Chwilio am ein hapwyntiadau Pension Wise? Gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein unrhyw bryd
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfod eich math o bensiwn

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Esbonio pensiynau
Pensiynau ac ymddeoliad Esbonio pensiynau

Geirfa bensiynau

Gall y geirfa hon eich helpu i ddeall rhai o’r termau mwyaf cyffredin a ddefnyddir wrth ddelio â’ch pensiynau a chynllunio’ch ymddeoliad.


A  B  C  D  E  F  G  H  I  L  N  O  P  R  T  Y

A

term

aberthu cyflog

Mae aberthu cyflog yn golygu eich bod yn rhoi’r gorau i gyfran o’ch cyflog yn gyfnewid am fuddiant, megis car cwmni. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i dalu i mewn i’ch pensiwn.

 

Caiff cyfraniadau pensiwn a wneir drwy aberthu cyflog eu trin fel rhai a wneir gan eich cyflogwr, felly nid ydych yn cael rhyddhad treth. Fodd bynnag, mae eich tâl net fel arfer yn uwch gan eich bod yn talu llai o Dreth Incwm ac Yswiriant Gwladol.

 

Fel arfer, bydd eich cyflogwr hefyd yn talu llai o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, felly gallai ychwanegu rhywfaint neu’r cyfan o’r cynilion hyn at eich cyfraniad pensiwn.

Nol i’r brig

B

term

blwydd-dal

Mae blwydd-dal yn rhoi incwm rheolaidd i chi, naill ai am weddill eich bywyd neu gyfnod penodol – yn dibynnu ar y math rydych chi’n ei ddewis. Gallwch brynu blwydd-dal gyda’r arian rydych chi wedi’i gynilo yn eich pensiwn.

blwydd-dal cyfnod penodol

Mae blwydd-dal cyfnod penodol yn gynnyrch y gallwch ei brynu gan ddefnyddio eich cronfa bensiwn, sy’n rhoi incwm gwarantedig i chi am nifer penodol o flynyddoedd.

blwydd-dal sy’n gysylltiedig â buddsoddiad

Blwydd-dal sy’n gysylltiedig â buddsoddiad yw pan fyddwch chi’n cael taliadau rheolaidd sy’n cynyddu ac yn gostwng yn dibynnu ar berfformiad y buddsoddiad. Gwiriwch a yw’ch darparwr yn gwarantu isafswm incwm misol os yw perfformiad yn wan.

blwydd-dal uwch

Mae blwydd-dal uwch yn ystyried eich iechyd a’ch ffordd o fyw wrth weithio allan faint o arian y byddwch chi’n ei gael o’ch blwydd-dal. Er enghraifft, os ydych chi’n ysmygu neu os oes gennych salwch cronig fel diabetes.

buddiolwr

Buddiolwr yw unrhyw un a fydd yn etifeddu eich pensiwn ar ôl i chi farw. Fel arfer, gallwch enwebu pwy ydyn nhw drwy lenwi ‘ffurflen mynegi dymuniad’.

buddion marwolaeth

Mae buddion marwolaeth yn daliadau o’ch pensiwn a delir ar ôl i chi farw. Gallai hyn fod yn incwm rheolaidd a/neu gyfandaliad i’ch buddiolwyr neu’ch dibynyddion.

buddion wedi’u diffinio

Pensiynau buddion wedi’u diffinio yw pensiynau gweithle sy’n talu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir y gwnaethoch weithio i’r cyflogwr hwnnw.

buddsoddiad

Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn yn defnyddio ystod o fuddsoddiadau i geisio cynyddu arian eu haelodau. Mae hyn fel arfer yn cynnwys cyfranddaliadau cwmni, eiddo a bondiau.

Nol i’r brig

C

term

chwyddiant

Chwyddiant yw pan fydd prisiau nwyddau a gwasanaethau yn codi. Mae chwyddiant uwch yn golygu bod yr un faint o arian yn prynu llai o nwyddau a gwasanaethau.

clo triphlyg

 

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu ym mis Ebrill bob blwyddyn. Y clo triphlyg yw polisi cyfredol y llywodraeth ac mae’n golygu y bydd y cynnydd naill ai’n cyfateb i’r gyfradd chwyddiant, enillion cyfartalog neu 2.5% – pa un bynnag sydd uchaf.

clustnodi

Gweler ‘gorchymyn atafaelu’.

cod treth argyfwng

Mae cod treth argyfwng yn gyfradd dreth sy’n uwch na’r arfer. Gellir ei gymhwyso dros dro os nad oes gan CThEF fanylion am eich incwm cyfredol.

 

Gallai hyn ddigwydd pan fyddwch chi’n dechrau cymryd eich pensiwn. Bydd angen i chi hawlio unrhyw dreth a ordalwyd yn ôl drwy gysylltu â CThEF.

Cofnod Yswiriant Gwladol

Mae eich cofnod Yswiriant Gwladol yn dangos faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol wythnosol neu fisol rydych chi wedi’u gwneud. Os oes gennych fylchau yn eich cofnod, gallwch ddewis talu am gyfraniadau gwirfoddol i gwblhau blwyddyn. Gall hyn olygu eich bod yn gymwys i gael swm uwch o Bensiwn y Wladwriaeth.

cofrestru awtomatig

Mae cofrestru awtomatig, neu ymrestru awtomatig, yn golygu bod yn rhaid i’ch cyflogwr sefydlu pensiwn gweithle i chi os ydych chi’n gweithio yn y DU, yn hŷn na 22 oed (ac yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth) ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn. Gallwch ddweud wrth eich cyflogwr os ydych am adael y pensiwn. Nid yw’n berthnasol os ydych chi’n hunangyflogedig.

contractio allan

Roedd contractio allan yn rhoi’r opsiwn i chi neu’ch cyflogwr beidio ag adeiladu hawl at y Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth. Yn hytrach, fe wnaethoch adeiladu hawl ychwanegol o fewn eich pensiwn preifat. Mae hyn yn golygu efallai mai dim ond ar gyfer y Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, neu Bensiwn Newydd y Wladwriaeth is, y byddwch yn gymwys. Nid yw contractio allan ar gael mwyach.

Credydau Yswiriant Gwladol

Efallai y byddwch yn gallu cael credydau Yswiriant Gwladol am ddim os ydych allan o waith am nifer o resymau, gan gynnwys os oes gennych babi, salwch, anabledd neu gyfrifoldebau gofalu. Yn aml, rydych chi’n cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol, gan gynnwys Credyd Cynhwysol a Budd-dal Plant. Ond bydd angen i chi hawlio’r credydau mewn amgylchiadau eraill.

Credyd Pensiwn

Mae Credyd Pensiwn yn arian ychwanegol y gallwch ei hawlio os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Efallai y byddwch yn gymwys hyd yn oed os ydych chi’n berchen ar eich cartref a bod gennych gynilion.

crisialu

Mae crisialu eich pensiwn yn broses o gael mynediad at eich cynilion pensiwn.

cronfa

Mae cronfa bensiwn yn gynnyrch ariannol sy’n cymryd yr arian rydych chi’n ei roi yn eich cynilion ymddeol, gan gynnwys cyfraniadau cyflogwr a rhyddhad treth, a’i fuddsoddi – gyda’r nod o’i gynyddu.

cronfa bensiwn

Cronfa bensiwn yw’r arian sydd gennych mewn cynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio. Weithiau gelwir y swm hwn yn y ‘gwerth cronedig’.

cyfartaledd gyrfa

Mae cynllun cyfartaledd gyrfa yn fath o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio lle mae eich incwm pensiwn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio eich cyflog cyfartalog gan gyflogwr. Bydd eich pensiwn yn cael ei ailbrisio i ystyried chwyddiant.

cyfradd dreth ymylol

Eich cyfradd dreth ymylol yw’r band Treth Incwm y byddech yn cael ei roi ynddo pe byddech yn ennill £1 yn fwy nag yr ydych yn ei ennill ar hyn o bryd. Gallai hon fod yr un gyfradd â’r un rydych yn ei thalu nawr, neu’n uwch. Fel arfer, caiff arian a gymerir o’ch pensiwn uwchlaw’ch lwfans di-dreth ei drethu ar eich cyfradd dreth ymylol.

cyfraniadau

Cyfraniadau yw’r arian rydych chi a’ch cyflogwr yn ei roi yn eich pensiwn, ynghyd â rhyddhad treth hyd at derfynau penodol.

cyfraniadau wedi’u diffinio

Mae pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn gronfa o arian rydych chi (ac yn aml eich cyflogwr) yn ei thalu. Mae’n fuddsoddiad, felly mae eich incwm yn dibynnu ar faint sy’n cael ei dalu i mewn, pa mor dda y mae’r buddsoddiadau’n perfformio, y costau y byddwch yn eu talu, a sut rydych yn dewis cymryd eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Fel arfer, byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn wythnosol neu’n fisol o 16 oed hyd nes y byddwch yn cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth – naill ai fel treth ar eich enillion (gan gynnwys elw hunangyflogaeth) neu drwy dderbyn credydau Yswiriant Gwladol (er enghraifft os ydych yn sâl neu’n ddi-waith).

 

Mae angen i chi gyfrannu am nifer penodol o flynyddoedd i fod yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau, gan gynnwys swm llawn Pensiwn y Wladwriaeth.

Cyfrif buddsoddi sydd wedi’i amddiffyn rhag cael ei drethu (amlapiwr treth)

Mae amlapiwr di-dreth neu ‘lapiwr treth’ yn fath o ryddhad treth ar gyfer rhai cynilion neu fuddsoddiadau, gan gynnwys cronfeydd pensiwn ac ISAs.

Cyfrifon Cynilo Unigol

Mae Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) yn eich galluogi i gynilo neu fuddsoddi arian hyd at derfyn blynyddol. Gellir derbyn unrhyw log neu dwf buddsoddi heb dalu treth. Mae ISAs arian parod wedi’u diogelu gan Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol, ond nid yw ISAs stociau a chyfranddaliadau wedi’u diogelu.

cyfuno

Gweler ‘trosglwyddo’.

cyfwerth Pensiwn wedi’i Gontractio Allan (COPE)

Mae cyfwerth pensiwn wedi’i gontractio allan (COPE) yn cynrychioli swm y gallech fod wedi’i dderbyn fel rhan o’ch Pensiwn y Wladwriaeth os nad oeddech chi wedi cael eich contractio allan.

cynllun cyflog terfynol

Gweler ‘buddion wedi’u diffinio’.

cynllun hybrid

Mae cynllun hybrid, neu gynllun balans arian parod, yn fath o gynllun pensiwn gyda nodweddion buddion wedi’u diffinio a chyfraniadau wedi’u diffinio. Mewn cynlluniau hybrid, gellir rhannu’r risg rhwng y cyflogwr a’r gweithwyr.

Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol

Y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yw sut mae’r llywodraeth yn diogelu eich cynilion os bydd eich banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn mynd allan o fusnes. Os bydd eich darparwr pensiwn neu ymgynghorydd yn mynd allan o fusnes, efallai y cewch eich diogelu am werth llawn eich cronfa. Mae yna reolau cymhleth ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei ddiogelu ac nad yw’n cael ei ddiogelu. Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch, gallwch ddysgu mwy ar Gwiriwr Diogelu Pensiwn yr FSCSYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

D

term

Datganiad Blynyddol

Bydd eich darparwr pensiwn fel arfer yn anfon datganiad blynyddol atoch  bob blwyddyn, a elwir yn aml yn ddatganiad pensiwn blynyddol. Mae’n nodi faint sydd wedi’i dalu i mewn (gan gynnwys rhyddhad treth) a faint mae eich pensiwn yn werth ar hyn o bryd, gan gynnwys unrhyw dwf buddsoddi.

dibynnydd

Person sy’n dibynnu’n ariannol ar eich cynilion pensiwn yw dibynnydd – partner neu blentyn fel arfer.

diogelwch LTA

Mae diogelwch lwfans oes yn fesurau a gyflwynwyd i glustnodi eich LTA pan gafodd hwn ei leihau neu ei newid gan y llywodraeth.

diogelwch unigol

Mae diogelwch unigol yn golygu bod eich lwfansau cyfandaliad yn uwch na’r symiau safonol, yn seiliedig ar werth eich pensiwn ar ddyddiad penodol, ond ni all fod yn uwch na’r terfyn uchaf a ganiateir.

dirwyn i ben

Mae dirwyn i ben pensiwn gweithle yn golygu cau’r cynllun. Fel arfer, mae hyn yn digwydd pan fydd eich cyflogwr yn penderfynu nad yw bellach am dalu i mewn i’r cynllun pensiwn gweithle.

 

Rheolau’r cynllun sy’n gyfrifol dros benderfynu faint o arian y byddwch chi’n ei gael os bydd hyn yn digwydd. Os nad ydych wedi cymryd unrhyw arian eto, byddwch yn cael gwerth trosglwyddo i’w roi i mewn i bensiwn newydd.

Nol i’r brig

E

term

enillion cymwys

Enillion cymwys yw’r band o’ch enillion cyn treth a ddefnyddir i ddarganfod faint sydd angen i chi gyfrannu at eich pensiwn. Bob blwyddyn mae’r symiau yn cael eu hadolygu. Mae eich cyflog, taliadau bonws, goramser, tâl salwch a thâl statudol i gyd yn ffurfio eich enillion cymwys.

Nol i’r brig

F

term

ffurflen mynegi dymuniad

Mae ffurflen mynegi dymuniad yn eich galluogi i enwebu pwy fydd yn derbyn eich pensiwn pan fyddwch yn marw.

 

Fel arfer, bydd pob darparwr pensiwn yn gofyn i chi lenwi un pan fyddwch yn ymuno â’r cynllun. Cofiwch ei chadw’n gyfredol, yn enwedig os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Nol i’r brig

G

term

gorchymyn atafaelu

Mae gorchymyn atafaelu yn rhoi pensiwn i’ch cyn-briod neu gyn-bartner sifil o’ch cronfa bensiwn ar ôl i chi ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben. Mae faint y maent yn ei gael wedi’i nodi ym manylion y gorchymyn llys. Gelwir hyn yn glustnodi os byddwch yn ysgaru yn yr Alban.

Nol i’r brig

H

term

hen Bensiwn y Wladwriaeth

Gweler ‘Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth’.

Nol i’r brig

I

term

incwm net wedi’i addasu

Mae incwm net wedi’i addasu yn gyfanswm yr incwm trethadwy cyn unrhyw Lwfans Personol, a’n eithrio rhai rhyddhadau treth, megis cyfraniadau pensiwn a delir gennych chi a’ch cyflogwr.

isafswm cyfraniad

Isafswm cyfraniad yw’r swm isaf y mae’n rhaid i chi ei dalu i mewn i rai pensiynau er mwyn eu cadw’n weithredol, fel arfer bob mis. Gall pensiwn ddod yn anweithredol neu’n wedi’i rewi pan fyddwch chi a’ch cyflogwr yn rhoi’r gorau i dalu i mewn iddo.

 

Os ydych yn talu i mewn i bensiwn yn y gweithle, fel arfer mae’n rhaid i chi gyfrannu o leiaf 5% o’ch cyflog, a rhaid i’ch cyflogwr dalu o leiaf 3%.

isafswm oedran pensiwn arferol

Yr isafswm oedran pensiwn arferol (NMPA) yw’r cynharaf y gallwch gael mynediad i’ch pensiwn fel arfer. Ar hyn o bryd mae’n 55 oed, gan godi i 57 oed o 6 Ebrill 2028. Fel arfer, dim ond os ydych chi’n ymddeol yn gynnar oherwydd salwch neu os yw rheolau eich cynllun pensiwn yn rhestru oedran pensiwn gwarchodedig is y gallwch gymryd eich pensiwn yn gynharach.

ISAs Gydol Oes

Mae ISA Gydol Oes (LISA) yn eich galluogi i gynilo hyd at derfyn penodol bob blwyddyn dreth, gyda’r llywodraeth yn ychwanegu bonws o 25%. Rhaid defnyddio’r arian ar gyfer eich ymddeoliad neu i brynu eich cartref cyntaf. Gallwch gynilo mewn LISA arian parod neu fuddsoddi mewn LISA stociau a chyfranddaliadau. Mae unrhyw log neu dwf buddsoddi yn ddi-dreth.

Nol i’r brig

L

term

llythyr awdurdod

Mae llythyr awdurdod (LOA) yn rhoi caniatâd i’ch darparwr pensiwn, neu ymgynghorydd ariannol, gysylltu â’ch banc, cymdeithas adeiladu, undeb credyd neu ddarparwr pensiwn arall. Efallai y bydd yn rhaid i chi lofnodi LOA os ydych am drosglwyddo pensiwn.

lwfans blynyddol

Eich lwfans blynyddol yw cyfanswm yr arian y gallwch ei gynilo i’ch pensiwn ym mhob blwyddyn dreth gyda’r fantais o ryddhad treth. Mae’n cynnwys eich cynilion pensiwn chi, ynghyd ag unrhyw rai a delir ar eich rhan gan rywun arall – er enghraifft, eich cyflogwr.

lwfans cyfandaliad

Fel arfer, gellir cymryd hyd at 25% o’ch pensiwn fel un neu fwy o daliadau di-dreth, ar yr amod nad ydych yn cymryd mwy na’r lwfans cyfandaliad (LSA). Os gwnewch hynny, byddwch yn talu Treth Incwm ar yr arian uwchlaw'r terfyn.

lwfans cyfandaliad buddiant marwolaeth

Lwfans cyfandaliad buddiant marwolaeth yw’r uchafswm y gellir ei etifeddu’n ddi-dreth os byddwch yn marw cyn 75 oed. Mae arian parod di-dreth a gymerir yn ystod eich oes yn lleihau’r swm hwn.

Nol i’r brig

N

term

NEST

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Gynilion Cyflogaeth neu NEST yn gynllun pensiwn gweithle a sefydlwyd gan y llywodraeth.

Nol i’r brig

O

term

oedran pensiwn arferol

Oedran pensiwn arferol (NPA) yw’r oedran y mae eich darparwr yn bwriadu i chi ddechrau cymryd eich pensiwn. Er enghraifft, mae eich incwm ymddeol a amcangyfrifir fel arfer yn seiliedig ar y dybiaeth y byddwch yn dechrau cymryd eich pensiwn pan fyddwch yn cyrraedd NPA. Mae hefyd fel arfer yn effeithio ar sut mae eich arian pensiwn yn cael ei fuddsoddi a’i reoli.

 

Gallwch ddod o hyd i’ch NPA yn rheolau eich cynllun. Fel arfer, gallwch ddweud wrth eich darparwr os hoffech ymddeol neu gymryd eich pensiwn ar ddyddiad gwahanol.

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw’r oedran cynharaf y gallwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch wirio eich oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

 

Nid oes rhaid i chi ddechrau cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd yr oedran hwn, gallwch hefyd ei ohirio.

Nol i’r brig

P

term

paru cyfraniadau

Mae paru cyfraniadau yn golygu bod eich cyflogwr yn ychwanegu mwy at eich pensiwn gweithle pan fyddwch chi’n dewis cynyddu faint rydych chi’n ei dalu i mewn.

Pension Wise

Mae Pension Wise yn wasanaeth a gefnogir gan y llywodraeth sy’n darparu arweiniad diduedd am ddim i’ch helpu i ddeall eich opsiynau ar gyfer cymryd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.

pensiwn

Mae pensiwn yn fuddsoddiad hirdymor i’ch helpu i gynilo ar gyfer ymddeoliad.

pensiwn buddsoddi personol

Mae pensiwn buddsoddi personol (SIPP) yn fath o bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio rydych yn ei sefydlu eich hun. Mae’r incwm a gewch yn dibynnu ar faint a delir i mewn, pa mor dda y mae’r buddsoddiadau’n perfformio, y taliadau y byddwch yn eu talu, a sut rydych yn dewis cymryd eich pensiwn ar ôl ymddeol. pan fyddwch yn ymddeol. Fel arfer, gallwch ddewis eich buddsoddiadau eich hun neu adael i’r darparwr reoli’ch pensiwn ar eich rhan.

pensiwn cyfranddeiliaid

Mae pensiynau cyfranddeiliaid yn fath o bensiwn personol. Mae rhai cyflogwyr yn eu cynnig, ond gallwch hefyd ddechrau un eich hun. Mae ganddynt gyfyngiadau ar ffioedd rheoli blynyddol a sut y gallwch wneud cyfraniadau.

pensiwn gweithle

Mae pensiwn gweithle yn bensiwn a sefydlwyd gan eich cyflogwr. Fel arfer, byddwch chi a’ch cyflogwr yn talu cyfran o’ch cyflog i mewn iddo.

Pensiwn Newydd y Wladwriaeth

Gallwch hawlio Pensiwn Newydd y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os gwnaethoch ei gyrraedd ers 6 Ebrill 2016.

 

Mae’n talu swm wythnosol yn seiliedig ar nifer y blynyddoedd cymwys rydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

 

Os gwnaethoch gyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, gallwch hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

pensiwn personol

Mae pensiwn personol, a elwir hefyd yn bensiwn preifat, yn bensiwn rydych chi’n ei sefydlu eich hun. Mae hyn yn wahanol i bensiwn gweithle sy’n cael ei sefydlu gan gyflogwr.

pensiwn prynu arian

Gweler ‘cyfraniadau wedi’u diffinio’.

Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth oedd rhan gyntaf yr hen Bensiwn y Wladwriaeth. Fe’i disodlwyd gan Bensiwn Newydd y Wladwriaeth ym mis Ebrill 2016. Efallai y byddwch yn dal i gael Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth os ydych chi’n fenyw a anwyd cyn 6 Ebrill 1953 neu’n ddyn a anwyd cyn 6 Ebrill 1951.

Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Mae Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn arian ychwanegol y gallech ei gael yn ychwanegol at eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, yn seiliedig ar eich enillion. Gelwir hefyd yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS). Cafodd ei ddisodli’n gyntaf gan Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P), ac ers hynny mae wedi’i ddisodli gan Bensiwn Newydd y Wladwriaeth.

Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’n swm wythnosol sy’n cael ei dalu bob pedair wythnos. Mae faint rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar nifer y blynyddoedd cymwys rydych chi wedi gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig

Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig yw pan nad ydych chi’n hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth – neu pan fyddwch chi’n gofyn am oedi’ch taliadau. Fel arfer, mae eich taliadau wythnosol yn uwch pan fyddwch chi’n ei hawlio neu’n ei ailddechrau yn ddiweddarach.

Nol i’r brig

R

term

rheol cario ymlaen

Mae cario ymlaen yn eich caniatáu i ddefnyddio unrhyw lwfans blynyddol na fyddech efallai wedi’i ddefnyddio yn ystod y tair blynedd dreth flaenorol, ar yr amod eich bod yn aelod o gynllun pensiwn cofrestredig yn ystod y cyfnod amser perthnasol.

rheolau cronfeydd bach

Mae rheolau cronfeydd bach yn eich caniatáu i gymryd pensiwn gwerth hyd at £10,000 ar unwaith, heb sbarduno’r MPAA. Mae hyn yn golygu nad yw’n newid faint o ryddhad treth y gallech fod yn gymwys amdano. Gallwch wneud hyn hyd at dair gwaith ar gyfer pensiynau personol rydych chi’n eu sefydlu eich hun. Nid oes uchafswm ar gyfer pensiynau yn y gweithle.

rhyddhad treth

Mae rhyddhad treth yn golygu y byddwch naill ai’n talu llai o dreth ymlaen llaw neu byddwch chi’n gallu adennill rhywfaint o’r dreth rydych chi eisoes wedi’i thalu. Fel arfer byddwch chi’n cael rhyddhad treth ar yr arian rydych yn ei gynilo i mewn i’ch pensiwn. Mae hyn yn golygu arian a fyddai fel arfer wedi mynd i’r llywodraeth fel treth yn cael ei thalu i’ch pensiwn yn lle hynny.

rhyddhad yn y ffynhonnell

Defnyddir rhyddhad yn y ffynhonnell i hawlio rhyddhad treth os byddwch yn talu i mewn i bensiwn rydych chi’n ei sefydlu, neu os yw’ch cyflogwr yn dewis gwneud eich cyfraniadau pensiwn ar ôl i dreth gael ei thynnu o’ch cyflog.

 

Yna mae eich darparwr pensiwn yn hawlio rhyddhad treth gan y llywodraeth ar gyfradd sefydlog o 20%. Os ydych chi’n talu Treth Incwm ar gyfradd uwch, bydd angen i chi hawlio’r rhyddhad treth ychwanegol eich hun drwy gysylltu â CThEF neu lenwi ffurflen Hunanasesiad treth.

risg buddsoddi

Mae risg buddsoddi yn golygu y gallech gael yn ôl llai nag yr ydych yn ei dalu i mewn, neu o bosibl yn colli popeth. Fel arfer mae gwahanol lefelau risg y gallwch ddewis ohonynt.

risg cyfalaf

Gweler ‘risg buddsoddi’.

Nol i’r brig

T

term

taliadau

Telir ffioedd i’ch darparwr pensiwn i dalu costau buddsoddi’ch arian. Gallwch wirio pa daliadau y gallai fod angen i chi eu talu drwy gysylltu â’ch cynllun pensiwn neu drwy wirio’ch datganiad blynyddol.

trefniant cyflog net

Mae trefniant cyflog net yn golygu bod eich cyfraniadau pensiwn yn cael eu cymryd o’ch cyflog cyn i’ch cyflog gael ei drethu.

treth gyfradd uwch

Y dreth gyfradd uwch yw’r ail gyfradd uchaf o Dreth Incwm yn y DU.

treth gyfradd ychwanegol

Y dreth gyfradd ychwanegol yw’r gyfradd uchaf o Dreth Incwm yn y DU.

Treth Incwm

Fel arfer, bydd angen i chi dalu Treth Incwm ar eich enillion uwchlaw eich Lwfans Personol di-dreth. Mae cyfraddau Treth Incwm yr un fath yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond mae rhai yn wahanol yn yr Alban.

trosglwyddiad

Trosglwyddiad pensiwn yw pan fyddwch chi’n symud arian o un cynllun pensiwn i’r llall.

tynnu i lawr

Mae tynnu i lawr, a elwir hefyd yn dynnu incwm i lawr neu dynnu pensiwn i lawr mynediad hyblyg, incwm ymddeol hyblyg neu dynnu pensiwn i lawr, yn golygu eich bod yn tynnu arian o’ch cronfa bensiwn pryd bynnag y bydd ei angen arnoch. Caiff y gweddill ei adael wedi’i fuddsoddi yn eich cynllun pensiwn.

tynnu i lawr hyblyg

Gweler ‘tynnu i lawr’.

tynnu i lawr wedi’i gapio

Mae tynnu i lawr wedi’i gapio yn ffordd o gymryd incwm o’ch cronfa bensiwn. Mae terfyn incwm, neu gap, ar faint y gallwch ei dynnu allan bob blwyddyn. Nid yw ar gael mwyach, ond os oes gennych tynnu i lawr wedi’i gapio, gallwch barhau i’w ddefnyddio.

tynnu incwm i lawr

Gweler ‘tynnu i lawr’.

tynnu pensiwn i lawr

Gweler ‘tynnu i lawr’.

Nol i’r brig

Y

term

Y Lwfans Blynyddol Prynu Arian

Mae’r Lwfans Blynyddol Prynu Arian (MPAA) yn berthnasol os ydych wedi cymryd arian trethadwy allan o bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn hyblyg. Mae’n golygu bod gennych derfyn is ar gyfer rhyddhad treth os ydych am barhau i dalu i mewn i bensiwn.

ymgynghorydd

Mae ymgynghorydd, a elwir hefyd yn ymgynghorydd ariannol, yn arbenigwr rheoledig a all argymell cynhyrchion ariannol a darparu cyngor ar beth i’w wneud â’ch arian.

Yswiriant Gwladol

Mae Yswiriant Gwladol (NI) yn fath o dreth rydych yn ei thalu er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth a rhai mathau eraill o fudd-daliadau. Fel arfer, mae angen 35 mlynedd cymwys o gyfraniadau Yswiriant Gwladol arnoch i gael swm llawn Pensiwn y Wladwriaeth, a 10 mlynedd gymwys i gael unrhyw swm.

Nol i’r brig
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc).

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012