Help os nad ydych yn gymwys i gael apwyntiad Pension Wise
Gallwn eich helpu o hyd os nad ydych yn gymwys ar gyfer Pension Wise. Gallwch:
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU, fel arfer gallwch ddewis sut a phryd i gymryd eich arian – mae apwyntiad Pension Wise yn esbonio eich opsiynau. Dechreuwch ar-lein ar unrhyw adeg neu drefnwch i siarad ag un o'n harbenigwyr pensiwn. Gallwch gael mwy nag un apwyntiad os hoffech chi.
Bydd apwyntiad Pension Wise ar-lein yn caniatáu i chi:
archwilio’r opsiynau pensiwn sydd gennych yn eich amser eich hun
dechrau a stopio unrhyw bryd – gallwch arbed eich cynnydd a dychwelyd pryd bynnag yr hoffech.
Gallwch holi cwestiynau i’n harbenigwyr pensiynau gan ddefnyddio’r gwe-sgwrs unrhyw amser. Byddwn yn ateb rhwng 9am a 5pm (amser y DU) o ddydd Llun i ddydd Gwener, heblaw am wyliau banc.
Gallwch gael apwyntiad ar-lein os ydych yn 50 i 74 oed.
Gall un o’n harbenigwyr pensiynau esbonio eich opsiynau pensiwn i chi dros y ffôn. Bydd apwyntiad:
yn para hyd at 60 munud
ar gael rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Wrth drefnu, rhowch wybod i ni os bydd unrhyw rai o’n haddasiadau mynediad yn gwneud eich apwyntiad yn haws.
Ar hyn o bryd mae cyfnod aros hirach ar gyfer apwyntiadau ffôn nag arfer. Os ydych chi rhwng 50 a 74 oed, gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein unrhyw bryd.
Ffoniwch ni i drefnu ar:
0800 138 3944 neu
+44 20 3733 3495 os ydych y tu allan i’r DU.
Rydym ar agor o o 9am i 5pm (amser y DU) o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar gau ar wyliau banc.
Os ydych o dan 50 oed, gallwch gael apwyntiad Pension Wise os:
ydych chi’n cymryd eich pensiwn yn gynnar oherwydd afiechyd
rydych wedi etifeddu pensiwn rhywun arall, neu
mae eich cynllun yn caniatáu i chi gymryd eich pensiwn cyn 55 oed, a elwir yn oedran pensiwn gwarchodedig.
Os hoffech i rywun gymryd yr apwyntiad ar eich rhan, gall y naill neu’r llall ohonoch ffonio.
Ffoniwch ni i drefnu ar:
0800 138 3944 neu
+44 20 3733 3495 os ydych y tu allan i’r DU.
Rydym ar agor o o 9am i 5pm (amser y DU) o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar gau ar wyliau banc.
Rydym wedi oedi trefnu apwyntiadau wyneb yn wyneb newydd. Os byddwch chi’n cael trafferth i gyrchu ein hapwyntiad ffôn, gallwn drefnu galwad fideo.
Gallwch chi neu rywun arall ffonio i drefnu apwyntiad fideo ar:
0800 138 3944 neu
+44 20 3733 3495 os ydych y tu allan i’r DU.
Rydym ar agor o 9am i 5pm (amser y DU) o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar gau ar wyliau banc.