio o bwy mae’n dod mewn gwirionedd. Efallai y bydd yn ymddangos ei fod gan Trwyddedu Teledu neu gwmni dosbarthu, ond efallai y bydd y cyfeiriad e-bost yn datgelu:
- enw anfonwr sydd ddim yn cydweddu
- camsillafu
- rhifau ar hap
- cyfeiriad wedi’i ffugio neu wedi’i hacio.
Os oes unrhyw beth yn edrych yn anarferol, peidiwch â chlicio ar ddolenni neu agor atodiadau.
Negeseuon testun
Gall sgamwyr wneud i negeseuon testun ymddangos fel pe baent wedi dod wrth sefydliadau dibynadwy - weithiau hyd yn oed yn ymddangos yn yr un edefyn sgwrs â negeseuon dilys. Gelwir hyn yn “ffug-negesu rhifau”.
Os nad ydych chi’n siŵr, peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni. Cysylltwch â’r cwmni’n uniongyrchol gan ddefnyddio manylion o’u gwefan neu ohebiaeth flaenorol i wirio a yw’r neges yn ddilys.
Seiberdroseddu
Mae rhai sgamiau’n digwydd ar-lein. Mae seiberdroseddu’n cynnwys twyll a gyflawnir gan ddefnyddio technoleg ac yn aml yn gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol ehangach. Mae twyllwyr yn defnyddio offer datblygedig i wneud eu sgamiau’n fwy argyhoeddiadol, felly mae’n bwysig cadw’ch cyfrifon ar-lein yn ddiogel.
I wirio a allai cyfle buddsoddi fod yn sgam, edrychwch ar ganllawiau’r FCA ar ddiogelu eich hunYn agor mewn ffenestr newydd
Os cysylltir â chi ynglŷn â’ch pensiynau, edrychwch ar ein canllaw ar Sut i adnabod twyll pensiwn.
Gallwch gael cyngor ar beth i’w wneud os ydych yn ymdrin â sgam ar-lein neu sgam seiber gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol: ncsc.gov.uk/section/respond-recover
Negeseuon cyfryngau cymdeithasol
Mae twyllwyr yn defnyddio hysbysebion, negeseuon uniongyrchol neu broffiliau ffug i ddenu pobl at sgamiau buddsoddi, rhoddion, cynlluniau crypto neu sgamiau dynwared - gan gynnwys y sgam “mam a dad” WhatsApp adnabyddus.
Gwefannau ffug
Gall gwefannau sgam edrych yn broffesiynol ac yn aml maent yn copïo logos gan sefydliadau adnabyddus. Gall y rhain gynnwys manwerthwyr ar-lein, gwefannau chwilio am gariad, tudalennau gamblo a thudalennau bancio ffug sydd wedi’u cynllunio i ddal eich manylion.
Gallwch wirio a yw gwefan yn ddilys gan ddefnyddio:
Arian ar goll
Os yw arian wedi diflannu o’ch cyfrif yn annisgwyl, hyd yn oed swm bach, gall fod yn arwydd bod rhywun wedi cael mynediad i’ch manylion.
Gwiriadau ychwanegol
- Byddwch yn amheus o dactegau pwysau uchel
- Peidiwch ag ymddiried mewn cynigion sy’n ymddangos yn “rhy dda i fod yn wir”
- Byddwch yn ofalus o unrhyw gais i weithredu ar frys neu’n gyfrinachol.
Sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau
Mae amddiffyn eich hun rhag sgamiau yn cynnwys cymysgedd o fod yn wyliadwrus, defnyddio technoleg ddiogel a gwybod ble i gael cyngor dibynadwy. Dechreuwch gyda’r camau sy’n teimlo fel eu bod o fewn eich rheolaeth a pharhau i adeiladu eich amddiffynfeydd dros amser.
Byddwch yn ymwybodol: mae rhai sgamiau bellach yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio AI ac efallai nad ydynt yn cynnwys camgymeriadau sillafu neu ramadeg. Gall neges sy’n edrych yn broffesiynol fod yn sgam o hyd.
Byddwch yn ofalus gyda chyswllt annisgwyl
- Osgowch ateb galwadau, negeseuon testun neu e-byst gan rifau neu gyfeiriadau anghyfarwydd.
- Os yw rhywun yn cysylltu â chi yn honni ei fod o gwmni rydych chi’n ei ddefnyddio, peidiwch â dibynnu ar y rhif maen nhw’n ei roi i chi. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar ddogfennau swyddogol neu ar wefan y cwmni.
Cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel
- Peidiwch byth â rhannu PINs, cyfrineiriau neu godau pas llawn. Ni fydd unrhyw sefydliad cyfreithlon byth yn gofyn am y rhain.
- Os oes angen i’ch banc wirio rhywbeth, efallai y byddant yn gofyn am ychydig o nodau o’ch cyfrinair, byth y peth llawn.
- Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n gofyn i chi gadarnhau cyfrifon, manylion personol neu godau diogelwch heb rybudd.
Cryfhau eich diogelwch digidol
- Cadwch eich system weithredu, apiau a meddalwedd gwrthfeirws yn gyfredol – mae diweddariadau yn aml yn cynnwys atgyweiriadau diogelwch pwysig.
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf, unigryw ar gyfer pob cyfrif. Peidiwch ag ailddefnyddio cyfrineiriau.
- Osgowch Wi-Fi cyhoeddus ar gyfer unrhyw beth sensitif. Mae eich rhwydwaith symudol yn aml yn fwy diogel.
- Gwnewch yn siŵr bod gwefannau rydych chi’n eu defnyddio yn ddiogel (chwiliwch am HTTPS yn y cyfeiriad gwe).
- Ystyriwch ddefnyddio rheolwr cyfrinair i helpu i gadw popeth yn ddiogel.
Gwiriwch gwmnïau cyn i chi dalu
- Peidiwch â gwneud taliadau nes eich bod chi’n siŵr bod y cwmni’n gyfreithlon.
- Ar gyfer gwasanaethau ariannol, gwiriwch Firm Checker yr FCA ar gyfer cwmnïau awdurdodedigYn agor mewn ffenestr newydd a rhestr rhybuddion yr FCA ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u clonio a chwmnïau ffugYn agor mewn ffenestr newydd
- Ar gyfer busnesau eraill, chwiliwch amdanynt ar Tŷ’r CwmnïauYn agor mewn ffenestr newydd a chwiliwch ar-lein am adolygiadau neu gwynion.
Byddwch yn wyliadwrus o dechnegau sgam cyffredin
Peidiwch byth â throsglwyddo arian i gyfrif “diogel” neu “ddal”, mae hwn yn sgam adnabyddus.
Gall sgamwyr herwgipio llinellau ffôn. Os bydd rhywun yn gofyn i chi symud arian i gyfrif “diogel” neu “ddal”, gorffenwch yr alwad, arhoswch bum munud, ac yna ffoniwch eich banc yn ôl gan ddefnyddio rhif dibynadwy o’u gwefan neu gefn eich cerdyn.
Defnyddiwch y canllawiau ar Take Five i ddysgu sut i atal twyll a sylwi ar ymddygiad amheus
Gwella eich amddiffynfeydd technegol
- Defnyddiwch ddiogelwch dyfeisiau cryf a gosodwch offer gwrthfeirws neu feddalwedd wrthfaleiswedd sydd ag enw da.
- Cadwch lygad ar weithgaredd cyfrif anarferol neu arian coll.
- Defnyddiwch ddilysu dau ffactor (2FA) lle bynnag y bo modd.
Lleihau galwadau diangen
Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) i leihau galwadau digymell. Ni fydd yn blocio galwadau troseddol - ond mae’n ei gwneud hi’n haws adnabod rhai annisgwyl neu amheus.