Pan fyddwch yn gofyn i drosglwyddo eich pensiwn i ddarparwr newydd, bydd yr hen ddarparwr yn gwneud gwiriadau cyn symud eich arian. Os ydynt yn poeni y gallai eich cynllun newydd fod yn sgam, gellir atal neu ohirio eich trosglwyddiad. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Darganfyddwch a yw eich trosglwyddiad wedi’i atal neu ei oedi
Os yw darparwr eich pensiwn yn pryderu y gallai eich trosglwyddiad fod yn sgam, gallant benderfynu gwneud y canlynol:
atal eich trosglwyddiad neu
oedi'ch trosglwyddiad nes eich bod wedi trefnu apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn am ddim.
Bydd eich darparwr yn rhannu’u penderfyniad â chi o fewn chwe mis i’ch cais i drosglwyddo.
Caiff gwiriadau eu gwneud i’ch diogelu rhag sgamiau trosglwyddo pensiynau
Pan fyddwch yn gofyn i drosglwyddo arian o un darparwr pensiwn i un arall, rhaid i’ch darparwr presennol benderfynu a ydych mewn peryg o sgam pensiwn.
Golyga hyn y byddant fel arfer yn gwirio manylion amrywiol, gan gynnwys:
y math o gynllun rydych yn ei drosglwyddo iddo
sut y caiff y cynllun newydd ei awdurdodi a/neu ei reoleiddio
manylion eich ymgynghorydd os ydych wedi cael cyngor am y trosglwyddiad.
Gallai fod angen tystiolaeth o ble rydych yn gweithio os ydych yn trosglwyddo i gynllun pensiwn cyflogwr, neu dystiolaeth o ble rydych yn byw os ydych yn trosglwyddo i gynllun tramor.
Mae'r gwiriadau hyn yn bwysig - collwyd dros £17.5 miliwn i sgamiau pensiwn yn 2024, gyda cholled gyfartalog o £34,000 y pen. Mae hyn yn seiliedig ar ddata swyddogol gan Report Fraud, gyda ffigurau'n debygol o fod hyd yn oed yn uwch gan nad yw pob sgam yn cael eu adrodd.
Os yw eich trosglwyddiad pensiwn wedi’i atal
Gall eich darparwr pensiwn atal eich trosglwyddiad os yw'n credu bod risg uchel y byddwch yn cael i eich twyllo. Gelwir y pryderon difrifol hyn yn faneri coch a gallent gynnwys:
- y cais trosglwyddo yn cael ei wneud ar ôl galwad ddiwahoddiad
- derbyn cyngor trosglwyddo gan gynghorydd heb ei reoleiddio
- cael addewid o daliad neu gymhelliant arall ar gyfer gwneud y trosglwyddiad
- peidio â chael unrhyw wybodaeth angenrheidiol gennych o fewn cyfnod rhesymol o amser.
Bydd eich darparwr pensiwn yn dweud wrthych na fydd y trosglwyddiad yn mynd yn ei flaen ac yn egluro sut y gallwch gwyno os nad ydych yn cytuno â'u penderfyniad.
Am fwy o help, gweler ein canllaw Sut i gwyno am broblem gyda'ch pensiwn
Os yw eich trosglwyddiad pensiwn wedi’i oedi
Efallai y bydd eich darparwr pensiwn yn penderfynu gohirio'ch trosglwyddiad os oes risg y byddwch yn cael eich twyllo. Gelwir y pryderon hyn yn faneri ambr.
Nid oes rhaid i'ch darparwr pensiwn ddweud wrthych y rheswm, ond gallai baneri ambr gynnwys bod gan y cynllun pensiwn rydych yn trosglwyddo iddo:
- taliadau anarferol o uchel neu aneglur
- buddsoddiadau heb eu rheoleiddio, risg uchel neu dramor
- strwythur aneglur neu anarferol
- cynnydd anarferol o fawr mewn trosglwyddiadau yn dod o’r un cynghorydd neu'n ymwneud â nhw.
Gallwch barhau i benderfynu gwneud y trosglwyddiad, ond bydd angen i chi gael arweiniad am ddim yn gyntaf.
Gelwir hyn yn apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn HelpwrArian. Yn ystod yr apwyntiad, gall un o'n harbenigwyr pensiynau egluro'r risgiau a'r effeithiau posibl o drosglwyddo eich buddion pensiwn.
Mae’r apwyntiad yn rhad ac am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodraeth.
Sut i drefnu eich apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn am ddim
Bydd eich darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi drefnu apwyntiad a byddent yn anfon dolen atoch i'w drefnu ar-lein.
Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r ddolen honno i drefnu eich apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn. Ni allwch ei drefnu mewn unrhyw ffordd arall.
Yn ystod yr apwyntiad, bydd arbenigwr pensiynau yn gofyn i chi am fanylion y trosglwyddiad a'ch amgylchiadau ariannol. Yna gallant roi i chi:
- arweiniad i'ch helpu i nodi a ydych mewn perygl o gael eich twyllo
- gwybodaeth am wiriadau ychwanegol y gallwch eu gwneud i'ch helpu i deimlo'n hyderus yn eich penderfyniadau
- crynodeb o beryglon sgamiau pensiwn.
Byddwch hefyd yn cael tystiolaeth eich bod wedi mynychu'r apwyntiad. Bydd angen i chi anfon hwn at eich darparwr pensiwn os hoffech ei bod nhw’n gwneud eich trosglwyddiad o hyd.
Am fwy o help, gweler ein canllaw Sut i adnabod sgamiau pensiwn.
Chwilio am arweiniad pensiynau cyffredinol yn lle hynny?
Os nad oes angen i chi drefnu apwyntiad Arweiniad Diogelu Pensiwn ar gyfer trosglwyddiad wedi’i oedi, gallwn eich helpu gyda chwestiynau pensiwn eraill trwy we-sgwrs, ffôn ac e-bost.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU, rydym hefyd yn cynnig apwyntiadau Pension Wise am ddim i ddeall y gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd eich pensiwn.