Mae miloedd o bobl yn cael eu harian wedi'i ddwyn trwy dwyll buddsoddi gyda dros £612 miliwn yn cael ei golli i'r sgamiau hyn bob blwyddyn. Wrth i sgamiau ddod yn fwy soffistigedig ac yn anoddach i'w sylwi, gall gwybod yr arwyddion rhybudd cyffredin eich helpu i ddiogelu eich hun a chymryd camau yn gynt os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn.
Beth yw twyll buddsoddi?
Byddwch yn ymwybodol
Gwiriwch yr FCA Firm CheckerYn agor mewn ffenestr newydd bob amser i wneud yn siŵr bod cwmni wedi'i awdurdodi, ac edrychwch am rybuddion am wefannau wedi'u clonio neu gwmnïau heb eu rheoleiddio. Gallwch hefyd wirio'r twyll diweddaraf ar Restr Rhybuddio'r FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Mae sgamiau buddsoddi wedi'u cynllunio i berswadio pobl i drosglwyddo arian a gallant ymddangos yn broffesiynol iawn. Wrth i sgamiau ddod yn fwy soffistigedig, mae hyd yn oed buddsoddwyr profiadol a gwybodus wedi cael eu heffeithio.
Mae rhai sgamwyr yn creu gwefannau argyhoeddiadol iawn, apiau, dangosfyrddau, pyrth cwsmeriaid, logos a chynnwys ar-lein arall i wneud i'w gweithrediad edrych fel cwmni cyfreithlon. Gall hyn gynnwys brandio proffesiynol, tystebau realistig a deunyddiau marchnata o safon uchel
Sut i adnabod twyll buddsoddi
Gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o’r rhybuddion a allai ddangos bod cyfle buddsoddi yn sgam:
- Cynigion heb i chi ofyn amdanynt dros y ffôn, neges destun, e-bost neu unigolyn yn cnocio ar eich drws.
- Pan nad yw’r cwmni’n caniatáu i chi ei ffonio’n ôl.
- Pan gewch eich gorfodi i wneud penderfyniad cyflym, neu eich rhoi dan bwysau i wneud hynny.
- Yr unig fanylion cyswllt a gewch ganddynt neu ar eu gwefan yw rhif ffôn symudol neu gyfeiriad blwch post.
- Cewch gynnig elw sylweddol ar eich buddsoddiad, ond dywedir wrthych bod y risg yn isel.
Darganfyddwch fwy am drechu twyll ariannolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Take Five
Sut i ddiogelu eich hun rhag twyll buddsoddi
Pwysig
Os yw cynllun wedi ei awdurdodi, nid yw hynny’n golygu o reidrwydd eich bod wedi’ch diogelu’n awtomatig gan y Cynllun DIgolledu Gwasanaethau Ariannl (FSCS) na Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS). Hyd yn oed os ydych yn defnyddiocwmni awdurdodedig, yn gyffredinol mae rheolau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn berthnasol i gynnyrch prif ffrwd yn unig, yn hytrach nag i fuddsoddiadau ‘arbenigol’, a allai fod heb eu rheoleiddio’n gwfan gwbl.
I osgoi cael eich dal gan dwyll, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y rheolau syml hyn.
- Gwrthodwch unrhyw alwadau neu negeseuon testun nad ydych wedi gofyn amdanynt, neu ymwelwyr yn dod at eich drws. Ni fydd cwmnïau buddsoddi dilys yn galw neu’n cysylltu â chi’n ddirybudd.
- Defnyddiwch yr FCA Firm CheckerYn agor mewn ffenestr newydd neu edrychwch ar restr rybudd yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd Byddwch yn ofalus – er bod cwmni wedi'i awdurdodi gan yr FCA, nid yw’n golygu eich bod yn cael eich diogelu’n awtomatig gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol neu'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.
- Os ydych yn ystyried cyfle i fuddsoddi, ceisiwch gyngor ariannol annibynnol gan gwmni a reoleiddir gan yr FCA.
Beth i’w wneud os credwch eich bod wedi cael eich targedu
Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, gweithredwch yn gyflym:
- Stopiwch a meddwl cyn rhannu arian neu wybodaeth bersonol
- Diogelwch eich hun trwy gysylltu â'ch banc ar unwaith
- Rhowch wybod am y sgam i helpu i atal rhag effeithio ar eraill
Os ydych wedi cael eich targedu, hyd yn oed os nad ydych yn ddioddefwr, gallwch hysbysu Report Fraud ffoniwch 0300 123 2040 neu defnyddiwch y teclyn hysbysu ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar Report Fraud.
Yn yr Alban, dylech roi gwybod am y sgam i Police Scotland ar 101 neu Advice Direct Scotland ar 0808 164 6400.
Byddwch yn ofalus rhag cael eich targedu yn y dyfodol, yn enwedig os ydych wedi cael arian wedi'i ddwyn trwy sgam. Efallai y bydd cwmnïau twyllodrus yn manteisio ar hyn ac yn cynnig eich helpu i gael rhywfaint neu'r cyfan o'ch arian yn ôl. Anwybyddwch unrhyw un sy'n cysylltu â chi ac yn honni eu bod yn gallu eich helpu i gael eich arian yn ôl.
Os ydych wedi cael eich gwerthu cynnyrch nad oedd yn addas i chi ond mae'r cwmni sy'n gyfrifol wedi mynd yn fethdalwr, efallai y byddwch yn gallu cael rhywbeth yn ôl trwy'r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol.
Help gyda sgamiau
Os ydych eisiau help gyda'ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402Yn agor mewn ffenestr newydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau ar sut i gael eich arian yn ôl:
Pa fathau o sgamiau buddsoddi ddylwn i edrych amdanynt?
Mae gan bob sgam buddsoddi un peth yn gyffredin - maen nhw'n honni eu bod yn cynnig enillion uchel gydag ychydig iawn o risg. Os yw'n edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod ac y dylid ei osgoi.
Cynlluniau Ponzi
Cynllun Ponzi yw lle mae arian gan fuddsoddwyr newydd yn cael ei ddefnyddio i dalu buddsoddwyr blaenorol, yn hytrach na chael ei fuddsoddi yn wirioneddol. Yn y pen draw, mae'r arian sy'n ddyledus yn dod yn fwy na'r arian sy'n dod i mewn, ac mae'r cynllun yn cwympo, gan adael y rhan fwyaf o fuddsoddwyr allan o boced.
Sgamiau crypto
Mae twyllwyr yn pwyso ar bobl i fuddsoddi mewn cryptoarian newydd neu ffug, yn aml yn addo enillion uchel heb fawr o risg. Mae'r sgamiau hyn yn aml yn cael eu hyrwyddo trwy hysbysebion ar-lein neu bostiadau cyfryngau cymdeithasol, weithiau gan ddefnyddio cymeradwyaethau enwogion ffug. Byddwch yn ofalus iawn wrth fuddsoddi mewn crypto. Darllenwch fwy yn ein blog, Risgiau buddsoddi a sgam gyda chryptoarian.
Sgamiau cwmni clôn
Mewn sgamiau cwmnïau clonau, mae twyllwyr yn copïo manylion, brandio neu wefannau cwmnïau cyfreithlon i ymddangos yn ddilys. Mae dioddefwyr yn credu eu bod yn buddsoddi gyda chwmni rheoledig, ond mae eu harian yn cael ei ddwyn yn lle hynny.
Gallwch wirio manylion cwmni ar Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yr FCA, FCA Firm CheckerYn agor mewn ffenestr newydd, neu chwilio am wybodaeth am gwmni ar Dŷ'r CwmnïauYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Cynlluniau buddsoddi heb eu rheoleiddio
Mae rhai sgamiau yn cynnwys buddsoddiadau nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan yr FCA, disgrifir weithiau fel cynlluniau buddsoddi ar y cyd. Efallai y bydd y rhain yn cael eu marchnata fel cyfleoedd unigryw neu soffistigedig, ond yn aml yn cynnig ychydig o ddiogelwch os bydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Sgamiau buddsoddi eiddo tramor
Mae'r sgamiau hyn yn annog pobl i fuddsoddi mewn datblygiadau eiddo dramor, yn aml yn addo incwm rhent gwarantedig neu dwf cyflym. Mewn gwirionedd, efallai na fydd y datblygiad yn bodoli, yn anorffenedig neu'n amhosibl ei werthu.
Sgamiau opsiynau deuaidd
Mae opsiynau deuaidd yn aml yn cael eu hyrwyddo fel ffordd syml o wneud elw cyflym trwy ragweld symudiadau marchnad tymor byr. Mae llawer o'r cynlluniau hyn heb eu rheoleiddio neu sgamiau wedi'u cynllunio i gymryd arian buddsoddwyr.
Sgamiau cwrdd â chariad ar-lein a sgamiau buddsoddi rhamant.
Mae twyllwyr yn adeiladu perthnasoedd drwy apiau cwrdd â chariad neu gyfryngau cymdeithasol cyn cyflwyno cyfle buddsoddi tybiedig. Mae'r sgamiau hyn yn manteisio ar ymddiriedaeth a gallant achosi niwed ariannol ac emosiynol sylweddol.
Sgamiau pensiwn
Bydd sgamwyr yn ceisio perswadio eu dioddefwyr i symud eu cynilion ymddeol i gynlluniau buddsoddi ffug.
Yn y DU, mae'n anghyfreithlon i ffonio’n ddiwahoddiad am bensiynau, felly dylwch drin unrhyw gynigion pensiwn annisgwyl fel sgam.
Mae pobl 55 oed a hŷn yn darged penodol oherwydd eu bod yn gallu cael mynediad at gyfandaliadau arian parod pensiwn. Fodd bynnag, gall sgamwyr hefyd berswadio pobl o dan 55 i drosglwyddo pensiynau i gynlluniau anghyfreithlon
Dysgwch fwy am beth i fod yn wyliadwrus ohono yn ein canllaw, Sut i adnabod twyll pensiwn.