Os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu ddamwain, gallwch ofyn am gael eich pensiwn cyn 55 oed - y lleiafswm arferol. Dyma sut i apelio os bydd eich cais am ymddeoliad meddygol cynnar yn cael ei wrthod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae pensiwn salwch yn cael ei benderfynu
Pan fyddwch chi'n gwneud cais i gael eich pensiwn yn gynnar, fel arfer bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ymddeol oherwydd afiechyd a chynnwys prawf o'ch cyflwr meddygol neu ddiagnosis.
Efallai y bydd rhai cynlluniau pensiwn hefyd yn gofyn am gytundeb gan eich cyflogwr nad ydych chi'n ymddeol am reswm arall.
Bydd eich cais yn cael ei adolygu yn erbyn rheolau eich cynllun
Bydd eich darparwr pensiwn, ymddiriedolwyr neu gyflogwr yn adolygu eich cais ac yn gwneud penderfyniad teg a rhesymol yn seiliedig ar reolau eich cynllun. Gallai hyn gynnwys cael cyngor neu farn feddygol gan eich meddyg ac arbenigwyr eraill.
Byddwch wedyn yn cael gwybod y penderfyniad, gydag adroddiad yn esbonio sut y cafodd ei wneud. Bydd yr adroddiad yn dweud wrthych faint o amser sydd gennych i apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych yn anghytuno.
Os ydych o dan 75 oed a bod gennych salwch angheuol gyda llai na 12 mis i fyw, efallai y cynigir yr opsiwn i chi gymryd eich pensiwn cyfan yn ddi-dreth.
Os nad ydych wedi gwneud cais am ymddeoliad ar sail afiechyd eto, gweler ein canllaw Ymddeoliad iechyd gwael: ymddeoliad meddygol cynnar
Sut i apelio yn erbyn penderfyniad ymddeoliad ar sail afiechyd
Os gwrthodir eich cais am ymddeoliad ar sail afiechyd, gallwch herio'r penderfyniad. Edrychwch ar eich gwaith papur i weld a oes angen i chi apelio erbyn dyddiad penodol.
Cam 1: Gwiriwch eich adroddiad penderfyniad a rheolau’r cynllun yn ofalus
Dylech fod wedi cael gwybod y rhesymau pam y gwrthodwyd eich cais. Mae hyn yn golygu y gallwch gynllunio'ch apêl i ddarparu unrhyw beth a oedd ar goll y tro cyntaf.
Er enghraifft, os nad oedd y dystiolaeth feddygol a ddarparwyd gennych yn ddigon manwl, gallech ofyn i'ch gweithiwr meddygol proffesiynol am adroddiad wedi'i ddiweddaru.
Y peth pwysig yw herio lle rydych chi'n meddwl nad yw'r penderfyniad wedi cael ei wneud yn iawn, neu'n unol â rheolau eich cynllun. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn credu na wnaeth y penderfynwr adolygu'r holl dystiolaeth neu wedi camddeall rhywbeth.
Er enghraifft, os colloch eich swydd oherwydd eich salwch, efallai y byddwch eisiau apelio os cawsoch eich gwrthod am ymddeoliad ar sail afiechyd. Ond fe allai rheolau'ch cynllun ddatgan nad ydych chi'n gymwys os ydych chi'n gallu gwneud unrhyw swydd - nid dim ond y swydd roeddech ynddi.
Hyd yn oed os yw'ch meddyg yn cefnogi'ch cais, gall y sawl sy'n gwneud penderfyniadau ddewis y cyngor meddygol y mae'n credu sydd fwyaf priodol, heb unrhyw ofyniad i gynghorydd meddygol gwrdd â chi.
Cam 2: Anfonwch eich apêl at eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn
Ar ôl i chi baratoi eich apêl ac unrhyw dystiolaeth ychwanegol, cyflwynwch hi i'ch darparwr pensiwn, ymddiriedolwyr neu gyflogwr. Dylai eich adroddiad penderfyniad esbonio sut i wneud hyn a phryd y dylech ddisgwyl clywed yn ôl.
Yna bydd eich apêl yn cael ei hadolygu a bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud. Gallai hyn gynnwys y penderfynwr yn chwilio am opsiynau meddygol gwahanol.
Yn dibynnu ar eich cynllun pensiwn, efallai y bydd dau gyfle i apelio.
Cam 3: Cymerwch eich apêl i’r Ombwdsmon Pensiynau
Os ydych yn anghytuno â chanlyniad yr apêl, neu os nad ydych yn credu bod y broses gywir wedi'i dilyn, gallwch gwyno i'r Ombwdsmon Pensiynau ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch hefyd:
- ffônio Yr Ombwdsmon Pensiynau ar 0800 917 4487Yn agor mewn ffenestr newydd, neu
- e-bostio enquiries@pensions-ombudsman.org.uk Yn agor mewn ffenestr newydd.
Fel arfer mae gennych hyd at dair blynedd o ddyddiad eich cais ymddeoliad ar sail afiechyd cyntaf i wneud hyn.
Mae'r Ombwdsmon Pensiynau yn wasanaeth am ddim ac mae'n golygu y bydd rhywun annibynnol yn ymchwilio eich achos. Byddant yn penderfynu a wnaed y penderfyniad am eich ymddeoliad ar sail afiechyd yn deg neu os oes camgymeriad wedi'i wneud.
Os ydych yn cytuno â phenderfyniad yr Ombwdsmon Pensiynau ar eich achos, rhaid i'ch darparwr pensiwn, ymddiriedolwyr neu gyflogwr wneud fel y dywedant.
Os yw'r Ombwdsmon Pensiynau yn dyfarnu bod y penderfyniad gwreiddiol yn deg, efallai y byddwch yn dal i allu dechrau cais newydd am ymddeoliad ar sail afiechyd yn ddiweddarach.
Mae hyn yn ailgychwyn y broses ond mae'n golygu y bydd yn cael ei hadolygu eto, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth newydd y gallwch ei chael.