Os yw darparwr eich pensiwn wedi talu gormod i chi, fel arfer bydd angen i chi ei dalu’n ôl. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Rhoi gwybod am ordaliadau o'ch pensiwn ar unwaith
Os credwch y gallai darparwr eich pensiwn fod yn talu mwy i chi nag y dylent, rhowch wybod bob amser. Gelwir y rhain yn daliadau pensiwn a ordalwyd.
Po gyntaf y byddwch yn nodi camgymeriad ac yn rhoi gwybod i’r cynllun pensiwn, y mwyaf o opsiynau sydd gennych fel arfer i drwsio’r camgymeriad.
Sut i ad-dalu pensiwn a ordalwyd
Er nid eich bai chi yw’r camgymeriad, fel arfer ni fyddwch yn gallu cadw’r gordaliadau.
Yn lle, bydd darparwr eich pensiwn yn dweud wrthych faint sydd angen i chi ei had-dalu. Efallai na fydd angen i chi ad-dalu rhai gordaliadau os cawsant eu gwneud fwy na chwe blynedd cyn i'r camgymeriad gael ei ddarganfod.
Fel arfer, bydd eich taliadau pensiwn yn y dyfodol yn cael eu gostwng nes bydd y swm yn cael ei ad-dalu, ond efallai y gallwch gytuno ar ffordd wahanol.
Fel arfer gallwch ad-dalu dros yr un cyfnod ag y cafodd ei dalu i chi. Er enghraifft, os ydych wedi cael gordaliad ers dwy flynedd, dylech gael dwy flynedd i’w had-dalu.
Os ydych chi’n poeni y byddwch chi’n cael trafferth gyda’r ad-daliadau, gweler ein canllaw Help os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled am gamau y gallwch eu cymryd.
Sut i gwyno a gofyn am iawndal
Os ydych chi’n anhapus â’r swm y gofynnwyd i chi ei had-dalu, neu i gwyno am y camgymeriad yn digwydd yn y lle cyntaf, dilynwch y camau hyn.
Cam 1: Cysylltwch â'ch darparwr pensiwn
Dywedwch wrth eich darparwr pensiwn pam eich bod yn anhapus ac eglurwch beth yr hoffech iddynt ei wneud i gywiro pethau.
Os ydych yn gofyn am iawndal, dylech gynnwys cymaint o wybodaeth ag y gallwch ynghylch pam rydych yn teimlo ei fod yn deg. Er enghraifft, os ydych wedi:
- colli arian oherwydd y camgymeriad
- rhoi gwybod am y mater cyn gynted ag y gwnaethoch sylwi arno
- teimlo dan straen neu ofid oherwydd y gwall
- gorfod treulio llawer o amser yn ceisio datrys pethau.
Mae’n well cwyno’n ysgrifenedig er mwyn i chi allu cadw copïau o bopeth.
Cam 2: Arhoswch hyd at wyth wythnos am ateb
Bydd eich darparwr pensiwn yn ymchwilio i’ch cwyn ac yn rhoi gwybod i chi beth maent yn bwriadu ei wneud.
Os ydych yn hapus â hyn, gallwch dderbyn y cynnig a chau eich cwyn. Os na, gallwch fynd â'ch cwyn ymhellach.
Cam 3: Ewch â'ch cwyn at yr Ombwdsmon Pensiynau
Os na allwch gytuno ar ddatrysiad teg neu os nad yw darparwr eich pensiwn wedi ateb o fewn wyth wythnos o gysylltu â nhw, gallwch wneud cwyn i’r Ombwdsmon PensiynauYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r gwasanaeth am ddim ac yn annibynnol, a byddant yn edrych ar y ffeithiau heb gymryd ochr.
Gallwch gwyno am:
- gynllun pensiwn a sefydlwyd gennych chi neu'ch cyflogwr
- y Gronfa Diogelu Pensiynau
- y Cynllun Cymorth Ariannol.