Os byddwch yn gadael eich cynllun pensiwn o fewn 30 diwrnod i ymuno ag ef (neu ddwy flynedd os yw'n gynllun buddion wedi’u diffinio), fel arfer gallwch ofyn am ad-daliad o'ch cyfraniadau. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.
Cam 1: Gwirio a ydych yn gymwys i gael ad-daliad
Fel arfer gallwch ddewis cael ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn os byddwch yn gadael y cynllun o fewn:
- 30 diwrnod o ymuno â phensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
- dwy flynedd o ymuno â phensiwn buddion wedi’u diffinio.
Mae pensiynau personol yn gyfraniadau wedi’u diffinio, ond efallai y byddwch yn gallu gofyn am ad-daliad ar ôl 30 diwrnod os yw cyfnod callio eich darparwr yn hirach.
Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu ofyn i'ch darparwr.
Beth sy'n digwydd os nad ydw i'n gymwys neu os nad ydw i'n gofyn am ad-daliad?
Os nad ydych chi'n gymwys i gael ad-daliad neu os nad ydych chi'n gofyn am un o fewn y terfyn amser, bydd eich arian yn aros yn y cynllun pensiwn.
Bydd eich darparwr yn parhau i reoli eich pensiwn ar eich rhan nes:
- eich bod chi'n gallu cymryd yr arian neu
- eich bod chi'n gofyn i drosglwyddo eich pensiwn i ddarparwr newydd.
Y cynharaf y gallwch chi gymryd pensiwn fel arfer yw 55 oed (57 o fis Ebrill 2028), oni bai bod angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth fydd yn digwydd i'm pensiwn os byddaf yn gadael swydd neu'n optio allan?
Cam 2: Cyfrifo faint fyddwch chi'n ei gael yn ôl
Os gofynnwch am ad-daliad o'ch cyfraniadau pensiwn, dim ond yr arian rydych chi wedi'i dalu i mewn y byddwch chi'n ei gael yn ôl.
Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n colli unrhyw arian ychwanegol a allai fod wedi'i dalu i mewn gan eich cyflogwr, gan gynnwys cyfraniadau rydych chi wedi'u gwneud gan ddefnyddio aberthu cyflog (maent yn cyfrif fel cyfraniadau cyflogwr).
Bydd treth hefyd yn cael ei chymryd oddi ar y swm a ad-dalwyd cyn i chi ei dderbyn. Sef:
- Treth o 20% ar gyfer ad-daliadau hyd at £20,000
- Treth o 50% uwchben hyn.
Os ydych chi'n sefydlu'r pensiwn eich hun, efallai y bydd eich darparwr hefyd yn cadw rhywfaint o arian yn ôl i dalu eu costau buddsoddi.
Cam 3: Gwneud cais am ad-daliad o'ch cyfraniadau pensiwn
Os hoffech chi gael ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn, gofynnwch i'ch darparwr pensiwn pa wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Yn aml, mae hyn yn golygu llenwi ffurflen.
Bydd eich darparwr yn gwirio eich bod chi'n gymwys ac yn trefnu i unrhyw daliad gael ei wneud.
Os byddwch chi'n dod ar draws unrhyw broblemau, gallwch gwyno. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i gwyno am broblem gyda'ch pensiwn.