Os byddwch yn optio allan neu’n rhoi’r gorau i dalu i mewn i bensiwn, bydd unrhyw arian yr ydych wedi’i gronni yn parhau i fod yn eiddo i chi. Fel arfer gallwch ddewis ei adael lle y mae, ei drosglwyddo i gynllun newydd neu ofyn am ad-daliad.
Sut ydw i'n gadael pensiwn?
Mae gadael pensiwn fel arfer yn golygu eich bod yn rhoi'r gorau i dalu i mewn. Bydd hyn yn digwydd os sefydlodd eich cyflogwr eich pensiwn a'ch bod chi’n:
- gofyn i optio allan neu’n
- stopio gweithio i'ch cyflogwr.
Os byddwch yn sefydlu eich pensiwn eich hun, fel arfer gallwch ddewis stopio eich cyfraniadau ar unrhyw adeg - rhowch wybod i'ch darparwr.
A ddylwn i optio allan o gynllun pensiwn fy nghyflogwr?
Nid oes rhaid i chi gynilo i mewn i bensiwn, ond mae optio allan fel arfer yn golygu y byddwch yn colli allan ar:
- gyfraniadau cyflogwr – arian ychwanegol i'ch pensiwn gan eich cyflogwr
- rhyddhad treth – ychwanegir treth y byddech fel arfer yn ei thalu at eich pensiwn yn lle.
Mae hyn yn golygu bod optio allan yn aml fel gwrthod rhan o'ch cyflog.
Rydych chi hefyd yn fwy tebygol o gael ymddeoliad cyfforddus os gallwch chi gynilo dros yr amser hiraf posibl. Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn annhebygol o roi digon o arian i chi ar ei ben ei hun – hyd yn oed os ydych yn gymwys i gael y swm uchaf.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Pam ddylwn i gynilo i mewn i bensiwn?
Help os na allwch fforddio talu i mewn i bensiwn
Os ydych chi’n cael trafferth, efallai na fydd talu i mewn i’ch pensiwn yn ymddangos fel blaenoriaeth. Ond os byddwch yn stopio, fel arfer bydd gennych lai o arian i fyw arno yn ddiweddarach mewn bywyd.
Cyn stopio eich cyfraniadau pensiwn yn gyfan gwbl, gofynnwch i’ch cyflogwr neu ddarparwr a oes isafswm y mae angen i chi ei dalu i mewn i’w gadw’n actif.
Am fwy o help, defnyddiwch ein:
- Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio nad ydych yn colli allan ar unrhyw daliadau, grantiau neu ostyngiadau
- Cynlluniwr cyllideb i weld ffyrdd eraill o arbed
- Teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i help am ddim os ydych wedi methu taliad pwysig.
Os byddwch yn lleihau neu'n atal eich cyfraniadau, gosodwch nodyn atgoffa rheolaidd i wirio a allwch chi fforddio ailddechrau.
Beth sy'n digwydd i'm harian pan fyddaf yn gadael pensiwn?
Os byddwch yn rhoi’r gorau i dalu i mewn i bensiwn, bydd eich arian a’ch buddion yn parhau i gael eu rheoli gan eich darparwr. Gelwir hyn yn aml yn ‘bensiwn gohiriedig’ a byddwch yn ‘aelod gohiriedig’.
I olrhain pensiynau y gallech fod wedi anghofio amdanynt, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i hen bensiynau neu bensiynau coll.
Gall eich pensiwn barhau i gronni neu golli arian
Er na thelir mwy o arian i mewn, gall eich pensiwn barhau i fynd i fyny (neu i lawr).
Os oes gennych chi bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (y math mwyaf cyffredin), fe allai:
- tyfu os yw'r buddsoddiadau'n perfformio'n dda
- lleihau os yw'r buddsoddiadau'n perfformio'n wael neu os nad ydynt yn tyfu digon i dalu'r ffioedd rheoli.
Anfonir datganiadau atoch er mwyn i chi allu cadw golwg, bob blwyddyn fel arfer. Po hiraf y bydd yr arian yn y cynllun pensiwn yn cael ei fuddsoddi, y mwyaf o amser sydd ganddo i dyfu.
Os oes gennych chi bensiwn buddion wedi’u diffinio (a elwir yn aml yn gynllun cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa), byddwch yn cael swm gwarantedig yn seiliedig ar hyd eich gwasanaeth a’ch cyflog.
Bydd hyn fel arfer yn tyfu bob blwyddyn - fel arfer yn unol â chwyddiant - felly nid yw ei werth yn gostwng dros amser.
A allaf gael ad-daliad o'm cyfraniadau pensiwn?
I gael ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn, fel arfer mae angen i chi ofyn o fewn:
- 30 diwrnod o adael pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
- dwy flynedd o adael pensiwn buddion wedi’u diffinio.
Ni fyddwch yn cael unrhyw arian y mae’ch cyflogwr wedi’i dalu i mewn. Os byddwch yn gofyn ar ôl y dyddiadau cau hyn, fel arfer ni fyddwch yn gallu cael mynediad at yr arian nes eich bod yn 55 oed (57 o fis Ebrill 2028).
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i gael ad-daliad o'ch cyfraniadau pensiwn.
A ddylwn i drosglwyddo fy hen bensiwn i gynllun gwahanol?
Os byddwch yn stopio talu i mewn i bensiwn, un opsiwn yw ei drosglwyddo i gynllun arall. Er enghraifft, gallech drosglwyddo eich pensiwn presennol:
- i gynllun y mae eich cyflogwr newydd yn ei sefydlu
- i ddarparwr o'ch dewis, fel bod eich holl bensiynau mewn un lle.
Mae risg bob amser o golli buddion gwerthfawr drwy drosglwyddo eich pensiwn, oherwydd gallai darparwr eich pensiwn presennol gynnig nodweddion diguro. Er enghraifft, efallai eich bod chi'n rhoi'r gorau i:
- gyfraddau incwm gwarantedig uwch nag y gallech eu cael mewn mannau eraill
- isafswm oedran pensiwn is – felly byddai angen i chi aros yn hirach i gael mynediad at eich arian.
Dylech hefyd gymharu ffioedd a thaliadau cyn trosglwyddo, i wirio nad ydych yn symud i gynllun drutach.
Cyn ystyried trosglwyddiad, gweler ein canllaw trosglwyddiadau pensiwn.