Os oes arnoch arian ac yn 55 oed neu'n hŷn, efallai y byddwch yn ystyried defnyddio eich cynilion pensiwn i glirio dyled. Ond gallech dalu mwy o dreth yn y pen draw a chael llai o arian ar gyfer eich ymddeoliad. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Siaradwch ag ymgynghorydd dyledion am ddim yn gyntaf
I ddarganfod yr holl opsiynau sydd gennych ar gyfer ad-dalu dyled, mae'n well trafod eich sefyllfa gydag ymgynghorydd hyfforddedig.
Defnyddiwch ein teclyn lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor am ddim a chyfrinachol ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu yn eich ardal leol.
Edrychwch ar ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth gyda dyledion am fwy o wybodaeth ac ymunwch â'n grŵp Facebook Cymorth Dyled Cymunedol preifat Yn agor mewn ffenestr newydd i gael cefnogaeth gan eraill.
Beth i’w ystyried cyn defnyddio’ch pensiwn i ad-dalu dyled
Fel arfer dim ond ar ôl i chi gyrraedd 55 oed y gallwch gael mynediad i'ch pensiwn (57 oed o fis Ebrill 2028). Os ydych chi'n iau na hyn, peidiwch ag aros - gall eich dyledion fynd yn fwy dros amser oherwydd llog.
Dylech hefyd wirio a allwch ad-dalu dyledion drwy gynyddu eich incwm. Bydd ein cyfrifiannell Budd-daliadau yn dangos a allwch gael unrhyw daliadau neu grantiau ychwanegol.
Efallai y byddwch ar eich colled ar incwm ymddeol
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio (y math mwyaf cyffredin), byddai cymryd arian o'ch pensiwn nawr yn golygu y byddai llai o incwm ymddeol i’ch talu. Efallai y byddwch hefyd yn colli allan ar dwf buddsoddi ar gyfer yr arian hwnnw a bod gennych lai o opsiynau pan fyddwch yn ymddeol.
Os oes gennych fudd-dal wedi'i ddiffinio neu bensiwn cyflog terfynol, y cynharaf y byddwch yn cymryd eich pensiwn, y lleiaf y byddwch yn ei gael bob blwyddyn fel arfer. Mae hyn oherwydd ei bod yn debygol y byddwch yn ei dderbyn dros gyfnod hirach.
Mae hyn i gyd yn golygu nad oes sicrwydd hirdymor gennych os ydych yn cael mynediad at yr arian nawr.
Os ydych yn 50 oed neu'n hŷn a bod gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio, gallwch drefnu apwyntiad Pension Wise am ddim i'ch helpu i ddeall eich opsiynau pensiwn.
Gallech golli eich hawl i fudd-daliadau
Os ydych chi'n cael rhai budd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn, gallai incwm uwch leihau neu hyd yn oed atal eich taliadau - hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio'r holl arian i ad-dalu dyledion.
Cyn cael mynediad i'ch pensiwn, siaradwch ag arbenigwr budd-daliadau am ddim i wirio sut y byddwch yn cael eich effeithio. Mae Advicelocal yn rhestri sefydliadauYn agor mewn ffenestr newydd sy'n darparu cyngor cyfrinachol am ddim yn eich ardal chi.
Gallwch ddefnyddio’n teclyn i ddod o hyd i’r math o bensiwn sydd gennych neu gallwch ofyn i’ch darparwr
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o Dreth Incwm
Os y cymerwch chi gyfandaliadau o’ch pensiwn, fel arfer bydd 25% ohono’n cael ei dalu i chi’n ddi-dreth – cyhyd ag nad yw’r cyfanswm o’r arian di-dreth a gymerir o’ch holl bensiynau’n uwch na’r lwfans cyfandaliad (£268,275 i’r mwyafrif o bobl).
Mae’r 75% arall, neu unrhyw arian a gymerir fel incwm rheolaidd, yn cael ei gyfrif fel enillion a chaiff ei ychwanegu at weddill eich incwm i gyfrifo faint o Dreth Incwm y bydd angen i chi’i dalu dros y flwyddyn dreth honno (6 Ebrill i 5 Ebrill).
Golyga hyn efallai y byddwch yn symud i fand Treth Incwm uwch trwy gymryd arian o’ch pensiwn i ad-dalu dyledion. Gallwch weld y Bandiau Treth IncwmYn agor mewn ffenestr newydd a Bandiau Treth Incwm yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Efallai y gallech gael llai o ryddhad treth os byddwch yn parhau i dalu i mewn i bensiwn
Pan fyddwch yn talu i mewn i bensiwn, mae’r llywodraeth fel arfer yn ychwanegu taliad ychwanegol a elwir yn rhyddhad treth. Dyma’r arian y byddech fel arfer yn ei dalu fel Treth Incwm.
Gallwch fel arfer gael rhyddhad treth ar eich holl gyfraniadau pensiwn hyd at y lwfans blynyddol. Ar gyfer y mwyafrif o bobl, golyga hyn:
fod yn rhaid i’ch cyfraniadau fod yn llai na (neu’n gyfwerth â) faint rydych yn ei ennill a
bod yn rhaid i’r cyfraniadau a wneir gennych chi a’ch cyflogwr, gan gynnwys rhyddhad treth, beidio bod dros £60,000.
Ond os byddwch yn cymryd arian trethadwy allan o’ch pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gallai’r terfyn o £60,000 ostwng i £10,000. Gelwir hyn yn lwfans prynu arian blynyddol (MPAA).
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae rhyddhad treth yn rhoi hwb i’ch cyfraniadau pensiwn
Gall pobl y mae arnoch arian iddynt hawlio rywfaint o’ch pensiwn
Fel arfer, cedwir unrhyw arian yn eich pensiwn ar wahân i weddill eich cyllid. Mae hyn fel arfer yn golygu na all unrhyw un arall ei hawlio, hyd yn oed os ydych:
- yn cael eich datgan yn fethdalwr, neu
- mae gennych gynllun ad-dalu dyledion, fel:
Ond os ydych yn cymryd arian allan o'ch pensiwn, efallai y dywedir wrthych ei ddefnyddio i wneud ad-daliadau rheolaidd. Mewn rhai achosion, efallai y bydd credydwr yn gallu cymryd cyfandaliadau.
Cyn cymryd arian o'ch pensiwn, siaradwch am eich sefyllfa gydag ymgynghorydd dyledion am ddim.